Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

2014 dccc 4

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol; gwneud darpariaeth ynghylch gwella’r canlyniadau llesiant i bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth ac i ofalwyr y mae arnynt angen cymorth; gwneud darpariaeth ynghylch cydweithredu a phartneriaeth gan awdurdodau cyhoeddus gyda golwg ar wella llesiant pobl; gwneud darpariaeth ynghylch cwynion sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol a gofal lliniarol; ac at ddibenion cysylltiedig.

[1 Mai 2014]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1CYFLWYNIAD

Trosolwg

1Trosolwg ar y Ddeddf hon

(1)Mae 11 Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn darparu trosolwg ar y Ddeddf gyfan ac yn diffinio rhai termau allweddol.

(3)Mae Rhan 2 (dyletswyddau cyffredinol)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth (adran 5);

(b)yn pennu dyletswyddau hollgyffredinol ar bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phersonau y mae angen gofal a chymorth arnynt neu y gall fod angen gofal a chymorth arnynt, gofalwyr y mae angen cymorth arnynt neu y gall fod angen cymorth arnynt, neu bersonau y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad â hwy o dan Ran 6, er mwyn rhoi effaith i egwyddorion allweddol penodol (adran 6);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad yn pennu’r canlyniadau llesiant sydd i’w sicrhau ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt a dyroddi cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau hynny (adrannau 8 i 13);

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol yn eu hardaloedd hwy (adran 14);

(e)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ataliol (adran 15);

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector wrth ddarparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr yn eu hardaloedd (adran 16);

(g)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr ac yn cynorthwyo i gael hyd i’r gwasanaeth hwnnw (adran 17);

(h)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu a chynnal cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill (adran 18).

(4)Mae Rhan 3 (asesu anghenion unigolion) yn darparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau hynny lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol asesu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth;

(b)sut y mae asesiadau i’w cynnal.

(5)Mae Rhan 4 (diwallu anghenion) yn darparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;

(b)sut y mae anghenion i’w diwallu.

(6)Mae Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) yn darparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am ddarparu neu am drefnu gofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr;

(b)yr amgylchiadau y caiff awdurdodau lleol godi ffi odanynt am wasanaethau ataliol ac am ddarparu cynhorthwy;

(c)sut y mae ffioedd o’r fath i’w pennu, i’w talu ac i’w gorfodi.

(7)Mae Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)—

(a)yn darparu ar gyfer dehongli’r cyfeiriadau at blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (adran 74);

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—

(i)sicrhau digon o lety yn eu hardaloedd i’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adran 75), a

(ii)lletya plant heb rieni neu sydd ar goll neu wedi eu gadael neu sydd o dan amddiffyniad yr heddlu neu wedi eu cadw’n gaeth neu ar remánd (adrannau 76 a 77);

(c)yn darparu ar gyfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant y maent yn gofalu amdanynt (adrannau 75 i 103, 124 a 125);

(d)yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle y caiff, neu lle y mae’n rhaid i, awdurdodau lleol ddarparu cymorth i bobl ifanc—

(i)sy’n gadael, neu sydd wedi gadael, gofal awdurdod lleol;

(ii)a oedd gynt yn cael eu lletya mewn sefydliadau penodol;

(iii)a oedd gynt yn cael eu maethu;

(iv)y mae neu yr oedd gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad â hwy;

(adrannau 104 i 118);

(e)yn darparu ar gyfer terfynau ar y defnydd o lety diogel i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol neu awdurdodau lleol yn Lloegr neu blant o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau (adran 119);

(f)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd neu awdurdodau addysg neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol a darparu ymweliadau a gwasanaethau i’r plant hynny (adrannau 120 i 123);

(g)yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynnal plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

(8)Mae Rhan 7 (diogelu)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymchwilio pan fyddant yn amau bod oedolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adran 126);

(b)yn darparu ar gyfer gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion er mwyn awdurdodi mynediad i fangre (drwy rym os oes angen) er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i asesu a yw oedolyn yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod ac, os ydyw, beth i’w wneud am y sefyllfa honno (adran 127);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol roi gwybod i’r awdurdod priodol pan fônt yn amau bod pobl efallai yn wynebu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod (adrannau 128 a 130);

(d)yn datgymhwyso adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud pobl y mae angen gofal a sylw arnynt o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) (adran 129);

(e)yn sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol i roi cymorth a chyngor er mwyn sicrhau effeithiolrwydd Byrddau Diogelu (adrannau 132 a 133);

(f)yn darparu ar gyfer Byrddau Diogelu i oedolion a phlant ac ar gyfer cyfuno byrddau o’r fath (adrannau 134 i 141).

(9)Mae Rhan 8 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—

(a)yn cyflwyno Atodlen 2, sy’n pennu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adran 143);

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn penodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adran 144);

(c)yn darparu bod codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i’w gwneud gan Weinidogion Cymru (adrannau 145 i 149);

(d)yn darparu ar gyfer ymyrraeth gan Weinidogion Cymru yn y modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol pan fo’n methu â’u harfer yn gywir (adrannau 150 i 161).

(10)Mae Rhan 9 (cydweithrediad a phartneriaeth)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad gyda’u partneriaid perthnasol ac eraill mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr a phlant (adrannau 162 a 163);

(b)yn gosod dyletswydd ar y partneriaid perthnasol i gydweithredu â’r awdurdodau lleol, a darparu gwybodaeth iddynt, at ddiben eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (adran 164);

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo’r broses o integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd (adran 165);

(d)yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau (adrannau 166 i 169);

(e)yn grymuso Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo awdurdodau lleol i ymrwymo i drefniadau ar y cyd er mwyn darparu gwasanaeth mabwysiadu (adran 170).

(11)Mae gan Ran 10 (cwynion, sylwadau a gwasanaethau eirioli) dair pennod.

(12)Mae Pennod 1 yn darparu ar gyfer cwynion a sylwadau am wasanaethau cymdeithasol sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol.

(13)Mae Pennod 2 yn darparu ar gyfer cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol preifat.

(14)Mae Pennod 3 yn darparu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

(15)Mae Rhan 11 (amrywiol a chyffredinol)—

(a)yn grymuso Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i wneud ymchwil, ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi, ynghylch materion sy’n gysylltiedig â swyddogaethau o dan y Ddeddf a materion cysylltiedig eraill (adran 184);

(b)yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys i bersonau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc (adrannau 185 i 188);

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch y camau i’w cymryd gan awdurdod lleol pan fo sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000) yn methu â diwallu anghenion yn ardal yr awdurdod oherwydd methiant busnes (adrannau 189 i 191);

(d)yn datgymhwyso adran 49 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n caniatáu i awdurdod lleol dalu treuliau a dynnir gan unrhyw un neu rai o’i swyddogion a benodir yn ddirprwy gan y Llys Gwarchod) (adran 192);

(e)yn gwneud darpariaeth ynghylch adennill costau rhwng awdurdodau lleol o dan rai amgylchiadau (adran 193);

(f)yn darparu ar gyfer ateb cwestiynau ynghylch preswylfa arferol person at ddibenion y Ddeddf hon (adran 194);

(g)yn cynnwys y diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd (adran 197);

(h)yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

(16)Mae darpariaethau hefyd ynghylch gwasanaethau cymdeithasol yn y Deddfau a’r Mesurau a restrir yn Atodlen 2.

Termau allweddol

2Ystyr “llesiant”

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “llesiant”, o ran person, yw llesiant mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r canlynol—

(a)iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol;

(b)amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod;

(c)addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden;

(d)perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol;

(e)cyfraniad a wneir at y gymdeithas;

(f)sicrhau hawliau a hawlogaethau;

(g)llesiant cymdeithasol ac economaidd;

(h)addasrwydd llety preswyl.

(3)O ran plentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—

(a)datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol;

(b)“lles” fel y diffinnir y term Saesneg cyfatebol “welfare” at ddibenion Deddf Plant 1989.

(4)O ran oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—

(a)rheolaeth ar fywyd pob dydd;

(b)cymryd rhan mewn gwaith.

3Ystyr “oedolyn”, “plentyn”, “gofalwr”ac “anabl”

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “oedolyn” yw person sy’n 18 oed neu drosodd.

(3)Ystyr “plentyn” yw person dan 18 oed.

(4)Ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl; ond gweler is-adrannau (7) ac (8) ac adran 187(1).

(5)Mae person yn “anabl” os oes ganddo anabledd (“disability”) at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (6).

(6)Caiff rheoliadau ddarparu bod person sy’n dod o fewn categori penodedig i’w drin neu i beidio â chael ei drin fel un sy’n anabl at ddibenion y Ddeddf hon.

(7)Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—

(a)o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu

(b)fel gwaith gwirfoddol.

(8)Ond caiff awdurdod lleol drin person fel gofalwr at ddibenion unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon os yw’r awdurdod o’r farn bod natur y berthynas rhwng y person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal a’r person y mae’r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu, neu i’w ddarparu, iddo yn golygu y byddai’n briodol i’r cyntaf gael ei drin fel gofalwr at ddibenion y swyddogaeth honno neu’r swyddogaethau hynny.

4Ystyr “gofal a chymorth”

Mae unrhyw gyfeiriad at ofal a chymorth yn y Ddeddf hon i’w ddehongli fel cyfeiriad at—

(a)gofal;

(b)cymorth;

(c)gofal a chymorth.

RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Dyletswyddau hollgyffredinol

5Dyletswydd llesiant

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon geisio hyrwyddo llesiant—

(a)pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a

(b)gofalwyr y mae arnynt angen cymorth.

6Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: cyffredinol

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon—

(a)mewn perthynas ag unigolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth,

(b)mewn perthynas â gofalwr y mae arno anghenion am gymorth, neu y gall fod arno anghenion am gymorth, neu

(c)mewn perthynas ag unigolyn y mae swyddogaethau yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 6 (plant sy’n derbyn gofal etc),

gydymffurfio â’r dyletswyddau yn is-adran (2).

(2)Rhaid i’r person—

(a)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r unigolyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny,

(b)rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn,

(c)rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, iaith), a

(d)rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cymorth priodol er mwyn galluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno i’r graddau sy’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi ei gyfyngu am unrhyw reswm.

(3)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal, roi sylw i—

(a)pwysigrwydd dechrau gyda’r ragdybiaeth mai’r oedolyn sydd yn y sefyllfa orau i farnu llesiant yr oedolyn, a

(b)pwysigrwydd hyrwyddo annibyniaeth yr oedolyn pan fo’n bosibl.

(4)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn is-adran (1)(a), (b) neu (c), yn ogystal—

(a)rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo magwraeth y plentyn gan deulu’r plentyn, i’r graddau y mae gwneud hynny yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)pan fo’r plentyn o dan 16 oed, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny, i’r graddau y mae gwneud hynny—

(i)yn gyson â hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(ii)yn rhesymol ymarferol.

7Dyletswyddau hollgyffredinol eraill: Egwyddorion a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig

(1)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag oedolyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a) neu (b) roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991.

(2)Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn adran 6(1)(a), (b) neu (c) roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno drwy benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

(3)At ddibenion is-adran (2), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i’w thrin fel pe bai’n cael effaith—

(a)fel a nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel a nodir am y tro yn Rhan 3 o’r Atodlen honno.

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i Weinidogion Cymru (gweler, yn lle hynny, Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).

Canlyniadau llesiant

8Dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad sy’n ymwneud â llesiant—

(a)pobl yng Nghymru y mae arnynt angen gofal a chymorth, a

(b)gofalwyr yng Nghymru y mae arnynt angen cymorth.

(2)Rhaid dyroddi’r datganiad o fewn 3 blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Rhaid i’r datganiad bennu’r canlyniadau sydd i’w sicrhau, o ran llesiant y bobl a grybwyllwyd yn is-adran (1), drwy—

(a)gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) a ddarperir gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf hon, a

(b)gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) a ddarperir gan eraill sydd o fath y gellid eu darparu gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf hon.

(4)Rhaid i’r datganiad hefyd bennu mesurau y mae graddau sicrhau’r canlyniadau hynny i’w hasesu drwy gyfeirio atynt.

(5)Caiff y datganiad bennu gwahanol ganlyniadau neu fesurau ar gyfer gwahanol gategorïau o bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth).

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad yn gyson a chânt ddiwygio’r datganiad pa bryd bynnag y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(7)Cyn dyroddi neu ddiwygio’r datganiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth ddyroddi neu ddiwygio’r datganiad—

(a)gosod copi o’r datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)cyhoeddi’r datganiad ar eu gwefan.

9Pŵer i ddyroddi cod ar gyfer helpu i sicrhau’r canlyniadau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, cod i helpu i sicrhau’r canlyniadau a bennir yn y datganiad o dan adran 8.

(2)Caiff y cod—

(a)rhoi canllawiau i unrhyw berson sy’n darparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math sy’n cael ei ddisgrifio yn adran 8(3), a

(b)gosod gofynion ar awdurdodau lleol mewn perthynas â darpariaeth o’r fath honno.

(3)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r materion y gellir eu nodi yn y cod—

(a)safonau (“safonau ansawdd”) sydd i’w sicrhau wrth ddarparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(b)mesurau (“mesurau perfformiad”) y gellir asesu perfformiad o ran sicrhau’r safonau ansawdd hynny drwy gyfeirio atynt;

(c)targedau (“targedau perfformiad”) sydd i’w bodloni mewn perthynas â’r mesurau perfformiad hynny;

(d)camau sydd i’w cymryd mewn cysylltiad â’r safonau, y mesurau a’r targedau hynny.

(4)Caiff y cod bennu—

(a)gwahanol safonau ansawdd ar gyfer—

(i)gwahanol gategorïau o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(ii)gwahanol gategorïau o bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(b)gwahanol fesurau perfformiad neu dargedau perfformiad ar gyfer—

(i)gwahanol gategorïau o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(ii)gwahanol gategorïau o bobl sy’n darparu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth);

(c)gwahanol safonau ansawdd, mesurau perfformiad neu dargedau perfformiad i fod yn gymwys ar wahanol adegau.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi ar eu gwefan y cod sydd mewn grym am y tro, a

(b)peri i godau nad ydynt bellach mewn grym fod ar gael (ar eu gwefan neu fel arall) i’r cyhoedd.

10Awdurdodau lleol a’r cod

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod lleol—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a osodir arno gan god a ddyroddir o dan adran 9, a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod hwnnw.

(2)Pan fo mesurau perfformiad neu dargedau perfformiad wedi eu pennu mewn cod a ddyroddir o dan adran 9, maent i’w trin (i’r graddau y maent yn gymwys i berfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt arfer eu swyddogaethau) fel pe baent wedi eu pennu fel dangosyddion perfformiad neu safonau perfformiad yn ôl eu trefn o dan adran 8(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

11Dyroddi’r cod, ei gymeradwyo a’i ddirymu

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 9, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig).

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ni fydd yn cynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god (neu god diwygiedig) rhag cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Caniateir i Weinidogion Cymru ddirymu cod (neu god diwygiedig) a ddyroddir o dan yr adran hon mewn cod pellach neu drwy gyfarwyddyd.

(8)Rhaid gosod cyfarwyddyd o dan is-adran (7) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

12Pŵer i helpu awdurdodau lleol i gydymffurfio â gofynion y cod

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried y byddai’n debygol o helpu awdurdod lleol i gydymffurfio â gofynion sy’n cael eu gosod gan god o dan adran 9.

(2)Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn cynnwys pŵer i—

(a)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau gydag unrhyw berson;

(b)cydweithredu ag unrhyw berson, neu hwyluso neu gyd-gysylltu gweithgareddau unrhyw berson;

(c)arfer ar ran unrhyw berson unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau;

(d)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson.

(3)Oni bai bod Gweinidogion Cymru’n arfer y pŵer o dan is-adran (1) mewn ymateb i gais a wnaed o dan is-adran (4), rhaid iddynt, cyn arfer y pŵer hwnnw, ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol y maent yn bwriadu ei gynorthwyo drwy arfer y pŵer, a

(b)y personau hynny sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhanddeiliaid allweddol y byddai arfer y pŵer yn effeithio arnynt.

(4)Os yw awdurdod lleol yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried p’un ai i arfer eu pŵer o dan is-adran (1).

13Cyhoeddi gwybodaeth ac adroddiadau

Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math a ddisgrifir yn adran 8(3), a

(b)adroddiadau ynghylch y cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol ac eraill tuag at sicrhau—

(i)y canlyniadau a bennir mewn datganiad o dan adran 8;

(ii)y safonau ansawdd a’r targedau perfformiad (os oes rhai) a bennir mewn cod o dan adran 9.

Trefniadau lleol

14Asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol

(1)Rhaid i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, asesu ar y cyd—

(a)i ba raddau y mae pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth yn ardal yr awdurdod lleol;

(b)i ba raddau y mae yna ofalwyr yn ardal yr awdurdod lleol y mae angen cymorth arnynt;

(c)i ba raddau y mae yna bobl yn ardal yr awdurdod lleol nad yw eu hanghenion am ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion am gymorth) yn cael eu diwallu (gan yr awdurdod, y Bwrdd neu fel arall);

(d)ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn ardal yr awdurdod lleol (gan gynnwys anghenion gofalwyr am gymorth);

(e)ystod a lefel y gwasanaethau y mae eu hangen i sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol) yn ardal yr awdurdod lleol;

(f)y camau y mae angen eu cymryd i ddarparu’r ystod a’r lefel o wasanaethau a nodir yn unol â pharagraffau (d) ac (e) drwy gyfrwng y Gymraeg.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, ddarparu ar gyfer amseru ac adolygu asesiadau.

(3)Yn adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (strategaethau iechyd a llesiant)—

(a)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)The responsible bodies must take into account the most recent assessment under section 14 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (assessment of needs for care and support, support for carers and preventative services) in the formulation or review of the strategy.

(2B)The responsible bodies must jointly publish the strategy.

(2C)The Local Health Board (or Boards) responsible for the strategy must submit to the Welsh Ministers any part of the strategy which relates to the health and well-being of carers (and if more than one Board is responsible for the strategy, they must do so jointly).;

(b)yn is-adran (6), ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(h)the submission of the strategy or a part of the strategy, to the Welsh Ministers (including, for example, the form in which and the time by which the strategy or part is to be submitted).;

(c)yn is-adran (9), mewnosoder yn y man priodol—

  • “carer” has the same meaning as in the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014,.

(4)Yn adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (cynlluniau plant a phobl ifanc), ar ôl is-adran (1A) mewnosoder—

(1AA)A local authority in Wales must take into account the most recent assessment under section 14 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (assessment of needs for care and support, support for carers and preventative services) in the preparation and review of the plan.

15Gwasanaethau ataliol

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu ystod a lefel o wasanaethau a fydd yn ei farn ef yn sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(2)Y dibenion yw—

(a)cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion pobl am ofal a chymorth;

(b)lleihau’r anghenion am ofal a chymorth i bobl y mae arnynt anghenion o’r fath;

(c)hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd, pan fo hynny’n gyson â llesiant y plant;

(d)cadw i’r lleiaf posibl yr effaith sydd gan eu hanableddau ar bobl anabl;

(e)cyfrannu at atal pobl rhag dioddef gan gamdriniaeth neu esgeulustod;

(f)lleihau’r angen am—

(i)achosion cyfreithiol am orchmynion gofalu neu oruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989,

(ii)achosion troseddol yn erbyn plant,

(iii)unrhyw achosion teuluol neu achosion cyfreithiol eraill mewn perthynas â phlant a allai arwain at eu rhoi yng ngofal awdurdod lleol, neu

(iv)achosion cyfreithiol o dan awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn perthynas â phlant;

(g)annog plant i beidio â throseddu;

(h)osgoi’r angen i blant gael eu lleoli mewn llety diogel;

(i)galluogi pobl i fyw eu bywydau mewn ffordd mor annibynnol â phosibl.

(3)Mae’r pethau y gellir eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn cynnwys gofal a chymorth (neu yn achos gofalwyr, cymorth) o’r math y mae’n rhaid eu darparu neu y caniateir eu darparu o dan adrannau 35 i 45, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r gofal hwnnw a’r cymorth hwnnw.

(4)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau eraill, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw i bwysigrwydd cyflawni’r dibenion yn is-adran (2) yn ei ardal.

(6)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)rhaid i awdurdod lleol nodi’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael yn ei ardal a all helpu i sicrhau’r dibenion yn is-adran (2) ac ystyried cynnwys neu ddefnyddio’r gwasanaethau hynny wrth gyflawni’r ddyletswydd;

(b)caiff awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth wasanaethau y mae’n barnu y gallai fod yn rhesymol i bersonau eraill eu darparu neu eu trefnu wrth iddo benderfynu beth y dylai ddarparu neu drefnu;

(c)rhaid i awdurdod lleol wneud y defnydd gorau o adnoddau’r awdurdod ac yn benodol osgoi darpariaeth a allai beri gwariant anghymesur.

(7)Nid yw darpariaeth i’w hystyried yn un sy’n peri gwariant anghymesur ond oherwydd bod y ddarpariaeth honno’n ddrutach na darpariaeth gyffelyb.

(8)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol gyflawni’r ddyletswydd ar y cyd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’u hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(9)Gweler adrannau 46 (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) am eithriad i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) a chyfyngiadau ar y modd y caniateir i’r ddyletswydd gael ei chyflawni.

16Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector

(1)Rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo—

(a)datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(b)datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;

(c)ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar eu cyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;

(d)argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliadau yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).

(2)Yn yr adran hon—

  • mae “gofal a chymorth” (“care and support”) yn cynnwys cymorth i ofalwyr;

  • ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol o’r farn y byddent yn sicrhau unrhyw un neu rai o’r dibenion yn adran 15(2);

  • mae “y gymdeithas” (“society”) yn cynnwys adran o’r gymdeithas;

  • ystyr “menter gymdeithasol” (“social enterprise”) yw sefydliad y mae ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn rhai y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau a gyflawnir er budd y gymdeithas (“ei amcanion cymdeithasol”), ac sydd—

    (a)

    yn creu’r rhan fwyaf o’i incwm drwy fusnes neu fasnach,

    (b)

    yn ailfuddsoddi’r rhan fwyaf o’i elw yn ei amcanion cymdeithasol,

    (c)

    yn annibynnol ar unrhyw awdurdod cyhoeddus, a

    (d)

    yn cael ei berchenogi, ei lywio a’i reoli mewn ffordd sy’n gyson â’i amcanion cymdeithasol;

  • ystyr “sefydliad trydydd sector” (“third sector organisation”) yw sefydliad y gallai person farnu’n rhesymol ei fod yn sefydliad sy’n bodoli’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddarparu buddion i’r gymdeithas.

(3)At ddibenion yr adran hon, caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod gweithgareddau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel gweithgareddau y gallai person farnu’n rhesymol eu bod yn weithgareddau sy’n cael eu cyflawni er budd y gymdeithas;

(b)bod sefydliadau neu drefniadau o ddisgrifiad penodedig i’w trin neu ddim i’w trin fel—

(i)mentrau cymdeithasol,

(ii)sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol, neu

(iii)sefydliadau trydydd sector;

(c)ar gyfer yr hyn sydd, neu’r hyn nad yw, neu a gaiff fod, yn gyfystyr ag adran o’r gymdeithas.

17Darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir gwasanaeth i roi i bobl—

(a)gwybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â gofal a chymorth, a

(b)cynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth.

(2)Yn is-adran (1)(a), mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ariannol (gan gynnwys gwybodaeth am daliadau uniongyrchol), ond nid yw’n gyfyngedig i’r wybodaeth honno.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol geisio sicrhau bod y gwasanaeth—

(a)yn ddigonol i alluogi person i wneud cynlluniau ar gyfer diwallu anghenion am ofal a chymorth a allai godi, a

(b)yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy i berson mewn modd sy’n hygyrch i’r person hwnnw.

(4)Rhaid i’r gwasanaeth gynnwys, o leiaf, gyhoeddi gwybodaeth a chyngor am y materion a ganlyn—

(a)y system y darperir ar ei chyfer gan y Ddeddf hon a’r modd y mae’r system yn gweithredu yn ardal yr awdurdod,

(b)y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael yn ardal yr awdurdod,

(c)sut i gael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael, a

(d)sut i leisio pryderon am lesiant person y mae’n ymddangos bod arno anghenion am ofal a chymorth.

(5)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau mewn ardal awdurdod lleol, at ddibenion yr adran hon, ddarparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol hwnnw am y gofal a’r cymorth y mae’n eu darparu yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol sicrhau ar y cyd fod gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon i’w hardal gyfun; a phan fônt yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdodau yn gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ardal awdurdod lleol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)Yn yr adran hon, mae “gofal a chymorth” yn cynnwys cymorth i ofalwyr.

18Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill

(1)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—

(a)sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,

(b)sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu

(c)sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.

(2)Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—

(a)y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a

(b)amgylchiadau ieithyddol y person.

(3)Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.

(4)Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(5)Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n anabl,

(b)nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu

(c)sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.

(7)O ran awdurdod lleol—

(a)caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a

(b)rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.

(8)Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—

(a)cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a

(b)monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—

(a)bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu

(b)bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.

(10)Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a

(b)os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol (o fewn ystyr “personal data” yn Neddf Diogelu Data 1998) sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION

Asesu oedolion

19Dyletswydd i asesu anghenion oedolyn am ofal a chymorth

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar oedolyn anghenion am ofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes ar yr oedolyn anghenion am ofal a chymorth, a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

(a)oedolyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

(b)unrhyw oedolyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth yw barn yr awdurdod lleol ar—

(a)lefel anghenion yr oedolyn am ofal a chymorth, neu

(b)lefel adnoddau ariannol yr oedolyn.

(4)Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ceisio canfod y canlyniadau y mae’r oedolyn yn dymuno eu sicrhau mewn bywyd o ddydd i ddydd,

(b)asesu a allai darparu—

(i)gofal a chymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

(c)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)yr oedolyn, a

(b)pan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn.

(6)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

20Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn

(1)Os yw oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o’i anghenion o dan adran 19, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion yr oedolyn yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 19 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    (a)

    nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    (b)

    bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—

    (a)

    nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

    (c)

    y byddai cael yr asesiad er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 19 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran yr oedolyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

Asesu plant

21Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes angen gofal a chymorth o’r math hwnnw ar y plentyn, a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—

(a)plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a

(b)unrhyw blentyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod lleol—

(a)ar lefel anghenion y plentyn am ofal a chymorth, neu

(b)ar lefel adnoddau ariannol y plentyn, rhieni’r plentyn neu unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4)Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)asesu anghenion datblygiadol y plentyn,

(b)ceisio canfod y canlyniadau—

(i)y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn,

(ii)y mae’r personau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(iii)y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn,

(c)asesu a allai darparu—

(i)gofal a chymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau,

(d)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, ac

(e)ystyried unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)y plentyn, a

(b)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(6)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

(7)At ddibenion is-adran (1) rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn.

