1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Ionawr 2013 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 4 Mawrth 2013. Fe'u lluniwyd gan Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Mae adran 1 yn rhoi trosolwg o’r darpariaethau allweddol yn y Ddeddf. Mae 28 o adrannau ac un Atodlen i'r Ddeddf. Diffinnir llawer o’r ymadroddion allweddol sydd yn y Ddeddf yn adran 25.
3.Mae adran 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bwyd yng Nghymru (awdurdodau lleol ac awdurdodau porthladd) lunio rhaglenni arolygiadau o sefydliadau busnes bwyd yn eu hardaloedd er mwyn asesu safonau hylendid y sefydliadau hynny. Wrth lunio rhaglen arolygiadau, rhaid i'r awdurdod bwyd roi sylw i'r materion a bennir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i'r awdurdod bwyd wneud pob arolygiad o fusnesau bwyd yn ei ardal yn unol â’r rhaglen.
4.Nodir ystyr “awdurdod bwyd”, “gweithredwr” a “sefydliad busnes bwyd” at ddibenion y Ddeddf yn adran 2(5). Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r diffiniadau o “sefydliadau busnes bwyd” ac “awdurdod bwyd”.
5.Mae adran 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bwyd asesu safonau hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd a llunio sgôr hylendid bwyd, sydd wedi ei chynhyrchu yn erbyn y meini prawf sgorio a gyhoeddir gan yr ASB.
6.Rhaid i'r awdurdod bwyd anfon at weithredwr y sefydliad:
hysbysiad ysgrifenedig o’i sgôr hylendid bwyd;
datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y sgôr;
sticer sgôr hylendid bwyd (mae ffurf y sticer i’w rhagnodi mewn rheoliadau); ac
unrhyw wybodaeth arall a nodir mewn rheoliadau.
7.Rhaid anfon yr hysbysiad, y datganiad, y sticer a'r wybodaeth cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl yr arolygiad gan yr awdurdod bwyd.
8.Mae'r sgôr yn peidio â bod yn ddilys os yw’r sefydliad busnes bwyd yn cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd newydd, neu pan fo perchenogaeth ar y sefydliad busnes bwyd wedi ei throsglwyddo neu fod y sefydliad hwnnw wedi cau.
9.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n esemptio categorïau penodol o sefydliad rhag cael eu sgorio.
10.Mae is-adran (2) yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i alluogi sgoriau i gael eu rhoi ar gyfer asesiadau a wnaed cyn i'r Ddeddf gael ei chychwyn. Er enghraifft, gellid dibynnu ar ganfyddiadau arolygiad blaenorol a wnaed gan yr awdurdod bwyd, fel rhan o gynllun gwirfoddol blaenorol yr ASB, pan fo'r awdurdod bwyd yn dyroddi sgôr o dan y cynllun statudol ar ôl i'r Ddeddf gael ei chychwyn.
11.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r meini prawf sgorio (a gyhoeddir gan yr ASB o dan adran 14(1)(c)) gynnwys system i sgorio safonau hylendid sefydliad busnes bwyd.
12.Mae adran 5 yn sefydlu'r weithdrefn i weithredwr sefydliad busnes bwyd ei dilyn i apelio yn erbyn sgôr a roddwyd i'r sefydliad, a'r seiliau y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud arnynt. Mae Gweinidogion Cymru yn rhag-weld y caiff canllawiau ar apelau eu cynnwys mewn canllawiau a ddyroddir ganddynt o dan adran 23.
13.Mae gan y gweithredwr 21 o ddiwrnodau i apelio, o'r dyddiad y derbynnir yr hysbysiad am y sgôr. Rhaid i awdurdod bwyd benderfynu'r apêl (a chaniateir i arolygiad pellach gael ei wneud er mwyn ystyried yr apêl), ac anfon at y gweithredwr hysbysiad am ei benderfyniad. Cynhelir yr apêl gan swyddog awdurdodedig nad oedd yn gysylltiedig â’r gwaith o asesu’r sgôr hylendid bwyd sy’n destun yr apêl. Rhaid penderfynu ar apelau cyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl i'r awdurdod bwyd eu derbyn.
14.Os yw'r awdurdod bwyd, ar sail apêl, yn penderfynu newid y sgôr, rhaid anfon sticer sgôr newydd at y gweithredwr ar yr un pryd ag y mae’r awdurdod bwyd yn hysbysu'r gweithredwr am ei benderfyniad.
15.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n darparu bod apêl yn cael ei phenderfynu gan berson ac eithrio’r awdurdod bwyd.
16.Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bwyd hysbysu'r ASB am y sgoriau y mae wedi eu rhoi i sefydliadau busnes bwyd yn ei ardal, ac mae'n nodi terfynau amser erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud hyn. Yna, rhaid i'r ASB gyhoeddi'r sgoriau hynny ar ei gwefan.
17.Mae is-adran (2) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod bwyd roi gwybodaeth bellach i’r ASB wrth ei hysbysu o sgoriau.
