Adran 3 – Ymddiswyddiad neu ddiswyddiad
7.Mae ACC yn dal y swydd tan ddiwedd y cyfnod y’i penodwyd ar ei gyfer (caiff hynny fod am hyd at wyth mlynedd ar ôl y penodiad, gweler adran 2) oni fydd ACC:
yn cael ei ryddhau o’i swydd gan Ei Mawrhydi ar gais ACC ei hunan
yn cael ei ryddhau o’i swydd oherwydd bod Ei Mawrhydi bellach wedi ei bodloni bod ACC, am resymau meddygol, yn analluog i gyflawni ei ddyletswyddau a’i fod hefyd yn analluog, am y rhesymau hynny, i ofyn am ei ryddhau o’i swydd;
yn cael ei ddiswyddo gan Ei Mawrhydi oherwydd camymddwyn.
8.Dim ond ar argymhelliad y Cynulliad y caniateir diswyddo person ar sail camymddwyn. Ni cheir gwneud argymhelliad o’r fath oni fydd o leiaf ddwy ran o dair o holl Aelodau’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid gweithredu felly.