Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

(cyflwynwyd gan adran 13(2))

ATODLEN 1YMGorffori Swyddfa Archwilio Cymru

RHAN 1AELODAETH A STATWS

Aelodaeth

1(1)Mae SAC i gael 9 aelod.

(2)Dyma hwy—

(a)5 person nad ydynt yn gyflogeion i SAC (“aelodau anweithredol”) (gweler Rhan 2 o’r Atodlen hon),

(b)yr Archwilydd Cyffredinol (gweler Rhan 3 o’r Atodlen hon), ac

(c)3 chyflogai i SAC (“yr aelodau sy’n gyflogeion”) (gweler Rhannau 4 a 5 o’r Atodlen hon).

Penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion

2(1)Mae aelodau SAC (ar wahân i’r Archwilydd Cyffredinol) i’w penodi yn unol â darpariaethau’r Atodlen hon.

(2)Rhaid gwneud pob penodiad ar sail teilyngdod.

(3)Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

(4)Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC os yw’r person yn cael ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

Statws

3(1)Nid yw SAC nac unrhyw un o’i haelodau i’w hystyried neu ei ystyried—

(a)yn was neu’n asiant i’r Goron, na

(b)yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Ond ystyrir bod aelodau SAC yn weision y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

(3)Nid yw eiddo SAC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron neu’n eiddo sy’n cael ei ddal ar ran y Goron.

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i’r Archwilydd Cyffredinol (ac ar gyfer darpariaethau ynglŷn â statws yr Archwilydd Cyffredinol, gweler adran 6).

RHAN 2AELODAU ANWEITHREDOL

Penodi aelodau anweithredol

4(1)Mae aelodau anweithredol i’w penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Rhaid i benodiadau a wneir o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud ar gasgliadau cystadleuaeth deg ac agored.

Penodi cadeirydd ar SAC

5(1)Mae cadeirydd ar SAC i’w benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o blith yr aelodau anweithredol.

(2)Ond cyn penodi’r cadeirydd rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol estyn penodiad o dan y paragraff hwn yn unol â’r weithdrefn sy’n ofynnol ar gyfer y penodiad gwreiddiol.

(4)Mae estyniad i’r penodiad yn cyfrif fel penodiad ar wahân at ddibenion paragraffau 6 i 8.

Cyfnod penodi ac ailbenodi

6(1)Rhaid i benodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fod am gyfnod o hyd at 4 blynedd a dim mwy na hynny.

(2)Ni chaniateir penodi person o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon fwy na dwywaith.

Trefniadau talu cydnabyddiaeth

7(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas â’r person sy’n gadeirydd SAC (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 9).

(2)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) yn cael eu codi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’u talu ohoni.

(4)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth mewn perthynas ag unrhyw aelod anweithredol arall.

(5)Bydd symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (4) yn cael eu talu gan SAC.

(6)Caniateir i drefniadau talu cydnabyddiaeth o dan y paragraff hwn—

(a)darparu ar gyfer cyflog, lwfansau, arian rhodd, a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid, ond nid ar gyfer pensiwn, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(7)Ond ni chaiff unrhyw elfen fod yn seiliedig ar berfformiad.

Telerau penodi eraill

8(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad o dan y Rhan hon o’r Atodlen hon (yn ddarostyngedig i baragraff 9).

(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol)—

(i)y caiff aelod anweithredol eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(ii)y caiff cadeirydd SAC eu dal tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd, a

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad)—

(i)y caiff aelod anweithredol fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(ii)y caiff cadeirydd SAC fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw’n gadeirydd, neu wedi iddo beidio â bod yn gadeirydd.

(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod anweithredol, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hyn.

Ymgynghori

9(1)Cyn gwneud unrhyw drefniadau o dan baragraff 7 neu benderfyniad o dan baragraff 8, rhaid ymgynghori â pherson priodol sydd â goruchwyliaeth dros benodiadau cyhoeddus.

(2)Mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at yr ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 7(2).

Dod â phenodiadau i ben

10(1)Caiff y person sy’n gadeirydd ar SAC ymddiswyddo o’i swydd fel cadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Daw penodiad y person sy’n ymddiswyddo i ben, yn unol ag is-baragraffau (1) neu (2), pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn.

11(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

(2)Os yw’r aelod anweithredol y daw a’i benodiad i ben o dan is-baragraff (1) yn gadeirydd ar SAC, mae penodiad y person hwnnw fel cadeirydd hefyd yn dod i ben.

12(1)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â phenodiad aelod anweithredol fel cadeirydd SAC i ben.

(2)Ond cyn dod â phenodiad i ben rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(3)Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddod â’r penodiad i ben os yw’r person sy’n gadeirydd ar SAC—

(a)wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(b)fel arall yn anfodlon cyflawni swyddogaethau bod yn gadeirydd SAC.

RHAN 3YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol

13(1)Caiff SAC wneud darpariaeth i daliadau ychwanegol gael eu gwneud i’r Archwilydd Cyffredinol drwy lwfansau a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan yr Archwilydd Cyffredinol yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC a phrif weithredwr arni.

(2)Caniateir i daliadau gael eu gwneud o dan is-baragraff (1) yn ychwanegol at y tâl cydnabyddiaeth sy’n daladwy i’r Archwilydd Cyffredinol o dan adran 7.

(3)Mae symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (1) i’w talu gan SAC.

RHAN 4AELODAU SY’N GYFLOGEION

Penodi

14Mae’r aelodau sy’n gyflogeion i gynnwys-

(a)person a benodir yn unol â pharagraff 15 (“yr aelod a benodir”), a

(b)dau berson a benodir yn unol â pharagraff 16 (“yr aelodau etholedig”).

Yr aelod a benodir

15(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person i’r aelodau anweithredol i’w benodi o dan y paragraff hwn.

(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol—

(a)penodi’r person hwnnw, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol argymell person arall (os felly bydd yr is-baragraff hwn yn gymwys dro ar ôl tro hyd nes bod rhywun wedi ei benodi’n aelod).

Yr aelodau etholedig

16(1)Rhaid i SAC gynnal pleidlais o’i staff at ddiben penodi person neu bersonau, yn ôl y digwydd, o dan y paragraff hwn.

(2)Mae’r aelodau etholedig i’w penodi gan yr aelodau anweithredol yn unol â chanlyniad y bleidlais.

(3)Mae penodiad a wneir o dan y paragraff hwn i’w drin fel penodiad ar sail teilyngdod at ddibenion paragraff 2(2) (penodi aelodau SAC ar sail teilyngdod).

Telerau penodi

17(1)Bydd telerau penodi yr aelodau sy’n gyflogeion yn cael eu pennu gan yr aelodau anweithredol.

(2)Caiff y telerau gynnwys trefniadau talu cydnabyddiaeth a all—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person yn rhinwedd ei swydd fel aelod o SAC, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

(3)Ni chaiff y trefniadau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog nac ychwaith, yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), ar gyfer pensiwn.

(4)Bydd y symiau sy’n daladwy o dan is-baragraff (2) yn cael eu talu gan SAC.

(5)Os yw aelod sy’n gyflogai (“A”) yn cyfranogi o gynllun pensiwn o dan delerau cyflogaeth A gyda SAC, rhaid i’r trefniadau talu cydnabyddiaeth (heb effeithio ar barhad y gyflogaeth honno) wneud darpariaethau sy’n sicrhau bod gwasanaeth A fel aelod sy’n gyflogai i’w drin, at ddibenion y cynllun, fel petai’n wasanaeth fel cyflogai i SAC.

Telerau penodi eraill

18(1)Caiff yr aelodau anweithredol bennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad aelod sy’n gyflogai.

(2)Caiff y telerau hynny gynnwys cyfyngiadau ar y canlynol—

(a)y swyddi (gan gynnwys swyddi y caniateir penodi personau iddynt, eu hargymell ar eu cyfer neu eu henwebu ar eu cyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol) y caiff yr aelod sy’n gyflogai eu dal tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod;

(b)y cytundebau a’r trefniadau eraill (gan gynnwys cytundebau a threfniadau gyda’r Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, neu gyrff neu bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad) y caiff yr aelod sy’n gyflogai fod yn barti iddynt tra bo’r person hwnnw yn aelod, neu wedi iddo beidio â bod yn aelod.

(3)Ond dim ond tra bod person yn aelod sy’n gyflogai, ac am uchafswm o 2 flynedd yn dechrau ar y diwrnod y mae person yn peidio â bod yn aelod sy’n gyflogai, y caniateir gorfodi’r cyfyngiadau hynny.

Dod â phenodiad i ben

19Mae penodiad aelod sy’n gyflogai yn dod i ben—

(a)os yw’r telerau penodi yn darparu ei fod yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)beth bynnag yw’r sefyllfa, pan fo’r aelod yn peidio â bod yn gyflogai i SAC.

