xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY GWEITHLU ADDYSG

Cod ymddygiad ac ymarfer ar gyfer personau cofrestredigLL+C

24Cod ymddygiad ac ymarferLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod sy’n pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau cofrestredig.

(2)Caiff y cod ddarparu ar gyfer safonau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o berson cofrestredig.

(3)Wrth lunio’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn eu barn hwy.

(4)Rhaid i’r Cyngor adolygu’r cod a gwneud unrhyw ddiwygiadau iddo sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)cyn pen 3 blynedd ar ôl pob dyddiad cyhoeddi (o dan is-adran (1) neu (5)), a

(b)pan fydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu.

(5)Ar ôl pob adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor gyhoeddi’r cod mewn dull sydd, ym marn y Cyngor, yn debygol o’i ddwyn i sylw’r personau cofrestredig ac unrhyw un arall a all fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

(6)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (4), rhaid i’r Cyngor ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y cod yn ei farn ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2A. 24 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(m)