Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Troseddau

10Gwahardd gweithgareddau heb gydsyniad

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n gwneud, heb gydsyniad, weithgaredd trawsblannu yng Nghymru.

(2)Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1)—

(a)os yw’r person yn credu yn rhesymol—

(i)ei fod yn gwneud y gweithgaredd â chydsyniad, neu

(ii)nad yw’r hyn y mae’n ei wneud yn weithgaredd trawsblannu;

(b)os yw adran 3(3) (deunydd sydd wedi’i fewnforio) yn gymwys;

(c)os yw adran 13(1) (preserfio deunydd at ei drawsblannu) yn gymwys.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd os yw, yng Nghymru—

(a)yn ymhonni’n dwyllodrus wrth berson y mae’n gwybod neu’n credu ei fod yn mynd i wneud gweithgaredd trawsblannu neu y gall ei wneud—

(i)bod cydsyniad i wneud y gweithgaredd, neu

(ii)nad yw’r gweithgaredd yn weithgaredd trawsblannu, a

(b)yn gwybod bod yr ymhoniad yn anwir neu ddim yn credu ei fod yn wir.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na’r uchafswm statudol;

(b)o’i gollfarnu ar dditiad—

(i)i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 3 blynedd, neu

(ii)i ddirwy, neu

(iii)i’r ddau.

(5)Yn yr adran hon ystyr “cydsyniad” yw’r cydsyniad sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 3.

11Troseddau gan gyrff corfforaethol

(1)Pan fo corff corfforaethol yn cyflawni trosedd o dan adran 10 ac os profir bod y trosedd hwnnw wedi ei gyflawni â chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o’r canlynol, neu y gellir ei briodoli i esgeulustod ar ran unrhyw un o’r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw swyddog oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw un o’r swyddi hynny,

bydd yr unigolyn hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r trosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn a chosb yn unol â hynny.

(2)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)unrhyw swyddog tebyg sydd gan y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

12Erlyn

Ni chaniateir cychwyn achos am drosedd o dan adran 10 ac eithrio drwy neu â chydsyniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.