(8)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

22Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed

(1)Os yw plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a

(b)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan blentyn, nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y plentyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

23Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed

(1)Os yw—

(a)plentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 21, a

(b)yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y plentyn hwnnw o dan adran 21, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y plentyn yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 21 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn—

    (a)

    bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a

    (b)

    nad yw’r plentyn yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y plentyn;

  • ACHOS 4 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod y plentyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin, ei esgeuluso, neu ei niweidio mewn modd arall.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 21 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r plentyn yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r plentyn, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

Asesu gofalwyr

24Dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorth

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—

(a)a oes ar y gofalwr anghenion am gymorth (neu a yw’n debygol y bydd arno anghenion am gymorth yn y dyfodol), a

(b)os oes, beth yw’r anghenion hynny (neu’r anghenion tebygol yn y dyfodol).

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran gofalwr sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—

(a)i oedolyn neu blentyn anabl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, neu

(b)i unrhyw oedolyn arall neu blentyn anabl arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod—

(a)ar lefel anghenion y gofalwr am gymorth, neu

(b)ar lefel adnoddau ariannol y gofalwr neu’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(4)Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn gallu, ac y bydd yn parhau i allu, darparu gofal i’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo,

(b)asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn fodlon, ac y bydd yn parhau i fod yn fodlon, gwneud hynny,

(c)yn achos gofalwr sy’n oedolyn, ceisio canfod y canlyniadau y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau,

(d)yn achos gofalwr sy’n blentyn, ceisio canfod y canlyniadau—

(i)y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y gofalwr,

(ii)y mae’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y gofalwr, a

(iii)y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr,

(e)asesu a allai darparu—

(i)cymorth,

(ii)gwasanaethau ataliol, neu

(iii)gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,

gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac

(f)asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.

(5)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, roi sylw i’r materion a ganlyn—

(a)a yw’r gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gwneud hynny,

(b)a yw’r gofalwr yn cymryd rhan, neu’n dymuno cymryd rhan, mewn gweithgareddau addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden, ac

(c)yn achos gofalwr sy’n blentyn—

(i)anghenion datblygiadol y plentyn, a

(ii)a yw’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal (neu unrhyw ofal) yng ngoleuni’r anghenion hynny.

(6)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—

(a)y gofalwr, a

(b)pan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(7)Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.

25Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n oedolyn

(1)Os yw gofalwr sy’n oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    (a)

    nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond

    (b)

    bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr—

    (a)

    nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr, ac

    (c)

    y byddai cael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

(3)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(b)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(4)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

26Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed

(1)Os yw gofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr sy’n 16 neu’n 17 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24 o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, a

(b)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y gofalwr,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan y gofalwr, nad oes gan y gofalwr alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, na fyddai peidio â chael yr asesiad er lles pennaf y gofalwr.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

(5)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran y gofalwr neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.

27Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr o dan 16 oed

(1)Os yw—

(a)gofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion o dan adran 24, a

(b)yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad,

nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(2)Os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ofalwr o dan 16 oed yn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer y gofalwr o dan adran 24, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion y gofalwr yn gymwys.

(3)Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) neu (2) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 24 yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, nad oes gan y person alluedd i benderfynu a wrthoda’r asesiad;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr—

    (a)

    bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch gwrthod yr asesiad, a

    (b)

    nad yw’r gofalwr yn cytuno â’r gwrthodiad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, y byddai peidio â chael yr asesiad yn anghyson â llesiant y gofalwr.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 24 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—

(a)os yw’r gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y gofalwr ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael asesiad,

(b)os yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn gofyn wedyn am asesiad, neu

(c)os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r gofalwr, neu anghenion neu amgylchiadau person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr, wedi newid,

(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).

Materion atodol

28Cyfuno asesiadau o anghenion ar gyfer gofalwr a pherson y gofelir amdano

(1)Pan fo gan berson, y mae’n ymddangos bod arno angen gofal a chymorth, ofalwr, caiff awdurdod lleol gyfuno—

(a)asesiad o anghenion y person o dan adran 19 neu 21, a

(b)asesiad o anghenion y gofalwr o dan adran 24,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (4).

(2)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn (p’un ai o dan adran 19 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod yr oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys, neu

(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod y plentyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn rhoi cydsyniad dilys,

(b)bod person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys o dan amgylchiadau pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)nad oes gan y plentyn alluedd i benderfynu a gydsynia i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno, a

(ii)nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, neu

(c)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer plentyn o dan 16 oed (p’un ai o dan adran 21 neu 24) ag asesiad o anghenion ar gyfer person arall oni bai—

(a)bod y plentyn neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn rhoi cydsyniad dilys, neu

(b)y caniateir i’r gofyniad i gael cydsyniad dilys gael ei hepgor.

(5)Mae cydsyniad a roddir o dan is-adran (2), (3) neu (4) yn ddilys ac eithrio yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan oedolyn neu blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed, nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd i gydsynio i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan blentyn o dan 16 oed, nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos cydsyniad a roddir gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn o dan 16 oed mewn perthynas ag asesiad o anghenion y plentyn—

    (a)

    bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    (b)

    nad yw’r plentyn yn cytuno â’r cydsyniad a roddir gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant.

(6)Caiff awdurdod lleol hepgor y gofyniad i gael cydsyniad dilys yn yr achosion a ganlyn—

  • ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion oedolyn—

    (a)

    nad oes unrhyw berson a gaiff roi cydsyniad dilys, a

    (b)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn sy’n 16 neu’n 17 oed—

    (a)

    nad oes gan y plentyn alluedd i roi cydsyniad dilys,

    (b)

    nad oes person awdurdodedig a gaiff roi cydsyniad dilys ar ran y plentyn, ac

    (c)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion er lles pennaf y plentyn;

  • ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, o ran asesiad o anghenion plentyn o dan 16 oed—

    (a)

    nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cyfuno’r asesiadau o anghenion, a

    (b)

    y byddai cyfuno’r asesiadau o anghenion yn gyson â llesiant y plentyn.

(7)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn gyffredinol neu yn benodol) i benderfynu a gydsynia ar ran yr oedolyn neu’r plentyn i’r asesiadau o anghenion gael eu cyfuno.

29Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraill

(1)Pan fo’n ymddangos bod gan berson y mae’n ymddangos bod arno angen cymorth fel gofalwr anghenion am ofal a chymorth yn ei hawl ei hun hefyd, caiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 24 ag asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 19 neu 21.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion ar gyfer person yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn gwneud asesiad arall o dan unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef, neu

(b)os yw’r corff arall eisoes wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei wneud ar y cyd â pherson arall, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r person arall hwnnw.

30Rheoliadau ynghylch asesu

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud asesiadau o anghenion.

(2)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ar gyfer adolygu asesiadau o anghenion, a chaniateir iddynt, er enghraifft, bennu—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o asesiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o asesiad, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd, er enghraifft, ddarparu ar gyfer—

(a)personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys wrth iddo wneud asesiad o dan adran 19, 21 neu 24;

(b)y ffordd y mae asesiad i’w wneud, a chan bwy a phryd;

(c)cofnodi canlyniadau asesiad;

(d)yr ystyriaethau y mae awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gyflawni asesiad;

(e)pwerau i ddarparu gwybodaeth at ddibenion asesu.

31Rhan 3: dehongli

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “gwasanaethau ataliol” (“preventative services”) yw gwasanaethau y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 15;

  • ystyr “gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy” (“information, advice or assistance”) yw gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy y gellir eu darparu yn rhinwedd adran 17.

RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Penderfynu beth i’w wneud ar ôl asesiad o anghenion

32Dyfarnu cymhwystra ac ystyried beth i’w wneud i ddiwallu anghenion

(1)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni, ar sail asesiad o anghenion, bod ar berson anghenion am ofal a chymorth neu, os gofalwr yw’r person, bod arno anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod—

(a)dyfarnu a oes unrhyw un neu rai o’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra;

(b)os nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, ddyfarnu a yw’n angenrheidiol diwallu’r anghenion, serch hynny, i amddiffyn y person—

(i)rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (os oedolyn yw’r person);

(ii)rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall (os plentyn yw’r person);

(c)dyfarnu a yw’r anghenion yn galw am arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan y Ddeddf hon neu Rannau 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989, i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn berthnasol i’r person hwnnw;

(d)ystyried a fyddai darparu unrhyw beth y gellir ei ddarparu yn rhinwedd adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu 17 (gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned o fudd i’r person.

(2)Os yw awdurdod lleol yn dyfarnu bod rhaid i unrhyw anghenion gael eu diwallu, neu eu bod i’w diwallu, o dan adrannau 35 i 45, rhaid i’r awdurdod—

(a)ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny;

(b)ystyried a fyddai’n gosod ffi am wneud y pethau hynny, ac os felly, dyfarnu swm y ffi honno (gweler Rhan 5).

(3)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cyflawni’r ddyletswydd o dan is-adran (1)(a).

(4)Mae anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os ydynt—

(a)o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, neu

(b)yn rhan o gyfuniad o anghenion o ddisgrifiad a bennir felly.

(5)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, ddisgrifio anghenion drwy gyfeirio at—

(a)yr effaith y mae’r anghenion yn ei chael ar y person o dan sylw;

(b)amgylchiadau’r person.

33Y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 32

(1)Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 32(3) neu (4), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a ganlyn.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y rheoliadau drafft arfaethedig â’r canlynol—

(a)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos iddynt fod y rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt,

(b)unrhyw sefydliadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)O ran y rheoliadau drafft a osodir o dan is-adran (4)—

(a)rhaid iddynt fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (2) a’r rheoliadau drafft a osodir o dan is-adran (4), a

(b)ni chaniateir iddynt gael eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y rheoliadau drafft, ddod i ben.

34Sut i ddiwallu anghenion

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—

(a)drwy drefnu bod person heblaw’r awdurdod yn darparu rhywbeth;

(b)drwy ddarparu rhywbeth ei hun;

(c)drwy ddarparu rhywbeth, neu drwy drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r person ag anghenion am ofal a chymorth (neu gymorth yn achos gofalwr).

(2)Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—

(a)llety mewn cartref gofal, cartref plant neu fangre o ryw fath arall;

(b)gofal a chymorth gartref neu yn y gymuned;

(c)gwasanaethau, nwyddau a chyfleusterau;

(d)gwybodaeth a chyngor;

(e)cwnsela ac eiriolaeth;

(f)gwaith cymdeithasol;

(g)taliadau (gan gynnwys taliadau uniongyrchol);

(h)cymhorthion ac addasiadau;

(i)therapi galwedigaethol.

(3)Pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drefnu gofal a chymorth yng nghartref y person, rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod unrhyw ymweliadau â chartref y person at y diben hwnnw yn ddigon hir i roi i’r person y gofal a’r cymorth sydd ei angen i ddiwallu’r anghenion dan sylw.

(4)Rhaid i gôd a ddyroddir o dan adran 145 gynnwys canllawiau ynghylch hyd ymweliadau â chartref person at y diben o roi gofal a chymorth.

(5)Gweler adrannau 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) ar gyfer cyfyngiadau ar yr hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth a’r ffordd y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu.

Diwallu anghenion gofal a chymorth oedolion

35Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3 wedi eu cyflawni (ond gweler is-adran (6)).

(2)Amod 1 yw—

(a)bod yr oedolyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)nad oes gan yr oedolyn breswylfa sefydlog a’i fod o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(4)Amod 3 yw—

(a)nad oes unrhyw ffi yn cael ei chodi am y gofal a’r cymorth y mae eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny, neu

(b)bod ffi yn cael ei chodi am y gofal a’r cymorth hwnnw ond—

(i)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol bod adnoddau ariannol yr oedolyn ar neu islaw’r terfyn ariannol,

(ii)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol bod adnoddau ariannol yr oedolyn uwchlaw’r terfyn ariannol ond bod yr oedolyn, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu ei anghenion, neu

(iii)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn alluedd i drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud trefniadau o’r fath o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu sydd fel arall mewn sefyllfa i wneud hynny ar ran yr oedolyn.

(5)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion oedolyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan ofalwr.

36Pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn

(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth os yw’r oedolyn—

(a)yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal.

(2)Os yw awdurdod lleol yn diwallu o dan is-adran (1) anghenion oedolyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r oedolyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal ei fod yn gwneud hynny.

(3)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad o anghenion ai peidio yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

Diwallu anghenion plant am ofal a chymorth

37Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1 a 2, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).

(2)Amod 1 yw bod y plentyn yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn—

(i)rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu

(ii)rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall.

(4)Os yw’r awdurdod lleol wedi ei hysbysu am blentyn o dan adran 120(2)(a), rhaid iddo drin y plentyn fel un sydd o fewn ei ardal at ddibenion yr adran hon.

(5)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion plentyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan deulu’r plentyn neu ofalwr.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

38Pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn

(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os yw’r plentyn—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)yn preswylio fel arfer o fewn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal,

(ond gweler is-adran (4)).

(2)Os yw awdurdod lleol yn diwallu o dan is-adran (1) anghenion plentyn sy’n preswylio fel arfer o fewn ardal awdurdod lleol arall, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal ei fod yn gwneud hynny.

(3)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

39Dyletswydd i gadw cyswllt â’r teulu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—

(a)sydd o fewn ardal awdurdod lleol,

(b)y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo anghenion am ofal a chymorth yn ychwanegol at y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn,

(c)sy’n byw ar wahân i’w deulu, a

(d)nad yw’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

(2)Os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo llesiant y plentyn, rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—

(a)galluogi’r plentyn i fyw gyda’i deulu, neu

(b)hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu.

Diwallu anghenion gofalwr am gymorth

40Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.

(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—

(a)yn oedolyn—

(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu

(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

(4)Amod 3—

(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu cymorth i’r gofalwr—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(1) neu (2) yn gymwys;

(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (9) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys;

(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (10) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys;

(d)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(12) neu (13) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys.

41Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth: materion atodol

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr ar neu islaw’r terfyn ariannol.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol y gofalwr uwchlaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw’r gofalwr, serch hynny, yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu’r anghenion o dan sylw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano uwchlaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (7), (8) neu (9) yn gymwys.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a

(b)naill ai—

(i)os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—

(i)talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu

(ii)talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,

(b)os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac

(c)naill ai—

(i)os yw is-adran (7), (8) neu (10) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (12) neu (13) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a

(b)os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(8)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(9)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

(c)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(10)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac

(c)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(11)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (10)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.

(12)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(13)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(14)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (13)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.

(15)Yn yr adran hon—

  • mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(16)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

42Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a (pan fo’n gymwys) 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.

(2)Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—

(a)yn oedolyn—

(i)sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu

(ii)nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu

(b)yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.

(3)Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

(4)Amod 3—

(a)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(5), (6) neu (7) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(1) neu (2) yn gymwys;

(b)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(5), (6) neu (8) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys;

(c)i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(i)yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(10) neu (11) yn gymwys, neu

(ii)i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys.

43Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth: materion atodol

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano yn uwch na’r terfyn ariannol, a

(b)os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a

(b)naill ai—

(i)os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—

(i)talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu

(ii)talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,

(b)os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac

(c)naill ai—

(i)os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a

(b)os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

(c)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(8)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,

(b)os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac

(c)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(9)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (8)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.

(10)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(12)Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (11)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.

(13)Yn yr adran hon—

  • mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(14)I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.

44Darpariaeth atodol ynghylch y dyletswyddau i ddiwallu anghenion gofalwr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r dyletswyddau o dan adrannau 40 a 42.

(2)Caiff diwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth olygu darparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, hyd yn oed pan na fo unrhyw ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person am y gofal a’r cymorth hwnnw o dan adran 35 neu 37.

(3)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol drwy adran 40 neu 42 ddiwallu rhai neu bob un o anghenion gofalwr am gymorth, ond nad yw’n ddichonadwy iddo wneud hynny drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, rhaid iddo, i’r graddau y mae’n ddichonadwy iddo wneud hynny, ganfod rhyw fodd arall o wneud hynny.

45Pŵer i ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth

(1)Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth os yw’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—

(a)o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal.

(2)Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadau

46Eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (“Deddf 1999”) (gwahardd rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo a’r unig reswm y mae ei anghenion am ofal a chymorth wedi codi yw—

(a)oherwydd bod yr oedolyn yn ddiymgeledd, neu

(b)oherwydd effeithiau corfforol bod yn ddiymgeledd, neu oherwydd yr effeithiau o’r math hwnnw a ragwelir.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(2) i (7) o Ddeddf 1999 yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(4) a (5) o’r Ddeddf honno at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw.

(3)Ond, hyd nes cychwyn adran 44(6) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae is-adran (2) i gael effaith fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—

(2)For the purposes of subsection (1), section 95(3) and (5) to (8) of, and paragraph 2 of Schedule 8 to, the 1999 Act apply but with references in section 95(5) and (7) and that paragraph to the Secretary of State being read as references to the local authority in question.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth yn cynnwys cyfeiriad at wneud hynny er mwyn diwallu anghenion gofalwr am gymorth.

47Eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gwasanaeth neu gyfleuster y mae’n ofynnol ei ddarparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny yn gysylltiedig â gwneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion o dan yr adrannau hynny, neu’n ategol at wneud hynny.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau gwasanaethau neu gyfleusterau i berson o dan adran 15 (gwasanaethau ataliol) y mae’n ofynnol eu darparu o dan ddeddfiad iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny’n gysylltiedig â sicrhau, neu’n ategol at sicrhau, gwasanaeth neu gyfleuster arall i’r person hwnnw o dan yr adran honno.

(3)Caiff rheoliadau bennu—

(a)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau y caniateir, er gwaethaf is-adrannau (1) a (2), eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau y caniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;

(b)mathau o wasanaethau neu gyfleusterau na chaniateir iddynt gael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdod lleol, neu amgylchiadau na chaniateir i wasanaethau neu gyfleusterau o’r fath gael eu darparu neu eu trefnu ynddynt;

(c)gwasanaethau neu gyfleusterau, neu ddull ar gyfer dyfarnu gwasanaethau neu gyfleusterau, y mae eu darparu i’w drin, neu i’w beidio â’i drin, fel pe bai’n gysylltiedig neu’n ategol at ddibenion is-adran (1) neu (2).

(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drwy drefnu i ddarparu gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig.

(5)Ni chaiff awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15.

(6)Ond caiff awdurdod lleol, er gwaethaf is-adrannau (1), (2), (4) a (5), drefnu i lety ynghyd â gofal nyrsio gan nyrs gofrestredig gael eu darparu—

(a)os yw’r awdurdod wedi cael cydsyniad i drefnu’r ddarpariaeth o ofal nyrsio gan—

(i)pa Fwrdd Iechyd Lleol bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, neu

(ii)pa gorff iechyd Seisnig bynnag sy’n ofynnol o dan reoliadau, yn achos llety yn Lloegr, neu

(b)mewn achos brys a lle bo’r trefniadau’n rhai dros dro.

(7)Mewn achos y mae is-adran (6)(b) yn gymwys iddo, rhaid i’r awdurdod lleol geisio cael y cydsyniad a grybwyllwyd yn is-adran (6)(a) cyn gynted ag y bo’n ddichonadwy ar ôl i’r trefniadau dros dro gael eu gwneud.

(8)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol—

(a)yn gwneud trefniadau mewn cysylltiad â datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod a chorff iechyd ynghylch p’un a yw’n ofynnol darparu gwasanaeth neu gyfleuster ai peidio o dan ddeddfiad iechyd;

(b)yn cymryd rhan yn y modd a bennir mewn prosesau ar gyfer asesu anghenion person am ofal iechyd a phenderfynu sut y dylid diwallu’r anghenion hynny.

(9)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar yr hyn y caiff awdurdod lleol ei wneud o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau o dan reoliadau a wneir o dan adran 33 o’r Ddeddf honno (trefniadau â chyrff GIG).

(10)Yn yr adran hon—

48Eithriad ar gyfer darparu tai etc

Ni chaiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth (gan gynnwys anghenion gofalwr am gymorth) o dan adrannau 35 i 45 na chyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15 drwy wneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol hwnnw neu awdurdod lleol arall ei wneud o dan—

(a)Deddf Tai 1996, neu

(b)unrhyw ddeddfiad arall a bennir mewn rheoliadau.

49Cyfyngiadau ar ddarparu taliadau

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth o dan adrannau 35 i 45 oni bai—

(a)bod y taliadau’n rhai uniongyrchol (gweler adrannau 50 i 53),

(b)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)bod anghenion y person yn rhai brys, a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu

(d)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15(1) oni bai—

(a)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)y byddai’r taliadau’n sicrhau un neu fwy o’r dibenion a grybwyllwyd yn adran 15(2), a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol sicrhau’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(b)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn rhinwedd contract, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ardal yr awdurdod, neu

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

Taliadau uniongyrchol

50Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion oedolyn am ofal a chymorth o dan adran 35 neu 36.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni chaiff amod 1 neu 2 ei fodloni.

(3)Amod 1 yw—

(a)bod y taliadau i’w gwneud i’r oedolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”),

(b)bod gan A, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu bod gan A, alluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,

(c)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion A, a

(ii)bod gan A allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i A), a

(d)bod A wedi cydsynio i’r taliadau gael eu gwneud.

(4)Amod 2 yw—

(a)nad oes gan yr oedolyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”), neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad oes ganddo, y galluedd i gydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud,

(b)bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) ar wahân i A,

(c)bod P yn berson addas,

(d)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)bod gwneud y taliadau’n ffordd briodol o ddiwallu anghenion A,

(ii)bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i P), a

(iii)y bydd P yn gweithredu er lles pennaf A wrth reoli’r taliadau, ac

(e)bod y cydsyniad angenrheidiol wedi ei gael i wneud y taliadau i P.

(5)At ddibenion is-adran (4)(c), mae P yn “berson addas”—

(a)os yw P wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth,

(b)lle nad yw P wedi ei awdurdodi fel a grybwyllwyd ym mharagraff (a), os yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn cytuno gyda’r awdurdod lleol fod P yn addas i gael taliadau tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth, neu

(c)lle nad yw P wedi ei awdurdodi fel a grybwyllwyd ym mharagraff (a) ac nad oes unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi felly, os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod P yn addas i gael taliadau o’r math hwnnw.

(6)At ddibenion is-adran (4)(e), ystyr “cydsyniad angenrheidiol” yw—

(a)cydsyniad P, a

(b)pan fo P yn berson addas yn rhinwedd is-adran (5)(b), cydsyniad person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion A am ofal a chymorth.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

51Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth o dan adran 37, 38 neu 39.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni chaiff amodau 1 i 4 eu bodloni.

(3)Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sydd—

(a)yn berson â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu

(b)yn blentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth.

(4)Amod 2 yw—

(a)pan fo P yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan P, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;

(b)pan fo P yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.

(5)Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y plentyn,

(b)y caiff llesiant y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, ac

(c)bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i P).

(6)Amod 4 yw bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

52Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwr

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth o dan adran 40, 42 neu 45.

(2)Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i daliadau o’r fath gael eu gwneud neu ganiatáu iddynt gael eu gwneud oni chaiff amodau 1 i 4 eu cyflawni.

(3)Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i’r gofalwr y mae arno anghenion am gymorth (“C”).

(4)Amod 2 yw—

(a)pan fo C yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan C, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan C, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;

(b)pan fo C yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan C ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.

(5)Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(a)bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C, a

(b)bod gan C allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i C).

(6)Amod 4 yw bod C wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.

(7)Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.

53Taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 hefyd wneud darpariaeth ynghylch y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)y dull y mae symiau’r taliadau uniongyrchol i’w dyfarnu;

(b)gwneud taliadau uniongyrchol fel taliadau gros neu fel arall fel taliadau net;

(c)dyfarnu—

(i)adnoddau ariannol personau penodedig, a

(ii)y swm (os oes un) a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r personau hynny ei dalu ar ffurf ad-daliad (yn achos taliadau gros) neu gyfraniad (yn achos taliadau net);

(d)materion y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, roi sylw iddynt wrth wneud penderfyniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;

(e)amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu gosod a’r amodau na chaniateir iddo eu gosod, mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol;

(f)camau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid iddo, eu cymryd cyn, neu ar ôl, gwneud dyfarniad o fath penodedig ynghylch taliadau uniongyrchol;

(g)cymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ddarparu neu ei drefnu ar gyfer personau y mae’n gwneud taliadau uniongyrchol iddynt;

(h)achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol weithredu fel asiant ar ran person y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud iddo;

(i)amodau y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw;

(j)achosion neu amgylchiadau lle na chaiff awdurdod lleol wneud, neu lle y caniateir iddo beidio â gwneud, taliadau i berson neu mewn perthynas â pherson;

(k)achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i berson, neu lle y caiff person, nad yw bellach heb alluedd, neu y mae’r awdurdod lleol yn credu nad yw’r oedolyn hwnnw bellach heb alluedd, i gydsynio bod taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud, gael ei drin, serch hynny, at ddibenion adrannau 50 i 52 fel pe na bai ganddo’r galluedd i wneud hynny;

(l)achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol adolygu’r arfer o wneud y taliadau hynny;

(m)achosion neu amgylchiadau lle y caiff, neu y mae’n rhaid i, awdurdod lleol sy’n gwneud taliadau uniongyrchol—

(i)terfynu’r arfer o wneud y taliadau hynny;

(ii)ei gwneud yn ofynnol i’r cyfan neu ran o daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu;

(n)adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol mewn cysylltiad â gwneud taliadau uniongyrchol.

(2)Yn is-adran (1)(b) ac (c)—

  • ystyr “taliadau gros” yw taliadau uniongyrchol—

    (a)

    a wneir ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gofal a’r cymorth (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth), y mae’r taliadau’n cael eu gwneud mewn perthynas â hwy, yn cael eu darparu, ond

    (b)

    y caniateir eu gwneud yn ddarostyngedig i’r amod bod person a bennir mewn rheoliadau yn talu i’r awdurdod, ar ffurf ad-daliad, swm neu symiau a ddyfernir o dan y rheoliadau;

  • ystyr “taliadau net” yw taliadau uniongyrchol—

    (a)

    a wneir ar y sail y bydd person a bennir mewn rheoliadau yn talu swm neu symiau a bennir o dan y rheoliadau drwy gyfraniad tuag at y gost o sicrhau’r ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth) y gwneir y taliadau mewn perthynas â hwy, a

    (b)

    a wneir yn unol â hynny ar raddfa islaw’r raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gofal a’r cymorth hwnnw (neu, yn achos gofalwyr, y cymorth hwnnw) i adlewyrchu’r cyfraniad a wneir gan y person hwnnw.

