4Cydsynio: oedolion
(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsynio at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person nad yw—
(a)yn oedolyn a eithrir (gweler adran 5), neu
(b)yn blentyn (gweler adran 6).
(2)Ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i’r gweithgaredd oni bai—
(a)bod yr achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3); ac os felly mae’n ofynnol cael cydsyniad datganedig, neu
(b)nad yw’r achos yn un a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn is-adran (3) ac mae is-adran (4) yn gymwys.
(3)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 1, mae ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—
TABL 1
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r person yn fyw. | Cydsyniad y person. |
2. Mae’r person wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y person i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad y person. |
3. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd y person wedi penodi person neu bersonau i ymdrin a’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r person cyn iddo farw. |
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw perthynas neu gyfaill ers amser maith i’r ymadawedig yn gwrthwynebu ar sail barn yr ymadawedig, a
(b)pe byddai person rhesymol yn dod i’r casgliad bod y perthynas neu’r cyfaill yn gwybod mai barn ddiweddaraf yr ymadawedig cyn iddo farw ar gydsynio i weithgareddau trawsblannu oedd bod yr ymadawedig yn gwrthwynebu i gydsyniad gael ei roi.
(5)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at benodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).