xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall

80Atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)awdurdod tai lleol yn ystyried bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni (gweler is-adran (3)), ac

(b)y byddai’r awdurdod tai lleol, os nad yw’r achos yn cael ei atgyfeirio, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 73 mewn perthynas â cheisydd sydd mewn angen blaenoriaethol am lety ac yn ddigartref yn anfwriadol (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(2)Caiff yr awdurdod tai lleol hysbysu’r awdurdod arall am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn perthynas â’r ceisydd.

(3)Mae’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos i awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni—

(a)os nad oes gan y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod y gwneir y cais iddo,

(b)os oes gan y ceisydd neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod arall hwnnw,

(c)os na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno.

(4)Ond nid yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael eu bodloni —

(a)os yw’r ceisydd neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd wedi dioddef camdriniaeth (ac eithrio camdriniaeth domestig) yn ardal yr awdurdod arall, a

(b)mae’n debygol y bydd dychweliad y dioddefwr i’r ardal honno yn arwain at ragor o gamdriniaeth o natur debyg yn ei erbyn.

(5)Mae’r cwestiwn o pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni i’w penderfynu—

(a)drwy gytundeb rhwng yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu, neu

(b)yn niffyg cytundeb, yn unol â’r cyfryw drefniadau—

(i)ag y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo drwy orchymyn, pan fo’r ddau awdurdod yng Nghymru, neu

(ii)ag y caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu cyfarwyddo ar y cyd drwy orchymyn, pan fo’r awdurdod sy’n hysbysu yng Nhgymru a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn Lloegr.

(6)Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) gyfarwyddo mai’r trefniadau fydd—

(a)y trefniadau hynny y cytunwyd arnynt gan unrhyw awdurdodau perthnasol neu gymdeithasau o awdurdodau perthnasol, neu

(b)yn niffyg cytundeb o’r fath, y cyfryw drefniadau ag yr ymddengys i Weinidogion Cymru neu, yn achos gorchymyn dan is-adran (5)(b)(ii), i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn addas, ar ôl ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau perthnasol, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “awdurdod perthnasol” yw awdurdod tai lleol neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac mae’n cynnwys, i’r graddau fod yr is-adran honno yn gymwys i drefniadau dan is-adran (5)(b)(ii), awdurdodau o’r fath yng Nghymru a Lloegr.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau eraill hynny pan fo’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos at awdurdod lleol arall wedi eu bodloni a phan nad ydynt wedi eu bodloni.

81Cysylltiad lleol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Bennod hon.

(2)Mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr os oes gan y person gysylltiad â hi—

(a)gan fod y person yn preswylio yno fel arfer, neu wedi gwneud hynny yn y gorffennol, a bod y preswyliad hwnnw o ddewis y person ei hun,

(b)gan fod y person yn cael ei gyflogi yno,

(c)o ganlyniad i gysylltiadau teuluol, neu

(d)o ganlyniad i amgylchiadau neilltuol.

(3)Nid yw preswyliad mewn ardal o ddewis person ei hun os yw’r person, neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw, yn dod yn breswyliwr yno gan fod y person yn cael ei gadw o dan awdurdod deddfiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau hynny—

(a)pan nad yw person i gael ei drin fel person a gyflogir mewn ardal, neu

(b)pan nad yw preswyliad mewn ardal i gael ei drin fel preswyliad o ddewis person ei hun.

(5)Mae gan berson gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol yng Nghymru neu yn Lloegr os darparwyd llety i’r person yn yr ardal honno (ar unrhyw adeg) o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (cefnogaeth i geiswyr lloches).

(6)Ond nid yw is-adran (5) yn gymwys—

(a)i ddarparu llety i berson yn ardal awdurdod tai lleol os darparwyd llety i’r person yn ardal awdurdod tai lleol arall wedi hynny o dan adran 95 o’r Ddeddf honno, neu

(b)i ddarparu llety mewn canolfan letya yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (defnyddio canolfannau lletya ar gyfer cefnogaeth adran 95).

82Dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio

(1)Pan fo awdurdod tai lleol yn hysbysu ceisydd yn unol ag adran 84 ei fod yn bwriadu hysbysu awdurdod tai lleol arall yng Nghymru neu Loegr ei fod o’r farn bod yr amodau wedi eu diwallu ar gyfer atgyfeirio achos y ceisydd at yr awdurdod arall hwnnw, neu ei fod wedi gwneud hynny—

(a)mae’n peidio â bod yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan adran 68 (dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol), aa

(b)nid yw’n ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd o dan adran 73 ( dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref),

ond rhaid iddo sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu hyd nes i’r ceisydd gael ei hysbysu am y penderfyniad ynghylch pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos wedi eu bodloni.

(2)Pan fydd penderfyniad wedi ei wneud ynghylch pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni, rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu roi gwybod i’r ceisydd yn unol ag adran 84.

(3)Os penderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni, mae’r awdurdod sy’n hysbysu yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(4)Os penderfynir bod yr amodau hynny wedi eu bodloni a bod yr awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn awdurdod yng Nghymru, mae’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref); o ran y ddarpariaeth ar gyfer achosion pan benderfynir bod yr amodau hynny yn cael eu bodloni a bod yr awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn awdurdod yn Lloegr, gweler adran 201A o Ddeddf Tai 1996 (achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yng Nghymru).

(5)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn dod i ben fel y darperir ar ei gyfer yn yr is-adran honno hyd yn oed os yw’r ceisydd yn gofyn am adolygiad o benderfyniad yr awdurdod (gweler adran 85).

(6)Caiff yr awdurdod sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu tra bo’r penderfyniad ar adolygiad yn yr arfaeth.

(7)Os nad yw’r hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i geisydd o dan yr adran hon yn dod i law’r ceisydd, mae i’w drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.

83Achosion a atgyfeirir gan awdurdod tai lleol yn Lloegr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn Lloegr wedi atgyfeirio cais at awdurdod tai lleol yng Nghymru o dan adran 198(1) o Ddeddf Tai 1996 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall).

(2)Os penderfynir bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos yn yr adran honno yn cael eu bodloni mae’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau canlynol mewn perthynas â’r person y mae ei achos yn cael ei atgyfeirio—

(a)adran 68 ( dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol);

(b)adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref);

ar gyfer darpariaeth ynghylch achosion pan benderfynir nad yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio yn cael eu bodloni, gweler adran 200 o Ddeddf Tai 1996 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio).

(3)O ganlyniad, mae’r cyfeiriadau yn y Bennod hon at geisydd yn cynnwys cyfeiriad at berson y mae’r dyletswyddau a grybwyllir yn is-adran (2) yn ddyledus iddo yn rhinwedd yr adran hon.