xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

184Ymchwil a darparu gwybodaeth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon,

(b)â’r swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12),

(c)â swyddogaethau’r Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf hon, neu

(d)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)ag unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), neu

(b)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(3)Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’r awdurdod yn cyflawni unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), a

(b)â’r personau y mae’r awdurdod wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, a

(b)â’r personau y mae wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bartner arweiniol Bwrdd Diogelu ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad â’r modd y mae’r Bwrdd hwnnw yn cyflawni ei swyddogaethau.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad ag oedolion sydd wedi eu lletya gan y sefydliad neu ar ei ran.

(8)Rhaid cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (4), (5), (6) neu (7) drwy ddarparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adeg sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(9)Caiff yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan is-adran (4) gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â phlant unigol ac sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol, ond dim ond os oes angen yr wybodaeth honno er mwyn llywio—

(a)y broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu

(b)y broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob blwyddyn osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adrannau (4), (5), (6) a (7), ond rhaid i’r crynodeb beidio â chynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.

(11)Yn yr adran hon—

(12)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1), (2) a (4) yw—

(a)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon;

(b)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol fel partner iechyd meddwl lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

185Oedolion mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc

(1)Wrth ei chymhwyso i oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at gael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yn yr ardal honno.

(2)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre a gymeradwywyd yn yr ardal honno.

(3)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn unrhyw fangre arall yng Nghymru am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar yr oedolyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre yn yr ardal honno am y rheswm hwnnw.

(4)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (5) yn gymwys yn achos oedolyn—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(5)Y darpariaethau yw—

(a)adran 110 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3);

(b)adran 112 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4);

(c)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(d)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6).

(6)Nid yw adran 127 (gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion) yn gymwys yn achos oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid.

(7)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)oedolion a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, a

(b)oedolion sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

186Plant mewn llety cadw ieuenctid, carchar neu lety mechnïaeth etc

(1)Yn is-adran (2), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar,

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(c)yn preswylio mewn unrhyw fangre arall am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol.

(2)Pan fo plentyn perthnasol, yn union cyn iddo gael ei gollfarnu o drosedd—

(a)ag anghenion am ofal a chymorth sy’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan Ran 4,

(b)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn rhinwedd cael llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod, neu

(c)yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol, ond na fo’n dod o fewn paragraff (a) neu (b),

mae’r plentyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw tra bo’n blentyn perthnasol (ac nid yw i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn ardal unrhyw awdurdod lleol arall neu fel pe bai o fewn yr ardal honno).

(3)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 79 (darparu llety i blant mewn gofal);

(b)adran 80 (cynnal plant sy’n derbyn gofal);

(c)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal);

(d)adran 82 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety);

(e)adran 109 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2);

(f)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(g)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6);

(h)paragraff 1 o Atodlen 1 (atebolrwydd am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal).

(5)Nid yw adran 119 (defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid) yn gymwys—

(a)mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, na

(b)mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.

(6)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn—

(a)sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, a

(b)yr oedd llety’n cael ei ddarparu iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989 yn union cyn iddo gael ei gollfarnu.

(7)Y darpariaethau yw—

(a)adran 21 (dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth);

(b)adran 37 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn);

(c)adran 38 (pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn).

(8)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)plant a gedwir yn gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, a

(b)plant sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

187Personau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc

(1)Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd, yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 50 neu 51 (taliadau uniongyrchol) ei gwneud yn ofynnol na chaniatáu i daliadau gael eu gwneud tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth os yw’r person hwnnw, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(3)Ni chaniateir i’r pŵer o dan adran 57 (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) gael ei arfer yn achos person sydd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

ac eithrio at y diben o wneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety i’r person wrth iddo gael ei ryddhau o’r carchar neu o’r llety cadw ieuenctid (gan gynnwys ei ryddhau dros dro), neu wrth i’r person beidio â phreswylio mwyach yn y fangre a gymeradwywyd.

(4)Nid yw adran 58 (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi) yn gymwys yn achos person—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

188Dehongli adrannau 185 i 187

(1)Yn adrannau 185 i 187—

(2)At ddibenion adrannau 185 i 187—

(a)mae person sy’n absennol dros dro o garchar neu lety cadw ieuenctid i’w drin fel pe bai’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid am gyfnod yr absenoldeb;

(b)mae person sy’n absennol dros dro o fangre a gymeradwywyd i’w drin fel pe bai’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd am gyfnod yr absenoldeb;

(c)mae person sy’n absennol dros dro o fangre arall y mae’n ofynnol i’r person breswylio ynddi fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol i’w drin fel pe bai’n preswylio yn y fangre am gyfnod yr absenoldeb.

189Methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn y Ddeddf honno) yn methu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes.

(2)Rhaid i awdurdod lleol am ba hyd bynnag ag y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol (ac i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny) ddiwallu—

(a)yr anghenion hynny sydd gan oedolyn am ofal a chymorth, a

(b)yr anghenion hynny sydd gan ofalwr perthnasol am gymorth,

a oedd, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y sefydliad neu’r asiantaeth (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 190).

(3)Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) ni waeth—

(a)p’un a yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio;

(b)p’un a yw’r awdurdod wedi cynnal asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio;

(c)p’un a fyddai dyletswydd fel arall ar yr awdurdod i ddiwallu’r anghenion hynny o dan y Ddeddf hon ai peidio.

(4)Caniateir i awdurdod lleol osod ffi am ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) (ac eithrio i’r graddau y mae’r anghenion hynny yn cael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor).

(5)Caniateir i ffi o dan is-adran (4)—

(a)cael ei gosod dim ond mewn cysylltiad ag anghenion nad oeddent, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu—

(i)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40, neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, neu

(ii)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52;

(b)cynnwys dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny.

(6)Mae adrannau 60 i 67, 70, 71 a 73 yn gymwys i osod ffi o dan is-adran (4) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i osod ffi o dan adran 59, ac yn unol â hynny mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr is-adran honno yn ddarostyngedig—

(a)i’r ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes darpariaeth), a

(b)i ddyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 ac 67 (os ydynt yn gymwys).

(7)Os nad yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo ddiwallu anghenion o dan is-adran (2)—

(a)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol arall wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40 neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(b)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau y talwyd eu cost yn llwyr neu’n rhannol gan awdurdod lleol arall drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(c)caniateir i’r awdurdod adennill oddi wrth yr awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) y gost y mae’n ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny sydd gan yr oedolyn neu’r anghenion hynny sydd gan y gofalwr perthnasol y cyfeirir atynt yn y paragraff o dan sylw.

(8)Mae unrhyw anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso’r adran hon i’w ddyfarnu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon a (lle y bo’n berthnasol) yn adran 190 a 191—

190Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro

(1)Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu—

(a)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;

(b)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;

(c)o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;

(d)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—

(i)yn rhinwedd adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001,

(ii)o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu

(iii)yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.

(2)Wrth ddisgwyl i Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 gychwyn, mae is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(a)o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—

(i)Rhan 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948,

(ii)adran 45 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968,

(iii)adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983,

(iv)Atodlen 20 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, neu

(v)adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000;.

(3)Wrth ddisgwyl i adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013 gychwyn, mae is-adran (1)(d)(ii) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(ii)o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu.

191Methiant darparwr: materion atodol

(1)Daw awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 189(2) cyn gynted ag y daw’n ymwybodol o’r methiant busnes.

(2)Mae adran 34 (sut i ddiwallu anghenion) ac adrannau 46 i 49 (diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau) yn gymwys i ddiwallu anghenion o dan adran 189 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45.

(3)Caiff reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y personau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu cynnwys mewn cysylltiad â diwallu anghenion o dan adran 189(2).

(4)Pan fo person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adran 189(2) ac y mae gofal parhaus y GIG hefyd yn cael ei ddarparu iddo o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol nad yw unrhyw ran o’i ardal yn ardal yr awdurdod lleol, mae’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w drin fel partner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adrannau 162 a 164.

(5)Yn is-adran (4) ystyr “gofal parhaus y GIG” yw gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir yn rhinwedd adrannau 3(1)(e) a 12 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben o gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 189(2), caiff ofyn i’r person cofrestredig, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y sefydliad neu’r asiantaeth fel y bernir yn briodol ganddo, i ddarparu gwybodaeth iddo.

(7)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth at ddibenion adran 189 a’r adran hon ynglŷn â’r dehongliad o gyfeiriadau at fethiant busnes neu at fethu â gwneud rhywbeth oherwydd methiant busnes; a caiff y rheoliadau, yn benodol, bennu’r amgylchiadau hynny lle y mae person i’w drin fel rhywun sy’n methu â rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes.

192Diwygio Deddf Cymorth Gwladol 1948

Yn adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (treuliau swyddogion cyngor sy’n gweithredu fel derbynyddion), ar ôl “Act” mewnosoder “, other than one in Wales,”.