20(1)Caiff aelod sy’n gyflogai ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

(2)Bydd y penodiad yn dod i ben pan fo’r ymddiswyddiad yn cael ei dderbyn gan yr aelodau anweithredol.

21Caiff yr aelodau anweithredol ddod â phenodiad aelod sy’n gyflogai i ben drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod os—

(a)bu’r aelod yn absennol o gyfarfodydd SAC heb ganiatâd SAC am gyfanswm o 3 mis neu fwy (dros gyfnod neu gyfnodau) mewn unrhyw gyfnod o 12 mis,

(b)yw’r aelod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant â chredydwyr,

(c)yw ystâd yr aelod wedi ei secwestru yn yr Alban neu fod yr aelod wedi ymrwymo i gynllun trefniant dyled o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyled (Yr Alban) 2002 fel dyledwr, neu wedi gwneud, o dan gyfraith yr Alban, gompównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod neu wedi rhoi gweithred ymddiried iddynt,

(d)yw’r aelod yn anaddas i barhau oherwydd camymddygiad,

(e)yw’r aelod wedi methu â chydymffurfio â thelerau’r penodiad, neu

(f)yw’r aelod yn methu â chyflawni ei swyddogaethau fel arall, yn anaddas i’w cyflawni fel arall, neu’n anfodlon eu cyflawni fel arall.

RHAN 5CYFLOGEION

Penodi

22(1)Caiff SAC gyflogi staff.

(2)Ni all person gael ei benodi yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn Rhan 6 o’r Atodlen hon.

(3)Bydd person yn peidio â bod yn aelod o staff SAC os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau hynny.

(4)Bydd staff SAC yn cael eu cyflogi ar y telerau hynny y caniateir i SAC eu penderfynu.

(5)Ni chaiff person sy’n gyflogai i SAC ddal unrhyw swydd y caniateir penodi person iddi, argymell person ar ei chyfer neu enwebu person ar ei chyfer gan neu ar ran y Goron, y Cynulliad Cenedlaethol neu Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol.

Statws

23Nid yw aelod o staff SAC i’w ystyried—

(a)yn was neu’n asiant i’r Goron, neu

(b)yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

24Ond ystyrir bod aelod o staff SAC yn was y Goron at ddibenion Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

Trefniadau talu cydnabyddiaeth

25(1)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i gyflogeion fel y darperir ar ei gyfer gan eu telerau penodi, neu o dan y telerau hynny.

(2)Rhaid i SAC dalu i’r Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, ar yr adegau hynny a benderfynir gan y Gweinidog, daliadau o’r symiau hynny y penderfynir arnynt felly o ran y canlynol—

(a)darparu pensiynau, lwfansau, arian rhodd neu fuddion eraill yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 i, neu mewn perthynas ag, unrhyw berson sydd yn gyflogai i SAC neu sydd wedi peidio â bod yn gyflogai iddi, a

(b)y treuliau yr aed iddynt drwy weinyddu’r pensiynau hynny, y lwfansau hynny, y rhoddion ariannol hynny neu’r buddion eraill hynny.

RHAN 6ANGHYMHWYSO FEL AELOD O SAC NEU GYFLOGAI IDDI

26(1)Ni all person gael ei benodi yn aelod o SAC neu yn gyflogai iddi os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(2)Mae person yn peidio â bod yn aelod o SAC neu yn gyflogai iddi os yw’r person wedi ei anghymhwyso ar unrhyw un o’r seiliau a bennir yn is-baragraff (3).

(3)Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o SAC neu’n gyflogai iddi os yw’r person—

(a)yn Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol;

(b)yn dal unrhyw swydd arall y caniateir i berson gael ei benodi iddi, neu ei argymell ar ei chyfer neu ei enwebu ar ei chyfer, gan neu ar ran y canlynol—

(i)y Goron,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)yn Aelod o Dŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi;

(d)yn Aelod o Senedd yr Alban; neu

(e)yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon.

(4)Mae is-baragraff (3)(b) i’w anwybyddu yn achos yr Archwilydd Cyffredinol.

RHAN 7RHEOLAU GWEITHDREFNOL

Cyffredinol

27Rhaid i SAC wneud rheolau at ddibenion rheoleiddio gweithdrefnau SAC.

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC

28(1)Rhaid i’r rheolau ddarparu am gworwm ar gyfer unrhyw gyfarfodydd SAC (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgorau neu is-bwyllgorau a sefydlir o dan baragraff 29).

(2)Caiff y rheolau ddarparu bod cworymau gwahanol yn gymwys i amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, mewn perthynas â chyfarfodydd penodol neu at ddibenion penodol).

(3)Rhaid i’r rheolau ddarparu na ellir bodloni cworwm ar unrhyw adeg oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol.

Pwyllgorau

29(1)Caiff y rheolau gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer sefydlu pwyllgorau SAC, ac i’r pwyllgorau hynny sefydlu is-bwyllgorau, a

(b)darpariaeth i reoleiddio gweithdrefnau’r pwyllgorau a’r is-bwyllgorau hynny.

(2)Caiff cyflogai i SAC nad yw’n aelod sy’n gyflogai fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.

(3)Caiff person nad yw’n aelod o SAC nac yn gyflogai i SAC fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ar yr amod nad oes dim un o swyddogaethau SAC yn cael ei dirprwyo i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor (gweler paragraff 32).

Cynnal pleidleisiau

30Rhaid i’r rheolau gynnwys darpariaeth ynghylch cynnal pleidleisiau at ddiben penodi aelodau sy’n gyflogeion (gweler paragraff 16).

RHAN 8MATERION ERAILL

Dilysrwydd

31Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan SAC (gan gynnwys unrhyw beth a wneir gan ei haelodau anweithredol, yr aelodau sy’n gyflogeion, unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor, a chan unrhyw gyflogai i SAC) gan—

(a)swydd wag, neu

(b)penodiad diffygiol.

Dirprwyo swyddogaethau

32(1)Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—

(a)unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu

(b)i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

(2)Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.

(3)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.

(4)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.

(5)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—

(a)adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);

(b)adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);

(c)paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);

(d)paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);

(e)paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);

(f)paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

Cyfrifon SAC

33(1)Yr Archwilydd Cyffredinol fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer SAC.

(2)Rhaid i’r swyddog cyfrifyddu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddiau a roddir gan y Trysorlys—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)paratoi datganiad o gyfrifon.

(3)Rhaid i ddatganiad o gyfrifon roi barn wir a theg ar—

(a)cyflwr materion SAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

(b)incwm a gwariant SAC yn ystod y flwyddyn ariannol.

(4)Mae’r cyfarwyddiadau y caiff y Trysorlys eu rhoi yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gyfarwyddiadau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)y materion a’r trafodion ariannol y mae’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon i ymwneud â hwy;

(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(d)yr wybodaeth ychwanegol (os oes gwybodaeth felly) sydd i ddod gyda’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon.

(5)Caiff y cyfarwyddiadau y caniateir i’r Trysorlys eu rhoi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau ac eithrio SAC.

(6)Mae gan swyddog cyfrifyddu SAC, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Archwilio SAC etc

34(1)Y Cynulliad Cenedlaethol sydd i benodi person yn archwilydd cyfrifon SAC, ac i bennu telerau penodi’r person hwnnw.

(2)Caiff SAC argymell person at ddibenion is-baragraff (1).

(3)Dim ond os yw’r person yn archwilydd cymwysedig fel y’i ddiffinnir yn adran 19 y mae person yn gymwys i’w benodi.

(4)Os yw person a benodir yn archwilydd yn peidio â bod yn archwilydd cymwysedig, mae’r person yn peidio â bod yn archwilydd.

(5)Rhaid i’r person a benodir yn archwilydd roi sylw i’r safonau a’r egwyddorion y byddai disgwyl i ddarparwr proffesiynol arbenigol o wasanaethau cyfrifyddu neu archwilio eu dilyn.

(6)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r archwilydd fel y darperir ar ei gyfer gan delerau penodi’r archwilydd, neu o dan y telerau hynny.

35(1)O ran datganiad o gyfrifon a baratoir o dan baragraff 33, rhaid iddo—

(a)cael ei lofnodi gan swyddog cyfrifyddu SAC, a

(b)cael ei gyflwyno gan gadeirydd SAC i’r archwilydd a benodwyd o dan baragraff 34,

heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

(2)Rhaid i’r archwilydd—

(a)ymchwilio i unrhyw ddatganiad o gyfrifon a dderbynnir ganddo o dan is-baragraff (1) a’i ardystio, a

(b)gosod y datganiad o gyfrifon fel y’i hardystiwyd ganddo ynghyd â’i adroddiad arno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r archwilydd, yn benodol, fod yn fodlon, ar ôl ymchwilio i ddatganiad o gyfrifon a gyflwynir iddo—

(a)bod y gwariant yr aed iddo ac y mae a wnelo’r datganiad ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sydd yn ei lywodraethu;

(b)nad yw arian y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a gafodd SAC at ddiben penodol neu at ddibenion penodol, wedi ei wario ond at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny;

(c)bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon;

(d)bod arferion priodol wedi eu dilyn wrth baratoi’r datganiad o gyfrifon.