(3)Caiff rheoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 wneud darpariaeth mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth a wneir gan, neu y caniateir ei gwneud o dan, adrannau 59 i 67 neu adran 73.

(4)At ddibenion is-adran (3), mae’r ddarpariaeth yn cyfateb i’r ddarpariaeth honno a wneir gan neu o dan adrannau 59 i 67 neu adran 73 os yw, mewn perthynas ag ad-daliadau neu gyfraniadau, yn gwneud darpariaeth sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cael effaith gyfatebol i’r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan yr adrannau hynny mewn perthynas â ffioedd ar gyfer darparu neu drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth (neu gymorth, yn achos gofalwyr) i ddiwallu anghenion person.

(5)Rhaid i reoliadau o dan adran 50, 51 neu 52 ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd camau penodedig i alluogi personau perthnasol i wneud dewisiadau deallus ynghylch y defnydd o daliadau uniongyrchol.

(6)Yn is-adran (5) ystyr “personau perthnasol” yw personau y mae rhaid cael eu cydsyniad i wneud taliadau uniongyrchol o dan reoliadau a wneir o dan adran 50, 51 neu 52.

(7)Rhaid i reoliadau o dan adran 51 bennu, pan fo taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud i berson sy’n cael budd-dal sy’n dod o fewn categori penodedig—

(a)bod rhaid i’r taliadau gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau bod y gofal a’r cymorth, y mae’r taliadau yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â hwy, yn cael eu darparu, a

(b)na chaniateir iddynt gael eu gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson dalu unrhyw swm i’r awdurdod ar ffurf ad-daliad.

(8)Yn is-adran (7) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

(9)Caiff person y mae awdurdod lleol yn gwneud taliad uniongyrchol iddo, yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 50, 51 neu 52, ddefnyddio’r taliad i brynu gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) gan unrhyw berson (gan gynnwys, ymhlith eraill, yr awdurdod a wnaeth y taliad).

(10)Caiff awdurdod lleol osod ffi resymol am y ddarpariaeth o ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion y mae taliad uniongyrchol wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy.

Cynlluniau

54Cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth

(1)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion person o dan adran 35 neu 37, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r person hwnnw.

(2)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr o dan adran 40 neu 42, rhaid iddo lunio a chynnal cynllun cymorth mewn perthynas â’r gofalwr hwnnw.

(3)Rhaid i awdurdod lleol adolygu’n gyson gynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r person y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)diwygio’r cynllun.

(5)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i gael eu llunio;

(b)yr hyn y mae cynllun i’w gynnwys;

(c)adolygu a diwygio cynlluniau.

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys—

(a)yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud ag oedolyn, yr oedolyn a, phan fo’n ddichonadwy, unrhyw ofalwr sydd gan yr oedolyn;

(b)yn achos cynllun gofal a chymorth sy’n ymwneud â phlentyn, y plentyn ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(c)yn achos cynllun cymorth sy’n ymwneud â gofalwr, y gofalwr a, phan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.

(8)Caiff yr awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y person o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.

55Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth

Caiff rheoliadau o dan adran 54(5), er enghraifft—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau fod ar ffurf benodedig;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cynnwys pethau penodedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(d)ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau gael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;

(e)rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad â llunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(f)pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun iddynt (gan gynnwys mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);

(g)pennu amgylchiadau pellach y mae’n rhaid i gynlluniau gael eu hadolygu odanynt.

Materion atodol

56Hygludedd gofal a chymorth

(1)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod anfon”) yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae arno ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person hwnnw’n mynd i symud i ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod derbyn”), ac y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r awdurdod derbyn ei fod wedi ei fodloni felly, a

(b)darparu’r canlynol i’r awdurdod derbyn—

(i)copi o’r cynllun gofal a chymorth sydd wedi ei lunio ar gyfer y person, a

(ii)unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r person ac, os oes gan y person ofalwr, unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r gofalwr y bydd yr awdurdod derbyn yn gofyn amdani.

(2)Pan fo’r awdurdod derbyn yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae ar yr awdurdod anfon ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person yn mynd i symud i ardal yr awdurdod derbyn, a bod yr awdurdod derbyn wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r awdurdod anfon ei fod wedi ei fodloni felly,

(b)darparu i’r person, ac os oes gan y person ofalwr, y gofalwr, unrhyw wybodaeth y mae’n barnu ei bod yn briodol,

(c)os plentyn yw’r person, darparu i’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn unrhyw wybodaeth sy’n briodol ym marn yr awdurdod, a

(d)asesu’r person o dan adran 19 (os yw’r person yn oedolyn) neu 21 (os yw’r person yn blentyn), gan roi sylw penodol i unrhyw newid yn anghenion y person am ofal a chymorth sy’n deillio o’r symud.

(3)Os yw’r awdurdod derbyn, ar y diwrnod y mae’r person yn symud i’w ardal, yn dal heb gyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), neu y mae wedi gwneud felly ond y mae’n dal heb gymryd y camau eraill sy’n ofynnol gan y Rhan hon neu Ran 5, rhaid iddo ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth yn unol â’r cynllun gofal a chymorth a luniwyd gan yr awdurdod anfon, i’r graddau y bydd hynny’n rhesymol ymarferol.

(4)Wrth gynnal yr asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), rhaid i’r awdurdod derbyn roi sylw i’r cynllun gofal a chymorth a ddarperir o dan is-adran (1)(b).

(5)Mae’r awdurdod derbyn yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (3) hyd nes y bydd wedi—

(a)cyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), a

(b)cymryd y camau eraill sy’n ofynnol o dan y Rhan hon neu Ran 5.

(6)Caiff rheoliadau—

(a)pennu camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i’w fodloni ei hun mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllwyd yn is-adrannau (1) a (2);

(b)pennu materion y mae’n rhaid i awdurdod derbyn roi sylw iddynt wrth benderfynu sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan is-adran (3);

(c)pennu achosion pan na fo’r dyletswyddau o dan is-adran (1), (2) neu (3) yn gymwys iddynt.

(7)Mae cyfeiriad yn yr adran hon at symud i ardal yn gyfeiriad at symud i’r ardal honno gyda golwg ar breswylio fel arfer yno.

57Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol

(1)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 neu adrannau 40 i 45 drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person,

(b)pan fo’r person o dan sylw, neu berson o ddisgrifiad penodedig, yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, ac

(c)pan fo amodau penodedig wedi eu bodloni,

bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y llety sy’n cael ei ffafrio.

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r person o dan sylw neu berson o ddisgrifiad penodedig dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r gost ychwanegol (os oes un) am y llety sy’n cael ei ffafrio mewn achosion neu amgylchiadau penodedig.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “cost ychwanegol” yw’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, a

(b)y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu wrth drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw i ddiwallu anghenion y person o dan sylw.

58Gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo anghenion gofal a chymorth person yn cael eu diwallu o dan adran 35, 36, 37 neu 38 mewn ffordd sy’n cynnwys darparu llety neu ei dderbyn i ysbyty (neu’r ddau), a

(b)pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod perygl o golli neu ddifrodi eiddo symudol y person yn ardal yr awdurdod—

(i)am nad yw’r person yn gallu (p’un ai’n barhaol neu dros dro) gwarchod yr eiddo na delio â’r eiddo, a

(ii)am nad oes trefniadau addas wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i atal neu i leihau’r golled neu’r difrod.

(3)At ddibenion cyflawni’r ddyletswydd honno, caiff yr awdurdod lleol—

(a)ar bob adeg resymol ac ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre yr oedd y person yn byw ynddi yn union cyn bod llety yn cael ei ddarparu iddo neu cyn iddo gael ei dderbyn i ysbyty, a

(b)cymryd unrhyw gamau eraill y mae’n barnu eu bod yn rhesymol angenrheidiol er mwyn atal neu leihau colled neu ddifrod.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni cyn cymryd unrhyw gamau o dan is-adran (3)(a) neu (b)—

  • ACHOS 1 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person—

    (a)

    yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed a chanddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd, neu

    (b)

    yn blentyn o dan 16 oed a chanddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch a gydsynia i’r camau gael eu cymryd,

    rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad y person i’r camau gael eu cymryd;

  • ACHOS 2 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn oedolyn nad oes ganddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd—

    (a)

    rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i roi cydsyniad ar ran yr oedolyn, os oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, neu

    (b)

    os nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni y byddai cymryd y camau er lles pennaf yr oedolyn;

  • ACHOS 3 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd—

    (a)

    rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i roi cydsyniad ar ran y plentyn, os oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, neu

    (b)

    os nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, rhaid i’r awdurdod lleol gael cysyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

  • ACHOS 4 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch a gydsynia i’r camau gael eu cymryd, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i gael unrhyw gydsyniad y gall fod ei angen o dan is-adran (4).

(6)Pan na all yr awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion yn is-adran (4) wedi eu bodloni, mae dyletswydd yr awdurdod lleol o dan is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys.

(7)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

(8)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b)—

(a)yn cyflawni trosedd, a

(b)yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(9)Caiff awdurdod lleol adennill unrhyw dreuliau rhesymol y mae’n eu tynnu o dan yr adran hon mewn perthynas ag eiddo symudol oedolyn oddi wrth yr oedolyn hwnnw.

(10)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill o dan is-adran (9) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Codi ffioedd am ddiwallu anghenion

59Pŵer i osod ffioedd

(1)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) cymorth o dan adrannau 35 i 45 i ddiwallu anghenion person.

(2)Caiff ffi a osodir o dan is-adran (1) gwmpasu dim mwy na’r gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddynt.

(3)Ond pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion am fod adran 35(4)(b)(i), 36, 38, 41(2), (4) neu (6)(a)(i), 43(2) neu (4)(a)(i) neu 45 yn gymwys, caiff ei gwneud yn ofynnol i berson dalu ffi i’r awdurdod (yn ychwanegol at unrhyw ffi a osodir o dan is-adran (1)) am sefydlu’r trefniadau ar gyfer diwallu’r anghenion hynny.

(4)Mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’r canlynol—

(a)y ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes rhai), a

(b)dyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 a 67 (os ydynt yn gymwys).

60Personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt

(1)Mae’r adran hon yn disgrifio’r personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt o dan adran 59.

(2)Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion oedolyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod ar yr oedolyn hwnnw.

(3)Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion plentyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod—

(a)pan fo’r gofal a chymorth yn cael eu darparu i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw;

(b)pan fo anghenion y plentyn am ofal a chymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu rhywbeth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw.

(4)Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion gofalwr, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod—

(a)pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n oedolyn, ar y gofalwr hwnnw;

(b)pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr hwnnw;

ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Pan fo anghenion gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i berson y mae’r gofalwr yn darparu, neu’n bwriadu darparu, gofal iddo, nid yw is-adran (4) yn gymwys; caniateir i ffi am ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y cymorth hwnnw, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod yn lle hynny—

(a)pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw;

(b)pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw.

61Rheoliadau ynghylch arfer pŵer i osod ffi

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag arfer pŵer i osod ffi o dan adran 59.

(2)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(1); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny drwy, er enghraifft—

(a)pennu uchafswm y caniateir ei osod am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath, neu fformiwla neu ddull i ddyfarnu’r uchafswm hwnnw;

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol bennu ffi am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath drwy gyfeirio at gyfnod amser penodedig;

(c)pennu, yn achos ffi y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (a), uchafswm y caniateir ei osod, neu fformiwla neu ddull i benderfynu’r uchafswm hwnnw.

(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(3); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny, er enghraifft, drwy bennu uchafswm y caniateir ei osod am sefydlu trefniadau—

(a)mewn amgylchiadau penodedig, neu

(b)ar gyfer personau o ddisgrifiad penodedig.

62Rheoliadau yn datgymhwyso pŵer i osod ffi

Caiff rheoliadau ddatgymhwyso pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan adran 59(1) neu (3) (ac felly cânt ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45 yn rhad ac am ddim); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud hynny, er enghraifft, pan fo’r gofal a’r cymorth, neu (yn achos gofalwyr) y cymorth—

(a)o fath penodedig;

(b)yn cael ei ddarparu neu ei drefnu o dan amgylchiadau penodedig;

(c)yn cael ei ddarparu i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu’n cael ei drefnu ar eu cyfer;

(d)yn cael ei ddarparu neu ei drefnu am gyfnod penodedig yn unig.

63Dyletswydd i gynnal asesiad ariannol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson y mae awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno o dan adran 59, pe bai’n diwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol asesu lefel adnoddau ariannol y person er mwyn dyfarnu a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person dalu’r ffi safonol (ond mae hynny’n ddarostyngedig i adran 65).

(3)Yn y Rhan hon ystyr “ffi safonol” yw’r swm y byddai awdurdod lleol yn ei godi o dan adran 59 pe na châi unrhyw ddyfarniad ei wneud o dan adran 66 ynghylch gallu person i dalu’r swm hwnnw.

(4)Cyfeirir at asesiad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “asesiad ariannol”.

64Rheoliadau am asesiadau ariannol

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer cynnal asesiadau ariannol ac mewn perthynas â’u cynnal.

(2)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cyfrifo incwm;

(b)cyfrifo cyfalaf.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd ar gyfer y materion canlynol (ymhlith materion eraill)—

(a)trin, neu beidio â thrin, symiau o fath penodedig fel incwm neu fel cyfalaf;

(b)achosion neu amgylchiadau lle y mae person i’w drin fel un a chanddo adnoddau ariannol sy’n uwch na lefel benodedig (a’r rhain yn achosion neu’n amgylchiadau a all gynnwys, er enghraifft, achosion lle y mae’r person sy’n cael ei asesu wedi methu â darparu i’r awdurdod lleol, pan ofynnwyd iddo wneud hynny, wybodaeth neu ddogfennau sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth);

(c)achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid neu y caniateir i asesiad ariannol newydd gael ei gynnal.

65Rheoliadau’n datgymhwyso’r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth am amgylchiadau lle nad yw’n ofynnol i awdurdod lleol (er gwaethaf adran 63) gynnal asesiad ariannol.

66Dyfarniad ynghylch gallu person i dalu ffi

(1)Pan fo awdurdod lleol wedi cynnal asesiad ariannol—

(a)rhaid i’r awdurdod ddyfarnu, yng ngoleuni’r asesiad, a fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth neu (yn achos gofalwyr) y cymorth y byddai ffi’n cael ei gosod arno mewn cysylltiad â hwy neu ef, a

(b)os yw’r awdurdod yn dyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu’r ffi safonol, rhaid i’r awdurdod ddyfarnu’r swm (os oes un) y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw ei dalu am y gofal a’r cymorth hwnnw neu’r cymorth hwnnw.

(2)Yn yr adran hon ystyr “y person a aseswyd” yw’r person y mae ei adnoddau ariannol wedi eu hasesu o dan adran 63.

(3)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth am wneud dyfarniadau o dan is-adran (1).

(4)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu, mewn achos lle y mae adnoddau ariannol person (p’un ai incwm, cyfalaf, neu gyfuniad o’r ddau) yn uwch na lefel benodedig, y byddai’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw dalu’r ffi safonol.

(5)Cyfeirir at y lefel a bennir at ddibenion is-adran (4) yn y Ddeddf hon fel “y terfyn ariannol”.

(6)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddyfarnu na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person a aseswyd dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth neu (yn achos gofalwyr) y cymorth a fyddai’n lleihau incwm neu gyfalaf y person islaw lefelau penodedig; a chaiff y rheoliadau, (gan ddibynnu ar adran 196(2)) bennu lefelau gwahanol—

(a)ar gyfer incwm ac ar gyfer cyfalaf,

(b)ar gyfer amgylchiadau gwahanol, ac

(c)ar gyfer disgrifiadau gwahanol o bersonau.

(7)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth hefyd (ymhlith pethau eraill) am achosion neu amgylchiadau lle y mae’n rhaid i awdurdod lleol, neu lle y caiff, ddisodli dyfarniad â dyfarniad newydd.

(8)Mae dyfarniad o dan is-adran (1) yn cael effaith o ddyddiad y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn rhesymol (a chaniateir iddo fod yn ddyddiad cyn yr un y gwnaed y dyfarniad arno); ond mae hynny’n ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan is-adran (9).

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynglŷn â’r dyddiad y mae dyfarniad o dan is-adran (1) i gael effaith ohono (a chaiff gynnwys darpariaeth i ddyfarniad gael effaith o ddyddiad cyn yr un pan gafodd ei wneud).

(10)Pan fo dyfarniad yn disodli dyfarniad sy’n bodoli eisoes, mae’r dyfarniad sy’n bodoli eisoes yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd y dyfarniad newydd yn cael effaith.

(11)At ddibenion is-adran (10), mae dyfarniad yn disodli dyfarniad sy’n bodoli eisoes os yw’n ymwneud â’r un person a’r un gofal a chymorth neu (yn achos gofalwyr) yr un cymorth.

67Dyletswydd i roi effaith i ddyfarniad ynghylch gallu i dalu ffi

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi effaith i ddyfarniad o dan adran 66 wrth osod ffioedd o dan adran 59.

(2)Ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau lle nad yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys.

68Cytundebau ar daliadau gohiriedig

(1)Caiff rheoliadau bennu ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau neu amodau y caiff awdurdod lleol, neu y mae’n rhaid i awdurdod lleol, ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig gyda pherson y mae’n ofynnol iddo (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) dalu ffi o dan adran 59.

(2)Mae cytundeb ar daliad gohiriedig yn gytundeb—

(a)y mae’r awdurdod lleol yn cytuno odano i beidio â’i gwneud yn ofynnol i swm gofynnol y person gael ei dalu tan yr amser sy’n cael ei bennu yn y rheoliadau neu ei ddyfarnu’n unol â hwy, a

(b)y mae’r person yn cytuno odano i roi i’r awdurdod lleol arwystl dros fuddiant y person yn ei gartref i sicrhau bod swm gofynnol y person yn cael ei dalu.

(3)Swm gofynnol y person yw’r hyn o’r ffi y mae’n ofynnol i’r person (neu y mae’n mynd i fod yn ofynnol iddo) ei dalu o dan adran 59 ag a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

(4)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i’r awdurdod lleol godi—

(a)llog ar swm gofynnol y person;

(b)unrhyw swm cysylltiedig â chostau gweinyddol yr awdurdod lleol a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;

(c)llog ar swm a godir o dan baragraff (b).

(5)Caiff y rheoliadau ddarparu bod y llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(a) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.

(6)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu costau sydd, neu nad ydynt, i’w hystyried yn gostau gweinyddol at ddibenion is-adran (4)(b);

(b)darparu bod swm y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(b) neu fod llog y cyfeiriwyd ato yn is-adran (4)(c) i’w godi drwy gyfrwng rhwymedigaeth yn y cytundeb ar daliad gohiriedig ac i’w drin yn yr un ffordd â swm gofynnol y person.

(7)Ni chaiff yr awdurdod lleol godi llog o dan reoliadau a wneir o dan is-adran (4) yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

(8)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch hyd y cytundeb ac ar gyfer ei derfynu gan y naill barti neu’r llall; rhaid i’r rheoliadau, ymhlith pethau eraill, alluogi’r person i’w derfynu a therfynu’r arwystl y mae’n rhoi effaith iddo drwy—

(a)hysbysu’r awdurdod lleol, a

(b)talu i’r awdurdod y swm llawn y mae’r person yn atebol i’w dalu mewn cysylltiad â swm gofynnol y person ac unrhyw swm a godir o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4).

(9)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth am hawliau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol a’r person pan fo’r person yn gwaredu’r buddiant y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef ac yn caffael buddiant mewn eiddo arall yng Nghymru neu Loegr; caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)i’r awdurdod lleol beidio â’i gwneud yn ofynnol i’r symiau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (8)(b) gael eu talu tan yr amser a bennir yn y rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, a

(b)i’r person roi i’r awdurdod lleol arwystl dros ei fuddiant yn yr eiddo arall.

(10)Mae cyfeiriad at gartref person yn gyfeiriad at yr eiddo y mae’r person yn ei feddiannu fel ei unig neu brif breswylfa; ac mae cyfeiriad at fuddiant person mewn eiddo yn gyfeiriad at fuddiant cyfreithiol neu lesiannol y person yn yr eiddo hwnnw.

(11)Caiff rheoliadau gymhwyso’r adran hon, gydag addasiadau neu hebddynt, er mwyn galluogi person i gytuno i roi arwystl dros fuddiant y person mewn eiddo yng Nghymru neu Loegr yr oedd yn arfer ei ddefnyddio fel ei unig neu brif breswylfa.

Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy

69Codi ffi am wasanaethau ataliol a chynhorthwy

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffioedd—

(a)am wasanaethau a ddarperir o dan adran 15;

(b)am gynhorthwy a ddarperir o dan adran 17.

(2)Ond ni chaniateir i’r rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)sy’n galluogi gosod ffi am wasanaethau neu gynhorthwy y mae ffi wedi ei gosod mewn cysylltiad â hwy o dan adran 59,

(b)sy’n galluogi ffi i gwmpasu unrhyw beth ac eithrio’r gost a dynnir wrth ddarparu’r gwasanaethau neu’r cynhorthwy y mae’r ffi yn ymwneud â hwy, neu

(c)sy’n galluogi gosod ffi ar blentyn.

Gorfodi dyledion

70Adennill costau, llog etc

(1)Gellir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus i awdurdod lleol o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys mewn achos lle y gellid ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig, yn unol â rheoliadau o dan adran 68, oni bai—

(a)bod yr awdurdod lleol wedi ceisio ymrwymo i gytundeb o’r fath â’r person y mae’r swm yn ddyledus ganddo, a

(b)bod y person hwnnw wedi gwrthod.

(3)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill gan awdurdod lleol o dan is-adran (1) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).

(4)Gellir adennill swm o dan yr adran hon o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y daw’r swm yn ddyledus i’r awdurdod lleol.

(5)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (6) yn camliwio neu’n methu â datgelu (p’un ai’n dwyllodrus neu fel arall) i awdurdod lleol unrhyw ffaith o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon, mae’r symiau canlynol yn ddyledus i’r awdurdod gan y person hwnnw—

(a)unrhyw wariant a dynnir gan yr awdurdod o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant, a

(b)unrhyw swm y gellir ei adennill o dan yr adran hon ac nad yw’r awdurdod wedi ei adennill o ganlyniad i’r camliwio neu’r methiant.

(6)Y personau yw—

(a)oedolyn—

(i)y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol y mae arno anghenion am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

(ii)y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

(b)oedolyn—

(i)y darperir rhywbeth iddo er mwyn diwallu anghenion person arall am ofal a chymorth neu (yn achos gofalwr) am gymorth o dan Ran 3, a

(ii)y mae ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon;

(c)oedolyn o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau mewn perthynas â gofal a chymorth, neu (yn achos gofalwr) cymorth, ac y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol bod angen y gofal a’r cymorth hwnnw, neu’r cymorth hwnnw, ar—

(i)plentyn, neu

(ii)oedolyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall p’un a allai ffaith fod o bwys mewn cysylltiad â darpariaethau’r Rhan hon.

(7)Gellir adennill y costau rhesymol a dynnir gan awdurdod lleol wrth adennill neu wrth geisio ag adennill swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon gan yr awdurdod fel dyled sy’n ddyledus iddo; ac mae is-adran (3) yn gymwys i adennill y costau hynny fel petaent yn symiau y mae is-adran (1) yn gymwys iddynt.

(8)Caiff rheoliadau—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu’r dyddiad y daw swm yn ddyledus i awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon;

(b)pennu achosion neu amgylchiadau lle na all awdurdod lleol adennill o dan yr adran hon swm sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

(c)pennu achosion neu amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol godi llog ar swm (gan gynnwys unrhyw gostau y gellid eu hadennill o dan is-adran (7)) sy’n ddyledus iddo o dan y Rhan hon;

(d)pan ellir codi llog, ddarparu—

(i)bod rhaid iddo gael ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy;

(ii)na chaniateir ei godi yn ôl cyfradd sy’n uwch na’r gyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy.

71Creu arwystl dros fuddiant mewn tir

(1)Pan fo person—

(a)yn methu â thalu i awdurdod lleol swm y gallai’r awdurdod ei adennill o dan y Rhan hon, a

(b)yn meddu ar fuddiant cyfreithiol neu lesiannol mewn tir yng Nghymru neu Loegr,

caiff yr awdurdod lleol greu arwystl o blaid yr awdurdod hwnnw dros fuddiant y person yn y tir i sicrhau bod y swm hwnnw’n cael ei dalu.

(2)Pan fo gan y person fuddiannau mewn mwy nag un parsel o dir, caiff yr awdurdod lleol greu arwystl dros ba un bynnag o’r buddiannau hynny y mae’n ei ddewis.

(3)Caiff yr arwystl fod mewn cysylltiad ag unrhyw swm y gallai’r awdurdod lleol ei adennill o dan y Rhan hon; ond mae hynny’n ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Pan fo’r arwystl yn cael ei greu dros fuddiant cyd-denant ecwitïol mewn tir, ni chaniateir i swm yr arwystl fod yn fwy na gwerth y buddiant a fyddai gan y person yn y tir pe bai’r gyd-denantiaeth yn cael ei hollti (ond nid yw creu’r arwystl yn hollti’r gyd-denantiaeth).

(5)Pan fo cyd-denant ecwitïol mewn tir y mae ei fuddiant yn y tir yn ddarostyngedig i arwystl o dan yr adran hon yn marw, mae buddiant y personau canlynol mewn tir yn dod yn ddarostyngedig i arwystl—

(a)os oes unrhyw cyd-denantiaid sy’n goroesi, eu buddiannau yn y tir;

(b)os yw’r tir wedi ei freinio mewn un person, neu y mae hawl gan un person i gael y tir wedi ei freinio ynddo ef, buddiant y person hwnnw yn y tir.

(6)Ni chaniateir i swm yr arwystl sydd wedi ei greu o dan is-adran (5) fod yn fwy na swm yr arwystl yr oedd buddiant y cyd-denant ymadawedig yn ddarostyngedig iddo.

