Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Nodiadau Esboniadol

Adran 10 – Hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd

25.Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i weithredwr sefydliad busnes bwyd (neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr) roi cyhoeddusrwydd i sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

26.Caiff y rheoliadau ragnodi sut y mae’n rhaid i’r gweithredwr hyrwyddo sgôr ei sefydliad yn electronig ac mewn deunydd sy’n hyrwyddo’r bwyd y mae’r sefydliad yn ei ddarparu. Hefyd, caiff y rheoliadau wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad, creu trosedd, gosod cosb neu ganiatáu ar gyfer gorfodi’r gofyniad.

Back to top