(4)Mae gan yr archwilydd yr hawl, ar bob adeg resymol, i gael gafael ar bob dogfen yr ymddengys i’r archwilydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwilio’r cyfrifon.

(5)Caiff yr archwilydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am ddogfen o’r fath, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu cyfrifon i’r archwilydd, ar adegau a bennir ganddo, o ran y trafodion hynny (gan y person perthnasol) a bennir gan yr archwilydd.

(6)Ystyr “person perthnasol” yw—

(a)yr Archwilydd Cyffredinol,

(b)SAC, neu

(c)unrhyw berson y mae’r cyfrifon yn ymwneud â’i faterion a’i drafodion ariannol o ganlyniad i baragraff 33(5).

(7)Caiff yr archwilydd—

(a)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol;

(b)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae SAC wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau SAC;

(c)gosod adroddiad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliadau o’r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(8)At ddibenion cynnal ymchwiliadau o’r fath—

(a)mae gan yr archwilydd hawl i gael gafael, ar bob adeg resymol, ar bob dogfen ym meddiant neu o dan reolaeth yr Archwilydd Cyffredinol neu SAC, y mae ar yr archwilydd angen rhesymol amdano at y dibenion hynny;

(b)caiff yr archwilydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am, unrhyw un o’r dogfennau hynny, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny.

Tystiolaeth ddogfennol

36(1)Mae gosod sêl SAC i’w ddilysu â llofnod—

(a)aelod o SAC, neu

(b)cyflogai i SAC a awdurdodwyd (naill ai’n gyffredinol neu’n benodol) ar gyfer y diben hwnnw gan SAC.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl SAC, neu yr honnir ei bod wedi ei llofnodi ar ei rhan—

(a)i gael ei derbyn yn dystiolaeth, a

(b)oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi’i chyflawni neu ei llofnodi felly.

(cyflwynwyd gan adran 16(2))

ATODLEN 2Y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC

RHAN 1COD YMARFER

Paratoi a chymeradwyo etc

1(1)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol baratoi cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

(2)Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio adlewyrchu’r egwyddor a nodir yn adran 8(1) a (2).

(3)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol adolygu’r cod ar y cyd yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol.

(4)Rhaid i’r cod (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(5)At y diben hwn, rhaid i gadeirydd SAC a’r Archwilydd Cyffredinol osod y cod (neu’r diwygiad) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(6)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau gydymffurfio â chod sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol drefnu i god a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi.

Cynnwys

2(1)Rhaid i’r cod gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch sut y mae SAC i fonitro swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(1);

(b)darpariaeth ynghylch sut y mae cyngor i gael ei roi gan SAC i’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(2) (gan gynnwys natur y cyngor sydd i’w roi);

(c)darpariaeth ynghylch safonau ar gyfer llywodraethu corfforaethol.

(2)Caniateir i’r cod gynnwys darpariaeth ynghylch unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.

RHAN 2ADRODDIADAU A DOGFENNAU

Adroddiadau

3(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol, ar y cyd, ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—

(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;

(b)y graddau y cyflawnwyd y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.

(3)O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC lunio hefyd, ar y cyd, adroddiad ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC (“adroddiad interim”).

(4)Rhaid i adroddiad interim gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—

(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;

(b)y graddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.

(5)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC baratoi adroddiad interim ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn ariannol.

(6)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC ar y cyd—

(a)gosod yr adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol;

(b)gosod adroddiadau interim gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiadau i’w pennu o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad.

Dogfennau a gwybodaeth

4(1)Caniateir darparu unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i berson ei darparu i’r Archwilydd Cyffredinol, neu y caniateir ei darparu iddo, i SAC (naill ai gan y person hwnnw neu gan yr Archwilydd Cyffredinol).

(2)At ddibenion adran 3(2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (neu unrhyw reoliadau sy’n disodli’r rheoliadau hynny), mae unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n cael ei dal gan SAC fel y crybwyllir yn adran 21(2)(d) o’r Ddeddf hon i’w thrin fel petai’r ddogfen neu’r wybodaeth yn cael ei dal gan SAC ar ei rhan ei hun.

RHAN 3PERSON ARALL, DROS DRO, YN ARFER SWYDDOGAETHAU’R ARCHWILYDD CYFFREDINOL

5Caiff SAC, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, ddynodi person i arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol dros dro yn lle’r Archwilydd Cyffredinol (“dynodiad dros dro”).

6Ni chaniateir gwneud dynodiad dros dro ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)bod swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn wag,

(b)nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon cyflawni swyddogaethau’r swydd,

(c)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod yr Archwilydd Cyffredinol yn methu â chyflawni swyddogaethau’r swydd, neu

(d)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod seiliau i ddiswyddo’r Archwilydd Cyffredinol oherwydd camymddygiad.

7Mae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)swyddogaethau fel prif weithredwr SAC (gweler adran 16);

(b)os yn berthnasol, swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu SAC (gweler paragraff 33(1) o Ran 8 o Atodlen 1);

(c)y pŵer i ddirprwyo o dan adran 18.

8Rhaid i berson sydd wedi ei ddynodi i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol fod yn gyflogai i SAC.

9Bydd person sydd wedi ei ddynodi i arfer y swyddogaethau hynny yn parhau’n gyflogedig gan SAC ar yr un telerau.

10Ond bydd y person hwnnw yn cael ei ddynodi i arfer swyddogaethau ar y telerau ychwanegol hynny (gan gynnwys telerau talu cydnabyddiaeth) y cytunir arnynt gan SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol.

11Caiff telerau talu cydnabyddiaeth—

(a)darparu ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person wrth arfer y swyddogaethau, a

(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.

12Ond ni chaiff y telerau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog ychwanegol neu bensiwn.

13Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r person fel y darperir ar ei gyfer gan unrhyw delerau ychwanegol o ran talu cydnabyddiaeth y cytunir arnynt, neu o dan y telerau hynny.

14O ran hyd dynodiad dros dro mewn perthynas ag amgylchiad y cyfeirir ato ym mharagraff 6—

(a)ni chaiff fod yn fwy na 6 mis, ond

(b)caniateir i SAC ei estyn unwaith mewn perthynas â’r amgylchiad hwnnw, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, am hyd at 6 mis arall.

(cyflwynwyd gan adran 33(1))

ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed

RHAN 1YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Yr Archwilydd Cyffredinol blaenorol i barhau yn Archwilydd Cyffredinol

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Ar y diwrnod penodedig, ac ar ôl hynny, bydd y person—

(a)yn parhau i fod yn Archwilydd Cyffredinol ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon;

(b)yn dal y swydd honno am 8 mlynedd gan dynnu o’r cyfnod hwnnw gyfnod sy’n hafal i’r amser y bu’r person yn Archwilydd Cyffredinol cyn y diwrnod penodedig.

(3)Bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth i’r person o dan adran 7 yn cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y diwrnod penodedig (ond nid ydynt i gwmpasu unrhyw gyfnod cyn y diwrnod penodedig).

(4)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.

Arbedion ar gyfer archwilwyr a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn y daw adran 11 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru) i rym, bydd penodiad person fel archwilydd mewn perthynas â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru yn cael effaith o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(2)Bydd y penodiad hwnnw o’r person fel archwilydd yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer (oni ddaw’r penodiad i ben yn gynnar).

(3)Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gyda’r addasiadau canlynol, yn gymwys mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn parhau yn rhinwedd is-baragraff (2)—

(a)bydd Rhan 2 ac adran 64E(4) yn cael effaith fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon, a

(b)bydd adran 20 yn cael effaith fel pe bai pob cyfeiriad at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfeiriad at SAC (a bydd unrhyw raddfa ffioedd sydd eisoes wedi ei rhagnodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran honno yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r archwilydd y mae ei benodiad i barhau tan ei bod yn cael ei hamrywio neu’n cael ei disodli gan raddfa a ragnodwyd gan SAC, ac oni bai fod hynny’n digwydd).

(4)Mae darpariaethau canlynol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn cael effaith mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn cael ei barhau gan is-baragraff (2) fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon—

(a)adran 16(2)(e);

(b)adran 25(5)(b).

Arbedion yn ymwneud â chyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth

3(1)Pan fo gwybodaeth wedi ei chael gan—

(a)archwilydd a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf honno sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon,

(b)person sy’n gweithredu ar ei ran, neu

(c)person sy’n gweithredu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol o dan ddarpariaeth unrhyw un o’r deddfiadau a ganlyn sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon—

(i)adran 145C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998,

(ii)Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999,

(iii)Rhan 1 neu Ran 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, neu

(iv)Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009,

nid effeithir ar y modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu gan ddiwygiad i’r ddarpariaeth honno.