18.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i’r ASB gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol ar ei gwefan.
19.Mae adran 7 yn darparu bod yn rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd, pan fydd wedi cael hysbysiad am ei sgôr gan yr awdurdod bwyd, arddangos y sticer yn y sefydliad bwyd o fewn 21 o ddiwrnodau. Mae'r cyfnod hwn o 21 o ddiwrnodau yn rhoi cyfle i'r gweithredwr apelio yn erbyn y sgôr. Os bydd y gweithredwr yn apelio, ni fydd y rhwymedigaeth i arddangos y sgôr yn gymwys hyd nes y bydd y gweithredwr yn cael hysbysiad am ganlyniad yr apêl.
20.Bydd Gweinidogion Cymru yn rhagnodi, mewn rheoliadau, y man lle y mae'n rhaid arddangos y sticer a'r modd y mae'n rhaid ei arddangos; caiff rheoliadau hefyd ragnodi'r man a'r modd priodol ar gyfer arddangos sticer mewn gwahanol fathau o sefydliad.
21.Bydd y sticer yn peidio â bod yn ddilys pan fydd y sgôr y mae'n ymwneud â hi yn peidio â bod yn ddilys (gweler paragraff 8 uchod). Pan fydd sticer yn peidio â bod yn ddilys, rhaid i'r gweithredwr ei dynnu o'r man lle y mae'n cael ei arddangos a'i ddistrywio, oni chaiff ei gyfarwyddo i beidio â’i ddistrywio gan awdurdod bwyd.
22.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr busnes bwyd a chyflogeion mewn sefydliad busnes bwyd sy’n delio â chwsmeriaid ymateb i geisiadau gan y cyhoedd am gadarnhad o sgôr hylendid bwyd y sefydliad ar lafar. Rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod y cyflogeion yn ymwybodol o’r sgôr er mwyn iddynt allu ymateb i geisiadau.
23.Mae adran 9 yn creu trosedd o ran arddangos a chadw sticeri’n gywir ac o ran methiant i ymateb i geisiadau am gadarnhad o’r sgoriau ar lafar. Mae’r troseddau hyn yn gymwys i weithredwyr busnesau bwyd ac maent oll yn ddarostyngedig i amddiffyniad esgus rhesymol.
24.Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn drosedd i unrhyw un, yn fwriadol, newid, difwyno neu ymyrryd â sticer, ac eithrio pan fo’r sticer yn annilys ac y dylai gael ei ddistrywio yn unol ag adran 7(6). Nid oes amddiffyniad esgus rhesymol mewn perthynas â’r troseddau hyn.
25.Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i weithredwr sefydliad busnes bwyd (neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr) roi cyhoeddusrwydd i sgôr hylendid bwyd y sefydliad.
26.Caiff y rheoliadau ragnodi sut y mae’n rhaid i’r gweithredwr hyrwyddo sgôr ei sefydliad yn electronig ac mewn deunydd sy’n hyrwyddo’r bwyd y mae’r sefydliad yn ei ddarparu. Hefyd, caiff y rheoliadau wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad, creu trosedd, gosod cosb neu ganiatáu ar gyfer gorfodi’r gofyniad.
27.Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod bwyd roi cyfle i weithredwr sefydliad busnes bwyd gyflwyno sylwadau (yn ysgrifenedig) ar sgôr y sefydliad i'r awdurdod bwyd. Rhaid anfon unrhyw sylwadau a gaiff yr awdurdod bwyd o dan yr adran hon ymlaen at yr ASB, a gaiff gyhoeddi'r sylwadau ar ei gwefan ynghyd â sgôr y sefydliad busnes bwyd.
28.Mae’r adran hon yn galluogi gweithredwr sefydliad busnes bwyd i ofyn i'r awdurdod bwyd wneud asesiad ailsgorio er mwyn ystyried a ddylid newid sgôr. Os bodlonir yr amodau a nodir yn yr adran hon, (gan gynnwys y gofyniad bod y gweithredwr wedi talu costau rhesymol yr ailsgoriad), rhaid i'r awdurdod bwyd wneud arolygiad heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl i'r awdurdod bwyd gael y cais.
29.Os bydd yr ailsgoriad yn arwain at newid i'r sgôr, rhaid i'r awdurdod bwyd ddyroddi'r sgôr ddiwygiedig i'r gweithredwr cyn pen 14 o ddiwrnodau. Fel arall, pan nad oes sgôr ddiwygiedig i'w dyroddi, rhaid hysbysu'r gweithredwr cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl i'r arolygiad gael ei gwblhau.
30.Mae'r hawl i apelio a'r hawl i ateb yn gymwys i unrhyw sgôr hylendid bwyd newydd, ac unrhyw sgôr sydd heb ei newid.
