xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ni all person gael ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).
(2)Mae person yn peidio â bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-adran (3).
(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Archwilydd Cyffredinol os yw’r person—
(a)yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;
(b)yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—
(i)y Goron,
(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu
(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;
(d)yn Aelod o Senedd yr Alban;
(e)yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon;
(f)yn gyflogai i Swyddfa Archwilio Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2A. 4 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)