xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod bwyd lunio, ac adolygu, rhaglen sy’n pennu—
(a)a oes rhaid i sefydliad busnes bwyd yn ei ardal gael ei arolygu, a
(b)os oes angen arolygiad, mynychder yr arolygiadau.
(2)Rhaid i awdurdod bwyd arolygu sefydliadau busnes bwyd yn ei ardal yn unol â’r rhaglen.
(3)Wrth lunio ac adolygu ei raglen, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw i faterion a bennir gan yr ASB ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.
(4)Rhaid i’r materion a bennir gan yr ASB gynnwys asesiad o’r risg i iechyd y cyhoedd—
(a)sy’n gysylltiedig â’r math o fwyd a drafodir gan sefydliad,
(b)sy’n gysylltiedig â’r dull o drafod y bwyd, ac
(c)sy’n codi o record y sefydliad o gydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd.
(5)Yn y Ddeddf hon—
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal yng Nghymru lle y mae’r sefydliad (neu awdurdod iechyd porthladd o dan yr amgylchiadau a ragnodir gan adran 5(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990);
ystyr “gweithredwr” (“operator”) sefydliad busnes bwyd yw person sy’n ymwneud â rheoli’r sefydliad;
ystyr “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yw unrhyw uned o fusnes sydd wedi ei gofrestru gydag awdurdod bwyd drwy rinwedd Erthygl 6 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 neu sydd wedi ei gymeradwyo o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 (neu sydd wedi ei gofrestru neu ei gymeradwyo o dan ddarpariaethau cyfatebol yn lle hynny ar gyfer cofrestru neu cymeradwyo sefydliadau busnes bwyd) ac—
sy’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, neu
sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)diwygio’r diffiniad o sefydliad busnes bwyd, gan gynnwys ehangu’r categori o sefydliad a fydd yn ddarostyngedig i raglen arolygiadau;
(b)diwygio’r diffiniad o awdurdod bwyd (er enghraifft, i gynnwys cyrff eraill).