38Cyfarwyddiadau i sicrhau cydymffurfedd â dyletswyddau o ran gwybodaeth
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn—
(a)bod cyflogwr perthnasol wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 36, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno, neu
(b)bod asiant wedi methu â chydymffurfio â dyletswydd sy’n codi o dan adran 37, neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â’r ddyletswydd honno.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r cyflogwr neu (yn ôl y digwydd) yr asiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd.
(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan adran (2), ar gais Gweinidogion Cymru, gael ei orfodi drwy waharddeb.
(4)Yn yr adran hon—
mae “asiant” i’w ddehongli yn unol ag adran 37;
mae i “cyflogwr perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 36 (4) .