xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
35(1)O ran datganiad o gyfrifon a baratoir o dan baragraff 33, rhaid iddo—
(a)cael ei lofnodi gan swyddog cyfrifyddu SAC, a
(b)cael ei gyflwyno gan gadeirydd SAC i’r archwilydd a benodwyd o dan baragraff 34,
heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i’r archwilydd—
(a)ymchwilio i unrhyw ddatganiad o gyfrifon a dderbynnir ganddo o dan is-baragraff (1) a’i ardystio, a
(b)gosod y datganiad o gyfrifon fel y’i hardystiwyd ganddo ynghyd â’i adroddiad arno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(3)Rhaid i’r archwilydd, yn benodol, fod yn fodlon, ar ôl ymchwilio i ddatganiad o gyfrifon a gyflwynir iddo—
(a)bod y gwariant yr aed iddo ac y mae a wnelo’r datganiad ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sydd yn ei lywodraethu;
(b)nad yw arian y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a gafodd SAC at ddiben penodol neu at ddibenion penodol, wedi ei wario ond at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny;
(c)bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon;
(d)bod arferion priodol wedi eu dilyn wrth baratoi’r datganiad o gyfrifon.
(4)Mae gan yr archwilydd yr hawl, ar bob adeg resymol, i gael gafael ar bob dogfen yr ymddengys i’r archwilydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwilio’r cyfrifon.
(5)Caiff yr archwilydd—
(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am ddogfen o’r fath, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny;
(b)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu cyfrifon i’r archwilydd, ar adegau a bennir ganddo, o ran y trafodion hynny (gan y person perthnasol) a bennir gan yr archwilydd.
(6)Ystyr “person perthnasol” yw—
(a)yr Archwilydd Cyffredinol,
(b)SAC, neu
(c)unrhyw berson y mae’r cyfrifon yn ymwneud â’i faterion a’i drafodion ariannol o ganlyniad i baragraff 33(5).
(7)Caiff yr archwilydd—
(a)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol;
(b)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae SAC wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau SAC;
(c)gosod adroddiad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliadau o’r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(8)At ddibenion cynnal ymchwiliadau o’r fath—
(a)mae gan yr archwilydd hawl i gael gafael, ar bob adeg resymol, ar bob dogfen ym meddiant neu o dan reolaeth yr Archwilydd Cyffredinol neu SAC, y mae ar yr archwilydd angen rhesymol amdano at y dibenion hynny;
(b)caiff yr archwilydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am, unrhyw un o’r dogfennau hynny, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny.