Cydgytundebau
7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo cydgytundeb a wneir gan neu ar ran yr Archwilydd Cyffredinol yn bodloni’r amodau a bennir yn is-baragraff (2).
(2)Yr amodau yw bod y cytundeb—
(a)yn bodoli ar adeg y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1),
(b)wedi ei wneud gydag undeb llafur a gydnabyddir gan yr Archwilydd Cyffredinol, ac
(c)yn gymwys mewn cysylltiad â chyflogai y trosglwyddwyd ei gyflogaeth o dan baragraff 5(1) (“cyflogai a drosglwyddwyd”).
(3)Ar ôl y trosglwyddiad a grybwyllir ym mharagraff 5(1)—
(a)mae’r cytundeb, o’i gymhwyso mewn perthynas â chyflogai a drosglwyddwyd, i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud gyda’r undeb llafur gan neu ar ran SAC, a
(b)mae unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad o dan y cytundeb neu mewn cysylltiad ag ef o ran cyflogai a drosglwyddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â SAC.
(4)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhagfarnu cymhwyso adrannau 179 a 180 o Ddeddf 1992 (cydgytundebau y tybir nad oes modd eu gorfodi o dan amgylchiadau penodol) i’r cytundeb.
(5)Yn y paragraff hwn—
mae i “cydgytundeb” yr un ystyr â “collective agreement” yn Neddf 1992,
mae i “cydnabod” yr ystyr a roddir i “recognised” yn adran 178(3) o Ddeddf 1992,
ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, ac
mae i “undeb llafur” yr un ystyr â “trade union” yn Neddf 1992.