Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Nodiadau Esboniadol

Adran 8 – Ceisiadau am wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd

22.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr busnes bwyd a chyflogeion mewn sefydliad busnes bwyd sy’n delio â chwsmeriaid ymateb i geisiadau gan y cyhoedd am gadarnhad o sgôr hylendid bwyd y sefydliad ar lafar. Rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod y cyflogeion yn ymwybodol o’r sgôr er mwyn iddynt allu ymateb i geisiadau.

Back to top