xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(cyflwynwyd gan adran 16(2))
1(1)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol baratoi cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.
(2)Wrth wneud hynny, rhaid iddynt geisio adlewyrchu’r egwyddor a nodir yn adran 8(1) a (2).
(3)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol adolygu’r cod ar y cyd yn rheolaidd a’i ddiwygio fel y bo’n briodol.
(4)Rhaid i’r cod (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(5)At y diben hwn, rhaid i gadeirydd SAC a’r Archwilydd Cyffredinol osod y cod (neu’r diwygiad) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(6)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol ill dau gydymffurfio â chod sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(7)Rhaid i SAC a’r Archwilydd Cyffredinol drefnu i god a gymeradwywyd gael ei gyhoeddi.
2(1)Rhaid i’r cod gynnwys—
(a)darpariaeth ynghylch sut y mae SAC i fonitro swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(1);
(b)darpariaeth ynghylch sut y mae cyngor i gael ei roi gan SAC i’r Archwilydd Cyffredinol at ddibenion adran 17(2) (gan gynnwys natur y cyngor sydd i’w roi);
(c)darpariaeth ynghylch safonau ar gyfer llywodraethu corfforaethol.
(2)Caniateir i’r cod gynnwys darpariaeth ynghylch unrhyw fater arall sy’n berthnasol i’r berthynas rhwng SAC a’r Archwilydd Cyffredinol.
3(1)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, lunio adroddiad blynyddol, ar y cyd, ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC yn ystod y flwyddyn.
(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—
(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;
(b)y graddau y cyflawnwyd y blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.
(3)O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC lunio hefyd, ar y cyd, adroddiad ar arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC (“adroddiad interim”).
(4)Rhaid i adroddiad interim gynnwys (ymhlith pethau eraill) asesiad o’r canlynol—
(a)y graddau y mae arferiad swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC wedi bod yn gyson â’r cynllun blynyddol a baratowyd am y flwyddyn o dan adran 25;
(b)y graddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun.
(5)Nid oes dim yn y paragraff hwn yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd SAC baratoi adroddiad interim ar unrhyw adeg yn ystod blwyddyn ariannol.
(6)Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a’r person sy’n gadeirydd SAC ar y cyd—
(a)gosod yr adroddiad blynyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol;
(b)gosod adroddiadau interim gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar ddyddiadau i’w pennu o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad.
4(1)Caniateir darparu unrhyw ddogfen neu wybodaeth y mae’n ofynnol i berson ei darparu i’r Archwilydd Cyffredinol, neu y caniateir ei darparu iddo, i SAC (naill ai gan y person hwnnw neu gan yr Archwilydd Cyffredinol).
(2)At ddibenion adran 3(2) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a rheoliad 3(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (neu unrhyw reoliadau sy’n disodli’r rheoliadau hynny), mae unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n cael ei dal gan SAC fel y crybwyllir yn adran 21(2)(d) o’r Ddeddf hon i’w thrin fel petai’r ddogfen neu’r wybodaeth yn cael ei dal gan SAC ar ei rhan ei hun.
5Caiff SAC, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, ddynodi person i arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol dros dro yn lle’r Archwilydd Cyffredinol (“dynodiad dros dro”).
6Ni chaniateir gwneud dynodiad dros dro ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)bod swydd yr Archwilydd Cyffredinol yn wag,
(b)nad yw’r Archwilydd Cyffredinol yn fodlon cyflawni swyddogaethau’r swydd,
(c)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod yr Archwilydd Cyffredinol yn methu â chyflawni swyddogaethau’r swydd, neu
(d)bod SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried bod seiliau i ddiswyddo’r Archwilydd Cyffredinol oherwydd camymddygiad.
7Mae swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—
(a)swyddogaethau fel prif weithredwr SAC (gweler adran 16);
(b)os yn berthnasol, swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu SAC (gweler paragraff 33(1) o Ran 8 o Atodlen 1);
(c)y pŵer i ddirprwyo o dan adran 18.
8Rhaid i berson sydd wedi ei ddynodi i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol fod yn gyflogai i SAC.
9Bydd person sydd wedi ei ddynodi i arfer y swyddogaethau hynny yn parhau’n gyflogedig gan SAC ar yr un telerau.
10Ond bydd y person hwnnw yn cael ei ddynodi i arfer swyddogaethau ar y telerau ychwanegol hynny (gan gynnwys telerau talu cydnabyddiaeth) y cytunir arnynt gan SAC a’r Cynulliad Cenedlaethol.
11Caiff telerau talu cydnabyddiaeth—
(a)darparu ar gyfer lwfansau, arian rhodd a buddion eraill i dalu treuliau yr aed iddynt yn briodol ac o anghenraid gan y person wrth arfer y swyddogaethau, a
(b)cynnwys fformiwla neu fecanwaith arall ar gyfer addasu un neu fwy o’r elfennau hynny o dro i dro.
12Ond ni chaiff y telerau talu cydnabyddiaeth ddarparu ar gyfer talu cyflog ychwanegol neu bensiwn.
13Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r person fel y darperir ar ei gyfer gan unrhyw delerau ychwanegol o ran talu cydnabyddiaeth y cytunir arnynt, neu o dan y telerau hynny.
14O ran hyd dynodiad dros dro mewn perthynas ag amgylchiad y cyfeirir ato ym mharagraff 6—
(a)ni chaiff fod yn fwy na 6 mis, ond
(b)caniateir i SAC ei estyn unwaith mewn perthynas â’r amgylchiad hwnnw, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, am hyd at 6 mis arall.