Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

RHAN 7RHEOLAU GWEITHDREFNOL

Cyffredinol

27Rhaid i SAC wneud rheolau at ddibenion rheoleiddio gweithdrefnau SAC.

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC

28(1)Rhaid i’r rheolau ddarparu am gworwm ar gyfer unrhyw gyfarfodydd SAC (gan gynnwys cyfarfodydd pwyllgorau neu is-bwyllgorau a sefydlir o dan baragraff 29).

(2)Caiff y rheolau ddarparu bod cworymau gwahanol yn gymwys i amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, mewn perthynas â chyfarfodydd penodol neu at ddibenion penodol).

(3)Rhaid i’r rheolau ddarparu na ellir bodloni cworwm ar unrhyw adeg oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol yn aelodau anweithredol.

Pwyllgorau

29(1)Caiff y rheolau gynnwys—

(a)darpariaeth ar gyfer sefydlu pwyllgorau SAC, ac i’r pwyllgorau hynny sefydlu is-bwyllgorau, a

(b)darpariaeth i reoleiddio gweithdrefnau’r pwyllgorau a’r is-bwyllgorau hynny.

(2)Caiff cyflogai i SAC nad yw’n aelod sy’n gyflogai fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.

(3)Caiff person nad yw’n aelod o SAC nac yn gyflogai i SAC fod yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ar yr amod nad oes dim un o swyddogaethau SAC yn cael ei dirprwyo i’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor (gweler paragraff 32).

Cynnal pleidleisiau

30Rhaid i’r rheolau gynnwys darpariaeth ynghylch cynnal pleidleisiau at ddiben penodi aelodau sy’n gyflogeion (gweler paragraff 16).