(7)Rhaid i arwystl o dan yr adran hon gael ei greu gan ddatganiad ysgrifenedig a wneir gan yr awdurdod lleol.

(8)Mae arwystl o dan yr adran hon, ac eithrio ffi dros fuddiant cyd-denant ecwitïol mewn tir—

(a)yn achos tir anghofrestredig, yn bridiant tir Dosbarth B o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972;

(b)yn achos tir cofrestredig, yn arwystl cofrestradwy sy’n dod yn weithredol fel arwystl drwy gyfrwng morgais cyfreithiol.

(9)Pan fo swm yn destun arwystl dros fuddiant person mewn tir o dan yr adran hon, caniateir codi llog ar y swm hwnnw o’r diwrnod y mae’r person a grybwyllwyd yn is-adran (1) yn marw.

(10)Cyfradd y llog y gellir ei godi o dan is-adran (9) yw—

(a)cyfradd a bennir mewn rheoliadau neu a ddyfernir yn unol â hwy, neu

(b)os nad oes rheoliadau wedi eu gwneud, cyfradd a ddyfernir gan yr awdurdod lleol.

72Trosglwyddo asedau i osgoi ffioedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn achos pan fo anghenion person (“P”) wedi eu diwallu neu’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan adrannau 35 i 42 neu adran 45 a phan fo—

(a)person (“y trosglwyddwr”) (a gaiff fod yn P ond nid oes rhaid iddo) wedi trosglwyddo ased i berson arall (“trosglwyddai”),

(b)y trosglwyddiad wedi ei wneud gyda’r bwriad o osgoi ffioedd am ddiwallu anghenion P, ac

(c)naill ai’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad yn llai na gwerth yr ased neu na fo unrhyw gydnabyddiaeth ar gyfer y trosglwyddiad.

(2)Mae’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng—

(a)y swm y byddai’r awdurdod wedi ei godi ar y trosglwyddwr pe na bai’r ased wedi ei drosglwyddo, a

(b)y swm a gododd ar y trosglwyddwr mewn gwirionedd.

(3)Ond nid yw’r trosglwyddai yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm sy’n fwy na’r budd a ddaw i’r trosglwyddai o’r trosglwyddiad.

(4)Pan fo ased wedi ei drosglwyddo i fwy nag un trosglwyddai, mae atebolrwydd pob trosglwyddai yn gymesur â’r budd a ddaw i’r trosglwyddai hwnnw o’r trosglwyddiad.

(5)Yn yr adran hon ystyr “ased” yw unrhyw beth y caniateir ei ystyried at ddibenion asesiad ariannol.

(6)Gwerth ased (ac eithrio arian parod) yw’r swm a geid pe bai’r ased wedi ei werthu ar y farchnad agored gan werthwr bodlon adeg y trosglwyddiad, gan ddidynnu ar gyfer—

(a)swm unrhyw lyffethair ar yr ased, a

(b)swm rhesymol mewn cysylltiad â threuliau’r gwerthiant.

(7)Caiff rheoliadau bennu achosion neu amgylchiadau pan na fo atebolrwydd o dan is-adran (2) yn codi.

Adolygiadau

73Adolygiadau sy’n ymwneud â chodi ffioedd

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, neu’n gysylltiedig ag adolygu—

(a)ffioedd a osodir o dan adran 59,

(b)dyfarniadau a wneir o dan adran 66, a

(c)penderfyniadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd trosglwyddai i dalu swm i awdurdod lleol o dan adran 72.

(2)Caiff y rheoliadau wneud (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch y canlynol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir gofyn am adolygiad;

(c)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid i gais gael ei wneud;

(d)y weithdrefn sydd i’w dilyn, a’r camau sydd i’w cymryd, mewn cysylltiad ag adolygiad;

(e)y disgrifiad o’r personau a gaiff wneud penderfyniad yn dilyn yr adolygiad;

(f)effaith penderfyniad o’r math hwnnw.

RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

Dehongli

74Plentyn neu berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol

(1)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn—

(a)sydd yn ei ofal, neu

(b)y mae llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod wrth i’r awdurdod arfer unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan adran 15, Rhan 4, neu adran 109, 114 neu 115.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “llety” yw llety a ddarperir am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr.

(3)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson ifanc sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at berson ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod tra bo’n blentyn neu at berson ifanc a oedd yn derbyn gofal gan yr awdurdod tra oedd yn blentyn.

Dyletswyddau lletya

75Dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol i sicrhau digon o lety i blant sy’n derbyn gofal

(1)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau sy’n sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ei fod yn gallu darparu i’r plant a grybwyllir yn is-adran (2) lety sydd—

(a)o fewn ardal yr awdurdod, a

(b)yn diwallu anghenion y plant hynny.

(2)Y plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw’r rhai—

(a)y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt,

(b)nad yw’r awdurdod yn gallu gwneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy o dan adran 81(2), ac

(c)y mae natur eu hamgylchiadau yn golygu y byddai’n gyson â llesiant y plant i lety sydd yn ardal yr awdurdod gael ei ddarparu iddynt.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i fantais cael—

(a)nifer o ddarparwyr llety yn ei ardal sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd, a

(b)ystod o lety yn ei ardal a allai ddiwallu anghenion gwahanol ac sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(4)Yn yr adran hon ystyr “darparwyr llety” yw—

(a)rhieni maeth awdurdod lleol, a

(b)cartrefi plant.

76Llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etc

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal yr ymddengys i’r awdurdod bod angen llety arno oherwydd—

(a)nad oes unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)bod y plentyn ar goll neu wedi cael ei adael, neu

(c)bod y person sydd wedi bod yn gofalu am y plentyn yn cael ei atal (p’un ai yn barhaol ai peidio, ac am ba reswm bynnag) rhag darparu llety neu ofal addas i’r plentyn.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety o dan is-adran (1) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol arall, caiff yr awdurdod lleol arall hwnnw gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig bod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.

(3)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i unrhyw blentyn yn ei ardal sydd wedi cyrraedd 16 oed ac y byddai llesiant y plentyn hwnnw, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael ei andwyo’n ddifrifol os na fyddai’r awdurdod yn darparu llety iddo.

(4)Ni chaniateir i awdurdod lleol ddarparu llety o dan yr adran hon i unrhyw blentyn os bydd unrhyw berson yn gwrthwynebu a hwnnw—

(a)yn berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, a

(b)yn fodlon ac yn gallu—

(i)darparu llety i’r plentyn, neu

(ii)trefnu bod llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn.

(5)Caiff unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn symud y plentyn ar unrhyw adeg o lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan yr adran hon.

(6)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys tra bo unrhyw berson—

(a)y mae gorchymyn preswylio o’i blaid ef mewn grym mewn cysylltiad â’r plentyn,

(b)sy’n warcheidwad arbennig i’r plentyn, neu

(c)sydd â gofal am y plentyn yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant,

yn cytuno bod y plentyn yn derbyn gofal mewn llety a ddarperir gan, neu ar ran, yr awdurdod lleol.

(7)Pan fo mwy nag un person o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (6), rhaid i bob un ohonynt fod yn gytûn.

(8)Nid yw is-adrannau (4) a (5) yn gymwys pan fo plentyn sydd wedi cyrraedd 16 oed yn cytuno bod llety’n cael ei ddarparu iddo o dan yr adran hon.

77Llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd etc

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud darpariaeth ar gyfer derbyn a rhoi llety i blant sy’n cael eu symud o’u cartrefi neu sy’n cael eu cadw oddi yno o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989.

(2)Rhaid i awdurdod lleol dderbyn plant, a darparu llety i blant—

(a)sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu ac y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 46(3)(f) o Ddeddf Plant 1989;

(b)y gofynnir iddo eu derbyn o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod dynodedig mewn cysylltiad â hwy a bod y plant hynny—

(i)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 1 neu baragraff 6 o Atodlen 8 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (torri etc gorchmynion atgyfeirio a gorchmynion gwneud iawn);

(ii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (torri etc gorchmynion adsefydlu ieuenctid);

(iii)wedi eu remandio i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 10 o’r Atodlen i Ddeddf Troseddau Stryd 1959 (torri gorchmynion o dan adran 1(2A) o’r Ddeddf honno);

(iv)yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid sy’n gosod gofyniad preswylio awdurdod lleol neu yn destun gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu.

(3)Yn is-adran (2), mae gan y termau isod yr un ystyr â’r termau Saesneg cyfatebol yn Rhan 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno)—

  • “gofyniad preswylio awdurdod lleol” (“local authority residence requirement”);

  • “gorchymyn adsefydlu ieuenctid” (“youth rehabilitation order”);

  • “gorchymyn adsefydlu ieuenctid â maethu” (“youth rehabilitation order with fostering”).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a) pan fo plentyn—

(i)wedi ei symud o dan Ran 5 o Ddeddf Plant 1989, neu

(ii)wedi ei gadw’n gaeth o dan adran 38 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, a

(b)pan nad yw’r plentyn yn cael llety a ddarperir—

(i)gan awdurdod lleol, neu

(ii)mewn ysbyty a freiniwyd yng Ngweinidogion Cymru, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu’r Ysgrifennydd Gwladol, neu sydd fel arall wedi ei roi ar gael yn unol â threfniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol.

(5)Gellir adennill unrhyw gostau rhesymol a dynnwyd wrth roi llety i’r plentyn oddi wrth yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

Dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â’r plant sy’n derbyn gofal

78Prif ddyletswydd awdurdod lleol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am unrhyw blentyn—

(a)diogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn, a

(b)defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant, y mae eu rhieni eu hunain yn gofalu amdanynt, mewn modd sy’n ymddangos yn rhesymol i’r awdurdod yn achos y plentyn.

(2)Mae dyletswydd awdurdod lleol o dan is-adran (1)(a) i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt yn cynnwys, er enghraifft—

(a)dyletswydd i hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol y plentyn;

(b)dyletswydd—

(i)i asesu, o bryd i’w gilydd, a oes gan y plentyn anghenion am ofal a chymorth sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodwyd o dan adran 32, a

(ii)os oes ar y plentyn anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra, i ddiwallu, o leiaf, yr anghenion hynny.

(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano, neu’n bwriadu gofalu amdano, rhaid i awdurdod lleol (yn ogystal â’r materion a nodir yn adrannau 6(2) a (4) a 7(2) (dyletswyddau hollgyffredinol eraill)), roi sylw i—

(a)barn, dymuniadau a theimladau unrhyw berson y mae ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol ym marn yr awdurdod;

(b)argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

(4)Os yr ymddengys i awdurdod lleol ei bod yn angenrheidiol iddo, er mwyn amddiffyn aelodau o’r cyhoedd rhag niwed difrifol, arfer ei bwerau mewn cysylltiad â phlentyn y mae’n gofalu amdano mewn modd nad yw efallai yn gyson â’i ddyletswyddau o dan yr adran hon neu adran 6, caiff wneud hynny.

79Darparu llety i blant mewn gofal

Pan fo plentyn yng ngofal awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod ddarparu llety i’r plentyn.

80Cynnal plant sy’n derbyn gofal

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn gynnal y plentyn mewn agweddau eraill ar wahân i ddarparu llety ar ei gyfer.

81Y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn gofalu am blentyn (“C”).

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) ac (11).

(3)Mae person (“P”) yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os P yw rhiant C,

(b)os nad P yw rhiant C ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros C, neu

(c)mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod lleol ac yr oedd gorchymyn preswylio mewn grym mewn cysylltiad ag C yn union cyn y gwnaed y gorchymyn gofal, os oedd P yn berson y gwnaed y gorchymyn preswylio o’i blaid.

(4)Nid yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau o’r math a grybwyllwyd yn yr is-adran honno os byddai gwneud hynny—

(a)yn anghyson â llesiant C, neu

(b)yn gam na fyddai’n rhesymol ymarferol.

(5)Os nad yw awdurdod lleol yn gallu gwneud trefniadau o dan is-adran (2), rhaid iddo leoli C yn y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael, yn ei farn ef (ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (11)).

(6)Yn is-adran (5) ystyr “lleoliad” yw—

(a)lleoliad gydag unigolyn sy’n berthynas, yn ffrind neu’n berson arall sy’n gysylltiedig ag C ac sydd hefyd yn rhiant maeth awdurdod lleol,

(b)lleoliad gyda rhiant maeth awdurdod lleol nad yw’n dod o fewn paragraff (a),

(c)lleoliad mewn cartref plant, neu

(d)yn ddarostyngedig i adran 82, lleoliad yn unol â threfniadau eraill sy’n cydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon.

(7)Wrth benderfynu ar y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C o dan is-adran (5), rhaid i awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Rhan hon (yn enwedig, i’w ddyletswyddau o dan adran 78)—

(a)rhoi blaenoriaeth uwch i leoliad sy’n dod o fewn paragraff (a) o is-adran (6) na’r hyn a roddir i leoliadau sy’n dod o fewn paragraffau eraill yr is-adran honno,

(b)cydymffurfio â gofynion is-adran (8), i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol o dan holl amgylchiadau achos C, ac

(c)cydymffurfio ag is-adran (9) oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.

(8)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod y lleoliad yn caniatáu i C fyw gerllaw cartref C;

(b)nad yw’r lleoliad yn amharu ar addysg na hyfforddiant C;

(c)os oes gan C frawd neu chwaer sydd hefyd yn derbyn llety gan yr awdurdod lleol, bod y lleoliad yn galluogi i C fyw gyda’r brawd neu’r chwaer;

(d)os yw C yn anabl, bod y llety a ddarperir yn addas i anghenion penodol C.

(9)Rhaid i’r lleoliad, o ran ei natur, olygu bod llety’n cael ei ddarparu i C o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys pan—

(a)bo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni y dylai C gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ac yn bwriadu lleoli C i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”),

(b)bo asiantaeth fabwysiadu wedi dyfarnu bod A yn addas i fabwysiadu plentyn, ac

(c)na fo’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu.

(11)Rhaid i’r awdurdod lleol leoli C gydag A oni bai y byddai’n fwy priodol yn ei farn—

(a)i wneud trefniadau er mwyn i C fyw gyda pherson sy’n dod o fewn is-adran (3), neu

(b)i leoli C mewn lleoliad o ddisgrifiad a grybwyllwyd yn is-adran (6).

(12)At ddibenion is-adran (10)—

(a)mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” gan adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

(b)nid yw awdurdod lleol wedi ei awdurdodi i leoli C ar gyfer ei fabwysiadu ond os yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny o dan—

(i)adran 19 o’r Ddeddf honno (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant), neu

(ii)gorchymyn lleoli a wneir o dan adran 21 o’r Ddeddf honno.

(13)Caiff yr awdurdod lleol ddyfarnu—

(a)telerau unrhyw drefniadau y mae’n eu gwneud o dan is-adran (2) mewn perthynas ag C (gan gynnwys telerau o ran talu), a

(b)y telerau ar gyfer gosod C gyda rhiant maeth awdurdod lleol o dan is-adran (5) neu gyda darpar fabwysiadydd o dan is-adran (11) (gan gynnwys telerau o ran talu ond yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Plant 2004).

82Adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety

(1)Pan fo awdurdod lleol yn darparu llety i blentyn (“C”) ac eithrio yn unol â threfniadau sy’n dod o fewn adran 81(6)(d), ni chaniateir iddo wneud trefniadau o’r fath ar gyfer C oni bai ei fod wedi penderfynu gwneud hynny o ganlyniad i adolygiad o achos C a gwblhawyd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102 (adolygu achosion ac ymchwiliadau i sylwadau).

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn rhwystro awdurdod lleol rhag gwneud trefniadau ar gyfer C o dan adran 81(6)(d) os yw wedi ei fodloni bod angen, er mwyn diogelu llesiant C—

(a)gwneud trefniadau o’r fath, a

(b)gwneud hynny ar frys.

83Cynlluniau gofal a chymorth

(1)Pan fo plentyn yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i unrhyw gynllun gofal a chymorth a lunnir o dan adran 54 mewn perthynas â’r plentyn hwnnw gael—

(a)ei adolygu, a

(b)ei gynnal o dan yr adran hon.

(2)Pan fo plentyn nad oes ganddo gynllun gofal a chymorth o dan adran 54 yn dod yn un sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

(3)Rhaid i awdurdod lleol barhau i adolygu’n gyson y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod amgylchiadau’r plentyn y mae cynllun yn ymwneud ag ef wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid i’r awdurdod—

(a)gwneud unrhyw asesiadau y mae’n barnu eu bod yn briodol, a

(b)diwygio’r cynllun.

(5)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)sut y mae cynlluniau o dan yr adran hon i’w paratoi;

(b)pa bethau y mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys;

(c)adolygu a diwygio cynlluniau.

(6)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (5)(c) bennu, yn benodol—

(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad o gynllun (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);

(b)o dan ba amgylchiadau—

(i)y caiff awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â chais am adolygiad o gynllun, a

(ii)na chaiff awdurdod lleol wrthod gwneud hynny.

(7)Wrth lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol gynnwys y plentyn y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef ac unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(8)Caiff yr awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan yr adran hon yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, adolygu neu ddiwygio dogfen arall yn achos y plentyn o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun.

(9)Caniateir i unrhyw ran o gynllun a gynhelir o dan yr adran hon sy’n bodloni’r gofynion a osodir gan neu o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 gael ei thrin at ddibenion y Ddeddf honno fel cynllun a lunnir o dan adran 31A o’r Ddeddf honno.

84Rheoliadau ynghylch cynlluniau gofal a chymorth

Caiff rheoliadau o dan adran 83, er enghraifft—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ar ffurf benodedig;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau yn cynnwys pethau penodedig;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch personau pellach y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cynnwys yn y broses o lunio, adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(d)ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau’n cael eu llunio, eu hadolygu neu eu diwygio gan bersonau penodedig;

(e)rhoi swyddogaethau i bersonau a bennir yn y rheoliadau mewn cysylltiad ag adolygu neu ddiwygio cynlluniau;

(f)pennu personau y mae’n rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun ar eu cyfer (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, darparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef);

(g)pennu’r amgylchiadau pellach y mae’n rhaid adolygu’r cynlluniau odanynt.

85Cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

86Cartrefi plant sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion Cymru

Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref plant y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal

87Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

88Rheoliadau ynghylch amodau lle y caniateir i blentyn sydd mewn gofal fyw gyda rhiant etc

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion ar awdurdod lleol ynghylch—

(a)gwneud unrhyw benderfyniad i ganiatáu i blentyn sydd yn ei ofal i fyw gydag unrhyw berson sy’n dod o fewn adran 81(3) (gan gynnwys gofynion o ran y rheini y mae’n rhaid ymgynghori â hwy cyn gwneud y penderfyniad a’r rheini y mae’n rhaid eu hysbysu pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud);

(b)goruchwylio neu gynnal ymchwiliad meddygol ar y plentyn o dan sylw;

(c)symud y plentyn, o dan y fath amgylchiadau a gaiff eu pennu mewn rheoliadau, o ofal y person y rhoddwyd caniatâd i’r plentyn fyw gydag ef;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan yr awdurdod lleol.

89Rheoliadau ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllir yn adran 81(6)(d)

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllwyd yn adran 81(6)(d).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig;

(b)y cyfleoedd y mae personau o’r fath i’w cael er mwyn cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r trefniadau arfaethedig;

(c)y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau;

(d)y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(e)goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol ar unrhyw drefniadau a wneir.

90Rheoliadau ynghylch lleoliadau y tu allan i ardal

Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy—

(a)cyn i blentyn sy’n derbyn gofal ganddynt dderbyn llety mewn man y tu allan i ardal yr awdurdod, neu

(b)os yw llesiant y plentyn yn gofyn bod llety o’r fath yn cael ei ddarparu’n syth, o fewn unrhyw gyfnod penodedig wedi i’r llety hwnnw gael ei ddarparu.

91Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysg

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 osod, er enghraifft, gofynion y mae’n rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â hwy cyn gwneud unrhyw benderfyniad sy’n ymwneud â lleoliad plentyn os yw yng nghyfnod allweddol pedwar.

(2)Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).

92Rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol a darpar fabwysiadwyr

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ynglŷn â llesiant plant a leolir gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr;

(b)ynghylch y trefniadau sydd i’w gwneud gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag iechyd ac addysg plant o’r fath;

(c)ynghylch y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;

(d)i sicrhau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod y rhiant maeth awdurdod lleol neu’r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef—

(i)o’r un argyhoeddiad crefyddol â’r plentyn, neu

(ii)yn ymgymryd â magu’r plentyn yn unol â’r argyhoeddiad crefyddol hwnnw;

(e)i sicrhau y bydd y plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol neu ddarpar fabwysiadwyr, a’r mangreoedd lle y maent wedi eu lletya, yn cael eu goruchwylio a’u harolygu gan awdurdod lleol ac y bydd y plant yn cael eu symud o’r mangreoedd hynny os yw’n ymddangos bod hynny’n angenrheidiol i’w llesiant.

(2)Yn yr adran hon ystyr “darpar fabwysiadydd” yw person y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11).

93Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol

(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft—

(a)ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol oni bai bod y person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo am y tro fel rhiant maeth awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol a bennir;

(b)sy’n sefydlu gweithdrefn sy’n caniatáu i unrhyw berson, y gwnaed dyfarniad cymhwysol mewn cysylltiad ag ef, wneud cais o dan y weithdrefn honno am adolygiad o’r dyfarniad hwnnw gan banel a benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae dyfarniad yn ddyfarniad cymhwysol—

(a)os yw’n ymwneud â chwestiwn ynghylch a ddylai person gael ei gymeradwyo, neu a ddylai barhau i gael ei gymeradwyo, fel rhiant maeth awdurdod lleol, a

(b)os yw o ddisgrifiad a bennir.

(3)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) gynnwys darpariaeth o ran—

(a)dyletswyddau a phwerau panel;

(b)gweinyddiaeth a gweithdrefnau panel;

(c)penodi aelodau panel (gan gynnwys nifer, neu unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir i’w penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer eu penodi);

(d)talu ffioedd i aelodau panel;

(e)dyletswyddau unrhyw berson mewn cysylltiad ag adolygiad a gynhelir o dan y rheoliadau;

(f)monitro unrhyw adolygiadau o’r fath.

(4)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (3)(e) osod dyletswydd i dalu i Weinidogion Cymru y cyfryw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddyfarnu; ond ni chaniateir gosod dyletswydd o’r fath ar berson sydd wedi gwneud cais i gael adolygiad o ddyfarniad cymhwysol.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw agregiad y symiau sy’n dod yn daladwy iddynt o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4) y tu hwnt i’r gost o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniant gyda sefydliad lle y bydd y sefydliad hwnnw’n cyflawni swyddogaethau adolygu annibynnol ar eu rhan.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud trefniant o’r fath gyda sefydliad, rhaid i’r sefydliad gyflawni ei swyddogaethau o dan y trefniant yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol neu arbennig a roddir gan Weinidogion Cymru.

(8)Caiff y trefniant gynnwys darpariaeth bod y sefydliad yn derbyn taliadau gan Weinidogion Cymru.

(9)Rhaid i daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaeth o’r fath gael eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu (at ddiben is-adran (5)) y gost i Weinidogion Cymru o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.

(10)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (7)—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

(11)Yn yr adran hon—

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, corff cyhoeddus a sefydliad preifat neu wirfoddol;

  • ystyr “swyddogaeth adolygu annibynnol” (“independent review function”) yw swyddogaeth a roddir neu a osodir ar Weinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(b).

94Rheoliadau ynghylch trefniadau asiantaeth

Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft, o ran yr amgylchiadau lle y caiff awdurdod lleol wneud trefniadau bod dyletswyddau a osodwyd arno gan y rheoliadau yn cael eu cyflawni ar ei ran.

Cyswllt ac ymweliadau

95Hyrwyddo a chynnal cyswllt rhwng plentyn a theulu

(1)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod, oni bai nad yw hynny’n rhesymol ymarferol neu yn gyson â llesiant y plentyn, hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a—

(a)rhieni’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, ac

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(2)Pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod y personau canlynol yn cael eu hysbysu’n rheolaidd am y man lle y mae’r plentyn yn cael ei letya—

(a)rhieni’r plentyn;

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(3)Rhaid i bob person a grybwyllwyd yn is-adran (2)(a) neu (b) sicrhau bod yr awdurdod yn cael ei hysbysu’n rheolaidd am ei gyfeiriad.

(4)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod derbyn”) yn cymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i blentyn oddi wrth awdurdod lleol arall (“yr awdurdod trosglwyddo”) o dan adran 76—

(a)rhaid i’r awdurdod derbyn (pan fo hynny’n rhesymol ymarferol) hysbysu—

(i)rhieni’r plentyn, a

(ii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)mae is-adran (2) yn gymwys i’r awdurdod trosglwyddo, yn ogystal â’r awdurdod derbyn, hyd nes y bydd o leiaf un o’r personau a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) o’r is-adran honno wedi cael ei hysbysu am y newid, ac

(c)nid yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson hysbysu’r awdurdod derbyn am ei gyfeiriad hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cael ei hysbysu o dan baragraff (a).

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol hysbysu person am y man lle y mae plentyn, ac eithrio plentyn o dan 16 oed sy’n cael ei letya o dan adran 76, os oes gan yr awdurdod sail resymol dros gredu y byddai hysbysu’r person yn peryglu llesiant y plentyn.

(6)Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio, heb esgus rhesymol, ag is-adran (3) yn euog o drosedd ac yn atebol o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.

96Ymweliadau’r teulu â’r plant neu ymweliadau â’r teulu gan blant: treuliau

(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)pan fo’r amodau a grybwyllir yn is-adran (4) wedi eu bodloni.

(2)Caiff yr awdurdod wneud taliadau mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y personau canlynol wrth ymweld â’r plentyn—

(a)rhiant i’r plentyn,

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu

(c)unrhyw berthynas, ffrind neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn.

(3)Caiff yr awdurdod wneud taliadau i’r plentyn, neu i unrhyw berson ar ran y plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y plentyn neu ar ei ran wrth iddo ymweld â’r personau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2).

(4)Yr amodau yw—

(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fyddai’n bosib cynnal yr ymweliad o dan sylw fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

97Dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau a chyswllt â phlant sy’n derbyn gofal a phlant eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)plentyn a fu’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ond nid yw bellach yn derbyn gofal gan yr awdurdod o ganlyniad i amgylchiadau a bennwyd mewn rheoliadau;

(c)plentyn sy’n dod o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i reoliadau sy’n pennu categori at ddiben is-adran (1)(c) hefyd bennu’r awdurdod lleol y mae’n rhaid iddo gyflawni’r dyletswyddau a osodir gan neu o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn sy’n dod o fewn y categori penodedig.