(2)I’r graddau y mae’n angenrheidiol ar gyfer parhau’r modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu, bydd gwybodaeth sydd wedi ei chael mewn modd a grybwyllir yn is-baragraff (1) i’w thrin yn yr un modd a gwybodaeth sydd wedi ei chael gan yr Archwilydd Cyffredinol.

RHAN 2SAC

Rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys tan y gwneir y rheolau cyntaf o dan baragraff 27 o Atodlen 1.

(2)Penderfynir ar unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan SAC (gan gynnwys unrhyw fater sydd i’w benderfynu at ddibenion paratoi neu wneud y rheolau hynny) yn unol â’r weithdrefn a bennir gan gadeirydd SAC (a all gynnwys y weithdrefn ar gyfer pennu cworwm ar gyfer unrhyw gyfarfod y mae’r mater i’w benderfynu ynddo).

RHAN 3TROSGLWYDDO SWYDDOGAETHAU ETC

Trosglwyddo staff

5(1)Ar y diwrnod penodedig bydd staff yr Archwilydd Cyffredinol yn cael eu trosglwyddo i gyflogaeth SAC.

(2)At unrhyw ddiben mewn perthynas â pherson a ddaw’n gyflogai i SAC yn rhinwedd is-baragraff (1)—

(a)o ran contract cyflogaeth y person hwnnw—

(i)nid yw’n cael ei derfynu gan y trosglwyddo, a

(ii)mae’n cael effaith o’r diwrnod penodedig fel pe byddai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a SAC;

(b)mae cyfnod cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig—

(i)i’w drin fel cyfnod o gyflogaeth gyda SAC, a

(ii)i’w drin fel cyfnod cyflogaeth di-dor fel aelod o staff SAC at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

(3)Heb ragfarnu is-baragraff (2), pan fo person yn dod yn gyflogai i SAC yn rhinwedd is-baragraff (1)—

(a)trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gontract cyflogaeth y person hwnnw, ac mewn cysylltiad â’i gontract, i SAC, a

(b)mae unrhyw beth a wnaed cyn y diwrnod penodedig gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r person neu â’r contract i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi.

(4)Ni throsglwyddir contract cyflogaeth (na hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef) o dan y paragraff hwn os yw cyflogai yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad ac yn hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC o’r gwrthwynebiad hwnnw.

(5)Os yw cyflogai yn hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC ei fod yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad o dan is-baragraff (4)—

(a)terfynir y contract cyflogaeth yn union cyn y diwrnod penodedig, ond

(b)nid yw’r cyflogai i’w drin, at unrhyw ddiben, fel petai wedi cael ei ddiswyddo gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(6)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan berson i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol (ar wahân i newid cyflogwr) sy’n niweidiol i’r person o ran ei amodau gwaith.

(7)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.

Amrywiadau mewn contractau cyflogaeth

6(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo amrywiad honedig yng nghontract cyflogaeth—

(a)cyflogai i’r Archwilydd Cyffredinol;

(b)cyflogai i SAC y trosglwyddwyd ei gyflogaeth o dan baragraff 5.

(2)Mae’r amrywiad yn ddi-rym os yr unig neu’r prif reswm dros amrywio’r contract yw—

(a)y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1), neu

(b)rheswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad nad yw’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu.

(3)Nid oes dim yn y paragraff hwn sy’n rhwystro amrywiad os yr unig neu’r prif reswm dros yr amrywiad yw—

(a)rheswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad sy’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu, neu

(b)rheswm nad yw’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad.

Cydgytundebau

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo cydgytundeb a wneir gan neu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol yn bodloni’r amodau a bennir yn is-baragraff (2).

(2)Yr amodau yw bod y cytundeb—

(a)yn bodoli ar adeg y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1),

(b)wedi ei wneud gydag undeb llafur a gydnabyddir gan yr Archwilydd Cyffredinol, ac

(c)yn gymwys mewn cysylltiad â chyflogai y trosglwyddwyd ei gyflogaeth o dan baragraff 5(1) (“cyflogai a drosglwyddwyd”).

(3)Ar ôl y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1)—

(a)mae’r cytundeb, o’i gymhwyso mewn perthynas â chyflogai a drosglwyddwyd, i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud gyda’r undeb llafur gan neu ar ran SAC, a

(b)mae unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad o dan y cytundeb neu mewn cysylltiad ag ef o ran cyflogai a drosglwyddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â SAC.

(4)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhagfarnu cymhwyso adrannau 179 a 180 o Ddeddf 1992 (cydgytundebau y tybir nad oes modd eu gorfodi o dan amgylchiadau penodol) i’r cytundeb.

(5)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “cydgytundeb” yr un ystyr â “collective agreement” yn Neddf 1992,

  • mae i “cydnabod” yr ystyr a roddir i “recognised” yn adran 178(3) o Ddeddf 1992,

  • ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, ac

  • mae i “undeb llafur” yr un ystyr â “trade union” yn Neddf 1992.

Cydnabod undebau llafur

8(1)Pan oedd undeb llafur annibynnol wedi ei gydnabod gan yr Archwilydd Cyffredinol i unrhyw raddau cyn y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1) mewn perthynas ag unrhyw gyflogai y trosglwyddwyd ei gyflogaeth, ar ôl y trosglwyddiad—

(a)mae’r undeb hwnnw i’w drin fel pe bai wedi ei gydnabod gan SAC i’r un graddau mewn perthynas â’r cyflogeion hynny, a

(b)caniateir i unrhyw gytundeb ar gyfer cydnabyddiaeth gael ei amrywio neu ei ddad-wneud yn unol â hynny.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “cydnabod” yr ystyr a roddir i “recognised” yn adran 178(3) o Ddeddf 1992,

  • mae i “undeb llafur annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent trade union” yn adran 5 o Ddeddf 1992, ac

  • ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.

Diswyddo mewn perthynas â throsglwyddo

9(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys—

(a)i gyflogai i’r Archwilydd Cyffredinol;

(b)i gyflogai i SAC y trosglwyddir ei gyflogaeth o dan baragraff 5.

(2)Os diswyddir cyflogai y mae’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, mae’r cyflogai hwnnw i’w drin fel petai wedi cael ei ddiswyddo’n annheg at ddibenion Rhan X o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 os yr unig reswm neu’r prif reswm dros y diswyddiad yw—

(a)y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1), neu

(b)rheswm sy’n gysylltiedig â‘r trosglwyddiad nad yw’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu.

(3)Os diswyddir cyflogai y mae’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, mae’r rheswm dros y diswyddiad hwnnw i’w drin at ddibenion adrannau 98(1) a 135 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (rheswm dros ddiswyddo) fel petai wedi bod am fod y swydd wedi ei dileu os yr unig reswm neu’r prif reswm dros y diswyddiad yw rheswm sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1) sy’n rheswm economaidd, technegol neu sefydliadol sy’n peri newidiadau yn y gweithlu.

(4)Nid yw is-baragraff (3) yn rhagfarnu cymhwysiad adran 98(4) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (prawf ar gyfer diswyddiad teg).

(5)Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys os yw cymhwyso adran 94 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (yr hawl i beidio â chael eich diswyddo’n annheg) i’r diswyddiad wedi ei eithrio gan neu o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau yn y Ddeddf honno, Deddf Tribiwnlysoedd Cyflogaeth 1996 neu Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.

Trosglwyddo eiddo arall a hawliau a rhwymedigaethau eraill

10(1)Ar y diwrnod trosglwyddo, trosglwyddir i SAC yr eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau y mae gan yr Archwilydd Cyffredinol hawl iddynt, neu y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ddarostyngedig iddynt mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, a byddant wedi eu breinio yn SAC o’r diwrnod hwnnw ymlaen.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gweithredu mewn perthynas ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(a)p’un a ellid fod wedi eu trosglwyddo fel arall ai peidio;

(b)ni waeth pa fath o ofyniad am gydsyniad a fyddai’n gymwys fel arall.

(3)Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu

(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,

ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan yr Archwilydd Cyffredinol, neu mewn perthynas ag ef, yn union cyn y diwrnod trosglwyddo, barhau i gael ei wneud o’r diwrnod hwnnw ymlaen gan SAC neu mewn perthynas â hi.

(4)Bydd unrhyw beth a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef at ddibenion y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu

(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,

ac sydd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod trosglwyddo yn cael effaith fel petai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi o’r diwrnod hwnnw ymlaen.

(5)Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â’r canlynol—

(a)unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir, neu

(b)unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddir yn rhinwedd is-baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a drosglwyddir,

ac sydd wedi eu gwneud neu eu cychwyn cyn y diwrnod trosglwyddo, mae cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel cyfeiriad at SAC neu fel petai’n cynnwys cyfeiriad at SAC.

(6)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol a drosglwyddir i SAC yn rhinwedd paragraff 5.