31.Mae adran 14 yn nodi dyletswyddau cyffredinol yr ASB mewn perthynas â'r cynllun sgorio hylendid bwyd, sy’n cynnwys cyhoeddi’r meini prawf sgorio (sydd wedi eu sefydlu o dan adran 3), adolygu gweithrediad y cynllun sgorio hylendid bwyd sydd wedi ei sefydlu o dan y Ddeddf hon, a gweithrediad y system apelau (sydd wedi ei sefydlu o dan adran 5) a hyrwyddo’r cynllun ymhlith sefydliadau busnes bwyd a chwsmeriaid yng Nghymru.
32.Rhaid rhoi copi o’r adroddiad(au) a baratowyd gan yr ASB ar weithrediad y cynllun a’r system apelau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac anfon copi at Weinidogion Cymru.
33.Mae adran 15 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod bwyd, pan fydd yn cofrestru neu'n cael cais am gymeradwyaeth gan sefydliad busnes bwyd newydd, anfon gwybodaeth (sydd i'w rhagnodi gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau) at y gweithredwr cyn pen 14 o ddiwrnodau. (Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhan fwyaf o sefydliadau busnes bwyd gofrestru gyda'u hawdurdod bwyd, ond rhaid i rai busnesau gael cymeradwyaeth gan eu hawdurdod bwyd).
34.Mae'r adran hefyd yn darparu bod yn rhaid i'r awdurdod bwyd roi sylw i argymhellion a wneir gan yr ASB a chanllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru a bod yn rhaid iddo wneud trefniadau i orfodi'r rhwymedigaethau o dan y Ddeddf ar sefydliadau busnes bwyd yn ei ardal. Rhaid i’r awdurdod bwyd adolygu gweithrediad y cynllun yn ei ardal er mwyn sicrhau bod y meini prawf sgorio yn cael eu hasesu'n deg ac yn gyson a chynorthwyo'r ASB mewn unrhyw werthusiad o'r cynllun a wneir gan yr ASB (er enghraifft o dan adran 14).
35.Mae adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr sefydliad busnes bwyd ddarparu gwybodaeth a phob cymorth rhesymol i'r awdurdod bwyd i'w alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ar gyfer y sefydliad ac arfer ei swyddogaethau eraill o dan y ddeddfwriaeth.
36.Mae adran 17 yn darparu i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl iddo ddangos awdurdod ysgrifenedig, bŵer i fynd i mewn i sefydliad busnes bwyd at ddibenion penodedig sy'n ymwneud â'r Ddeddf.
37.Mae adran 19 yn darparu, pan fydd corff corfforaethol (megis cwmni, neu unrhyw gorff arall a gorfforir drwy statud) yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf hon, y bydd cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff hwnnw (neu unrhyw un sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rôl o’r fath) hefyd yn euog o drosedd mewn amgylchiadau pan geir eu bod yn bersonol feius.
38.Mae adran 20 yn darparu bod troseddau o dan y Ddeddf hon yn rhai y gellir eu rhoi ar brawf yn y Llys Ynadon a’u cosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol (£1,000 ar hyn o bryd).
39.Mae adran 21 yn galluogi swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd i ddyroddi hysbysiad cosb benodedig (HCB) i berson y mae ganddo reswm i gredu ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Ddeddf. Caiff swyddog awdurdodedig gynnig cyfle i'r person hwnnw fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig. Os na thelir y gosb benodedig, bydd yr awdurdod bwyd yn cadw'r pŵer i erlyn. Mae’r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 1.
40.Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig a lefelau cosbau penodedig sy’n daladwy mewn cysylltiad â throsedd o dan y Ddeddf. Mae paragraffau 1 a 2 yn darparu y dylai’r hysbysiad cosb benodedig fod yn £200 i’w dalu o fewn 28 niwrnod, gyda chosb ddisgownt o £150 os telir yr hysbysiad cosb benodedig o fewn 14 diwrnod. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ragnodi swm gwahanol ar gyfer y gosb neu’r gosb ddisgownt.
41.Mae rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth o ran ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb benodedig.
42.Mae adran 23 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau bwyd a’r ASB mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf. Rhaid i'r awdurdod bwyd a’r ASB roi sylw i'r canllawiau hyn.
43.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf ac mae hefyd yn cadarnhau bod cyfeiriad at sticer hylendid bwyd yn y Ddeddf yn cynnwys cyfeiriad at fwy nag un sticer (pan fo hynny’n ofynnol gan y cyd-destun).
44.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir dod o hyd i Gofnod y Trafodion a gwybodaeth bellach ar hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cymru yn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=3812
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 28 Mai 2012 |
Cyfnod 1 - Dadl | 16 Hydref 2012 |
Cam 2 Y Pwyllgor Craffu - ystyried y gwelliannau | 7 Tachwedd 2012 |
Cyfnod 3 Y Cyfarfod Llawn - ystyried ygwelliannau | 22 Ionawr 2013 |
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad | 22 Ionawr 2013 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 4 Mawrth 2013 |