xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mapiau

3Mapiau llwybrau presennol

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)llunio map llwybrau presennol, a

(b)ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map llwybrau presennol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol.

(3)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(4)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap llwybrau presennol rhaid iddo roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,

(b)y materion sydd i’w dangos arno, ac

(c)ei ffurf.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.

(6)Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol gyflwyno iddynt hefyd—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau (os o gwbl) y mae unrhyw un neu ragor o’r llwybrau teithio llesol a ddangosir arno yn peidio â chydymffurfio â’r safonau a bennir yn y canllawiau a roddir o dan adran 2(6), a

(b)esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod lleol wedi penderfynu, er hynny, ei bod yn briodol iddynt gael eu hystyried yn llwybrau teithio llesol.

(7)Wrth gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon ar unrhyw achlysur ac eithrio’r achlysur cyntaf, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno adroddiad iddynt hefyd yn pennu sut y mae lefel y defnydd o lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn ardal yr awdurdod lleol wedi newid ers yr achlysur blaenorol pan gyflwynodd yr awdurdod lleol fap llwybrau presennol i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—

(a)ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a

(b)ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(9)Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map llwybrau presennol a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt—

(a)ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4) wrth ei lunio, a

(b)ystyried cynnwys y datganiad a’r esboniad a gyflwynwyd o dan is-adran (6).

(10)Unwaith y bydd map llwybrau presennol a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,

(b)caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac

(c)rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ar bob achlysur y caiff map rhwydwaith integredig yr awdurdod lleol ei gyflwyno i’w gymeradwyo o dan adran 4.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu achlysur sy’n wahanol i’r hyn a bennir yn is-adran (10)(c) fel yr achlysur y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map llwybrau presennol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

4Mapiau rhwydwaith integredig

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a)llunio map rhwydwaith integredig, a

(b)ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “map rhwydwaith integredig”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw map sy’n dangos—

(a)y llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig, a

(b)y gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig,

y mae eu hangen ym marn yr awdurdod lleol i ddatblygu neu wella rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig mewn mannau dynodedig yn ei ardal.

(3)Wrth i awdurdod lleol baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid iddo ymgynghori â’r canlynol—

(a)pob person sydd wedi gwneud cais i’r awdurdod lleol ymgynghori ag ef am ei fap llwybrau presennol, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(4)Wrth baratoi ei fap rhwydwaith integredig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ddymunoldeb—

(a)hyrwyddo teithiau teithio llesol, a

(b)sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a’r cyfleusterau cysylltiedig a gwelliannau i’r llwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiedig.

(5)Wrth i awdurdod lleol lunio ei fap rhwydwaith integredig rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr ymgynghoriad a’r camau eraill sydd i’w cymryd wrth ei lunio,

(b)y cyfnod y mae i ymwneud ag ef,

(c)y materion sydd i’w dangos arno, a

(d)ei ffurf.

(6)Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei fap rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo—

(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y daw’r adran hon i rym, neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol yn pennu dyddiad ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw fel y dyddiad y mae rhaid ei gyflwyno iddynt, heb fod yn hwyrach na’r dyddiad hwnnw.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon, cânt drwy gyfarwyddyd a roddir i’r awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol—

(a)ei ddiwygio (neu ei ddiwygio ymhellach), a

(b)ei gyflwyno iddynt i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(8)Wrth i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylent gymeradwyo map rhwydwaith integredig a gyflwynir iddynt gan awdurdod lleol o dan yr adran hon rhaid iddynt ystyried a yw’r awdurdod lleol wedi cydymffurfio ag is-adrannau (3) a (5) wrth ei lunio.

(9)Unwaith y bydd map rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol ei adolygu’n barhaus,

(b)caiff yr awdurdod lleol ei ddiwygio, ac

(c)rhaid i’r awdurdod lleol ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn diwedd pob cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y’i cymeradwywyd ganddynt ddiwethaf.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd a roddir i awdurdod lleol bennu cyfnod sy’n wahanol i’r cyfnod yn is-adran (9)(c) fel y cyfnod y mae rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno map rhwydwaith integredig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn ei ddiwedd.

5Cyhoeddi etc. mapiau

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i fap llwybrau presennol neu fap rhwydwaith integredig a lunnir gan awdurdod lleol gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ei gyhoeddi yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(b)anfon copi yn rhad ac am ddim i’r personau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(c)darparu copi ohono, neu ran ohono, i unrhyw berson ar gais naill ai yn rhad ac am ddim neu am ddim mwy na’r gost o ddarparu’r copi,

(d)peri i gopi fod ar gael i edrych arno (ar bob adeg resymol) yn y mannau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, ac

(e)rhoi hysbysiad, yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, i ddwyn y mannau hynny lle y mae copi ohono ar gael i edrych arno i sylw’r cyhoedd.

(2)Wrth i awdurdod lleol benderfynu ar yr hyn sy’n briodol at ddibenion is-adran (1) rhaid i’r awdurdod lleol hwnnw roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Pan fo awdurdod lleol, mewn perthynas â map llwybrau presennol a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, wedi cyflwyno datganiad ac esboniad iddynt o dan adran 3(6) neu adroddiad o dan adran 3(7), rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ei gyhoeddi yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(b)anfon copi yn rhad ac am ddim i’r personau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol,

(c)darparu copi ohono, neu ran ohono, i unrhyw berson naill ai yn rhad ac am ddim neu am ddim mwy na’r pris o ddarparu’r copi,

(d)peri i gopi fod ar gael i edrych arno (ar bob adeg resymol) yn y mannau hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, ac

(e)rhoi hysbysiad, yn y modd hwnnw sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol, i ddwyn y mannau hynny y mae copi ohono ar gael i edrych arno i sylw’r cyhoedd.

6Datblygu polisïau trafnidiaeth gan roi sylw i fap rhwydwaith integredig

Rhaid i bob awdurdod lleol, wrth ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) neu (2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (polisïau sy’n sail i gynlluniau trafnidiaeth lleol), roi sylw i’r map rhwydwaith integredig ar gyfer ei ardal.