Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Cyflwyniad

1Trosolwg

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae’r Ddeddf hon yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd i Gymru.

(2)Mae’r cynllun yn darparu bod awdurdodau bwyd yng Nghymru yn arolygu (adran 2) sefydliadau busnes bwyd yn ardaloedd yr awdurdodau ac yn llunio sgoriau hylendid bwyd y sefydliadau hynny (adran 3).

(3)Mae sgôr hylendid bwyd i’w lunio drwy sgorio safonau hylendid bwyd sefydliad yn erbyn meini prawf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“ASB”) (adrannau 3 a 4).

(4)Caiff sefydliad busnes bwyd apelio yn erbyn ei sgôr hylendid bwyd a rhoi sylwadaethau arni (adrannau 5 a 11).

(5)Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad yn ei ardal, a rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr (adran 6)

(6)Rhaid i sefydliad busnes bwyd hysbysu’r cyhoedd am ei sgôr hylendid bwyd (adrannau 7 ac 8).

(7)Mae methu â hysbysu’r cyhoedd yn drosedd, y gellid ei chosbi drwy ddirwy neu gosb benodedig (adran 9, adrannau 19 i 22 a’r Atodlen).

(8)O dan amgylchiadau penodol caiff sefydliad busnes bwyd ofyn am ailsgoriad (adran 12).

(9)Mae pwerau a chyfrifoldebau awdurdodau bwyd a’r ASB a chyfrifoldebau gweithredwyr sefydliadau busnes bwyd wedi eu nodi yn adrannau 14 i 16.

Arolygiadau a sgoriau hylendid bwyd

2Rhaglen arolygiadau hylendid bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i awdurdod bwyd lunio, ac adolygu, rhaglen sy’n pennu—

(a)a oes rhaid i sefydliad busnes bwyd yn ei ardal gael ei arolygu, a

(b)os oes angen arolygiad, mynychder yr arolygiadau.

(2)Rhaid i awdurdod bwyd arolygu sefydliadau busnes bwyd yn ei ardal yn unol â’r rhaglen.

(3)Wrth lunio ac adolygu ei raglen, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw i faterion a bennir gan yr ASB ac a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i’r materion a bennir gan yr ASB gynnwys asesiad o’r risg i iechyd y cyhoedd—

(a)sy’n gysylltiedig â’r math o fwyd a drafodir gan sefydliad,

(b)sy’n gysylltiedig â’r dull o drafod y bwyd, ac

(c)sy’n codi o record y sefydliad o gydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd.

(5)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yr ardal yng Nghymru lle y mae’r sefydliad (neu awdurdod iechyd porthladd o dan yr amgylchiadau a ragnodir gan adran 5(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990);

  • ystyr “gweithredwr” (“operator”) sefydliad busnes bwyd yw person sy’n ymwneud â rheoli’r sefydliad;

  • ystyr “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yw unrhyw uned o fusnes sydd wedi ei gofrestru gydag awdurdod bwyd drwy rinwedd Erthygl 6 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 neu sydd wedi ei gymeradwyo o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 (neu sydd wedi ei gofrestru neu ei gymeradwyo o dan ddarpariaethau cyfatebol yn lle hynny ar gyfer cofrestru neu cymeradwyo sefydliadau busnes bwyd) ac—

    (a)

    sy’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, neu

    (b)

    sy’n cyflenwi bwyd i fusnes arall.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diwygio’r diffiniad o sefydliad busnes bwyd, gan gynnwys ehangu’r categori o sefydliad a fydd yn ddarostyngedig i raglen arolygiadau;

(b)diwygio’r diffiniad o awdurdod bwyd (er enghraifft, i gynnwys cyrff eraill).

3Sgoriau hylendid bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Pan fo sefydliad busnes bwyd wedi ei arolygu yn unol ag adran 2, rhaid i awdurdod bwyd asesu safonau hylendid bwyd y sefydliad a chynhyrchu sgôr (“sgôr hylendid bwyd”) ar gyfer y sefydliad hwnnw sydd wedi ei sgorio yn erbyn meini prawf a osodir gan yr ASB (y “meini prawf sgorio”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod sgôr hylendid bwyd i’w seilio ar asesiad o safonau hylendid bwyd sefydliad a wnaed cyn i’r Ddeddf hon gael ei chychwyn.

(3)Cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl arolygiad , rhaid i awdurdod bwyd anfon at weithredwr y sefydliad—

(a)hysbysiad ysgrifenedig am sgôr hylendid bwyd y sefydliad;

(b)datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;

(c)sticer sgôr hylendid bwyd ar ffurf a ragnodir;

(d)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(4)Mae sgôr hylendid bwyd yn peidio â bod yn ddilys yn yr achosion a ganlyn—

(a)pan fo gweithredwr sefydliad wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd newydd a—

(i)bod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd newydd wedi dirwyn i ben, neu

(ii)os oes apêl wedi ei gwneud, bod yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad;

(b)pan fo perchenogaeth ar sefydliad wedi ei throsglwyddo neu fod y sefydliad wedi peidio â masnachu.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi bod categorïau penodol o sefydliad yn cael bod yn esempt rhag cael eu sgorio.