(7)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”), mewn perthynas â swyddogaeth a drosglwyddir, yw’r diwrnod pan ddaeth y swyddogaeth yn arferadwy gan SAC am y tro cyntaf;

  • ystyr “swyddogaeth a drosglwyddir” (“transferred function”) yw swyddogaeth—

    (a)

    a roddir i SAC neu a osodir arni gan ddarpariaeth o’r Ddeddf hon sydd yn ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) ddarpariaeth o unrhyw ddeddfiad a roddodd yr un swyddogaeth neu swyddogaeth sylweddol debyg i’r Archwilydd Cyffredinol neu a osododd swyddogaeth felly arno, neu

    (b)

    a roddir i SAC neu a osodir arni gan unrhyw ddeddfiad o ganlyniad i ddiwygio’r deddfiad hwnnw gan y Ddeddf hon neu odani.

11(1)Mae tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn nodi bod eiddo wedi ei drosglwyddo yn rhinwedd paragraff 10(1) yn dystiolaeth bendant o’r trosglwyddiad.

(2)Mae paragraff 10 yn cael effaith mewn perthynas ag eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae’n gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai fel arall yn rhwystro neu’n cosbi trosglwyddiad yr eiddo, yr hawliau neu’r rhwymedigaethau neu’n cyfyngu ar eu trosglwyddo.

(3)Nid oes hawl i ragbrynu, hawl i ddychwelyd na hawl arall debyg yn gweithredu nac yn dod yn arferadwy o ganlyniad i unrhyw drosglwyddiad eiddo neu hawliau yn rhinwedd paragraff 10(1).

(4)Mae unrhyw hawl o’r fath yn cael effaith yn achos unrhyw drosglwyddiad o’r fath fel pe bai’r trosglwyddwr a’r trosglwyddai yn un person yn gyfreithiol ac nad oedd eiddo na hawliau wedi eu trosglwyddo.

(5)Telir y symiau digolledu hynny sy’n gyfiawn i unrhyw berson o ran unrhyw hawl o’r fath a fyddai, ar wahân i is-baragraff (3), wedi gweithredu o blaid y person hwnnw neu wedi dod yn arferadwy ganddo, ond na all weithredu o blaid y person hwnnw na dod yn arferadwy ganddo bellach oherwydd gweithrediad yr is-baragraff hwnnw.

(6)Ond ni thelir symiau digolledu o dan is-baragraff (5) i’r Archwilydd Cyffredinol, i SAC nac i gyn-Archwilydd Cyffredinol.

(7)Mae symiau digolledu sy’n daladwy yn rhinwedd is-baragraff (5) i’w talu gan SAC.

(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (7) i’w godi ar Gronfa Gyfunol Cymru a’i dalu ohono.

(9)Mae is-baragraffau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â chreu hawliau neu fuddiannau, neu wneud unrhyw beth arall mewn perthynas ag eiddo, fel y maent yn gymwys o ran trosglwyddo eiddo, ac mae cyfeiriadau at y trosglwyddwr a’r trosglwyddai i’w darllen yn unol â hynny.

(10)Yn y paragraff hwn, ystyr “hawl i ddychwelyd” yw unrhyw hawl o dan ddarpariaeth ar gyfer dychweliad neu rifersiwn eiddo mewn amgylchiadau penodol.

Atebolrwydd troseddol yr Archwilydd Cyffredinol

12(1)I’r graddau y mae unrhyw atebolrwydd troseddol sydd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn gysylltiedig ag eiddo, hawliau neu rhwymedigaethau a drosglwyddir i SAC yn rhinwedd paragraff 10, mae’r atebolrwydd troseddol hefyd yn cael ei drosglwyddo i SAC.

(2)Mae paragraff 10(3) i (5) yn gymwys mewn perthynas ag atebolrwydd troseddol a drosglwyddir yn rhinwedd y paragraff hwn fel y mae’n gymwys i atebolrwydd a drosglwyddir yn rhinwedd paragraff 10(1).

Indemnio

13(1)Mae’r rhwymedigaethau sydd wedi eu cwmpasu gan adran 29 yn cynnwys—

(a)rhwymedigaethau sy’n codi cyn i’r adran honno ddod i rym, a

(b)rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anweithred a ddigwyddodd cyn i’r adran honno ddod i rym.

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan—

(a)daw swm yn dyladwy gan gyn-Archwilydd Cyffredinol a benodwyd cyn i adran 2 ddod i rym, a

(b)byddai’r swm hwnnw wedi ei godi ar Gronfa Gyfunol Cymru o dan baragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 cyn i’r paragraff hwnnw gael ei ddiddymu gan y Ddeddf hon.

(3)Mae paragraff 9(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn parhau i gael effaith o ran y person hwnnw a’r swm hwnnw fel pe na bai’r diddymiad wedi dod i rym.

(cyflwynwyd gan adran 34)

ATODLEN 4Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Deddf Blwydd-daliadau 1972

1Yn Atodlen 1 i Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (swyddi y mae adran 1 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddynt), yn y rhestr “Other bodies” yn lle “Employment as a member of the staff of the Auditor General for Wales” rhodder “Employment as a member of the staff of the Wales Audit Office”.

Deddf Cyllid 1989

2Yn adran 182 o Ddeddf Cyllid 1989 (datgelu gwybodaeth), yn is-adran (4)(a), ar ôl is-baragraff (iii), mewnosoder—

(iiia)of the Wales Audit Office and any member or employee of that Office,.

Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992

3Yn is-adran (8) o adran 123 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (datgelu gwybodaeth heb awdurdod mewn perthynas â phersonau penodol), ar ôl paragraff (ba), mewnosoder—

(bb)any member of the staff of the Wales Audit Office, and any person providing services to that Office.

Deddf Addysg 1997

4Yn adran 41A o Ddeddf Addysg 1997 (arolygiadau sy’n ymwneud â chydweithrediad Archwilydd Cyffredinol Cymru), yn is-adran (6), yn lle “the Auditor General for Wales an amount equal to the full costs incurred by the Auditor General for Wales in providing the assistance” rhodder “the Wales Audit Office a fee, in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013 (which may not exceed the full cost incurred by the Auditor General in providing the assistance)”.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998

5Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

6(1)Mae adran 145C wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), hepgorer “or on his behalf”.

(3)Yn is-adran (3) (astudiaethau yn ymwneud â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig), yn lle “make good to the Auditor General for Wales the full costs incurred by him in undertaking the programme” rhodder “pay to the Wales Audit Office a sum with respect the costs incurred (which may not exceed the full cost incurred in undertaking the programme), in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

(4)Ar ôl is-adran (9), mewnosoder—

(10)In this section, a reference to a person acting on behalf of the Auditor General for Wales is a reference to a person acting on the Auditor’s behalf by virtue of a delegation made under section 18 of the Public Audit (Wales) Act 2013..

7(1)Mae adran 145D (cymorth a chyngor i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), yn lle “the Auditor General for Wales thinks fit” rhodder “the Wales Audit Office thinks fit, but any terms as to payment may only be made in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

(3)Ar ôl is-adran (2), mewnosoder—

(2A)Any sums charged in relation to advice or assistance provided under this section may not exceed the full cost of providing that advice or assistance..

(4)Yn is-adran (3), yn lle “paragraph 21 of Schedule 8 to the Government of Wales Act 2006 (arrangements between Auditor General for Wales and certain bodies)” rhodder “section 19 of the Public Audit (Wales) Act 2013 (arrangements for the provision of services between the Wales Audit Office and certain bodies)”.

8Yn is-adran (2) o adran 146 (trosglwyddo swyddogaethau’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol), ym mharagraff (b), ar ôl “the Auditor General for Wales,” mewnosoder “the Wales Audit Office,”.

Deddf Llywodraeth Leol 1999

9Mae Deddf Llywodraeth Leol 1999 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

10Yn is-adran (7) o adran 11 (pwerau a dyletswyddau arolygwyr), hepgorer paragraff (b).

11Hepgorer adran 12A (ffioedd: arolygiadau o dan adran 10A).

12Hepgorer adran 13A (adroddiadau ar arolygiadau o dan adran 10A).

13Yn is-adran (7) o adran 23 (cyfrifon), hepgorer “or the Auditor General for Wales”.

14Yn is-adran (2) o adran 25 (cydgysylltu arolygiadau etc), hepgorer paragraff (aa).

15Yn adran 26 (canllawiau), hepgorer is-adran (3A).

16Yn lle paragraff (b) o adran 33(3) (cyllid), rhodder—

(b)the Wales Audit Office in respect of expenditure incurred or to be incurred by the Auditor General for Wales under the Local Government (Wales) Measure 2009..

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

17Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

18(1)Mae is-adran (5) o adran 36 (gwybodaeth esempt: rhagfarnu cynnal materion cyhoeddus yn effeithiol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (gb), ar ôl “the Auditor General for Wales” mewnosoder “, the Wales Audit Office”.