(3)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod person sy’n cynrychioli’r awdurdod (“cynrychiolydd”) yn ymweld â phlentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(b)trefnu bod cyngor a chymorth arall priodol ar gael i blentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

(4)O ran y dyletswyddau a osodwyd gan is-adran (3)—

(a)maent i’w cyflawni yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at ddibenion yr adran hon;

(b)maent yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan ddeddfiad sy’n gymwys i’r man lle y mae’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo yn cael ei letya.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon at ddibenion is-adran (4)(a) wneud darpariaeth am—

(a)amlder yr ymweliadau;

(b)yr amgylchiadau pan fo’n rhaid i gynrychiolydd ymweld â’r plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo;

(c)swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun bod gan y person a ddewiswyd y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

98Ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn benodi person annibynnol i fod yn ymwelydd ar gyfer y plentyn os—

(a)yw’r plentyn yn dod o fewn categori a bennwyd mewn rheoliadau, neu

(b)mewn unrhyw achos arall, yr ymddengys i’r awdurdod y byddai gwneud hynny’n fuddiol i’r plentyn.

(2)Rhaid i berson a benodir o dan yr adran hon ymweld â’r plentyn, ymgyfeillio ag ef a’i gynghori.

(3)Y mae hawlogaeth gan berson a benodir o dan yr adran hon i adennill oddi wrth yr awdurdod penodi unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir gan y person hwnnw at ddibenion ei swyddogaethau o dan yr adran hon.

(4)Daw penodiad person fel ymwelydd yn unol â’r adran hon i ben—

(a)os yw’r plentyn bellach wedi peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol,

(b)os bydd y person yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod penodi, neu

(c)os bydd yr awdurdod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ei fod wedi terfynu’r penodiad.

(5)Nid yw dod â phenodiad o’r fath i ben yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd o dan yr adran hon i wneud penodiad pellach.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn cynnig penodi ymwelydd ar gyfer plentyn o dan yr adran hon, ni chaniateir gwneud y penodiad—

(a)os yw’r plentyn yn ei wrthwynebu, a

(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.

(7)Pan fo ymwelydd wedi cael ei benodi i’r plentyn o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol ddod â’r penodiad i ben—

(a)os yw’r plentyn yn gwrthwynebu bod y penodiad yn parhau, a

(b)os yw’r awdurdod yn fodlon bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i wneud gwrthwynebiad deallus.

(8)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi effaith i wrthwynebiad plentyn o dan is-adran (6) neu (7) a’r gwrthwynebiad yw bod unrhyw un yn cael ei benodi’n ymwelydd ar ei gyfer, nid oes yn rhaid i’r awdurdod gynnig penodi person arall o dan is-adran (1) hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi ei dynnu yn ôl.

(9)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y mae person i’w ystyried at ddibenion yr adran hon fel un sy’n annibynnol ar yr awdurdod penodi.

Adolygu achosion

99Penodi swyddog adolygu annibynnol

(1)Os yw awdurdod lleol yn gofalu am blentyn, rhaid iddo benodi unigolyn i fod yn swyddog adolygu annibynnol ar achos y plentyn hwnnw.

(2)Rhaid gwneud y penodiad cychwynnol o dan is-adran (1) cyn i achos y plentyn gael ei adolygu gyntaf yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 102.

(3)Os yw swydd wag yn codi mewn perthynas ag achos plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol wneud penodiad arall o dan is-adran (1) cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(4)Rhaid i’r person a benodir ddod o fewn categori o bersonau a bennir mewn rheoliadau.

100Swyddogaethau’r swyddog adolygu annibynnol

(1)Rhaid i’r swyddog adolygu annibynnol—

(a)monitro’r modd y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag achos y plentyn;

(b)cymryd rhan, yn unol â rheoliadau, mewn unrhyw adolygiad ar achos y plentyn;

(c)sicrhau bod unrhyw ddymuniadau a theimladau canfyddedig y plentyn ynglŷn â’r achos yn cael eu hystyried yn briodol gan yr awdurdod lleol;

(d)cyflawni unrhyw swyddogaeth arall a bennir mewn rheoliadau.

(2)Rhaid i swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol gael eu cyflawni—

(a)yn y modd a bennir mewn rheoliadau, a

(b)gan roi sylw i unrhyw ganllawiau y bydd yr awdurdod hwnnw yn ei gyhoeddi mewn perthynas â chyflawni’r swyddogaethau hynny.

(3)Os bydd y swyddog adolygu annibynnol o’r farn ei bod hi’n briodol gwneud hynny, caniateir i achos y plentyn gael ei atgyfeirio gan y swyddog hwnnw at un o swyddogion achosion teuluol Cymru.

(4)Os nad yw’r swyddog adolygu annibynnol yn swyddog i’r awdurdod lleol, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod—

(a)i gydweithredu â’r unigolyn hwnnw, a

(b)i gymryd unrhyw gamau rhesymol y bydd ar yr unigolyn hwnnw eu hangen i alluogi swyddogaethau’r unigolyn hwnnw o dan yr adran hon i gael eu cyflawni yn foddhaol.

101Achosion a atgyfeirir

(1)Mewn perthynas â phlant yr atgyfeirir eu hachosion at swyddogion achosion teuluol Cymru o dan adran 100(3), caiff yr Arglwydd Ganghellor drwy reoliadau—

(a)estyn unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru mewn perthynas ag achosion teuluol (o fewn ystyr “family proceedings” yn adran 12 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000) i achosion eraill;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw swyddogaethau sydd gan swyddogion achosion teuluol Cymru yn cael eu cyflawni yn y modd a bennir gan y rheoliadau.

(2)Nid yw’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

102Adolygu achosion ac ymchwilio i sylwadau

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i achos bob plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol gael ei adolygu yn unol â darpariaethau’r rheoliadau.

(2)Ymhlith pethau eraill, caiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)y modd y mae pob achos i’w adolygu;

(b)yr ystyriaethau y mae hi’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos;

(c)pryd y mae gofyn i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf a pha mor aml y bydd adolygiadau dilynol i’w cynnal;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, cyn iddo gynnal unrhyw adolygiad, geisio barn—

(i)y plentyn,

(ii)rhieni’r plentyn,

(iii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

(iv)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol,

gan gynnwys, yn benodol, farn y personau hynny mewn perthynas ag unrhyw fater penodol sydd i’w ystyried yn ystod yr adolygiad;

(e)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod, yn achos plentyn sydd o dan ei ofal—

(i)adolygu’n gyson y cynllun o dan adran 31A o Ddeddf Plant 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) ar gyfer y plentyn ac, os yw’r awdurdod o’r farn bod angen newid o ryw fath, i ddiwygio’r cynllun, neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

(ii)ystyried a ddylid gwneud cais i ddiddymu’r gorchymyn gofal;

(f)ei gwneud yn ofynnol, yn achos plentyn mewn llety a ddarperir gan neu ar ran yr awdurdod—

(i)os nad oes cynllun ar gyfer gofal y plentyn yn y dyfodol, i’r awdurdod lunio un,

(ii)os oes cynllun o’r fath ar gyfer y plentyn, i’r awdurdod ei adolygu’n gyson ac, os yw o’r farn bod angen newid o ryw fath, iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny, a

(iii)ystyried a yw’r llety yn unol â gofynion y Rhan hon;

(g)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod roi gwybod i’r plentyn, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw gamau y caiff ef neu hi gymryd o dan y Ddeddf hon neu Ddeddf Plant 1989;

(h)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod wneud trefniadau, gan gynnwys trefniadau gydag unrhyw gyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau ac y mae’n barnu bod y cyrff hynny yn briodol, i weithredu unrhyw benderfyniad y mae’n bwriadu ei wneud yn ystod yr adolygiad neu yn ganlyniad iddo;

(i)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod hysbysu’r canlynol am fanylion canlyniad yr adolygiad ac am unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i’r adolygiad—

(i)y plentyn,

(ii)rhieni’r plentyn,

(iii)unrhyw berson nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto, a

(iv)unrhyw berson arall y dylid, yn ei farn ef, ei hysbysu;

(j)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod fonitro’r trefniadau a wnaed ganddo gyda golwg ar sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Gadael gofal, llety a maethu

103Ymgyfeillio â phlant sy’n derbyn gofal, eu cynghori a’u cynorthwyo

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ei gynghori a’i gynorthwyo ac ymgyfeillio ag ef gyda golwg ar hyrwyddo llesiant y plentyn pan fydd wedi peidio â gofalu amdano.

104Pobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115

(1)Mae gan y categorïau o berson ifanc a ddiffinnir yn is-adran (2) yr hawlogaeth i gael cymorth yn unol ag adrannau 105 i 115.

(2)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “person ifanc categori 1” yw plentyn—

    (a)

    sy’n 16 neu’n 17 oed,

    (b)

    sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, ac

    (c)

    sydd wedi bod yn derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr am gyfnod penodedig, neu gyfnodau sy’n cyfateb, gyda’i gilydd, i gyfnod penodedig, a ddechreuodd ar ôl i’r plentyn gyrraedd oedran penodedig, ac a ddaeth i ben ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed;

  • ystyr “person ifanc categori 2” yw plentyn—

    (a)

    sy’n 16 neu’n 17 oed,

    (b)

    nad yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, ac

    (c)

    a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1;

  • ystyr “person ifanc categori 3” yw person sy’n 18 oed neu drosodd—

    (a)

    sydd wedi bod yn berson ifanc categori 2 (ac a fyddai’n parhau i fod felly pe bai o dan 18 oed), neu

    (b)

    a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1;

  • ystyr “person ifanc categori 4” yw person—

    (a)

    sy’n berson ifanc categori 3 y mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106, 107(3) a (10) a 110 wedi peidio â bod yn gymwys iddo (gweler adran 111),

    (b)

    sydd wedi hysbysu’r awdurdod lleol cyfrifol ei fod yn dilyn, neu ei fod yn dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant, ac

    (c)

    sydd heb gyrraedd 25 oed neu unrhyw oedran is a bennir;

  • ystyr “person ifanc categori 5” yw person—

    (a)

    sydd wedi cyrraedd 16 oed ond heb gyrraedd 21 oed eto,

    (b)

    y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn cysylltiad ag ef (neu os yw wedi cyrraedd 18 oed, yr oedd mewn grym pan gyrhaeddodd yr oedran hwnnw), ac

    (c)

    a oedd, yn union cyn gwneud y gorchymyn hwnnw, yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

  • ystyr “person ifanc categori 6” yw person, ac eithrio person ifanc categori 5—

    (a)

    a oedd, ar unrhyw adeg ar ôl cyrraedd 16 oed ond tra oedd yn dal yn blentyn, yn derbyn gofal neu wedi ei letya neu ei faethu ond nad yw’n derbyn gofal nac yn cael ei letya na’i faethu mwyach,

    (b)

    os oedd wedi ei letya neu ei faethu felly, sydd bellach o fewn Cymru, ac

    (c)

    sydd heb gyrraedd 21 oed eto.

(3)Yn y diffiniad o “person ifanc categori 6”, ystyr “yn derbyn gofal, wedi ei letya neu ei faethu” yw—

(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (heb fod yn derbyn gofal wedyn gan awdurdod lleol yn Lloegr),

(b)wedi ei letya gan neu ar ran sefydliad gwirfoddol,

(c)wedi ei letya mewn cartref preifat i blant,

(d)wedi ei letya am gyfnod olynol o dri mis o leiaf—

(i)gan neu ar ran Bwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

(ii)gan neu ar ran grŵp comisiynu clinigol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(iii)gan neu ar ran awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg,

(iv)gan neu ar ran awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg,

(v)mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

(vi)mewn unrhyw lety a ddarperir gan neu ar ran Ymddiriedolaeth GIG neu gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu

(e)wedi ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).

(4)Mae is-adran (3)(d) yn gymwys hyd yn oed os dechreuodd y cyfnod o dri mis a grybwyllwyd yno cyn i’r plentyn gyrraedd 16 oed.

(5)Yn y Ddeddf hon ystyr “awdurdod lleol cyfrifol” ac “awdurdod lleol sy’n gyfrifol”yw—

(a)mewn perthynas â pherson ifanc categori 1, yr awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;

(b)mewn perthynas â pherson ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, yr awdurdod lleol a fu’n gofalu am y person hwnnw olaf;

(c)mewn perthynas â pherson ifanc categori 5, awdurdod lleol a ddyfernir yn unol â rheoliadau;

(d)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd paragraff (a) o is-adran (3), yr awdurdod lleol a fu’n gofalu am y person hwnnw olaf;

(e)mewn perthynas â pherson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd unrhyw baragraff arall o’r is-adran honno, yr awdurdod lleol y mae’r person o fewn ei ardal.

(6)Caiff rheoliadau, at ddibenion unrhyw un neu rai o’r pwerau neu’r dyletswyddau o dan adrannau 105 i 115—

(a)pennu categorïau ychwanegol o bersonau;

(b)pennu categorïau o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai sy’n dod o fewn categori o berson ifanc a grybwyllwyd yn is-adran (1);

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer dyfarnu pa awdurdod lleol fydd yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol at ddibenion categori a bennwyd o dan baragraff (a).

105Cadw mewn cysylltiad

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 gymryd camau rhesymol i gadw mewn cysylltiad â’r person hwnnw p’un a yw’r person o fewn ei ardal ai peidio.

(2)Os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 wedi colli cyswllt â’r person hwnnw, rhaid iddo—

(a)ystyried sut i ailsefydlu’r cyswllt hwnnw, a

(b)cymryd camau rhesymol i wneud hynny.

(3)Yn achos person ifanc categori 2, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (2) heb unrhyw oedi a pharhau i gymryd camau rhesymol i ailsefydlu’r cyswllt hyd nes y bydd yn llwyddo.

(4)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 111.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a) gymryd camau rhesymol i gysylltu â’r person ifanc ar yr adegau hynny y mae’n eu hystyried yn briodol gyda golwg ar gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 115.

106Cynghorwyr personol

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol drefnu bod gan berson a grybwyllir yn is-adran (2) gynghorydd personol.

(2)Y personau yw—

(a)person ifanc categori 1;

(b)person ifanc categori 2;

(c)person ifanc categori 3;

(d)person ifanc categori 4.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)yn achos person ifanc categori 3, yn ddarostyngedig i adran 111;

(b)yn achos person ifanc categori 4, yn ddarostyngedig i adran 113.

(4)Mae cynghorwyr personol a benodir o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon i gael unrhyw swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau.

107Asesiadau a chynlluniau llwybr: cyffredinol

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon—

(a)tra bo’r awdurdod yn dal i ofalu amdano, a

(b)wedi iddo roi’r gorau i ofalu amdano.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 neu gategori 3 nad oes ganddo gynllun llwybr eisoes, gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.

(3)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr a’i gynnal cyhyd ag y bydd y person ifanc yn dod o fewn categori 1, 2 neu 3 (ond gweler is-adran (12)).

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 gynnal asesiad o anghenion y person ifanc gyda golwg ar ddyfarnu pa gyngor a chymorth arall (os oes cyngor a chymorth arall) y byddai’n briodol iddo eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon.

(5)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (4), caiff yr awdurdod lleol ystyried unrhyw ddyletswydd a all fod ganddo i wneud taliad i’r person ifanc o dan adran 112(2).

(6)Ar ôl cynnal asesiad o dan is-adran (4), rhaid i’r awdurdod lleol lunio cynllun llwybr.

(7)Mae cynllun llwybr yn gynllun sy’n nodi—

(a)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 1—

(i)y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon, tra bydd yn gofalu amdano ac wedi hynny, a

(ii)pryd y byddai, o bosibl, yn rhoi’r gorau i ofalu amdano;

(b)yn achos cynllun ar gyfer person ifanc categori 2, categori 3 neu gategori 4, y cyngor a’r cymorth arall y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu darparu i’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw faterion eraill (os oes rhai) a bennir mewn rheoliadau.

(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth o ran asesiadau at ddibenion yr adran hon.

(9)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynglŷn â’r canlynol—

(a)y personau y dylid ymgynghori â hwy mewn perthynas ag asesiad;

(b)sut mae asesiad i’w gynnal, gan bwy a phryd;

(c)cofnodi canlyniadau asesiad;

(d)yr ystyriaethau y mae’r awdurdod lleol i roi sylw iddynt wrth gynnal asesiad.

(10)Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun llwybr yn gyson (ond gweler is-adrannau (12) a (13)).

(11)Caiff yr awdurdod lleol gynnal asesiad neu adolygiad o dan yr adran hon ar yr un adeg ag unrhyw asesiad neu adolygiad arall o anghenion y person ifanc.

(12)Yn achos person ifanc categori 3, mae’r dyletswyddau o dan is-adrannau (3) a (10) yn ddarostyngedig i adran 111.

(13)Yn achos person ifanc categori 4, mae’r ddyletswydd o dan is-adran (10) yn ddarostyngedig i adran 113.

108Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) wrth—

(a)cynnal asesiad mewn perthynas â’r person ifanc o dan adran 107(1),

(b)llunio a chynnal cynllun llwybr ar gyfer y person ifanc o dan adran 107(3), neu

(c)adolygu cynllun llwybr y person ifanc o dan adran 107(10).

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ganfod a yw’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18.

(3)Mae “trefniant byw ôl-18” yn drefniant—

(a)pan fo person ifanc categori 3—

(i)sydd o dan 21 oed, a

(ii)a oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol pan gyrhaeddodd 18 oed ac a oedd, yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben, yn berson ifanc categori 1, a

(b)pan fo person (“cyn-riant maeth”) a oedd yn rhiant maeth awdurdod lleol i’r person ifanc yn union cyn i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben,

yn parhau i fyw gyda’i gilydd ar ôl i’r gofal a ddarparwyd i’r person ifanc ddod i ben.

(4)Pan fo’r person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddarparu cyngor a chymorth arall er mwyn hwyluso’r trefniant.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol cyfrifol o’r farn y byddai gwneud trefniant byw ôl-18 rhwng y person ifanc a’i riant maeth awdurdod lleol yn anghyson â llesiant y person ifanc.

(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’n rhaid darparu gwybodaeth iddynt ynghylch trefniadau byw ôl-18;

(b)y modd y mae’n rhaid i’r wybodaeth honno gael ei darparu.

109Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 2 ddiogelu a hyrwyddo llesiant y person hwnnw ac, oni chaiff ei fodloni nad yw’n ofynnol i lesiant y person, cynorthwyo’r person drwy—

(a)cynnal y person,

(b)darparu llety addas i’r person, neu ei gynnal mewn llety o’r fath, ac

(c)darparu cymorth o unrhyw ddisgrifiadau eraill a bennir mewn rheoliadau.

(2)Caiff cymorth o dan is-adran (1) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyr “llety addas” ac yn benodol ynghylch addasrwydd landlordiaid neu ddarparwyr llety eraill.

(4)Mae adran 78(3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon fel y bo’n gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau y cyfeiriwyd atynt yn yr adran honno.

110Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw drwy—

(a)cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;

(b)cyfrannu, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(c)gwneud grant i’r person ifanc, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant ac anghenion addysg neu hyfforddiant y person ifanc, i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

(d)gwneud unrhyw beth arall sy’n briodol yn ei farn ef, i’r graddau y bo’n ofynnol i lesiant y person ifanc.

(2)Yn ogystal, rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sydd â threfniant byw ôl-18—

(a)monitro’r trefniant, a

(b)os yw’r awdurdod o’r farn bod y trefniant yn gyson â llesiant y person ifanc, ddarparu cyngor a chymorth arall i’r person ifanc a’r cyn-riant maeth gyda golwg ar gynnal y trefniant.

(3)Yn is-adran (2) mae i “trefniant byw ôl-18” yr ystyr a roddir iddo gan adran 108 ac mae i “cyn-riant maeth” yr un ystyr ag sydd iddo yn y diffiniad hwnnw.

(4)Gall y cymorth a roddir o dan is-adran (1)(d) a (2)(b) fod ar ffurf da neu mewn arian parod.

(5)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu i gyn-riant maeth o dan is-adran (2)(b), rhaid i’r cymorth gynnwys cymorth ariannol.

(6)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.

(7)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (6) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 3 wedi ei fodloni—

(a)bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser,

(b)bod y person ifanc yn cael cymorth o dan is-adran (1)(b) neu (c) neu wedi cael taliad o dan is-adran (6), ac

(c)bod angen llety ar y person ifanc yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael.

(9)Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.

(10)Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 111.

111Dyletswyddau yn dod i ben mewn perthynas â phobl ifanc categori 3

(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 3 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed, ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adran (2).

(2)Pan fo cynllun llwybr person ifanc categori 3 yn nodi rhaglen addysg neu hyfforddiant sy’n estyn y tu hwnt i’r dyddiad y bydd y person ifanc yn cyrraedd 21 oed—

(a)mae’r dyletswyddau o dan adran 110(1)(b) ac (c), (6) a (9) yn parhau hyd nes bod y person ifanc yn peidio â dilyn y rhaglen, a

(b)mae’r dyletswyddau o dan adrannau 105, 106 ac 107(3) a (10) yn parhau’n gydredol â’r dyletswyddau hynny ac yn dod i ben ar yr un pryd.

(3)At ddibenion is-adran (2)(a), rhaid i’r awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

112Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 roi cymorth i’r person ifanc hwnnw, i’r graddau y bo’n ofynnol i’w anghenion addysg neu hyfforddiant, drwy—

(a)cyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(b)gwneud grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 sy’n dilyn addysg uwch yn unol â’i gynllun llwybr dalu’r swm perthnasol i’r person ifanc hwnnw.

(3)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (2)(a) yn ychwanegol at ddyletswydd yr awdurdod lleol cyfrifol o dan is-adran (1).

(4)Pan fo awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 wedi ei fodloni bod y person ifanc mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—

(a)darparu llety addas i’r person ifanc yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person ifanc i sicrhau llety o’r fath.

(5)Caiff yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 4 ystyried ei ddyletswydd o dan is-adran (2) wrth asesu angen y person ifanc o dan adran 107(4) ac wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (4).

(6)Mae’r dyletswyddau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i adran 113.

113Dyletswyddau yn dod i ben mewn perthynas â phobl ifanc categori 4

(1)Mae dyletswyddau awdurdod lleol cyfrifol tuag at berson ifanc categori 4 yn dod i ben pan fydd y person ifanc yn peidio â dilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant yn unol â’i gynllun llwybr.

(2)At ddibenion is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol cyfrifol ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

114Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 5 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod ei roi o dan yr adran hon, a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd yn derbyn gofal ganddo y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.

(3)Os yw’r amodau wedi eu bodloni rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef a chaiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4).

(4)Caiff y cymorth gael ei roi—

(a)ar ffurf da;

(b)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos at i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu’n chwilio am waith;

(c)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw’n agos i’r lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(d)drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

(e)drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraffau (b) i (d);

(f)mewn arian parod.

(5)Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (4) i berson ifanc—

(a)sydd o dan 25 oed, a

(b)a fyddai’n berson ifanc categori 5 pe bai o dan 21 oed.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (4)(c) neu (d) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(7)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (5) mewn addysg bellach neu uwch llawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—

(a)darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.

115Cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am berson ifanc categori 6 ystyried a fodlonwyd yr amodau yn is-adran (2) mewn perthynas â’r person ifanc.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod ar y person angen cymorth o fath y gall yr awdurdod lleol ei roi o dan yr adran hon, a

(b)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(b) i (e), bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y person yr oedd y person ifanc yn derbyn gofal ganddo, yn cael ei letya ganddo neu ei faethu ganddo (o fewn ystyr yr is-adran honno) y cyfleusterau angenrheidiol i’w gynghori neu ymgyfeillio ag ef.

(3)Os yw’r amodau wedi eu bodloni—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, os yw’r person hwnnw yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a) neu (b), a

(b)mewn unrhyw achos arall, caiff yr awdurdod lleol gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef.

(4)Pan fo awdurdod lleol, o ganlyniad i’r adran hon, o dan ddyletswydd neu wedi ei rymuso i gynghori’r person ifanc ac ymgyfeillio ag ef, caiff roi cymorth i’r person hwnnw yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5).

(5)Caiff y cymorth gael ei roi—

(a)ar ffurf da;

(b)pan fo’r person ifanc yn berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a)—

(i)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn cael ei gyflogi neu yn chwilio am waith cyflogedig;

(ii)drwy gyfrannu at dreuliau a dynnir gan y person ifanc wrth iddo fyw yn agos i’r man lle y mae, neu y bydd, yn derbyn addysg neu hyfforddiant;

(iii)drwy roi grant i’r person ifanc i’w alluogi i dalu treuliau sy’n gysylltiedig â’i addysg neu ei hyfforddiant;

(c)drwy ddarparu llety, os na chaniateir i gymorth gael ei roi mewn cysylltiad â’r llety o dan baragraff (b);

(d)mewn arian parod.

(6)Caiff awdurdod lleol hefyd roi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) a (iii) i berson ifanc—

(a)sydd o dan 25 oed, a

(b)a fyddai’n berson ifanc categori 6 yn rhinwedd adran 104(3)(a), pe bai o dan 21 oed.

(7)Pan fo awdurdod lleol yn rhoi cymorth yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (5)(b)(ii) neu (iii) caiff ddiystyru unrhyw amhariad ar raglen addysg neu hyfforddiant y mae’r person ifanc yn ei dilyn os yw wedi ei fodloni y bydd y person ifanc yn ailgydio yn y rhaglen cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod person ifanc y caiff ddarparu cymorth iddo o dan is-adran (4) neu (6) mewn addysg bellach neu uwch lawnamser a bod arno angen llety yn ystod gwyliau am nad yw llety yn ystod y tymor ar gael, rhaid iddo—

(a)darparu llety addas i’r person yn ystod y gwyliau, neu

(b)talu digon i’r person i sicrhau llety o’r fath.

116Darpariaeth atodol ynghylch cymorth ar gyfer pobl ifanc mewn addysg bellach neu uwch

(1)Caiff rheoliadau, at ddibenion adrannau 110(6) a 112(2)—

(a)pennu’r swm perthnasol;

(b)pennu ystyr “addysg uwch”;

(c)gwneud darpariaeth o ran talu’r swm perthnasol;

(d)gwneud darpariaeth o ran yr amgylchiadau lle y caniateir i’r swm perthnasol (neu unrhyw ran ohono) gael ei adennill gan awdurdod lleol oddi wrth berson ifanc y gwnaed taliad iddo o dan y darpariaethau hynny.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ystyr “addysg bellach” (“further education”), “addysg uwch” (“higher education”), “gwyliau” (“vacation”) a “llawnamser” (“full-time”) at ddibenion adrannau 110(8), 112(4), 114(7) a 115(8).