4Y meini prawf sgorio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i’r meini prawf sgorio gynnwys system i sgorio safonau hylendid sefydliad busnes bwyd.

(2)Rhaid i’r system sgorio gynnwys darpariaethau sydd wedi eu seilio ar yr agweddau canlynol ar y sefydliad—

(a)ei arferion trin bwyd (gan gynnwys rheoli tymheredd);

(b)ei amgylchedd ffisegol (gan gynnwys ei gynllun, ei lendid a’i gyflwr);

(c)ei reolaeth;

(d)ei weithdrefnau ar gyfer cadw trefn.

Apelau

5Yr hawl i apelio

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff gweithredwr sefydliad busnes bwyd apelio i’r awdurdod bwyd yn erbyn sgôr hylendid bwyd a roddwyd i’r sefydliad.

(2)Caniateir i apêl gael ei gwneud ar y naill neu’r llall o’r seiliau canlynol neu’r ddwy ohonynt—

(a)nad yw’r sgôr yn adlewyrchu’n briodol y safonau hylendid bwyd yn y sefydliad adeg yr arolygiad;

(b)nad oedd y meini prawf sgorio wedi eu cymhwyso’n gywir wrth lunio’r sgôr hylendid bwyd.

(3)Rhaid i apêl gael ei gwneud cyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cafwyd hysbysiad am y sgôr hylendid bwyd.

(4)Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig ar y ffurf a ragnodir.

(5)Caiff awdurdod bwyd gynnal arolygiad pellach o’r sefydliad er mwyn ystyried y materion a godwyd mewn apêl.

(6)Rhaid i awdurdod bwyd benderfynu’r apêl a hysbysu gweithredwr y sefydliad a’r ASB am ei benderfyniad cyn pen 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cafwyd yr apêl.

(7)Rhaid i’r apêl gael ei chynnal gan swyddog awdurdodedig na fu’n ymwneud ag asesu’r sgôr hylendid bwyd sy’n destun apêl.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu ar gyfer apêl o dan yr adran hon gael ei phenderfynu gan berson ac eithrio’r awdurdod bwyd.

(9)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth am y weithdrefn i’w dilyn ar gyfer apelau;

(b)i wneud unrhyw ddiwygiadau i’r adran hon o ganlyniad i berson arall yn dod yn gyfrifol dros y penderfyniad y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(10)Os yw awdurdod bwyd yn penderfynu diwygio sgôr hylendid bwyd, rhaid iddo, wrth hysbysu’r sefydliad am ei benderfyniad, anfon at weithredwr y sefydliad—

(a)hysbysiad ysgrifenedig am ei sgôr hylendid bwyd diwygiedig;

(b)datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;

(c)sticer sgôr hylendid bwyd newydd;

(d)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(11)Pan fo awdurdod bwyd yn penderfynu diwygio sgôr hylendid bwyd, wrth iddo hysbysu’r ASB am ei benderfyniad rhaid iddo anfon i’r ASB gopi o’r hysbysiad a’r datganiad y cyfeirir ato yn is-adran (10).

(12)Nid oes unrhyw hawl bellach i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed o dan is-adran (6).

Trefniadau cyhoeddi ac arddangos

6Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a’u cyhoeddi

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd o fewn y cyfnod perthnasol.

(2)Wrth hysbysu'r ASB rhaid i awdurdod bwyd ddarparu i’r ASB hefyd unrhyw wybodaeth bellach a ragnodir.

(3)Rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr hylendid bwyd ac unrhyw wybodaeth arall a ragnodir ar ei gwefan cyn pen 7 o ddiwrnodau ar ôl cael ei hysbysu o dan is-adran (1).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod perthnasol”—

(a)os nad oes apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd, yw 49 o ddiwrnodau o’r dyddiad y bydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd yn cael hysbysiad am y sgôr hylendid bwyd;

(b)os gwneir apêl, yw 28 o ddiwrnodau o ddyddiad penderfynu’r apêl.

Hysbysu’r cyhoedd am sgoriau hylendid bwyd

7Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Pan fydd gweithredwr sefydliad busnes bwyd wedi cael hysbysiad am sgôr hylendid bwyd y sefydliad, rhaid i’r gweithredwr arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd a ddarparir.

(2)Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys—

(a)hyd nes y bydd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ar gyfer apêl wedi dirwyn i ben, neu

(b)os yw apêl wedi ei gwneud, hyd nes y bydd yr apêl wedi ei phenderfynu a bod y gweithredwr wedi cael hysbysiad am y canlyniad.

(3)Rhaid i’r sticer gael ei arddangos yn y man a’r modd a ragnodir.