(3)Ym mharagraff (k) ar ôl y cyfeiriad cyntaf at “the Auditor General for Wales”, mewnosoder “or the Wales Audit Office”.

19Yn Rhan 6 o Atodlen 1 (cyrff cyhoeddus y mae’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt - cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), mewnosoder yn y man priodol “the Wales Audit Office”.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

20Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

21Hepgorer adran 14 (penodi archwilwyr) a 15 (personau i gynorthwyo archwilwyr).

22Hepgorer adran 16 (cod ymarfer archwilio).

23(1)Mae adran 17 (dyletswyddau cyffredinol archwilwyr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), yn lle “An auditor must” rhodder “The Auditor General for Wales must”.

(3)Hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(4)Yn unol â hynny, pennawd adran 17 bellach fydd “General duties on audit of accounts”.

24Hepgorer adran 18 (hawl archwilwyr i ddogfennau a gwybodaeth) ac 19 (hawl archwilwyr i ddogfennau a gwybodaeth: troseddau).

25(1)Mae adran 20 (ffioedd am archwiliad) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Cyn is-adran (1), mewnosoder—

(A1)The Wales Audit Office must, in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013, charge a fee in respect of functions exercised by the Auditor General for Wales—

(a)in auditing the accounts of local government bodies in Wales under this Chapter, and

(b)in undertaking studies at the request of a local government body under section 44..

(3)Yn unol â hynny, pennawd adran 20 bellach fydd “Fees in respect of functions exercised by the Auditor General for Wales”.

(4)Yn is-adran (1), yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.

(5)Yn is-adran (2)—

(a)yn lle “the Auditor General for Wales” bob tro y mae’r geiriau hynny’n ymddangos rhodder “the Wales Audit Office”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “of local authorities” rhodder “of local government bodies”;

(c)yn lle paragraff (b), rhodder—

(b)such other persons as the Wales Audit Office thinks fit..

(6)Hepgorer is-adran (3).

(7)Yn is-adran (4), yn lle “the Auditor General for Wales” rhodder “the Wales Audit Office”.

(8)Yn is-adran (5)—

(a)yn lle “the Auditor General for Wales” bob tro y mae’r geiriau hynny’n ymddangos rhodder “the Wales Audit Office”;

(b)hepgorer “him when prescribing”.

(9)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A)But a fee charged under this section may not exceed the full cost of exercising the function to which it relates..

(10)Hepgorer is-adran (6).

26Hepgorer adran 21 (ffioedd a ragnodir gan y Cynulliad).

27(1)Mae adran 22 (adroddiadau di-oed ac adroddiadau eraill er budd y cyhoedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle pob cyfeiriad at “an auditor” neu “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(3)Yn is-adran (5), hepgorer “, and a copy of the report to the Auditor General for Wales,”.

(4)Yn is-adran (6), hepgorer “, and a copy of the report to the Auditor General for Wales,”.

28Yn adran 23 (adroddiad cyffredinol), yn lle pob cyfeiriad at “an auditor” neu “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

29Yn adran 24 (ystyried adroddiadau er budd y cyhoedd), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

30(1)Mae adran 25 (y weithdrefn i ystyried adroddiadau ac argymhellion) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), yn lle “an auditor of” rhodder “the Auditor General for Wales, in auditing”.

(3)Yn is-adran (4), yn lle “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(4)Yn is-adran (6), yn lle “An auditor” rhodder “The Auditor General for Wales”.

31Yn adran 26 (cyhoeddusrwydd ar gyfer cyfarfodydd o dan adran 25), yn lle pob cyfeiriad at “an auditor” neu “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

32(1)Mae adran 27 (cyhoeddusrwydd ychwanegol ar gyfer adroddiadau di-oed) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(3)Yn is-adran (5), yn lle “An auditor who has made a report under section 22(3)” rhodder “The Auditor General for Wales”.

33(1)Mae adran 28 (cyhoeddusrwydd ychwanegol ar gyfer adroddiadau nad ydynt yn ddi-oed) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Am bob cyfeiriad at “an auditor” neu “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(3)Hepgorer is-adran (4).

34(1)Mae adran 29 (edrych ar ddatganiadau o gyfrifon ac adroddiadau archwilwyr) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (b) o is-adran (1), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(3)Yn unol â hynny pennawd adran 29 bellach fydd “Inspection of statements of accounts and Auditor General for Wales’ reports”.

(4)Yn unol â hynny y croesbennawd cyn adran 29 bellach fydd “Public inspection etc and action by the Auditor General for Wales”.

35(1)Mae adran 30 (edrych ar ddogfennau a chwestiynau mewn archwiliad) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2)—

(a)yn lle “the auditor of those accounts” rhodder “the Auditor General for Wales”, a

(b)yn lle “the auditor” rhodder “the Auditor General”.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “a body’s auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

36Yn adran 31 (yr hawl i wneud gwrthwynebiad mewn archwiliad), am bod cyfeiriad at “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

37(1)Mae adran 32 (datganiad bod eitem cyfrif yn anghyfreithlon) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales in”, a

(b)yn lle “the auditor” rhodder “he”.

(3)Yn is-adran (4), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(4)Yn is-adrannau (6) i (9), yn lle pob cyfeiriad at “an auditor” neu “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

38(1)Mae adran 33 (hysbysiadau cynghori) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)yn lle “An auditor of accounts of a local government body in Wales” rhodder “The Auditor General for Wales”, a

(b)ar ôl “is met” mewnosoder “with respect a local government body in Wales”.

(3)Ym mharagraff (d) o is-adran (4), yn lle “the auditor of the body’s accounts” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(4)Ym mharagraff (c) o is-adran (6), yn lle “the auditor by whom the notice is issued” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(5)Yn is-adran (7), yn lle “The auditor by whom an advisory notice is issued” rhodder “The Auditor General for Wales”.

(6)Yn is-adran (10), yn lle “the person who for the time being is the auditor of the body to which, or to an officer of which, the notice was addressed” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(7)Yn is-adran (11), yn lle “The auditor by whom an advisory notice is withdrawn” rhodder “The Auditor General for Wales”.

(8)Hepgorer is-adran (12).

39(1)Mae adran 34 (effaith hysbysiad cynghori) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (b) o is-adran (5), yn lle “the person who is for the time being the auditor of the body’s accounts” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(3)Yn is-adran (8)—

(a)yn lle “An auditor” rhodder “The Wales Audit Office”, a

(b)yn lle “by him” rhodder “by the Auditor General for Wales”.

40Yn is-adran (3) o adran 35 (hysbysiadau cynghori: camau cyfreithiol), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

41(1)Mae adran 36 (pŵer archwilydd i wneud hawliad am adolygiad barnwrol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)yn lle “An auditor appointed to audit accounts of a local government body in Wales” rhodder “The Auditor General for Wales”, a

(b)yn lle’r cyfeiriad cyntaf at “the body” rhodder “a local government body in Wales”.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”.

(4)Yn is-adran (4)—

(a)yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales”, a

(b)yn lle “the auditor” rhodder “the Auditor General for Wales or the Wales Audit Office”.

42(1)Mae adran 37 (archwiliad eithriadol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle pob cyfeiriad at “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3)Yn is-adran (1), hepgorer “direct an auditor to”.

(4)Yn is-adran (4), hepgorer “direct an auditor to”.

(5)Yn is-adran (5), hepgorer paragraff (a).

(6)Yn is-adran (8), yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.

43Yn is-adran (2) o adran 38 (archwilio cyfrifon swyddogion), yn lle “The auditor of a body’s accounts” rhodder “the Auditor General for Wales”.

44(1)Mae adran 39 (rheoliadau cyfrifon ac archwiliadau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle pob cyfeiriad at “Assembly” rhodder “Welsh Ministers”.

(3)Yn is-adran (2), yn lle pob cyfeiriad at “it” rhodder “them”.

(4)Ym mharagraff (b) o is-adran (5), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General for Wales or the Wales Audit Office”.

(5)Yn is-adran (6), ar ôl “may be recovered” mewnosoder “by the Wales Audit Office”.

45(1)Mae adran 40 (dogfennau sy’n ymwneud â chomisiynwyr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle pob cyfeiriad at “Assembly” rhodder “Welsh Ministers”.

(3)Yn is-adran (1), yn lle “receives a copy of a report under section 22(5) or (6)” rhodder “makes a report under section 22”.

46(1)Mae adran 41 (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc mewn gwasanaethau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adrannau (1) i (5), hepgorer pob cyfeiriad at “or promote”, “or promotes” ac “or promoting”.

(3)Ym mharagraff (a) o is-adran (1), hepgorer “also best value authorities for the purposes of Part 1 of the Local Government Act 1999 or”.

(4)Yn is-adran (6), yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

47(1)Mae adran 42 (astudiaethau ar effaith darpariaethau statudol etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)hepgorer “or promote”, a

(b)ym mharagraff (b,) yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3)Yn is-adran (2), yn lle pob cyfeiriad at “the Assembly” rhodder “the National Assembly for Wales”.

