xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
87(1)Mae adran 27 (ffioedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (1), yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru”.
(3)Yn is-adran (3), yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â chynllun i godi ffioedd a baratowyd o dan adran 24 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,”.
(4)Yn is-adran (4), yn lle’r cyfeiriad at “i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “i Swyddfa Archwilio Cymru” ac yn lle “Archwilydd Cyffredinol Cymru” rhodder “Swyddfa Archwilio Cymru”.
(5)Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Ond ni chaiff ffi a godir o dan yr adran hon fod yn fwy na chost lawn arfer y swyddogaeth y mae’r ffi’n ymwneud â hi.”.
(6)Yn is-adran (5), yn lle’r ddau gyfeiriad at “i’r Archwilydd Cyffredinol” rhodder “i Swyddfa Archwilio Cymru”.
(7)Hepgorer is-adran (6).