Adran 17 – Dirymu cofrestriad
35.Mae awdurdod trwyddedu’n gallu dirymu cofrestriad landlord o dan amgylchiadau penodol. Dyma hwy: a) pan fo’r landlord wedi darparu i’r awdurdod trwyddedu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth wneud cais am gofrestriad o dan adran 15 neu wrth gydymffurfio â’r ddyletswydd i hysbysu’r awdurdod trwyddedu am newid mewn amgylchiadau o dan adran 16; b) pan fo’r landlord wedi methu â hysbysu’r awdurdod trwyddedu am newid fel sy’n ofynnol gan adran 16; ac c) methu â thalu ffi am barhau ar y gofrestr (gweler adran 15(4)).
36.Cyn dirymu cofrestriad, rhaid i awdurdod trwyddedu gymryd camau penodol. Rhaid iddo hysbysu’r landlord am ei fwriad i ddirymu’r cofrestriad a’r rhesymau dros wneud hynny. Rhaid iddo hefyd ganiatáu 21 o ddiwrnodau i’r landlord gyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r penderfyniad o’r dyddiad y caiff y landlord ei hysbysu. Nodir y broses ar gyfer rhoi hysbysiadau yn adran 48.
37.Ar ôl dirymu cofrestriad, rhaid i’r awdurdod cofrestru hysbysu’r landlord am y dirymiad a’r rhesymau dros wneud hynny a darparu gwybodaeth am yr hawl i apelio. Caiff landlord y mae ei gofrestriad wedi ei ddirymu apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl. Rhaid dwyn apêl cyn pen 28 o ddiwrnodau ar ôl i’r landlord gael ei hysbysu am y penderfyniad. Mewn apêl, caiff tribiwnlys gadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i ddirymu cofrestriad neu gyfarwyddo’r awdurdod i gofrestru’r landlord.
38.Mae’r diwrnod y mae dirymiad cofrestriad landlord yn cymryd effaith yn dibynnu ar p’un a fydd y landlord yn gwneud apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, neu apêl dilynol, ai peidio (gweler is-adran (8)).
39.Rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymryd camau penodol os caiff cofrestriad landlord ei ddirymu. Rhaid iddo hysbysu unrhyw berson ar y gofrestr sydd wedi ei benodi gan y landlord i ymgymryd, ar ran y landlord, â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo a rhaid iddo hysbysu hefyd denantiaid neu feddianwyr eiddo cofrestredig y landlord sydd ar rent.