Adran 5– Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw
11.Mae adran 5 yn rhoi pwerau i’r awdurdod lleol werthu’r ceffyl, neu ei waredu fel arall, gan gynnwys gwneud trefniadau i’w ddifa. Rhaid cyflawni’r difa yn y modd mwyaf trugarog a di-boen sy’n bosibl. Mae’r adran hon yn gymwys yn ddarostyngedig i adran 7 (datrys anghydfodau am symiau taladwy).
12.Bydd darpariaethau’r adran hon yn gymwys os nad oes neb, ar ôl y cyfnod o 7 niwrnod sy’n cychwyn naill ai gyda’r dyddiad y gosodir hysbysiad o dan adran 3(1) neu y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (4), wedi hysbysu’r awdurdod lleol naill ai mai ef yw perchennog y ceffyl neu ei fod yn gweithredu ar ran y perchennog. Bydd adran 5 yn gymwys hefyd, yn ddarostyngedig i adran 7, os yw’r perchennog wedi cysylltu â’r awdurdod lleol ond naill ai heb gydymffurfio ag adran 4(1) neu wedi cael hysbysiad o dan adran 4(3) ynglŷn â’i atebolrwydd am gostau a heb dalu’r costau hynny ymhen 7 niwrnod at ôl cael yr hysbysiad hwnnw.
13.Caiff yr awdurdod lleol adennill hefyd unrhyw gostau a dynnir ganddo mewn perthynas ag unrhyw drefniadau ar gyfer gwaredu neu ddifa’r ceffyl o dan yr adran hon. Mae’r adran hon hefyd yn darparu, pan nad oes unrhyw enillion yn codi o waredu'r ceffyl, y caiff yr awdurdod lleol geisio adennill ei gostau wrth waredu'r ceffyl oddi ar y perchennog. Os oes enillion yn deillio o waredu'r ceffyl, ond y costau a dynnir gan yr awdurdod lleol yn fwy na swm yr enillion hynny, mae’r perchennog yn atebol i dalu i’r awdurdod lleol swm y gwahaniaeth rhwng yr enillion hynny a'r costau hynny.
14.Rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r perchennog sy’n datgan y swm sy’n daladwy, ym marn yr awdurdod lleol, gan y perchennog mewn cysylltiad â gwaredu’r ceffyl, ynghyd ag esboniad sut y pennwyd y swm hwnnw.
15.Yn yr hysbysiad hwnnw hefyd, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r perchennog fod hawl ganddo i gyfeirio unrhyw anghydfod ynghylch y costau a hawlir gan yr awdurdod lleol at Weinidogion Cymru, a sut i arfer yr hawl honno.
16.Mae’r adran hon hefyd yn gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn talu i berchennog y ceffyl swm unrhyw enillion sy’n codi o’r gwaredu dros ben swm y costau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â’r gwaredu; ond ni fydd yw’n ofynnol bod yr awdurdod lleol yn gwneud ad-daliad i unrhyw berson arall os yw eisoes wedi gwneud taliad i berson y credai’r awdurdod lleol yn rhesymol mai hwnnw oedd perchennog y ceffyl.