xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5LL+CCaiff SAC, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, ddynodi person i arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol dros dro yn lle’r Archwilydd Cyffredinol (“dynodiad dros dro”).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I2Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
6LL+CNi chaniateir gwneud dynodiad dros dro ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)bod swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn wag,
(b)nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon cyflawni swyddogaethau’r swydd,
(c)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod yr Archwilydd Cyffredinol yn methu â chyflawni swyddogaethau’r swydd, neu
(d)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod seiliau i ddiswyddo’r Archwilydd Cyffredinol oherwydd camymddygiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I4Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
7LL+CMae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—
(a)swyddogaethau fel prif weithredwr SAC (gweler adran 16);
(b)os yn berthnasol, swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu SAC (gweler paragraff 33(1) o Ran 8 o Atodlen 1);
(c)y pŵer i ddirprwyo o dan adran 18.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I6Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
8LL+CRhaid i berson sydd wedi ei ddynodi i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol fod yn gyflogai i SAC.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
9LL+CBydd person sydd wedi ei ddynodi i arfer y swyddogaethau hynny yn parhau’n gyflogedig gan SAC ar yr un telerau.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I10Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
10LL+COnd bydd y person hwnnw yn cael ei ddynodi i arfer swyddogaethau ar y telerau ychwanegol hynny (gan gynnwys telerau talu cydnabyddiaeth) y cytunir arnynt gan SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I12Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
11LL+CCaiff telerau talu cydnabyddiaeth—
(a)darparu ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person wrth arfer y swyddogaethau, a
(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I14Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
12LL+COnd ni chaiff y telerau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog ychwanegol neu bensiwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I16Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
13LL+CRhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r person fel y darperir ar ei gyfer gan unrhyw delerau ychwanegol o ran talu cydnabyddiaeth y cytunir arnynt, neu o dan y telerau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I18Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)
14LL+CO ran hyd dynodiad dros dro mewn perthynas ag amgylchiad y cyfeirir ato ym mharagraff 6—
(a)ni chaiff fod yn fwy na 6 mis, ond
(b)caniateir i SAC ei estyn unwaith mewn perthynas â’r amgylchiad hwnnw, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, am hyd at 6 mis arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)
I20Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(v)(iii)