117Codi ffi am ddarpariaeth o dan adrannau 109 i 115

(1)Caiff awdurdod lleol osod ffi am gymorth (ac eithrio cyngor) o dan adrannau 109 i 115.

(2)O ran ffi a osodir o dan adran (1)—

(a)dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion y mae’r ffi yn gymwys iddi;

(b)caniateir ei gosod—

(i)ar y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc hwnnw wedi cyrraedd 18 oed;

(ii)ar berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y person ifanc sy’n cael y cymorth, os yw’r person ifanc o dan 18 oed.

(3)Nid yw person yn atebol am dalu ffi o dan yr adran hon yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’n cael budd-dal sydd o fewn categori a bennir mewn rheoliadau.

(4)Yn is-adran (3) mae “budd-dal” yn cynnwys unrhyw lwfans, taliad, credyd neu fenthyciad.

(5)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 61 neu 62 yn gymwys i ffioedd o dan yr adran hon mewn perthynas â chymorth fel y bo’n gymwys i ffioedd o dan adran 59 mewn perthynas â gofal a chymorth.

(6)Caiff rheoliadau gymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir yn neu o dan adrannau 63 i 68 neu adrannau 70 i 73 i godi ffioedd o dan yr adran hon gyda neu heb addasiadau penodedig.

118Gwybodaeth

(1)Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod person ifanc—

(a)y mae ganddo ddyletswydd i gadw mewn cysylltiad ag ef o dan adran 105,

(b)y mae wedi bod yn cynghori ac yn cyfeillio o dan adran 114 neu 115, neu

(c)y mae wedi bod yn rhoi cymorth arall iddo o dan adran 114 neu 115,

yn bwriadu byw, neu yn byw, yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(2)Pan fo plentyn sy’n cael ei letya yng Nghymru—

(a)gan sefydliad gwirfoddol neu mewn cartref preifat i blant,

(b)gan neu ar ran unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

(c)gan neu ar ran grŵp comisiynu clinigol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,

(d)gan neu ar ran awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg,

(e)gan neu ar ran awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg,

(f)mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

(g)mewn unrhyw lety a ddarperir gan neu ar ran Ymddiriedolaeth GIG neu gan neu ar ran Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG,

yn peidio â chael ei letya felly mwyach ar ôl cyrraedd 16 oed, rhaid i’r person y cafodd y plentyn ei letya ganddo neu ar ei ran neu sy’n rhedeg neu’n rheoli’r cartref neu’r ysbyty (yn ôl y digwydd) hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y mae’r plentyn yn bwriadu byw yn ei ardal.

(3)Dim ond os yw’r llety wedi cael ei ddarparu am gyfnod o dri mis yn olynol o leiaf y bydd is-adran (2) yn gymwys yn rhinwedd paragraffau (b) i (g).

(4)Mewn achos lle y cafodd plentyn ei letya gan neu ar ran awdurdod lleol, neu awdurdod lleol yn Lloegr, wrth arfer swyddogaethau addysg, nid yw is-adran (2) yn gymwys oni fo’r awdurdod a fu’n lletya’r plentyn yn wahanol i’r awdurdod y mae’r plentyn yn bwriadu byw yn ei ardal.

Llety diogel

119Defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid

(1)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon, ni chaniateir i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr gael ei leoli, ac os yw wedi ei leoli, ni chaniateir iddo gael ei gadw mewn llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid (“llety diogel”) onid yw’n ymddangos—

(a)bod y plentyn—

(i)yn un sydd â hanes o ddianc a’i fod yn debyg o ddianc o lety o unrhyw ddisgrifiad arall, a

(ii)yn debyg o ddioddef gan niwed o bwys os yw’n dianc, neu

(b)bod y plentyn, os yw’n cael ei gadw mewn llety o unrhyw ddisgrifiad arall, yn debyg o anafu ei hun neu bersonau eraill.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)pennu—

(i)cyfnod na chaniateir i blentyn gael ei gadw y tu hwnt iddo mewn llety diogel yng Nghymru heb awdurdod y llys, a

(ii)y cyfnod hwyaf y caiff y llys awdurdodi bod plentyn yn cael ei gadw amdano mewn llety diogel yng Nghymru;

(b)rhoi pŵer i’r llys i awdurdodi o bryd i’w gilydd fod plentyn yn cael ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru am unrhyw gyfnod pellach y bydd y rheoliadau yn ei bennu;

(c)darparu bod ceisiadau i’r llys o dan yr adran hon i’w gwneud gan awdurdod lleol yn unig.

(3)Mae’n ddyletswydd ar lys sy’n gwrando cais o dan yr adran hon i ddyfarnu a yw unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cadw plentyn mewn llety diogel wedi eu bodloni yn achos y plentyn.

(4)Os bydd llys yn dyfarnu bod unrhyw feini prawf o’r fath wedi eu bodloni, rhaid iddo wneud gorchymyn yn awdurdodi bod y plentyn i’w gadw mewn llety diogel ac yn pennu’r cyfnod hwyaf ar gyfer cadw’r plentyn felly.

(5)Os caiff gwrandawiad cais o dan yr adran hon ei ohirio, caiff y llys wneud gorchymyn interim yn caniatáu i’r plentyn gael ei gadw mewn llety diogel yn ystod cyfnod y gohiriad.

(6)Ni chaiff unrhyw lys arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran hon mewn cysylltiad â phlentyn nad yw wedi ei gynrychioli’n gyfreithiol yn y llys hwnnw, oni bai ei fod, ar ôl cael ei hysbysu am ei hawl i wneud cais am gynrychiolaeth a fyddai’n cael ei ariannu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol fel rhan o’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol neu’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol ac wedi cael cyfle i wneud hynny, wedi gwrthod neu wedi methu â gwneud cais.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—

(a)bod yr adran hon i’w chymhwyso neu nad yw i’w chymhwyso i unrhyw ddisgrifiad o blant a bennir yn y rheoliadau;

(b)bod yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â phlant o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn ddarostyngedig i addasiadau a bennir yn y rheoliadau;

(c)bod darpariaethau eraill a bennir yn y rheoliadau i gael effaith at ddibenion dyfarnu a ganiateir i blentyn o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau gael ei leoli neu ei gadw mewn llety diogel yng Nghymru.

(8)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer sydd gan unrhyw lys yn Lloegr a Chymru i roi cyfarwyddiadau ynglŷn â’r plentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef.

(9)Nid yw rhoi awdurdodiad o dan yr adran hon yn rhagfarnu effaith unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan lys yn yr Alban ynglŷn â phlentyn y mae’r awdurdodiad yn ymwneud ag ef, i’r graddau y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith yng nghyfraith Lloegr a Chymru.

(10)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 76(5).

Plant sy’n cael eu lletya mewn sefydliadau penodol

120Asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol wrth arfer swyddogaethau addysg (“yr awdurdod lletya”)—

(a)am gyfnod olynol o 3 mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran yr awdurdod, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r awdurdod lletya hysbysu swyddog priodol yr awdurdod cyfrifol—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “yr awdurdod cyfrifol” ac “yr awdurdod sy’n gyfrifol” yw—

(a)yr awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n ymddangos i’r awdurdod lletya mai’r awdurdod hwnnw yw’r un lle yr oedd y plentyn yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo gael ei letya, neu

(b)pan fo’n ymddangos i’r awdurdod lletya nad oedd plentyn yn preswylio fel arfer o fewn ardal unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi.

(4)Yn yr adran hon ac yn adrannau 121 a 122 ystyr “swyddog priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag awdurdod lleol, ei gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, a

(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol yn Lloegr, ei gyfarwyddwr gwasanaethau plant.

(5)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(6)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (5)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

121Asesu plant sy’n cael eu lletya mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo llety’n cael ei ddarparu i blentyn yng Nghymru mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol—

(a)am gyfnod olynol o dri mis o leiaf, neu

(b)gyda’r bwriad, ar ran y person sy’n gwneud y penderfyniad i letya’r plentyn, o letya’r plentyn am y cyfnod hwnnw.

(2)Rhaid i’r person sy’n rhedeg y sefydliad o dan sylw hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae’r sefydliad yn cael ei redeg yn ei ardal—

(a)ei fod yn lletya’r plentyn, a

(b)pan fo’n rhoi’r gorau i letya’r plentyn.

(3)Pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod—

(a)asesu’r plentyn o dan adran 21, a

(b)ystyried i ba raddau (os o gwbl) y dylai arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon, neu unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989, mewn cysylltiad â’r plentyn.

(4)Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (3)(a) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)awdurdod lleol,

(b)awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(5)Os yw person sy’n rhedeg cartref gofal neu ysbyty annibynnol yn methu, heb reswm resymol, â chydymffurfio â’r adran hon, bydd yn euog o drosedd.

(6)Caiff person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol gael mynediad i gartref gofal neu ysbyty annibynnol o fewn ardal yr awdurdod at ddiben pennu a ydynt wedi cydymffurfio â gofynion yr adran hon.

(7)Rhaid i berson sy’n arfer pŵer mynediad, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos bod ganddo awdurdodiad i wneud hynny.

(8)Mae unrhyw berson sy’n fwriadol yn rhwystro person sy’n arfer pŵer mynediad yn euog o drosedd.

(9)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn atebol ar gollfarn diannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

122Ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw swyddog priodol i awdurdod lleol—

(a)wedi ei hysbysu mewn cysylltiad â phlentyn o dan adran 120(2)(a) neu 121(2)(a), a

(b)heb ei hysbysu mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw o dan adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b).

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau a wneir o dan yr adran hon, wneud trefniadau er mwyn i gynrychiolydd yr awdurdod (“cynrychiolydd”) fynd i ymweld â’r plentyn.

(3)Dyletswydd cynrychiolydd yw rhoi cyngor a chymorth i’r awdurdod lleol ynghylch y modd y mae’r awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â’r plentyn.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch—

(a)amlder yr ymweliadau o dan drefniadau ymweld;

(b)amgylchiadau y mae’n rhaid i drefniadau ymweld odanynt ei gwneud yn ofynnol bod rhywun yn ymweld â’r plentyn;

(c)swyddogaethau ychwanegol cynrychiolydd.

(5)Wrth ddewis cynrychiolydd, rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hun fod gan y person dewisol y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau cynrychiolydd.

(6)Yn yr adran hon ystyr “trefniadau ymweld” yw’r trefniadau a wneir o dan is-adran (2).

123Gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu unrhyw wasanaethau y mae’n barnu eu bod yn briodol i blant y mae’n cael hysbysiad amdanynt o dan adran 120 neu 121.

(2)Rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir o dan yr adran hon gael eu darparu gyda golwg ar hyrwyddo cyswllt rhwng pob plentyn y mae’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad amdano a theulu’r plentyn.

(3)Caiff y gwasanaethau gynnwys unrhyw beth y gall yr awdurdod ei ddarparu neu ei drefnu o dan Ran 4.

(4)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar y ddyletswydd a osodwyd gan adran 39.

Symud plant sy’n derbyn gofal i fyw y tu allan i’r awdurdodaeth

124Trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru

(1)Ni chaiff awdurdod lleol drefnu, neu helpu i drefnu, i blentyn yn ei ofal fyw y tu allan i Loegr a Chymru heb gymeradwyaeth y llys.

(2)Caiff awdurdod lleol, gyda chymeradwyaeth pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn drefnu, neu helpu i drefnu, i unrhyw blentyn arall sy’n derbyn gofal ganddo i fyw y tu allan i Loegr a Chymru.

(3)Ni chaiff y llys roi ei gymeradwyaeth i hyn o dan is-adran (1) oni chaiff ei fodloni—

(a)y byddai byw y tu allan i Loegr a Chymru er lles pennaf y plentyn,

(b)y gwnaed, neu y gwneir, trefniadau addas i dderbyn y plentyn a threfniadau addas er ei lesiant yn y wlad lle bydd yn byw,

(c)bod y plentyn wedi cydsynio i fyw yn y wlad honno, a

(d)bod pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio bod y plentyn yn byw yn y wlad honno.

(4)Pan fo’r llys wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol i gydsynio neu wrthod cydsynio, caiff anwybyddu is-adran (3)(c) a chymeradwyo os bydd y plentyn yn mynd i fyw yn y wlad sydd o dan sylw gyda rhiant, gwarcheidwad, gwarcheidwad arbennig, neu berson addas arall.

(5)Pan fo person y mae angen ei gydsyniad gan is-adran (3)(d) yn methu â chydsynio, caiff y llys hepgor cydsyniad y person hwnnw os yw wedi ei fodloni—

(a)nad oes modd dod o hyd i’r person neu nad oes gan y person alluedd i gydsynio, neu

(b)bod llesiant y plentyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r cydsyniad gael ei hepgor.

(6)Nid yw adran 85 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (sy’n gosod cyfyngiadau ar fynd â phlant allan o’r Deyrnas Unedig) yn gymwys yn achos plentyn a fydd yn byw y tu allan i Loegr a Chymru gyda chymeradwyaeth y llys a roddir o dan yr adran hon.

(7)Pan fydd llys yn penderfynu rhoi ei gydsyniad o dan yr adran hon, caiff orchymyn nad yw ei benderfyniad i gael effaith yn ystod y cyfnod apelio.

(8)Yn is-adran (7) ystyr “y cyfnod apelio” yw—

(a)lle y gwneir apêl yn erbyn y penderfyniad, y cyfnod rhwng gwneud y penderfyniad a dyfarnu ar yr apêl, a

(b)fel arall, y cyfnod pryd y caniateir apelio yn erbyn y penderfyniad.

(9)Nid yw’r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sy’n lleoli plentyn i’w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr.

Marwolaeth plentyn sy’n derbyn gofal

125Marwolaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol

(1)Os yw plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn marw—

(a)rhaid i’r awdurdod hysbysu Gweinidogion Cymru,

(b)rhaid i’r awdurdod hysbysu, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, rieni’r plentyn a phob person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(c)caiff yr awdurdod, gyda chydsyniad pob person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol i’w gael), drefnu i gorff y plentyn gael ei gladdu neu ei amlosgi, a

(d)caiff yr awdurdod, os bodlonir yr amodau a grybwyllir yn is-adran (2), wneud taliadau i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu unrhyw berthynas, gyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig â’r plentyn, mewn cysylltiad â theithio, cynhaliaeth neu dreuliau eraill a dynnir gan y person hwnnw wrth fod yn bresennol yn angladd y plentyn.

(2)Dyma’r amodau—

(a)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod na fedrai’r person o dan sylw fod yn bresennol yn angladd y plentyn fel arall heb galedi ariannol gormodol, a

(b)bod yr amgylchiadau yn cyfiawnhau gwneud y taliadau.

(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi amlosgi lle nad yw’n unol ag arfer argyhoeddiad crefyddol y plentyn.

(4)Pan fo awdurdod lleol wedi arfer ei bŵer o dan is-adran (1)(c) mewn cysylltiad â phlentyn a oedd o dan 16 oed pan fu farw, caiff adennill oddi wrth unrhyw un o rieni’r plentyn unrhyw dreuliau a dynnwyd ganddo.

(5)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil unrhyw symiau y mae modd eu hadennill yn y modd hwn, ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’u hadennill.

(6)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw ddeddfiad sy’n rheoleiddio neu’n awdurdodi claddu, amlosgi neu gynnal archwiliad anatomegol o gorff y person ymadawedig.

RHAN 7DIOGELU

Oedolion sy’n wynebu risg

126Oedolion sy’n wynebu risg

(1)Mae “oedolyn sy’n wynebu risg”, at ddibenion y Rhan hon, yn oedolyn—

(a)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso,

(b)y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac

(c)nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(2)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal (p’un a yw’n preswylio fel arfer yno ai peidio) yn oedolyn sy’n wynebu risg, rhaid iddo—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau (neu beri iddynt gael eu gwneud) y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol i’w alluogi i benderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau (p’un ai o dan y Ddeddf hon neu fel arall) ac, os felly, pa gamau a chan bwy, a

(b)penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau o’r fath.

(3)Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 54(5) (cynlluniau gofal a chymorth) gynnwys darpariaeth ynghylch cofnodi mewn cynllun gofal a chymorth ganlyniadau ymholiadau a wneir o dan yr adran hon.

127Gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion

(1)Caiff swyddog awdurdodedig wneud cais i ynad heddwch am orchymyn (“gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn”) mewn perthynas â pherson sy’n byw mewn unrhyw fangre o fewn ardal awdurdod lleol.

(2)Dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn yw—

(a)galluogi’r swyddog awdurdodedig ac unrhyw berson arall sydd gyda’r swyddog i gael sgwrs breifat gyda’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg,

(b)galluogi’r swyddog awdurdodedig i ganfod a yw’r person hwnnw’n gwneud penderfyniadau o’i wirfodd, ac

(c)galluogi’r swyddog awdurdodedig i asesu’n iawn a yw’r person yn oedolyn sy’n wynebu risg ac i wneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd.

(3)Pan fo gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn mewn grym, caiff y swyddog awdurdodedig, cwnstabl ac unrhyw berson penodedig arall sydd gyda’r swyddog hwnnw yn unol â’r gorchymyn, fynd i mewn i’r fangre a bennir yn y gorchymyn at y dibenion a nodir yn is-adran (2).

(4)Caiff yr ynad heddwch wneud gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn os yw wedi ei fodloni—

(a)bod gan y swyddog awdurdodedig sail resymol dros amau bod y person yn oedolyn sy’n wynebu risg,

(b)ei bod yn angenrheidiol i’r swyddog awdurdodedig gael gweld y person er mwyn asesu’n iawn a yw’r person hwnnw’n oedolyn sy’n wynebu risg a gwneud penderfyniad fel sy’n ofynnol gan adran 126(2) ynghylch pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd,

(c)bod gwneud gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r dibenion a nodir yn is-adran (2), a

(d)na fydd arfer y pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn yn peri i’r oedolyn fod mewn mwy o berygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.

(5)Rhaid i orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn—

(a)pennu’r fangre y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;

(b)darparu y caiff cwnstabl fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

(c)pennu’r cyfnod pryd y bydd y gorchymyn mewn grym.

(6)Caniateir i amodau eraill gael eu gosod ar orchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn, er enghraifft—

(a)pennu cyfyngiadau ar yr amser pan ganiateir i’r pŵer mynediad a roddir gan y gorchymyn gael ei arfer;

(b)darparu i berson penodedig arall fod gyda’r swyddog awdurdodedig;

(c)ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad am y gorchymyn gael ei roi i feddiannydd y fangre a’r person yr amheuir ei fod yn oedolyn sy’n wynebu risg.

(7)Caiff cwnstabl sydd gyda’r swyddog awdurdodedig ddefnyddio grym rhesymol os yw’n angenrheidiol er mwyn cyflawni dibenion gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn fel a nodir yn is-adran (2).

(8)Wrth fynd i mewn i’r fangre yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn rhaid i’r swyddog awdurdodedig—

(a)datgan diben yr ymweliad,

(b)dangos tystiolaeth o’r awdurdodiad i fynd i mewn i’r fangre, ac

(c)rhoi esboniad i feddiannydd y fangre am sut i gwyno ynghylch sut y mae’r pŵer mynediad wedi cael ei arfer.

(9)Yn yr adran hon ystyr “swyddog awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon, ond caiff rheoliadau osod cyfyngiadau ar y personau neu’r categorïau o bersonau y caniateir eu hawdurdodi.

128Dyletswydd i hysbysu am oedolion sy’n wynebu risg

(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person yn oedolyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y person hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.

(2)Os yw’n ymddangos bod y person, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y person hwnnw yn oedolyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.

(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod person o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn oedolyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw yn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(4)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.

129Diddymu pŵer awdurdod lleol i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw

Nid yw adran 47 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud cais am orchymyn llys i symud personau y mae arnynt angen gofal a sylw o’u cartrefi i ysbytai neu fannau eraill) bellach yn gymwys i bersonau yng Nghymru.

Plant sy’n wynebu risg

130Dyletswydd i hysbysu am blant sy’n wynebu risg

(1)Os oes gan bartner perthnasol awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn yn blentyn sy’n wynebu risg, a’i bod yn ymddangos bod y plentyn hwnnw o fewn ardal yr awdurdod, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol am y ffaith honno.

(2)Os yw’n ymddangos bod y plentyn, y mae gan y partner perthnasol sail resymol dros gredu bod y plentyn hwnnw yn blentyn sy’n wynebu risg, o fewn ardal awdurdod lleol ac eithrio un y mae’n bartner perthnasol iddo, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol arall hwnnw.

(3)Os oes gan awdurdod lleol sail resymol dros gredu bod plentyn o fewn ei ardal ar unrhyw adeg yn blentyn sy’n wynebu risg a’i fod yn byw neu’n bwriadu byw o fewn ardal awdurdod lleol arall (neu awdurdod lleol yn Lloegr), rhaid iddo hysbysu’r awdurdod arall hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, “plentyn sy’n wynebu risg” yw plentyn—

(a)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, a

(b)y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio).

(5)At ddibenion yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn—

(a)person sy’n bartner perthnasol yr awdurdod lleol at ddibenion adran 162;

(b)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod.

(6)Am ddarpariaeth ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i ymchwilio i blant sy’n wynebu risg, gweler adran 47 o Ddeddf Plant 1989.

Canllawiau

131Canllawiau ynghylch oedolion sy’n wynebu risg a phlant sy’n wynebu risg

(1)Rhaid i’r canlynol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan adrannau 126 i 128 a 130, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru—

(a)awdurdod lleol;

(b)person sy’n swyddog awdurdodedig at ddibenion adran 127;

(c)cwnstabl neu berson penodedig arall sydd gyda swyddog awdurdodedig yn unol â gorchymyn amddiffyn a chynorthwyo oedolyn a wneir o dan adran 127;

(d)person sy’n bartner perthnasol at ddibenion adran 128 neu 130.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (1).

Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

132Y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

(1)Bydd bwrdd o’r enw’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Bwrdd Cenedlaethol”).

(2)Dyletswyddau’r Bwrdd Cenedlaethol yw—

(a)rhoi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu gyda golwg ar sicrhau eu bod yn effeithiol,

(b)cyflwyno adroddiadau am ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, ac

(c)gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.

(3)O ran y Bwrdd Cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru,

(b)rhaid iddo gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru y byddant yn eu mynnu, ac

(c)caiff gyflwyno unrhyw adroddiadau eraill y gwêl yn dda.

133Rheoliadau am y Bwrdd Cenedlaethol

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y Bwrdd Cenedlaethol.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu, er enghraifft, ar gyfer y canlynol—

(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y Bwrdd Cenedlaethol (gan gynnwys darpariaeth ynghylch telerau penodi, anghymhwyso, ymddiswyddo, atal neu symud aelodau o’u swydd);

(b)y tâl a’r lwfansau sydd i’w talu i aelodau;

(c)trafodion y Bwrdd Cenedlaethol;

(d)bod y Bwrdd Cenedlaethol yn ymgynghori â’r rhai y gallai trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru effeithio arnynt;

(e)ffurf, cynnwys ac amseriad adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol;

(f)cyhoeddi adroddiadau’r Bwrdd Cenedlaethol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu i Weinidog y Goron fod yn aelod o’r Bwrdd Cenedlaethol.

Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

134Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion

(1)Rhaid i reoliadau nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru (“ardaloedd Byrddau Diogelu”) y bydd Byrddau Diogelu ar eu cyfer.

(2)Mae pob un o’r canlynol yn bartner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal Bwrdd Diogelu—

(a)yr awdurdod lleol dros ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(b)prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(d)ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardal Bwrdd Diogelu;

(e)yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

(f)unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas â’r ardal Bwrdd Diogelu.

(3)Ar ôl ymgynghori â’r partneriaid Bwrdd Diogelu ar gyfer ardal, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu—

(a)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant, a

(b)partner Bwrdd Diogelu fel y partner arweiniol ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion.

(4)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas â phlant sefydlu Bwrdd Diogelu Plant ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(5)Rhaid i’r partner arweiniol mewn perthynas ag oedolion sefydlu Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ei ardal Bwrdd Diogelu.

(6)Rhaid i Fwrdd Diogelu gynnwys—

(a)cynrychiolydd i bob partner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn is-adran (2) mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu, a

(b)cynrychiolydd unrhyw berson neu gynrychiolydd i gorff arall a bennir mewn rheoliadau fel partner Bwrdd Diogelu mewn perthynas ag ardal y Bwrdd Diogelu.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu person neu gorff fel partner Bwrdd Diogelu ond os yw’r person neu’r corff hwnnw yn arfer swyddogaethau o dan ddeddfiad mewn perthynas â phlant yng Nghymru neu, yn ôl y digwydd, oedolion yng Nghymru.

(8)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) bennu un o Weinidogion y Goron na llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu, yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr) fel partner Bwrdd Diogelu oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(9)Caiff Bwrdd Diogelu gynnwys cynrychiolwyr unrhyw bersonau neu gyrff eraill, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff a grybwyllir yn is-adran (10), y mae’r Bwrdd o’r farn y dylent gael eu cynrychioli arno.

(10)Mae’r personau neu’r cyrff hynny’n bersonau ac yn gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n ymwneud â phlant neu oedolion (yn ôl y digwydd) yn yr ardal Bwrdd Diogelu o dan sylw.

(11)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

(b)mae i gyfeiriad at ganolfan hyfforddi ddiogel wedi ei chontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out secure training centre” gan adran 15 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994;

(c)mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

135Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Diogelu

(1)Amcanion Bwrdd Diogelu Plant yw—

(a)amddiffyn plant o fewn ei ardal sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu ddioddef mathau eraill o niwed, a

(b)atal plant o fewn ei ardal rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed.

(2)Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw—

(a)amddiffyn oedolion o fewn ei ardal—

(i)y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio), a

(ii)sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso, a

(b)atal yr oedolion hynny o fewn ei ardal y soniwyd amdanynt ym mharagraff (a)(i) rhag dod yn rhai sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

(3)Rhaid i Fwrdd Diogelu geisio sicrhau ei amcanion drwy gydgysylltu’r hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd a gwneud yn siŵr ei fod yn effeithiol.