(4)Yn is-adran (3), hepgorer “or promoting”.

(5)Yn is-adran (4), yn lle pob cyfeiriad at “Assembly” rhodder “Welsh Ministers”.

48Yn is-adran (1) o adran 44 (astudiaethau ar gais cyrff llywodraeth leol yng Nghymru), hepgorer “or promote”.

49(1)Mae adran 45 (astudiaethau gweinyddu budd-daliadau ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (7), yn lle’r ail gyfeiriad at “the Auditor General for Wales” rhodder “the Wales Audit Office”.

(3)Yn is-adran (8), yn lle “the Auditor General for Wales” rhodder “the Wales Audit Office, (but may not exceed the full cost incurred by the Auditor General for Wales in conducting, or assisting the Secretary of State to conduct, the study)”.

(4)Ar ôl is-adran (8), rhodder—

(9)A fee payable under this section must be charged in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013..

50Yn is-adran (2) o adran 46 (safonau perfformio: cyrff perthnasol), yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

51Yn is-adran (5) o adran 47 (cyhoeddi gwybodaeth o ran safonau perfformio), yn lle “The Assembly” rhodder “The Welsh Ministers”.

52(1)Mae adran 51 (cyfeiriadau ac adroddiadau nawdd cymdeithasol i’r Ysgrifennydd Gwladol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer is-adran (2).

(3)Yn is-adran (3), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)made by him under section 22, and.

53(1)Mae adran 52 (hawliau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddogfennau a gwybodaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ym mharagraff (c), yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3)Hepgorer is-adran (6).

(4)Yn is-adran (8), yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

(5)Ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(9)A statutory instrument containing an order under subsection (2)(c) is (unless a draft of the order has been laid before, and approved by a resolution of the National Assembly for Wales) subject to annulment in pursuance of a resolution of the Assembly..

54(1)Mae adran 53 (hawliau Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddogfennau a gwybodaeth: troseddau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (b) o is-adran (3), ar ôl “the Auditor General for Wales” mewnosoder “or the Wales Audit Office”.

(3)Yn is-adran (4), ar ôl “may be recovered” mewnosoder “by the Wales Audit Office”.

55(1)Mae adran 54 (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “or an auditor, or by a person acting on behalf of the Auditor General for Wales or an auditor” rhodder “or a person acting on behalf of the Auditor General for Wales by virtue of a delegation made under section 18 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

(3)Yn is-adran (1)—

(a)ym mharagraff (a), hepgorer “or Part 1 of the Local Government Act 1999 (c 27)”, a

(b)ym mharagraff (b), hepgorer “or Part 1 of the Local Government Act 1999”.

(4)Yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (b)—

(i)hepgorer “or an auditor”, a

(ii)hepgorer “or Part 1 of the Local Government Act 1999”;

(b)ym mharagraff (e), yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

(5)Hepgorer is-adran (2ZB).

(6)Yn is-adran (2ZC)—

(a)hepgorer “or (2ZB)”, a

(b)hepgorer “or an auditor”.

(7)Hepgorer is-adrannau (6) i (8).

56(1)Mae adran 54ZA (cydsyniad o dan adran 54(2ZC)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3), hepgorer “or an auditor”.

(3)Yn is-adran (6), yn lle “A person to whom a request for consent is made” rhodder “The Auditor General for Wales”.

57Yn is-adran (1) o adran 56 (cyhoeddi gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru), ym mharagraff (a), hepgorer “by an auditor”.

58Yn adran 58 (gorchmynion a rheoliadau), yn lle pob cyfeiriad at “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

59Yn adran 59 (dehongli Rhan 2), hepgorer is-adrannau (2) a (3).

60Yn adran 61 (archwilio cyrff GIG Cymru), ym mharagraff (b) o is-adran (2), yn lle “the Assembly” rhodder “the National Assembly for Wales”.

61(1)Mae adran 62 (cydweithredu â’r Cynulliad Cenedlaethol, y Comisiwn Archwilio a’r Comisiwn Archwilio ac Arolygu Gofal Iechyd (CHAI)) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (a), yn lle “the Assembly” rhodder “the Welsh Ministers”.

(3)Yn unol â hynny, pennawd adran 62 fydd “Co-operation with Welsh Ministers, Audit Commission or Care Quality Commission”.

62Yn is-adran (1) o adran 64A (pŵer i gynnal ymarferion paru data), hepgorer “or arrange for them to be conducted on his behalf”.

63(1)Mae adran 64B (darparu data’n orfodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), ar ôl “or a person acting on his behalf” mewnosoder “by virtue of a delegation made under section 18 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

(3)Yn is-adran (4)—

(a)ar ôl “the Auditor General” mewnosoder “or by the Wales Audit Office”, a

(b)ar ôl “from that body” mewnosoder “by the Wales Audit Office”.

64Yn is-adran (1) o adran 64C (darparu data’n wirfoddol), ar ôl “a person acting on his behalf” mewnosoder “by virtue of a delegation made under section 18 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

65(1)Mae adran 64D (datgelu canlyniadau paru data etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2) ym mharagraff (b), yn lle “an auditor” rhodder “the Auditor General”.

(3)Yn is-adran (6)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—

(iv)a health and social care body mentioned in paragraphs (a) to (e) of section 1(5) of the Health and Social Care (Reform) Act (Northern Ireland) 2009..

66Yn is-adran (4) o adran 64E (cyhoeddi), hepgorer “an auditor or”.

67(1)Mae is-adran 64F (ffioedd am baru data) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Cyn is-adran (1), mewnosoder—

(A1)The Wales Audit Office may, in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013, charge a fee in respect of a data matching exercise undertaken by the Auditor General for Wales..

(3)Yn is-adrannau (1) a (6) yn lle pob cyfeiriad at “Auditor General for Wales” rhodder “Wales Audit Office”.

(4)Yn is-adran (2), yn lle “the Auditor General” rhodder “the Wales Audit Office”.

(5)Yn is-adrannau (3), (4), (5) ac (8), yn lle pob cyfeiriad at “Auditor General” rhodder “Wales Audit Office”.

(6)Yn is-adran (7), yn lle “the Assembly” rhodder “the National Assembly for Wales”.

(7)Ar ôl is-adran (8) mewnosoder—

(9)Any terms as to payment agreed by the Wales Audit Office under subsection (8) must be in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013.

(10)A fee charged under this section may not exceed the full cost of exercising the function to which it relates..

68Yn is-adran (4) o adran 64G (cod ymarfer ar gyfer paru data), ym mharagraff (a), yn lle “the Assembly” rhodder “the National Assembly for Wales”.

69(1)Mae adran 67A (cymorth gan Archwilydd Cyffredinol i arolygiaethau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), yn lle “the Auditor General for Wales” rhodder “the Wales Audit Office”.

(3)Ar ddiwedd is-adran (2), ar ôl y gair “agree”, mewnosoder “, but any terms as to payment agreed by the Wales Audit Office must be made in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

(4)Ar ôl is-adran (2), mewnosoder—

(3)Any sums charged in relation to assistance provided under this section may not exceed the full cost of providing that assistance..

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

70Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

71Yn adran 37 (y pŵer i alw), yn is-adran (1), ar ôl “functions” mewnosoder “, relevant to the exercise of any of the Auditor General for Wales’ functions, or relevant to the oversight and supervision of the Auditor General for Wales, or to the oversight and supervision of the exercise of any of his or her functions”.

72Yn is-adran (1)(c) o adran 120 (delio â derbyniadau), yn lle “the Auditor General” rhodder “the Wales Audit Office”.

73Yn is-adran (3)(c) o adran 124 (taliadau allan o Gronfa Gyfunol Cymru), yn lle “the Auditor General” rhodder “the Wales Audit Office”.

74Yn is-adran (4) o adran 129 (cymeradwyaeth i godi taliadau), yn lle “the Auditor General” rhodder “the Wales Audit Office”.

75Yn is-adran (1) o adran 143 (adroddiadau’r Pwyllgor Archwilio), hepgorer paragraff (b).

76(1)Mae is-adran (2) o adran 144 (cyhoeddi cyfrifon ac adroddiadau archwilio etc) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff (b) yn lle “paragraph 14 of Schedule 8” rhodder “paragraph 34 of Schedule 1 to the Public Audit (Wales) Act 2013”.

(3)Ym mharagraff (c), hepgorer “or estimate” ac “or paragraph 12(3) of Schedule 8”.

(4)Ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(d)any estimate of income and expenses of the Wales Audit Office laid before the Assembly under section 20(1) of the Public Audit (Wales) Act 2013 (including any modifications made to that estimate under section 20(4) of that Act),

(e)any scheme for charging fees laid before the Assembly by the Wales Audit Office under section 24(4)(c) of the Public Audit (Wales) Act 2013,

(f)any annual plan laid before the Assembly by the Auditor General and the chair of the Wales Audit Office under section 26 of the Public Audit (Wales) Act 2013,

(g)any report laid before the Assembly under paragraph 3(6) of Schedule 2 to the Public Audit (Wales) Act 2013 (reports on the exercise of the functions of the Auditor General and the Wales Audit Office)..

