Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwyLL+C

69Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwyLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffioedd—

(a)am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15;

(b)am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17.

(2)Ond ni chaniateir i’r rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)sy’n galluogi gosod ffi am wasanaethau neu gynhorthwy y mae ffi wedi ei gosod mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59,

(b)sy’n galluogi ffi i gwmpasu unrhyw beth ac eithrio’r gost a dynnir wrth ddarparu’r gwasanaethau neu’r cynhorthwy y mae’r ffi yn ymwneud â hwy, neu

(c)sy’n galluogi gosod ffi ar blentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 69 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)