Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

Biliau preifat

52Hyrwyddo Biliau preifat

(1)Caiff prif gyngor, yn unol â’r adran hon, hyrwyddo Bil preifat—

(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;

(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Dim ond os yw wedi ei fodloni ei bod yn hwylus gwneud hynny y caiff prif gyngor hyrwyddo Bil.

(3)Ond ni chaiff prif gyngor hyrwyddo Bil (p’un ai o dan yr adran hon neu fel arall) ar gyfer —

(a)ffurfio, newid neu ddileu unrhyw ardal llywodraeth leol,

(b)newid statws unrhyw ardal llywodraeth leol,

(c)newid y trefniadau etholiadol ar gyfer unrhyw ardal llywodraeth leol,

(d)ffurfio, newid neu ddileu trefniadau gweithrediaeth, neu

(e)newid y trefniadau ar gyfer ethol maer etholedig.

(4)Rhaid i benderfyniad prif gyngor i hyrwyddo Bil o dan yr adran hon—

(a)cael ei basio mewn cyfarfod o’r prif gyngor gan fwyafrif o gyfanswm ei aelodau, a

(b)cael ei gadarnhau gan fwyafrif cyffelyb mewn cyfarfod pellach o’r fath a gynhelir cyn gynted ag y bo ar ôl 14 diwrnod wedi i’r Bil gael ei adneuo yn Senedd y Deyrnas Unedig neu, yn ôl y digwydd, ei gyflwyno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Rhaid i brif gyngor beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (4) oni bai fod yr amodau yn is-adran (6) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r cyfarfod hwnnw.

(6)Yr amodau yw—

(a)bod y prif gyngor wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a

(b)bod cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.

(7)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (6)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd prif gyngor.

(8)Pan na fo penderfyniad wedi ei gadarnhau o dan is-adran (4)(b), rhaid i’r prif gyngor gymryd pob cam angenrheidiol i dynnu’r Bil yn ôl.

(9)Yn yr adran hon, mae i “trefniadau gweithrediaeth” yr un ystyr ag “executive arrangements” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22).

53Gwrthwynebu Biliau preifat

(1)Caiff awdurdod lleol, yn unol â’r adran hon, wrthwynebu Bil preifat—

(a)yn Senedd y Deyrnas Unedig;

(b)yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Ond dim ond os yw’n hwylus gwneud hynny y caiff awdurdod lleol wrthwynebu Bil.

(3)Rhaid i benderfyniad awdurdod lleol i wrthwynebu Bil o dan yr adran hon gael ei basio mewn cyfarfod o’r awdurdod gan fwyafrif o gyfanswm aelodau’r awdurdod.

(4)Rhaid i awdurdod lleol beidio â chynnal cyfarfod o dan is-adran (3) oni bai fod yr amodau yn is-adran (5) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r cyfarfod hwnnw.

(5)Yr amodau yw—

(a)bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad ynghylch y cyfarfod a’i ddiben mewn un papur newydd o leiaf sy’n cylchredeg yn ei ardal, a

(b)bod cyfnod o 10 niwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod wedi i’r hysbysiad gael ei roi, wedi dod i ben.

(6)Mae’r amod a grybwyllir yn is-adran (5)(a) yn ychwanegol at y gofynion o ran hysbysiadau sydd fel arfer yn gymwys i gyfarfodydd awdurdod lleol.

54Cyfyngu ar daliadau mewn perthynas â hyrwyddo neu wrthwynebu Biliau

Ni chaiff awdurdod lleol wneud taliad i unrhyw un neu ragor o’i aelodau am weithredu fel cwnsler neu asiant i hyrwyddo neu wrthwynebu Bil o dan adran 52 neu 53.