(4)Rhaid i reoliadau—

(a)darparu i Fwrdd Diogelu gael swyddogaethau sy’n ymwneud â’i amcanion (gan gynnwys, er enghraifft, swyddogaethau adolygu neu ymchwilio);

(b)gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan Fwrdd Diogelu;

(c)pennu pryd a sut y mae’n rhaid i blant neu oedolion y mae swyddogaethau Bwrdd Diogelu yn effeithio arnynt, neu y gallent effeithio arnynt gael cyfle i gymryd rhan yng ngwaith y Bwrdd.

(5)Caiff Bwrdd Diogelu gydweithredu ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill.

(6)Caiff Bwrdd Diogelu weithredu ar y cyd ag un neu fwy o Fyrddau Diogelu eraill mewn perthynas â’u hardaloedd cyfun ac os byddant yn gwneud hynny—

(a)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y Byrddau sy’n gweithredu ar y cyd, a

(b)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal Bwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal gyfun.

(7)Caiff y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ar gyfer ardal ffurfio cyd-fwrdd ar gyfer yr ardal, ac os ydynt yn gwneud hynny—

(a)mae’r cyd-fwrdd i gael yr amcanion yn is-adrannau (1) a (2), a

(b)mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Fwrdd Diogelu i’w darllen fel cyfeiriadau at y cyd-fwrdd.

136Byrddau Diogelu: cynlluniau ac adroddiadau blynyddol

(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi cynllun (ei “gynllun blynyddol”) yn nodi ei gynigion ar gyfer cyflawni ei amcanion yn y flwyddyn honno.

(2)Erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn fan bellaf, rhaid i Fwrdd Diogelu gyhoeddi adroddiad ynghylch—

(a)sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a

(b)i ba raddau y mae wedi gweithredu’r cynigion yn ei gynllun blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch gwneud cynlluniau a llunio adroddiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch eu ffurf a’u cynnwys a sut dylid eu cyhoeddi).

(4)Yn yr adran hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r deuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

137Cyflenwi gwybodaeth ar gais Byrddau Diogelu

(1)Caiff Bwrdd Diogelu, at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau, ofyn i berson neu gorff cymhwysol gyflenwi gwybodaeth benodedig y mae is-adran (2) neu (3) yn gymwys iddi—

(a)i’r Bwrdd, neu

(b)i berson neu gorff a bennir gan y Bwrdd.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)y person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo,

(b)swyddogaeth neu weithgaredd y person neu’r corff cymhwysol hwnnw, neu

(c)person y mae swyddogaeth yn arferadwy mewn cysylltiad ag ef, neu weithgaredd yr ymgymerir ag ef, gan y person neu’r corff cymhwysol hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth—

(a)sydd wedi ei chyflenwi i’r person neu’r corff cymhwysol yn unol â chais arall o dan yr adran hon, neu

(b)sydd wedi ei deillio o wybodaeth a gyflenwyd yn y modd hwnnw.

(4)Rhaid i’r person neu’r corff cymhwysol y gwneir cais iddo o dan is-adran (1) gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person neu’r corff o’r farn y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person neu’r corff, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person neu’r corff.

(5)Rhaid i berson neu gorff cymhwysol sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi i’r Bwrdd Diogelu a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(6)Ni chaiff gwybodaeth a gyflenwir o dan yr adran hon gael ei defnyddio ond gan y Bwrdd neu berson neu gorff arall y caiff ei chyflenwi iddo at y diben a grybwyllwyd yn is-adran (1).

(7)Yn yr adran hon—

  • ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn cais a wneir o dan is-adran (1);

  • ystyr “person neu gorff cymhwysol” (“qualifying person or body”) yw person neu gorff y mae ei swyddogaethau neu ei weithgareddau yn cael eu hystyried gan y Bwrdd yn rhai sy’n golygu bod y person neu’r corff yn debygol o feddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i arfer un o swyddogaethau’r Bwrdd.

138Cyllido Byrddau Diogelu

(1)Caiff partner Bwrdd Diogelu wneud taliadau tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno—

(a)drwy wneud y taliadau’n uniongyrchol, neu

(b)drwy gyfrannu at gronfa y caniateir i’r taliadau gael eu gwneud ohoni.

(2)Caiff partner Bwrdd Diogelu ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno.

(3)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod taliadau’n cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu tuag at wariant a dynnir gan y Bwrdd Diogelu, neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Diogelu, y mae’r partner wedi ei gynrychioli arno, a

(b)darparu ar gyfer sut y mae swm y taliadau hynny i’w ddyfarnu mewn cysylltiad â chyfnod penodedig.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) sy’n ei gwneud yn ofynnol bod taliadau yn cael eu gwneud gan bartner Bwrdd Diogelu a grybwyllwyd yn adran 134(2)(b), (e) neu (f).

139Byrddau Diogelu: materion atodol

(1)Rhaid i Fwrdd Diogelu gydweithredu â’r Bwrdd Cenedlaethol, a rhaid iddo gyflenwi i’r Bwrdd Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae’n gofyn amdani.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau partneriaid Byrddau Diogelu sy’n ymwneud â’r Byrddau Diogelu y mae’r partneriaid wedi eu cynrychioli arnynt.

(3)Rhaid i bartner Bwrdd Diogelu, wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â Bwrdd Diogelu, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i bob partner Bwrdd Diogelu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y Bwrdd Diogelu y mae wedi ei gynrychioli arno’n gweithredu’n effeithiol.

140Byrddau Diogelu Cyfun

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y Bwrdd Diogelu Plant a’r Bwrdd Diogelu Oedolion ym mhob ardal Bwrdd Diogelu i uno i greu un Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal (“Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion”).

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)diwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ganlyniad i greu un Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion ar gyfer pob ardal Bwrdd Diogelu, a

(b)gwneud darpariaethau canlyniadol eraill gan gynnwys diwygio unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y bydd wedi ei basio neu ei wneud).

141Y weithdrefn ar gyfer gorchmynion o dan adran 140

(1)Cyn gwneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar y gorchymyn drafft arfaethedig â’r canlynol—

(a)pob partner Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â hi,

(b)yr Ysgrifennydd Gwladol, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y gorchymyn drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen i wneud gorchymyn o dan adran 140, rhaid iddynt osod gorchymyn drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)O ran gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3)—

(a)rhaid iddo fynd gyda datganiad gan Weinidogion Cymru yn rhoi manylion unrhyw wahaniaethau rhwng y gorchymyn drafft yr ymgynghorwyd arno o dan is-adran (1) a’r gorchymyn drafft a osodir o dan is-adran (3), a

(b)ni chaniateir iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 196(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 60 niwrnod, yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y gorchymyn drafft, ddod i ben.

142Dehongli Rhan 7

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) yw ardal a nodir mewn rheoliadau o dan adran 134(1);

  • ystyr “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) yw’r Bwrdd Cenedlaethol Annibynnol Cenedlaethol y cyfeirir ato yn adran 132;

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134 (ac mae cyfeiriadau at ardal Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae wedi ei sefydlu ar ei chyfer);

  • ystyr “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) yw person neu gorff a grybwyllir yn adran 134(2) neu mewn rheoliadau a wneir o dan adran 134(6)(b) (ac mae cyfeiriadau at ardal partner Bwrdd Diogelu yn gyfeiriadau at yr ardal Bwrdd Diogelu y mae’n bartner Bwrdd Diogelu iddo).

RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Awdurdodau lleol

143Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol yw ei swyddogaethau o dan y deddfiadau a grybwyllir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 i’r Ddeddf hon (sef y swyddogaethau a ddisgrifir yn gyffredinol yn ail golofn yr Atodlen honno).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)ychwanegu eitemau at y tabl;

(b)dileu eitemau o’r tabl;

(c)diwygio eitemau yn y tabl.

144Cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi swyddog, a elwir yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.

(2)Ni chaniateir i awdurdod lleol benodi person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol iddo oni bai ei fod yn fodlon bod y person hwnnw wedi dangos y cymwyseddau a bennwyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r cymwyseddau at ddiben is-adran (2) mewn cod a ddyroddir o dan adran 145 neu mewn rheoliadau.

(4)Caiff dau neu fwy o awdurdodau lleol, os ydynt o’r farn y gall yr un person gyflawni’n effeithiol, ar gyfer y ddau neu bob un ohonynt, swyddogaethau cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, benodi un person yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y ddau awdurdod hynny neu ar gyfer pob un ohonynt.

(5)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi penodi, neu sydd wedi penodi ar y cyd, berson o dan yr adran hon sicrhau bod staff digonol yn cael eu darparu at ddibenion ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynorthwyo’r cyfarwyddwr.

Codau

145Y pŵer i ddyroddi codau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi, a diwygio o bryd i’w gilydd, un neu fwy o godau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (“cod”).

(2)Caiff cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n disgrifio nodau, amcanion a materion eraill.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod (yn ddarostyngedig i adran 147), a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.

(4)Caiff cod bennu nad yw adran 147 yn gymwys i ofyniad sydd wedi ei gynnwys yn y cod.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi ar eu gwefan bob cod sydd am y tro mewn grym, a

(b)trefnu bod y codau sydd wedi eu disodli neu eu dirymu (p’un a ydynt ar eu gwefan neu fel arall) ar gael i’r cyhoedd.

146Dyroddi, cymeradwyo a dirymu codau

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 145, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig).

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft, ni chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na wneir penderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)bydd yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ni fydd yn cynnwys unrhyw amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fydd ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god (neu god diwygiedig) rhag cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Caniateir i Weinidogion Cymru ddirymu cod (neu god diwygiedig) a ddyroddir o dan yr adran hon mewn cod pellach neu drwy gyfarwyddyd.

(8)Rhaid gosod cyfarwyddyd o dan is-adran (7) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

147Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau

(1)Pan fo’r adran hon yn gymwys i ofyniad mewn cod (gweler adran 145(4)), caiff awdurdod lleol arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn ffordd nad yw’n cydymffurfio â’r gofyniad i’r graddau—

(a)y mae’r awdurdod yn credu bod rheswm da iddo beidio â chydymffurfio â’r gofyniad mewn categorïau penodol o achosion neu i beidio â gwneud hynny o gwbl,

(b)y mae’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y gofyniad, ac

(c)y mae datganiad polisi a ddyroddwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 148 yn weithredol.

(2)Pan fo paragraffau (a) i (c) yn is-adran (1) yn gymwys—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr sydd wedi ei nodi yn y datganiad polisi, a

(b)nid yw’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r gofyniad yn y cod ond i’r graddau nad yw pwnc y gofyniad wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi.

(3)Nid yw’r ddyletswydd i gydymffurfio â gofyniad mewn cod ymarfer neu i ddilyn y llwybr a bennir mewn datganiad polisi yn gymwys i awdurdod lleol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y cod neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori o achos.

148Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol

(1)Rhaid i ddatganiadau polisi a ddyroddir o dan adran 147(1) nodi—

(a)sut mae’r awdurdod lleol yn cynnig y dylai swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gael eu harfer mewn ffordd sy’n wahanol i’r gofyniad yn y cod perthnasol, a

(b)rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.

(2)Caiff awdurdod sydd wedi dyroddi datganiad polisi—

(a)dyroddi datganiad polisi diwygiedig;

(b)rhoi hysbysiad yn dirymu datganiad polisi.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig) ddatgan—

(a)ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 147(1), a

(b)y dyddiad y bydd yn cael effaith.

(4)Rhaid i awdurdod sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—

(a)trefnu bod y datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;

(b)anfon copi o’r datganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.

149Cyfarwyddiadau i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â chodau ymarfer

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn barnu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddwyd gan awdurdod lleol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu yn rhannol) yn debygol o arwain at arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gam y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer swyddogaethau yn unol â’r gofyniad perthnasol yn y cod perthnasol.

Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog

150Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion y Rhan hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol fel a ganlyn—

  • SAIL 1 - mae’r awdurdod lleol wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â dyletswydd sy’n swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;

  • SAIL 2 - mae’r awdurdod lleol wedi gweithredu, neu’n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol;

  • SAIL 3 - mae’r awdurdod lleol yn methu, neu’n debygol o fethu, â chyflawni swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol yn unol â safon ddigonol.

151Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau gweithredu y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (1), rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r hysbysiad, osod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r hysbysiad, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol mewn ymateb i’r hysbysiad rhybuddio.

152Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd o dan y Rhan hon â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)os yw awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

(a)bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sy’n galw am ymyrraeth frys o dan y Rhan hon, neu

(b)ei bod yn annhebygol y byddai’r awdurdod lleol yn gallu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd yn unol â’r ymyriad.

(5)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, rhaid iddynt adolygu’n gyson yr amgylchiadau sy’n rhoi cychwyn i’r pŵer.

(6)Os daw Gweinidogion Cymru i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi cael eu trin er boddhad iddynt neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Rhan hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt hysbysu yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu casgliad.

(7)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (6).

(8)Hyd nes y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bob 6 mis o’r dyddiad y maent yn dechrau ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd yn unol â’r ymyriad.

(9)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau gweithredu yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.

154Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran yr awdurdod

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod lleol neu unrhyw un o’i swyddogion y maent yn credu ei fod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau hynny y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod gyda’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan y person penodedig.

155Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt hwy.

(3)Os gwneir cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.

156Pŵer i gyfarwyddo bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu harfer

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 154 neu 155 ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus bod cyfarwyddyd yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.

157Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol er mwyn delio â’r seiliau dros ymyrryd, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol neu unrhyw un neu rai o’i swyddogion, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

158Ymyrryd: dyletswydd i adrodd

Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i roi cyfarwyddyd o dan adran 153, 154, 155 neu 157, rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

159Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Rhan hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer swyddogaeth sy’n amodol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Rhan hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodol ar gais gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru.

160Dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru ac unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) gymaint o gymorth ag y gall yr awdurdod lleol yn rhesymol ei roi mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.

(2)Y personau yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd o dan y Rhan hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).

161Pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)Mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2) hawl, ar bob adeg resymol—

(a)i gael mynd i mewn i fangreoedd yr awdurdod lleol o dan sylw;

(b)i arolygu, a gwneud copïau, o unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod, a’r rheini’n gofnodion neu’n ddogfennau y mae’r person o’r farn eu bod yn berthnasol i gyflawniad ei swyddogaethau o dan, neu yn rhinwedd, y Rhan hon.

(2)Mae’r personau canlynol yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 153 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, person y mae’r awdurdod yn ymrwymo i gontract neu unrhyw drefniant arall ag ef sy’n ofynnol o dan y cyfarwyddyd;

(b)person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 154;

(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 155;

(d)person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 155.

(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill—

(a)mae gan berson (“P”) hawlogaeth i gael mynediad at, ac i arolygu a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd, neu sydd wedi bod, yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill o dan sylw, a

(b)caiff P ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol ddarparu unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, rhoi gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu i’w chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—

(i)y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;

(ii)unrhyw berson y mae’r cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd o dan ei ofal neu sy’n ymwneud fel arall â’u gweithredu.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon mae “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH

Cydweithrediad

162Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod wrth arfer—

(i)eu swyddogaethau sy’n ymwneud ag oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth neu ag oedolion sy’n ofalwyr, a

(ii)eu swyddogaethau eraill y mae eu harfer yn berthnasol i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (i), a

(c)unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r canlynol—

(i)oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu

(ii)oedolion o fewn ardal yr awdurdod sy’n ofalwyr.

(2)Rhaid i awdurdod lleol hefyd wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau.

(3)Mae’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) i’w gwneud gyda golwg ar—

(a)gwella llesiant—

(i)oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, a

(ii)oedolion o fewn ardal yr awdurdod sy’n ofalwyr;

(b)gwella ansawdd y gofal a’r cymorth i oedolion, ac ansawdd y cymorth i oedolion sy’n ofalwyr, a ddarperir yn ardal yr awdurdod (gan gynnwys y canlyniadau a sicrheir drwy’r ddarpariaeth honno);

(c)amddiffyn oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth ac sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

(4)At ddibenion yr adran hon mae pob un o’r canlynol yn bartner perthnasol i awdurdod lleol—

(a)y corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod lleol;

(b)unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r awdurdod yn cytuno y byddai’n briodol cydweithredu ag ef o dan yr adran hon;

(c)yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;

(d)unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner perthnasol i’r awdurdod;

(e)Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod;

(f)ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod;

(g)Gweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn cyflawni swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

(h)unrhyw berson, neu berson o unrhyw ddisgrifiad, y bydd rheoliadau yn ei bennu.

(5)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (4)(h) bennu un o Weinidogion y Goron na llywodraethwr carchar (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan, y cyfarwyddwr) oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.

(6)Rhaid i bartneriaid perthnasol awdurdod lleol gydweithredu â’r awdurdod wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon.

(7)Caiff awdurdod lleol ac unrhyw un neu rai o’i bartneriaid perthnasol, at ddibenion trefniadau o dan yr adran hon—

(a)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill;

(b)sefydlu a chynnal cronfa gyfun;

(c)rhannu gwybodaeth â’i gilydd.

(8)At ddibenion is-adran (7) mae cronfa gyfun yn gronfa—

(a)sydd wedi ei ffurfio o gyfraniadau gan yr awdurdod a’r partner neu’r partneriaid perthnasol o dan sylw, a

(b)y caniateir i daliadau gael eu gwneud ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod a swyddogaethau’r partner neu’r partneriaid perthnasol.

(9)Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’i bartneriaid perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (9).

(11)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;

(b)mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

163Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: plant

(1)Mae adran 25 o Ddeddf Plant 2004 (cydweithrediad i wella llesiant: Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Each local authority in Wales must also make arrangements to promote co-operation between officers of the authority who exercise its functions.

(3)Yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)The arrangements under subsections (1) and (1A) are to be made with a view to—

(a)improving the well-being of children within the authority’s area, in particular those with needs for care and support;

(b)improving the quality of care and support for children provided in the authority’s area (including the outcomes that are achieved from such provision);

(c)protecting children who are experiencing, or are at risk of, abuse, neglect or other kinds of harm (within the meaning of the Children Act 1989).

(4)Yn is-adran (4)—

(a)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)any other local authority in Wales with which the authority agrees that it would be appropriate to co-operate under this section;;

(b)ym mharagraff (f) yn lle “Assembly” rhodder “Welsh Ministers” ac yn lle “it is” rhodder “they are”;

(c)ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(g)such a person, or a person of such description, as regulations made by the Welsh Ministers may specify.

(5)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Regulations under subsection (4)(g) may not specify a Minister of the Crown or the governor of a prison or secure training centre (or, in the case of a contracted out prison or secure training centre, its director) unless the Secretary of State consents.

(6)Yn is-adrannau (8) a (9) yn lle “Assembly” rhodder “Welsh Ministers”.

(7)Ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(11)In this section—

  • “care and support” means—

    (a)

    care;

    (b)

    support;

    (c)

    both care and support;

  • “well-being” means well-being in relation to any of the following—

    (a)

    physical and mental health and emotional well-being;

    (b)

    protection from abuse and neglect;

    (c)

    education, training and recreation;

    (d)

    domestic, family and personal relationships;

    (e)

    contribution made to society;

    (f)

    securing rights and entitlements;

    (g)

    social and economic well-being;

    (h)

    suitability of living accommodation;

    (i)

    physical, intellectual, emotional, social and behavioural development;

    and it includes “welfare” as that word is interpreted for the purposes of the Children Act 1989.

(8)O ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan is-adran (4)(b), yn adran 66 o Ddeddf Plant 2004 (rheoliadau a gorchmynion), yn is-adran (7), ar ôl “section” mewnosoder “25 or”.

164Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol

(1)Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(2)Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei angen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(4)Y personau yw—

(a)partner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;

(b)awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG nad yw’n bartner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;

(c)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cais.

(5)Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’r personau hynny a grybwyllwyd yn is-adran (4), wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (5).

(7)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.

165Hyrwyddo integreiddio gofal a chymorth â gwasanaethau iechyd etc

(1)Rhaid i awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol gyda golwg ar sicrhau bod darpariaeth gofal a chymorth yn cael ei hintegreiddio â darpariaeth iechyd a darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd pan fo’n ystyried y byddai hyn yn—

(a)hyrwyddo llesiant—

(i)plant o fewn ardal yr awdurdod,

(ii)oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu

(iii)gofalwyr o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am gymorth,

(b)cyfrannu at atal neu oedi datblygiad anghenion gan blant neu oedolion o fewn ei ardal am ofal a chymorth neu ddatblygiad anghenion gan ofalwyr o fewn ei ardal am gymorth, neu

(c)gwella ansawdd y gofal a’r cymorth i blant ac oedolion, a’r cymorth i ofalwyr, a ddarperir yn ei ardal (gan gynnwys y canlyniadau sy’n cael eu sicrhau drwy ddarpariaeth o’r fath).

(2)Ystyr “darpariaeth gofal a chymorth” yw—

(a)darpariaeth i ddiwallu anghenion plant ac oedolion am ofal a chymorth, a

(b)darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr am gymorth.

(3)Ystyr “darpariaeth iechyd” yw darpariaeth o ran gwasanaethau iechyd fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

(4)Ystyr “darpariaeth sy’n ymwneud ag iechyd” yw darpariaeth o ran gwasanaethau a allai effeithio ar iechyd unigolion ond nad ydynt—

(a)yn wasanaethau iechyd a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd, neu

(b)yn wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(5)Ystyr “gwasanaeth iechyd” yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Trefniadau partneriaeth

166Trefniadau partneriaeth

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i drefniadau partneriaeth penodedig gael eu gwneud gan—

(a)dau neu fwy o awdurdodau lleol, neu

(b)un neu fwy o awdurdodau lleol ac un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol.

(2)Mae trefniadau partneriaeth yn drefniadau ar gyfer cyflawni—

(a)swyddogaethau awdurdod lleol a bennir mewn rheoliadau—

(i)sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, neu

(ii)sydd ym marn Gweinidogion Cymru, yn cael effaith ar, neu yr effeithir arnynt gan, swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu

(b)swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau—

(i)sy’n swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol, neu

(ii)sy’n ymddiriedolaeth GIG.

(3)Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)sy’n pennu’r awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol sydd i gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth;

(b)ynghylch ffurf trefniadau partneriaeth;

(c)ynghylch cyfrifoldeb am drefniadau partneriaeth, a dull eu gweithredu a’u rheoli;

(d)ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng y canlynol—

(i)awdurdodau lleol;

(ii)Byrddau Iechyd Lleol;

(iii)unrhyw dimau neu bersonau sy’n cyflawni trefniadau partneriaeth yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4)(b);

(iv)unrhyw fyrddau partneriaeth a sefydlir o dan reoliadau o dan adran 168.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth—

(a)i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gyflawni unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau a bennwyd at ddibenion is-adran (2) at ddibenion trefniadau partneriaeth;

(b)ar gyfer sefydlu timau neu ar gyfer penodi personau i roi trefniadau partneriaeth ar waith ac ar gyfer neilltuo i’r timau neu’r personau hynny unrhyw un neu rai o’r swyddogaethau a bennwyd at ddibenion is-adran (2);

(c)sy’n pennu’r personau neu’r categorïau o bersonau y mae trefniadau partneriaeth i’w cyflawni er eu lles;

(d)ar gyfer atgyfeirio personau i wasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau partneriaeth.

(5)Mae’r ddarpariaeth a ganiateir ei gwneud o dan is-adran (3)(c) yn cynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau partneriaeth yn cael eu cyflawni o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth a sefydlwyd o dan reoliadau o dan adran 168;

(b)ynghylch adolygu achosion a atgyfeirir yn unol â threfniadau partneriaeth;

(c)ynghylch cwynion ac anghydfodau ynglŷn ag arfer swyddogaethau yn unol â threfniadau partneriaeth;

(d)ynghylch darparu gwybodaeth am drefniadau partneriaeth;

(e)ynghylch cyfrifon ac archwilio mewn cysylltiad â swyddogaethau a gyflawnir yn unol â threfniadau partneriaeth.

(6)Nid yw trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)atebolrwydd Bwrdd Iechyd Lleol am arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau,

(b)atebolrwydd awdurdod lleol am arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau, na

(c)unrhyw bŵer neu ddyletswydd i adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir wrth arfer unrhyw swyddogaethau awdurdod lleol.

167Adnoddau ar gyfer trefniadau partneriaeth

(1)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol dalu tuag at y gwariant a dynnir at ddibenion trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 neu a dynnir yn gysylltiedig â’r trefniadau hynny—

(a)drwy wneud taliadau’n uniongyrchol, neu

(b)drwy gyfrannu at gronfa gyfun.

(2)Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill at ddibenion trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyllido trefniadau partneriaeth, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol yn sefydlu ac yn cynnal cronfa gyfun;

(b)ar gyfer dyfarnu swm y cyfraniadau sydd i’w gwneud gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol i gronfa gyfun;

(c)ynghylch gwariant ar gyfer swyddi neu gategorïau o swyddi a sefydlir at ddiben trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny;

(d)ynghylch gwariant ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau partneriaeth;

(e)ynghylch gwariant ar gyfer gweinyddu trefniadau partneriaeth;

(f)ynghylch gwariant at unrhyw ddiben arall sy’n gysylltiedig â threfniadau partneriaeth.

(4)Yn yr adran hon ystyr “cronfa gyfun” yw cronfa a sefydlwyd ac a gynhaliwyd gan awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol, y caniateir i daliadau gael eu tynnu ohoni tuag at y gwariant a dynnir at ddibenion trefniadau partneriaeth neu’n gysylltiedig â’r trefniadau hynny.

168Byrddau partneriaeth

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 gael ei sefydlu gan—

(a)un neu fwy o awdurdodau lleol,

(b)un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol, neu

(c)un neu fwy o awdurdodau lleol ac un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y canlynol—

(a)aelodaeth byrddau partneriaeth;

(b)talu cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth;

(c)amcanion a swyddogaethau byrddau partneriaeth;

(d)y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan fyrddau partneriaeth;

(e)gwaith llunio adroddiadau gan fyrddau partneriaeth ac ynghylch eu ffurf, eu cynnwys, eu hamseru a’u cyhoeddi.

169Canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166.

(2)Wrth arfer swyddogaethau a roddir iddynt o dan neu yn rhinwedd adrannau 166 i 168 rhaid i’r canlynol roi sylw i’r canllawiau hynny ac i unrhyw ganlyniadau a bennir mewn ddatganiad a ddyroddir o dan adran8 —

(a)awdurdod lleol;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)tîm neu berson sy’n cyflawni trefniadau partneriaeth yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 166(4)(b);

(d)bwrdd partneriaeth a sefydlwyd o dan reoliadau o dan adran 168.

