Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

18Dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caniateir i’r Archwilydd Cyffredinol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swydd honno i—

(a)cyflogai i SAC,

(b)person sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

(c)cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, yn gweithredu ar y cyd.

(2)Ond dim ond os yw’r cyflogai neu’r person arall wedi ei awdurdodi (neu, yn achos is-adran (1)(c), os yw’r ddau wedi eu hawdurdodi) i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gynllun a baratowyd gan yr Archwilydd Cyffredinol y caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo.

(3)Rhaid i gynllun ddisgrifio’r amodau y mae rhaid i ddirprwyaeth o dan is-adran (1) gael ei gwneud yn ddarostyngedig iddynt.

(4)Ni chaiff cyflogai neu berson arall ei awdurdodi o dan gynllun oni bai bod y cyflogai neu’r person yn cytuno i gydymffurfio â’r cod ymarfer archwilio a ddyroddir o dan adran 10(1).

(5)Caiff cynllun gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau ar achosion gwahanol.

(6)Caiff yr Archwilydd Cyffredinol ddiwygio cynllun ar unrhyw adeg.

(7)Wrth baratoi neu ddiwygio cynllun rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â SAC.

(8)Os yw cynllun yn gwneud darpariaeth i’r perwyl hwnnw, caniateir i unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol gael ei harfer neu eu harfer ar y cyd gan—

(a)yr Archwilydd Cyffredinol a chyflogai i SAC,

(b)yr Archwilydd Cyffredinol a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC, neu

(c)yr Archwilydd Cyffredinol, cyflogai i SAC a pherson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

(9)Nid yw dirprwyaeth yn gwahardd yr Archwilydd Cyffredinol rhag gwneud unrhyw beth yn bersonol.

(10)Nid yw darpariaeth a wneir o dan is-adran (1) ar gyfer dirprwyo swyddogaeth, neu o dan is-adran (8) ar gyfer arfer swyddogaeth ar y cyd, yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Archwilydd Cyffredinol am y swyddogaeth honno.

(11)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaeth paratoi cynllun o dan yr adran hon.