77(1)Mae adran 145 (yr Archwilydd Cyffredinol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer is-adran (1).

(3)Yn is-adran (2) yn lle “the Auditor General see Schedule 8” rhodder “the Auditor General for Wales or Archwilydd Cyffredinol Cymru (referred to in this Act as “the Auditor General”) see Schedule 8 and the Public Audit (Wales) Act 2013”.

78(1)Mae Atodlen 7 (Deddfau’r Cynulliad) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y tabl ym mharagraff 2(1) (darpariaethau a ddiogelir rhag eu haddasu gan Ddeddf Cynulliad) o Ran 2 (cyfyngiadau cyffredinol), ar ôl y cofnod ar gyfer “Re-use of Public Sector Information Regulations 2005 (S.I. 2005/1505)” mewnosoder—

The Public Audit (Wales) Act 2013 (anaw 3)Sections 2(1) to (3), 3(2) to (4), 6(2) to (3) and section 8(1) in so far as that section relates to the Auditor General’s exercise of functions free from the direction or control of the Assembly or Welsh Assembly Government.

(3)Ar ôl is-baragraff (2) o baragraff 2, mewnosoder—

(2A)Sub-paragraph (1), so far as it applies in relation to sections 2(1) to (3), 3(2) to (4), 6(2) to (3) and 8(1) of the Public Audit (Wales) Act 2013 does not apply in relation to any provision to which sub-paragraph (4) applies.

(2B)But, subject to sub-paragraph (2C), a provision to which sub-paragraph (4) applies cannot modify or confer power by subordinate legislation to modify section 8(1) of the Public Audit (Wales) Act 2013.

(2C)Sub-paragraph (2B) does not prevent the conferral of functions on a committee of the Assembly that—

(a)does not consist of or include any of the following persons—

(i)the First Minister or any person designated to exercise the functions of the First Minister,

(ii)a Welsh Minister appointed under section 48,

(iii)the Counsel General or any person designated to exercise the functions of the Counsel General, or

(iv)a Deputy Welsh Minister, and

(b)is not chaired by an Assembly member who is a member of a political group with an executive role..

(4)Ym mharagraff 5 (cyfyngiadau ynghylch addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006) o Ran 2—

(a)yn is-baragraff (2)(c), hepgorer “, other than paragraphs 1(1) to (3), 2(2) to (4) and 3”, a

(b)hepgorer is-baragraffau (5) a (6).

79(1)Mae Atodlen 8 (Archwilydd Cyffredinol Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer paragraffau 1 i 16.

(3)Yn is-baragraff (1) o baragraff 17 (mynediad at ddogfennau), ym mharagraff (c), yn lle “Act” rhodder “enactment”.

(4)Yn is-baragraff (7) o baragraff 17—

(a)yn lle “Act” rhodder “enactment”, a

(b)ar ddiwedd yr is-baragraff, cyn yr atalnod llawn, mewnosoder “, apart from accounts that fall to be examined under Part 2 of the Public Audit (Wales) Act 2004”.

(5)Ym mharagraff 18 (pwerau eraill)—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “the Welsh Ministers may”, mewnosoder “, having first consulted the Wales Audit Office,”, a

(b)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(3A)But before entering into an agreement under sub-paragraph (3), the Welsh Ministers or a Minister of the Crown (as the case may be) must consult the Wales Audit Office..

(6)Hepgorer paragraff 21.

Deddf Cwmnïau 2006

80Mae Deddf Cwmnïau 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

81Yn is-adran (6) o adran 1229 (goruchwylio Archwilwyr Cyffredinol gan y Goruchwyliwr Annibynnol), ar ôl “to any person” mewnosoder “or, in the case of the Auditor General for Wales, for payment by the Wales Audit Office of such a fine”.

82Yn adran 1230 (dyletswyddau Archwilwyr Cyffredinol mewn perthynas â threfniadau goruchwylio), ar ôl is-adran (3)(b) mewnosoder—

(c)in the case of expenditure of the Auditor General for Wales, to be regarded as expenditure of the Wales Audit Office for the purposes of section 20 of the Public Audit (Wales) Act 2013..

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

83Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

84(1)Mae adran 21 (arolygiadau arbennig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (4)—

(a)yn lle “yn cyfarwyddo Archwilydd Cyffredinol Cymru i” rhodder “yn gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol”, a

(b)yn lle “cyfarwyddyd” rhodder “cais oni bai nad yw’n rhesymol i wneud hynny”.

(3)Yn is-adran (5), yn lle “cyfarwyddyd” rhodder “cais”.

(4)Yn is-adran (6), yn lle “rhoi cyfarwyddyd” rhodder “gwneud cais”.

(5)Ym mharagraff (b) o is-adran (7), yn lle “cyfarwyddo’r Archwilydd Cyffredinol i” rhodder “gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol”.

85Yn adran 25 (datganiad o arfer), hepgorer paragraff (b) o is-baragraff (5).

86Yn adran 26 (pwerau a dyletswyddau arolygwyr), yn is-adran (11), yn lle “aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “neu berson sy’n arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd dirprwyaeth a wnaed o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,”.

87(1)Mae adran 27 (ffioedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru”.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun i godi ffioedd a baratowyd o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,”.

(4)Yn is-adran (4), yn lle’r cyfeiriad at “i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “i Swyddfa Archwilio Cymru” ac yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru”.

(5)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi..

(6)Yn is-adran (5), yn lle’r ddau gyfeiriad at “i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “i Swyddfa Archwilio Cymru”.

(7)Hepgorer is-adran (6).

88Ar ôl adran 27 (ffioedd) mewnosoder—

27APŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioedd

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(1),

(2)Mae graddfa ffioedd a ragnodir o dan is-adran (1) yn caeleffaith am y cyfnod a bennir mewn perthynas â hi yn y rheoliadau.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)os oes graddfa ffioedd yn cael ei rhagnodi o dan is-adran (1) yn lle graddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a

(b)os mai’r raddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fyddai’r raddfa briodol, fel arall, at ddibenion adran 27(3) a (4).

(4)Mae’r cyfeiriadau at y raddfa briodol yn adran 27(3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at y raddfa a ragnodwyd o dan is-adran (1).

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)Swyddfa Archwilio Cymru,

(b)unrhyw gymdeithasau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod a wnelont â’r peth, ac

(c)y personau eraill hynny y maent yn gweld yn dda i ymgynghori â hwy.

(6)Mae rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru..

Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009

89Mae Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

90Yn adran 46 (codau ymarfer), yn is-adran (4) yn lle “section 16 of the Public Audit (Wales) Act 2004 (c 23)” rhodder “section 10 of the Public Audit (Wales) Act 2013”.

91(1)Mae adran 50 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), yn lle “under this Chapter must pay the appointing audit authority” rhodder “by the Audit Commission under this Chapter must pay the Audit Commission”.

(3)Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A)An entity in relation to which a person is appointed by the Auditor General for Wales under this Chapter must pay the Wales Audit Office, in accordance with a scheme for charging fees prepared under section 24 of the Public Audit (Wales) Act 2013, a fee in respect of the discharge by that person of any of the functions specified by subsection (2) in relation to the entity..

(4)Yn is-adran (3), yn lle “the audit authority” rhodder “the Audit Commission or the Wales Audit Office (as the case may be)”.

(5)Yn is-adran (4)—

(a)yn lle’r cyfeiriad cyntaf at “this section” rhodder “subsection (1)”, a

(b)yn lle “the audit authority” rhodder “the Audit Commission”.

(6)Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(4A)The amount of a fee payable under subsection (1A) is, subject as follows, to be such as may be specified in or determined under a scale or scales of fees prescribed by the Wales Audit Office for the purposes of this section.

But a fee charged under subsection (1A) may not exceed the full cost of exercising the function to which it relates..

(7)Yn is-adran (5)—

(a)yn lle “subsection (4)” rhodder “subsection (4) or (4A)”, a

(b)yn lle “the audit authority” rhodder “the Audit Commission or the Wales Audit Office (as the case may be)”.

(8)Yn is-adran (6), yn lle “the audit authority” rhodder “the Audit Commission or the Wales Audit Office (as the case may be)”.

(9)Hepgorer is-adrannau (10) ac (11).

(10)Yn is-adran (12)—

(a)yn lle pob cyfeiriad at “the audit authority” rhodder “the Audit Commission or the Wales Audit Office (as the case may be)”;

(b)ar ôl “subsection (4)”, mewnosoder “or (4A) (as the case may be)”.

Deddf Cydraddoldeb 2010

92Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “Other public authorities”, mewnosoder yn y man priodol “the Wales Audit Office or Swyddfa Archwilio Cymru.”.