4.Gwneir yn ofynnol bod awdurdod lleol, o fewn 24 awr ar ôl ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, yn gosod hysbysiad ysgrifenedig yn y man yr ymafaelwyd yn y ceffyl, neu gerllaw’r man hwnnw, yn datgan y dyddiad a’r amser yr ymafaelwyd ynddo ac yn rhoi manylion sut y gellir cysylltu â’r awdurdod lleol. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd, o fewn 24 awr ar ôl ymafael mewn ceffyl, roi hysbysiad ysgrifenedig i gwnstabl (er mwyn rhoi gwybod i’r heddlu lleol am y modd y gweithredodd) ac i unrhyw berson sy’n ymddangos ei fod yn berchennog y ceffyl neu’n gweithredu ar ran perchennog y ceffyl.
5.Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ganfod pwy yw perchennog y ceffyl cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymafael yn y ceffyl. Os yw’r awdurdod lleol, o fewn 7 niwrnod ar ôl ymafael mewn ceffyl o dan adran 2, yn darganfod mai person na roddwyd hysbysiad ysgrifenedig iddo o dan y Ddeddf yw perchennog y ceffyl, rhaid i’r awdurdod lleol, o fewn 24 awr, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw. Os dyroddir hysbysiad yn yr amgylchiadau hyn (h.y. hysbysiad a roddir o dan adran 3(4)), mae’r cyfnod o 7 niwrnod yn cychwyn gyda dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
6.Rhaid dyddio hysbysiadau o dan adrannau 3(3) a 3(4) a rhaid iddynt gynnwys disgrifiad o’r ceffyl a’r dyddiad, yr amser a’r man yr ymafaelwyd ynddo, ynghyd â manylion sut y gellir cysylltu â’r awdurdod lleol.
7.Rhaid i hysbysiad i berson y credir ei fod yn berchennog ceffyl, neu’n gweithredu ar ran y perchennog, ddatgan hefyd pam y mae’r awdurdod lleol yn credu bod y person hwnnw naill ai’n berchennog y ceffyl neu’n gweithredu ar ran y perchennog. Rhaid i’r hysbysiad ddatgan effaith gweithredu adran 5 (gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw), gan gynnwys y dyddiad y bydd y pwerau o dan adran 5 (3) yn dod ar gael i werthu’r ceffyl neu ei waredu fel arall (gan gynnwys trefnu i’w ddifa). Rhaid i hysbysiad a ddyroddir i gwnstabl ddatgan hefyd i bwy arall y dyroddwyd hysbysiad.