Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Trosglwyddo staff

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

5(1)Ar y diwrnod penodedig bydd staff yr Archwilydd Cyffredinol yn cael eu trosglwyddo i gyflogaeth SAC.

(2)At unrhyw ddiben mewn perthynas â pherson a ddaw’n gyflogai i SAC yn rhinwedd is-baragraff (1)—

(a)o ran contract cyflogaeth y person hwnnw—

(i)nid yw’n cael ei derfynu gan y trosglwyddo, a

(ii)mae’n cael effaith o’r diwrnod penodedig fel pe byddai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw a SAC;

(b)mae cyfnod cyflogaeth fel aelod o staff yr Archwilydd Cyffredinol yn union cyn y diwrnod penodedig—

(i)i’w drin fel cyfnod o gyflogaeth gyda SAC, a

(ii)i’w drin fel cyfnod cyflogaeth di-dor fel aelod o staff SAC at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

(3)Heb ragfarnu is-baragraff (2), pan fo person yn dod yn gyflogai i SAC yn rhinwedd is-baragraff (1)—

(a)trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r Archwilydd Cyffredinol o dan gontract cyflogaeth y person hwnnw, ac mewn cysylltiad â’i gontract, i SAC, a

(b)mae unrhyw beth a wnaed cyn y diwrnod penodedig gan yr Archwilydd Cyffredinol neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r person neu â’r contract i’w drin o’r diwrnod hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan SAC neu mewn perthynas â hi.

(4)Ni throsglwyddir contract cyflogaeth (na hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef) o dan y paragraff hwn os yw cyflogai yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad ac yn hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC o’r gwrthwynebiad hwnnw.

(5)Os yw cyflogai yn hysbysu’r Archwilydd Cyffredinol neu SAC ei fod yn gwrthwynebu’r trosglwyddiad o dan is-baragraff (4)—

(a)terfynir y contract cyflogaeth yn union cyn y diwrnod penodedig, ond

(b)nid yw’r cyflogai i’w drin, at unrhyw ddiben, fel petai wedi cael ei ddiswyddo gan yr Archwilydd Cyffredinol.

(6)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan berson i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol (ar wahân i newid cyflogwr) sy’n niweidiol i’r person o ran ei amodau gwaith.

(7)Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.