xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3Darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed

RHAN 1YR ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Yr Archwilydd Cyffredinol blaenorol i barhau yn Archwilydd Cyffredinol

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Ar y diwrnod penodedig, ac ar ôl hynny, bydd y person—

(a)yn parhau i fod yn Archwilydd Cyffredinol ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon;

(b)yn dal y swydd honno am 8 mlynedd gan dynnu o’r cyfnod hwnnw gyfnod sy’n hafal i’r amser y bu’r person yn Archwilydd Cyffredinol cyn y diwrnod penodedig.

(3)Bydd trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth i’r person o dan adran 7 yn cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y diwrnod penodedig (ond nid ydynt i gwmpasu unrhyw gyfnod cyn y diwrnod penodedig).

(4)Ond cyn gwneud y trefniadau hynny rhaid ymgynghori â’r Prif Weinidog.

(5)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.

Arbedion ar gyfer archwilwyr a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os, yn union cyn y daw adran 11 (archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru) i rym, bydd penodiad person fel archwilydd mewn perthynas â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru yn cael effaith o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(2)Bydd y penodiad hwnnw o’r person fel archwilydd yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y penodwyd y person ar ei gyfer (oni ddaw’r penodiad i ben yn gynnar).

(3)Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, gyda’r addasiadau canlynol, yn gymwys mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn parhau yn rhinwedd is-baragraff (2)—

(a)bydd Rhan 2 ac adran 64E(4) yn cael effaith fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon, a

(b)bydd adran 20 yn cael effaith fel pe bai pob cyfeiriad at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfeiriad at SAC (a bydd unrhyw raddfa ffioedd sydd eisoes wedi ei rhagnodi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran honno yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r archwilydd y mae ei benodiad i barhau tan ei bod yn cael ei hamrywio neu’n cael ei disodli gan raddfa a ragnodwyd gan SAC, ac oni bai fod hynny’n digwydd).

(4)Mae darpariaethau canlynol Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn cael effaith mewn perthynas ag archwilydd y mae ei benodiad yn cael ei barhau gan is-baragraff (2) fel pe na baent wedi cael eu diwygio gan y Ddeddf hon—

(a)adran 16(2)(e);

(b)adran 25(5)(b).

Arbedion yn ymwneud â chyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth

3(1)Pan fo gwybodaeth wedi ei chael gan—

(a)archwilydd a benodwyd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 o dan ddarpariaeth o’r Ddeddf honno sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon,

(b)person sy’n gweithredu ar ei ran, neu

(c)person sy’n gweithredu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol o dan ddarpariaeth unrhyw un o’r deddfiadau a ganlyn sydd wedi ei diwygio gan y Ddeddf hon—

(i)adran 145C o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998,

(ii)Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999,

(iii)Rhan 1 neu Ran 3A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, neu

(iv)Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009,

nid effeithir ar y modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu gan ddiwygiad i’r ddarpariaeth honno.

(2)I’r graddau y mae’n angenrheidiol ar gyfer parhau’r modd y mae unrhyw ddarpariaeth ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn gweithredu, bydd gwybodaeth sydd wedi ei chael mewn modd a grybwyllir yn is-baragraff (1) i’w thrin yn yr un modd a gwybodaeth sydd wedi ei chael gan yr Archwilydd Cyffredinol.