Mabwysiadu

170Gwasanaeth mabwysiadu: trefniadau ar y cyd

Ar ôl adran 3 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewnosoder—

3AWales – joint arrangements

(1)The Welsh Ministers may direct two or more local authorities in Wales to enter into specified arrangements with each other in relation to the provision of specified services maintained under section 3(1).

(2)Before giving a direction under this section the Welsh Ministers must consult the local authorities to which it is to be given.

(3)Specified arrangements may include (among other things) arrangements—

(a)as to the establishment and maintenance of a pooled fund;

(b)as to the provision of staff, goods, services, accommodation or other resources;

(c)for determining the amount of payment or other contribution to be made towards relevant expenditure by the authorities which are parties to the arrangements;

(d)for working in conjunction with registered adoption societies;

(e)as to the responsibility for, and the operation and management of, the arrangements;

(f)as to the establishment and operation of a panel to make recommendations as to—

(i)whether a child should be placed for adoption;

(ii)whether a prospective adopter is suitable to adopt a child;

(iii)whether a particular child should be placed for adoption with a particular prospective adopter;

(g)for resolving complaints about services provided in accordance with the specified arrangements;

(h)as to the determination of disputes between the authorities which are parties to the arrangements.

(4)Where the Welsh Ministers exercise their power of direction under subsection (1) they must within 21 days of the giving of the direction—

(a)report to the National Assembly for Wales that the power has been exercised, and

(b)lay a copy of the direction before the National Assembly for Wales.

(5)In this section—

  • “a pooled fund” is a fund made up of contributions by two or more local authorities out of which payments may be made towards relevant expenditure;

  • “relevant expenditure” is expenditure incurred in connection with the provision of services provided in accordance with the specified arrangements;

  • “specified” means specified in a direction under this section.

RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

171Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ystyried cwynion ynghylch—

(a)y modd y mae awdurdod lleol yn cyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol;

(b)y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny;

(c)y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan awdurdod lleol neu berson arall yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod o dan adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 mewn perthynas â swyddogaethau corff GIG (o fewn ystyr “NHS body” yn yr adran berthnasol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn yn cael ei hystyried gan un neu fwy o’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol y gwneir y gŵyn amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;

(b)panel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;

(c)unrhyw berson neu gorff arall ac eithrio un o Weinidogion y Goron.

(3)Caiff y rheoliadau ddarparu bod cwyn neu unrhyw fater arall a godir gan y gŵyn—

(a)yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r gŵyn neu’r mater o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ac yn cael ei thrin neu ei drin fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan adran 2(3) o’r Ddeddf honno);

(b)yn cael ei chyfeirio neu ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff arall er mwyn i’r person neu’r corff hwnnw ystyried p’un a yw am gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai sydd i’w cymryd o dan y rheoliadau.

(4)Ond ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion y gellir eu hystyried yn sylwadau o dan adran 174 neu 176.

172Cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol: materion atodol

(1)Mae’r canlynol yn enghreifftiau pellach o’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 171.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau a gaiff wneud cwyn;

(b)y cwynion y caniateir, neu na chaniateir, iddynt gael eu gwneud;

(c)y personau y caniateir gwneud cwynion iddynt;

(d)y cwynion nad oes angen iddynt gael eu hystyried;

(e)y cyfnod y mae’n rhaid gwneud unrhyw gwynion ynddo;

(f)y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud ac ystyried cwyn;

(g)materion sydd wedi eu heithrio rhag cael eu hystyried;

(h)llunio adroddiad neu argymhellion ynghylch cwyn;

(i)y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i gŵyn.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson neu gorff y gwneir cwyn amdano i wneud taliad mewn perthynas ag ystyried y gŵyn o dan y rheoliadau,

(b)ei gwneud yn ofynnol bod taliad o’r math hwnnw—

(i)yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a

(ii)yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu a gyfrifir neu a ddyfernir o dan y rheoliadau, ac

(c)ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol ac, os yw hynny’n briodol ym marn y panel, rhoi swm llai yn ei le.

(4)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i berson neu gorff sy’n ystyried cwynion o dan y rheoliadau i roi cyhoeddusrwydd i’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn o dan y rheoliadau.

(5)Caiff y rheoliadau hefyd—

(a)darparu bod gwahanol rannau o gŵyn neu agweddau gwahanol arni yn cael eu trin yn wahanol;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi cwyn i gael ei hystyried yn briodol;

(c)awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i gŵyn yn cael eu datgelu i berson neu gorff sy’n ystyried cwyn o dan y rheoliadau neu y mae cwyn wedi ei chyfeirio ato (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).

(6)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cwynion sy’n codi materion sydd i’w hystyried o dan y rheoliadau a materion sydd i’w hystyried o dan weithdrefnau cwyno statudol eraill; gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) darpariaeth i—

(a)galluogi cwyn o’r fath i gael ei gwneud o dan y rheoliadau, a

(b)sicrhau bod materion sydd i’w hystyried o dan weithdrefnau cwyno statudol eraill yn cael eu trin fel pe baent yn faterion a godwyd mewn cwyn a wnaed o dan y gweithdrefnau priodol.

(7)Yn is-adran (6) ystyr “gweithdrefnau cwyno statudol” yw gweithdrefnau a sefydlwyd gan neu o dan ddeddfiad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

173Cynhorthwy i achwynwyr

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—

(a)gwneud trefniadau i roi cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cwyn o dan reoliadau a wnaed o dan adran 171, a

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.

(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’n rhaid darparu cynhorthwy iddynt;

(b)y math o gynhorthwy y mae’n rhaid ei ddarparu i’r personau hynny;

(c)y personau y caniateir i’r cynhorthwy hwnnw gael ei ddarparu ganddynt;

(d)y cam neu’r camau wrth ystyried cwyn y mae’n rhaid darparu cynhorthwy mewn perthynas ag ef neu hwy;

(e)y math o gyhoeddusrwydd y mae’n rhaid ei roi i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.

174Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc

(1)Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried y canlynol—

(a)sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (3) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaeth gymhwysol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo, neu blentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;

(b)sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (4) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaethau o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig) sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau;

(c)sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (5) yn gymwys iddo ynghylch y modd mae’n cyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.

(2)Mae’r canlynol yn swyddogaethau cymhwysol at ddibenion is-adran (1)(a)—

(a)swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Rannau 3 i 6 (ac eithrio swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn fel gofalwr);

(b)swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Ran 7;

(c)swyddogaethau o dan Ran 4 neu Ran 5 o Ddeddf Plant 1989 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.

(3)Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau ynghylch cyflawni swyddogaethau cymhwysol) yn gymwys i’r canlynol—

(a)y plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu’r plentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;

(b)rhiant y plentyn;

(c)person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(d)rhiant maeth awdurdod lleol y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(5);

(e)darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11);

(f)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(4)Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am gyflawni swyddogaethau penodedig o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989) yn gymwys i’r canlynol—

(a)plentyn y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn perthynas ag ef;

(b)gwarcheidwad arbennig neu riant y plentyn;

(c)person sydd wedi gwneud cais am asesiad o dan adran 14F(3) neu (4) o Ddeddf Plant 1989;

(d)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(5)Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am y modd y mae swyddogaethau penodedig yn cael eu cyflawni o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002) yn gymwys i’r canlynol—

(a)person a grybwyllwyd yn adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (y personau hynny y gwneir darpariaeth ar gyfer eu hanghenion gan y Gwasanaeth Mabwysiadu) ac unrhyw berson arall y mae trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu (o fewn ystyr “adoption services” yn y Ddeddf honno) yn ei rychwantu;

(b)unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn barnu bod ganddo ddiddordeb digonol mewn plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu a allai gael ei fabwysiadu i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(6)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau (yn ddarostyngedig i is-adran (8)) fod y weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon yn sicrhau bod o leiaf un person nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol nac yn swyddog iddo yn cymryd rhan yn y camau a ganlyn—

(a)ystyried unrhyw sylw y mae’r adran hon yn gymwys iddo, a

(b)unrhyw drafodaethau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod am y camau sydd i’w cymryd, o ganlyniad i’r ystyried hwnnw, mewn perthynas â’r person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef.

(7)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.

(8)Caiff y rheoliadau ddarparu (ymhlith pethau eraill) nad yw is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas ag ystyried neu drafod sy’n digwydd er mwyn datrys yn anffurfiol y materion a godwyd mewn sylw.

(9)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.

175Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc: darpariaeth bellach

(1)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo roi ystyriaeth i sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt, gydymffurfio â gofynion a osodwyd gan neu o dan is-adrannau (6) i (8) o’r adran honno.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

(3)Caiff rheoliadau osod terfynau amser ar gyflwyno sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt.

(4)Pan fo sylw wedi ei ystyried o dan weithdrefn a sefydlwyd at ddibenion adran 174, rhaid i awdurdod lleol—

(a)rhoi sylw i ganfyddiadau’r personau a roddodd ystyriaeth i’r sylw, a

(b)cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i hysbysu (yn ysgrifenedig) y personau a grybwyllir yn is-adran (5) am benderfyniad yr awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw ac am unrhyw gamau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd.

(5)Y personau hynny yw—

(a)y person a gyflwynodd y sylw,

(b)y person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef (os yw’n wahanol), ac

(c)unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod yr effeithir arno yn ôl pob tebyg.

(6)Pan fo’r person a grybwyllir yn is-adran (5)(b) neu (c) yn blentyn, dim ond pan fo’r awdurdod lleol o’r farn bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol y mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4)(b) yn gymwys.

176Sylwadau sy’n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etc

(1)Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) a gyflwynir iddo gan bersonau y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 mewn perthynas â’r personau hynny.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i—

(a)personau ifanc categori 2;

(b)personau ifanc categori 3;

(c)personau ifanc categori 4;

(d)personau ifanc categori 5;

(e)personau ifanc categori 6;

(f)personau o dan 25 oed, a fyddai, pe baent o dan 21 oed—

(i)yn bersonau ifanc categori 5, neu

(ii)yn bersonau ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a).

(3)Caiff rheoliadau osod—

(a)gofynion mewn perthynas â’r weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu;

(b)terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau y mae’r weithdrefn yn gymwys iddynt.

(4)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon;

(b)cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodwyd o dan is-adran (3)(a) wrth roi ystyriaeth i sylwadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.

(5)Yn yr adran hon mae i “person ifanc categori 2”, “person ifanc categori 3”, “person ifanc categori 4”, “person ifanc categori 5” a “person ifanc categori 6” yr ystyr a roddir gan adran 104.

177Rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau (gan gynnwys cwynion) sy’n dod o fewn adran 174 neu 176.

(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylw gan banel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;

(b)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth roi ystyriaeth bellach i sylw;

(c)ar gyfer cyflwyno argymhellion ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;

(d)ynghylch llunio adroddiadau am roi ystyriaeth bellach i sylw;

(e)ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol o dan sylw o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;

(f)bod sylw yn cael ei gyfeirio yn ôl at yr awdurdod lleol o dan sylw er mwyn i’r awdurdod ei ailystyried.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud, mewn perthynas â’r ystyriaeth bellach a roddir i sylw, gan awdurdod lleol y mae’r sylw wedi ei wneud amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod y taliad—

(i)yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a

(ii)yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu’n un a gyfrifir neu a ddyfernir oddi tanynt;

(c)ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol a rhoi, os gwêl y panel yn dda, swm llai yn ei le;

(d)darparu bod gwahanol rannau o sylw neu agweddau gwahanol arno yn cael eu trin yn wahanol;

(e)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi sylw i gael ei ystyried yn briodol;

(f)awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i sylw yn cael ei datgelu neu eu datgelu i berson neu gorff sy’n rhoi ystyriaeth bellach i sylw o dan y rheoliadau (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).

(4)Caiff y rheoliadau ddarparu hefyd bod sylw neu unrhyw fater a godir gan sylw—

(a)yn cael ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r sylw neu’r mater o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (ac yn cael ei drin gan yr Ombwdsmon fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan adran 2(3) o’r Ddeddf honno);

(b)yn cael ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff er mwyn i’r person hwnnw neu’r corff hwnnw ystyried p’un a ydynt yn mynd i gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai i’w cymryd o dan y rheoliadau.

178Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy—

(a)i blant sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 174, a

(b)i bersonau sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 176.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys dyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy pan fo’r sylwadau hynny yn cael eu hystyried ymhellach o dan adran 177.

(3)Rhaid i’r cynhorthwy a ddarperir o dan y trefniadau gynnwys cynhorthwy ar ffurf cynrychiolaeth.

(4)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â’r trefniadau.

(5)O ran y rheoliadau—

(a)rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau yn sicrhau nad yw personau penodedig neu gategorïau penodedig o bersonau yn darparu cynhorthwy, a

(b)caniateir iddynt osod gofynion eraill mewn perthynas â’r trefniadau.

(6)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan yr adran hon.

(7)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy o dan yr adran hon.

PENNOD 2CWYNION AM OFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL PREIFAT

179Ymchwilio i gwynion am ofal cymdeithasol a gofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifat

Mae Atodlen 3 (sy’n mewnosod Rhannau 2A a 2B newydd yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 i roi i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion am fathau penodol o ofal cymdeithasol a gofal lliniarol ac sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

180Gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer cwynion am ofal lliniarol a drefnir neu a ariennir yn breifat

(1)Mae adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (gwasanaethau eirioli annibynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a) yn lle “or independent provider” rhodder “, independent provider or independent palliative care provider”,

(b)ym mharagraff (c) hepgorer y geiriau “or the Public Services Ombudsman for Wales”, ac

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(ca)a complaint to the Public Services Ombudsman for Wales which relates to a health service body or independent palliative care provider,.

(3)Yn is-adran (3) mewnosoder yn y man priodol—

  • “independent palliative care provider” means a person who is an independent palliative care provider (within the meaning given by section 34T of the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005),.

PENNOD 3GWASANAETHAU EIRIOLI

181Darparu gwasanaethau eirioli

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol ai peidio); mae hyn yn ddarostyngedig i adran 182.

(2)Mae “gwasanaethau eirioli” yn wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.

(3)Caiff y rheoliadau bennu—

(a)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael iddynt;

(b)yr amgylchiadau y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael odanynt;

(c)y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y caniateir, neu na chaniateir, i wasanaethau eirioli gael eu darparu ganddynt.

(4)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael.

182Darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadau

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i berson—

(a)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 173;

(b)at y diben o gyflwyno sylwadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person o dan adran 178;

(c)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i fod ar gael o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;

(d)at ddibenion y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 332BB o Ddeddf Addysg 1996 neu baragraff 6D o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010;

(e)at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol i fod ar gael o dan adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;

(f)at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(2)Pan—

(a)bo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu ar gyfer person o dan adran 15, 17, 35, 36, 37 neu 38, a

(b)byddai rheoliadau o dan adran 181 (ar wahân i’r is-adran hon) yn gosod gofyniad ar awdurdod lleol i roi gwasanaethau eirioli ar gael i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r un materion,

nid yw’r gofyniad hwnnw yn gymwys.

183Rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofal

Yn adran 22 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (rheoleiddio sefydliadau ac asiantaethau), yn is-adran (7), ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

(m)make provision requiring a person who carries on or manages a care home in Wales to make arrangements to bring to the attention of persons accommodated in the home the advocacy services which are available to those persons by virtue of regulations made under section 181 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.

RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

184Ymchwil a darparu gwybodaeth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon,

(b)â’r swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12),

(c)â swyddogaethau’r Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf hon, neu

(d)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—

(a)ag unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), neu

(b)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.

(3)Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’r awdurdod yn cyflawni unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), a

(b)â’r personau y mae’r awdurdod wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—

(a)â’r modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, a

(b)â’r personau y mae wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bartner arweiniol Bwrdd Diogelu ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad â’r modd y mae’r Bwrdd hwnnw yn cyflawni ei swyddogaethau.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad ag oedolion sydd wedi eu lletya gan y sefydliad neu ar ei ran.

(8)Rhaid cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (4), (5), (6) neu (7) drwy ddarparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adeg sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(9)Caiff yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan is-adran (4) gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â phlant unigol ac sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol, ond dim ond os oes angen yr wybodaeth honno er mwyn llywio—

(a)y broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu

(b)y broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob blwyddyn osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adrannau (4), (5), (6) a (7), ond rhaid i’r crynodeb beidio â chynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.

(11)Yn yr adran hon—

  • ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134, ac

  • ystyr “partner arweiniol Bwrdd Diogelu” (“the lead partner of a Safeguarding Board”) yw’r partner Bwrdd Diogelu a bennir fel y partner arweiniol mewn rheoliadau o dan adran 134.

(12)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1), (2) a (4) yw—

(a)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon;

(b)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol fel partner iechyd meddwl lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

185Oedolion mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc

(1)Wrth ei chymhwyso i oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at gael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid yn yr ardal honno.

(2)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd yng Nghymru, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre a gymeradwywyd yn yr ardal honno.

(3)Wrth ei chymhwyso i oedolyn sy’n preswylio mewn unrhyw fangre arall yng Nghymru am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar yr oedolyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol, mae’r Ddeddf hon yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at breswylio fel arfer mewn ardal yn gyfeiriadau at breswylio mewn mangre yn yr ardal honno am y rheswm hwnnw.

(4)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (5) yn gymwys yn achos oedolyn—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(5)Y darpariaethau yw—

(a)adran 110 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 3);

(b)adran 112 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 4);

(c)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(d)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6).

(6)Nid yw adran 127 (gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion) yn gymwys yn achos oedolyn a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid.

(7)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)oedolion a gedwir yn gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, a

(b)oedolion sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

186Plant mewn llety cadw ieuenctid, carchar neu lety mechnïaeth etc

(1)Yn is-adran (2), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar,

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(c)yn preswylio mewn unrhyw fangre arall am fod gofyniad i wneud hynny wedi ei osod ar y plentyn fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol.

(2)Pan fo plentyn perthnasol, yn union cyn iddo gael ei gollfarnu o drosedd—

(a)ag anghenion am ofal a chymorth sy’n cael eu diwallu gan awdurdod lleol o dan Ran 4,

(b)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn rhinwedd cael llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod, neu

(c)yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol, ond na fo’n dod o fewn paragraff (a) neu (b),

mae’r plentyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw tra bo’n blentyn perthnasol (ac nid yw i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn ardal unrhyw awdurdod lleol arall neu fel pe bai o fewn yr ardal honno).

(3)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 79 (darparu llety i blant mewn gofal);

(b)adran 80 (cynnal plant sy’n derbyn gofal);

(c)adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal);

(d)adran 82 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety);

(e)adran 109 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 2);

(f)adran 114 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 5 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 5);

(g)adran 115 (cymorth ar gyfer pobl ifanc categori 6 a phobl ifanc a fu gynt yn bobl ifanc categori 6);

(h)paragraff 1 o Atodlen 1 (atebolrwydd am gyfrannu tuag at gynhaliaeth plant sy’n derbyn gofal).

(5)Nid yw adran 119 (defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid) yn gymwys—

(a)mewn perthynas â phlentyn sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, na

(b)mewn perthynas â phlentyn sydd wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.

(6)Nid yw’r darpariaethau a nodir yn is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn—

(a)sydd, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(i)yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, neu

(ii)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, a

(b)yr oedd llety’n cael ei ddarparu iddo gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 20 o Ddeddf Plant 1989 yn union cyn iddo gael ei gollfarnu.

(7)Y darpariaethau yw—

(a)adran 21 (dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth);

(b)adran 37 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn);

(c)adran 38 (pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn).

(8)Gweler hefyd adran 187 am addasiadau pellach i ddarpariaethau’r Ddeddf hon mewn perthynas â’r canlynol—

(a)plant a gedwir yn gaeth mewn llety cadw ieuenctid neu garchar, a

(b)plant sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

187Personau mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc

(1)Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd, yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 50 neu 51 (taliadau uniongyrchol) ei gwneud yn ofynnol na chaniatáu i daliadau gael eu gwneud tuag at y gost o ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth os yw’r person hwnnw, ar ôl cael ei gollfarnu o drosedd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

(3)Ni chaniateir i’r pŵer o dan adran 57 (achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol) gael ei arfer yn achos person sydd—

(a)yn cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd,

ac eithrio at y diben o wneud darpariaeth mewn cysylltiad â llety i’r person wrth iddo gael ei ryddhau o’r carchar neu o’r llety cadw ieuenctid (gan gynnwys ei ryddhau dros dro), neu wrth i’r person beidio â phreswylio mwyach yn y fangre a gymeradwywyd.

(4)Nid yw adran 58 (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi) yn gymwys yn achos person—

(a)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid, neu

(b)sy’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd.

188Dehongli adrannau 185 i 187

(1)Yn adrannau 185 i 187—

  • mae i “carchar” yr ystyr a roddir i “prison” yn Neddf Carchardai 1952 (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—

    (a)

    cartref diogel i blant;

    (b)

    canolfan hyfforddi ddiogel;

    (c)

    sefydliad troseddwyr ifanc;

    (d)

    llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant;

    (e)

    llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);

  • mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007;

  • mae i “mechnïaeth mewn achos troseddol” yr ystyr a roddir i “bail in criminal proceedings” gan adran 1 o Ddeddf Mechnïaeth 1976.

(2)At ddibenion adrannau 185 i 187—

(a)mae person sy’n absennol dros dro o garchar neu lety cadw ieuenctid i’w drin fel pe bai’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid am gyfnod yr absenoldeb;

(b)mae person sy’n absennol dros dro o fangre a gymeradwywyd i’w drin fel pe bai’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd am gyfnod yr absenoldeb;

(c)mae person sy’n absennol dros dro o fangre arall y mae’n ofynnol i’r person breswylio ynddi fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol i’w drin fel pe bai’n preswylio yn y fangre am gyfnod yr absenoldeb.

189Methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn y Ddeddf honno) yn methu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli oherwydd methiant busnes.

(2)Rhaid i awdurdod lleol am ba hyd bynnag ag y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol (ac i’r graddau nad yw eisoes yn ofynnol iddo wneud hynny) ddiwallu—

(a)yr anghenion hynny sydd gan oedolyn am ofal a chymorth, a

(b)yr anghenion hynny sydd gan ofalwr perthnasol am gymorth,

a oedd, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y sefydliad neu’r asiantaeth (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 190).

(3)Mae’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) ni waeth—

(a)p’un a yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ei ardal ai peidio;

(b)p’un a yw’r awdurdod wedi cynnal asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio;

(c)p’un a fyddai dyletswydd fel arall ar yr awdurdod i ddiwallu’r anghenion hynny o dan y Ddeddf hon ai peidio.

(4)Caniateir i awdurdod lleol osod ffi am ddiwallu anghenion o dan is-adran (2) (ac eithrio i’r graddau y mae’r anghenion hynny yn cael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth neu gyngor).

(5)Caniateir i ffi o dan is-adran (4)—

(a)cael ei gosod dim ond mewn cysylltiad ag anghenion nad oeddent, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu—

(i)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40, neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, neu

(ii)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52;

(b)cynnwys dim ond y gost y mae’r awdurdod lleol yn ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny.

(6)Mae adrannau 60 i 67, 70, 71 a 73 yn gymwys i osod ffi o dan is-adran (4) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i osod ffi o dan adran 59, ac yn unol â hynny mae pŵer awdurdod lleol i osod ffi o dan yr is-adran honno yn ddarostyngedig—

(a)i’r ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 61 neu 62 (os oes darpariaeth), a

(b)i ddyletswyddau’r awdurdod o dan adrannau 63, 66 ac 67 (os ydynt yn gymwys).

(7)Os nad yw’r person perthnasol yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo ddiwallu anghenion o dan is-adran (2)—

(a)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol arall wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 35 neu 40 neu wrth arfer ei bŵer o dan adran 36 neu 45, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(b)rhaid i’r awdurdod, wrth ddiwallu anghenion o dan yr is-adran honno a oedd yn cael eu diwallu o dan drefniadau y talwyd eu cost yn llwyr neu’n rhannol gan awdurdod lleol arall drwy daliadau uniongyrchol a wnaed yn rhinwedd adran 50 neu 52, gydweithredu â’r awdurdod hwnnw;

(c)caniateir i’r awdurdod adennill oddi wrth yr awdurdod lleol arall a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) y gost y mae’n ei thynnu wrth ddiwallu’r anghenion hynny sydd gan yr oedolyn neu’r anghenion hynny sydd gan y gofalwr perthnasol y cyfeirir atynt yn y paragraff o dan sylw.

(8)Mae unrhyw anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso’r adran hon i’w ddyfarnu o dan adran 195 fel pe bai’n anghydfod o’r math a grybwyllir yn is-adran (1) o’r adran honno.

(9)Yn yr adran hon a (lle y bo’n berthnasol) yn adran 190 a 191—

  • ystyr “gofalwr perthnasol” (“relevant carer”) yw gofalwr—

    (a)

    sy’n oedolyn, a

    (b)

    sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal i oedolyn arall;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth, yw’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â’r sefydliad hwnnw neu’r asiantaeth honno;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

    (a)

    mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion oedolyn am ofal a chymorth, yr oedolyn hwnnw;

    (b)

    mewn achos sy’n ymwneud ag anghenion gofalwr perthnasol am gymorth, yr oedolyn y mae angen gofal arno.

190Methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro

(1)Nid yw’n ofynnol i awdurdod lleol ddiwallu anghenion a oedd, yn union cyn i’r person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli, yn cael eu diwallu—

(a)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014;

(b)o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yn yr Alban wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 12 neu 13A o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 25 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003;

(c)o dan drefniadau a wnaed gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol o dan Erthygl 15 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14)) neu adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002;

(d)drwy ddarparu llety neu wasanaethau y talwyd ei gost neu eu cost yn llwyr neu’n rhannol drwy daliadau uniongyrchol a wnaed—

(i)yn rhinwedd adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001,

(ii)o ganlyniad i’r dewis a wnaed gan yr oedolyn yn unol ag adran 5 o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013, neu

(iii)yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Gofalwyr a Thaliadau Uniongyrchol (Gogledd Iwerddon) 2002.

(2)Wrth ddisgwyl i Ran 1 o Ddeddf Gofal 2014 gychwyn, mae is-adran (1)(a) i’w darllen fel pe bai wedi ei hamnewid gan—

(a)o dan drefniadau a wnaed neu drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarparwyd gan awdurdod lleol yn Lloegr o dan—

(i)