(4)Caiff rheoliadau sy’n rhagnodi’r man a’r modd priodol ar gyfer arddangos sticer wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad (gan gynnwys darpariaeth ynghylch arddangos sticer mewn mwy nag un man).

(5)Bydd y sticer yn peidio â bod yn ddilys pan fydd sgôr hylendid bwyd y sefydliad yn peidio â bod yn ddilys.

(6)Os bydd sticer sefydliad yn peidio â bod yn ddilys, rhaid i’r gweithredwr ei dynnu o’r man lle y mae’n cael ei arddangos a’i ddistrywio (oni chaiff ei gyfarwyddo i beidio â’i ddistrywio gan swyddog awdurdodedig).

8Ceisiadau am wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd sicrhau bod pob cyflogai perthnasol yn ymwybodol o sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

(2)Rhaid i’r gweithredwr ac unrhyw gyflogai perthnasol gydymffurfio â chais a gyfeirir atynt gan berson i gael ei hysbysu ar lafar am sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cyflogai perthnasol” yw rhywun sydd—

(a)yn cael ei gyflogi yn y sefydliad, a

(b)yn debygol, ym marn y gweithredwr, o fod yn wrthrych cais i hysbysu person ar lafar am sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

9Troseddau

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae gweithredwr sefydliad busnes bwyd yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—

(a)yn methu ag arddangos sticer sgôr hylendid bwyd dilys yn y man a’r modd a ragnodir;

(b)yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd annilys;

(c)yn methu â chadw sticer sgôr hylendid bwyd dilys;

(d)yn ildio ei feddiant ar sticer sgôr hylendid bwyd i unrhyw berson heblaw am swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd;

(2)Mae gweithredwr sefydliad busnes bwyd hefyd yn euog o drosedd, os, heb esgus rhesymol—

(a)gwrthodir cais person i gael ei hysbysu ar lafar am sgôr hylendid bwyd; neu

(b)rhoddir gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i berson sy’n gwneud cais o’r fath am sgôr hylendid bwyd sefydliad.

(3)Mae sticer sgôr hylendid bwyd yn aros yn eiddo i’r awdurdod bwyd.

(4)Mae person yn cyflawni trosedd os yw—

(a)yn fwriadol yn newid, yn difwyno neu fel arall yn ymyrryd â sticer sgôr hylendid bwyd, a

(b)yn gwneud hynny heblaw er mwyn ei dynnu o’r man lle y mae’n cael ei arddangos, neu er mwyn ei ddistrywio, yn unol ag adran 7(6).

10Hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch hyrwyddo sgôr hylendid bwyd sefydliad busnes bwyd—

(a)gan weithredwr y sefydliad;

(b)gan berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr.

(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, osod dyletswyddau ar weithredwr mewn perthynas â’r canlynol—

(a)rhoi cyhoeddusrwydd i’r sgôr yn electronig;

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i’r sgôr mewn deunydd sy’n hyrwyddo’r bwyd a ddarperir gan y sefydliad.

(3)Caiff y rheoliadau hefyd—

(a)creu trosedd;

(b)gosod cosb (gan gynnwys cosb benodedig);

(c)gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi;

(d)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o sefydliad.

(4)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at sgôr hylendid bwyd sefydliad yn cynnwys cyfeiriad at sgôr a ddarperir yn rhinwedd adran 12 (ailsgoriadau hylendid bwyd).

Mesurau diogelu ar gyfer busnesau bwyd

11Yr hawl i ateb

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i awdurdod bwyd roi cyfle i weithredwr sefydliad busnes bwyd i roi sylwadaethau ar sgôr hylendid bwyd y sefydliad.

(2)Rhaid i unrhyw sylwadaethau o’r fath gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig a chaniateir eu cyflwyno i awdurdod bwyd ar unrhyw adeg tra bo’r sgôr yn ddilys, p’un a yw apêl wedi ei gwneud o dan adran 5 ai peidio.

(3)Rhaid i awdurdod bwyd anfon unrhyw sylwadaethau o’r fath ymlaen at yr ASB a gaiff gyhoeddi’r sylwadaethau ar ei gwefan ynghyd â’r sgôr hylendid bwyd y mae’r sylwadaethau yn ymwneud â hi.

12Ailsgoriadau hylendid bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff gweithredwr sefydliad busnes bwyd ofyn i’r awdurdod bwyd wneud arolygiad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad er mwyn ystyried a ddylid newid ei sgôr hylendid bwyd (“ailsgoriad”).

(2)Rhaid i gais am ailsgoriad gael ei wneud ar y ffurf a ragnodir.

(3)Rhaid i awdurdod bwyd gydymffurfio â chais o’r fath os yw’r amodau yn is-adran (4) ac, os yw’n gymwys, yr amod yn is-adran (5) wedi eu bodloni.

(4)Yr amodau yn yr is-adran hon yw—

(a)bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd gyfredol wedi ei phenderfynu;

(b)bod y gweithredwr wedi hysbysu’r awdurdod bwyd am y gwelliannau a wnaed i’r safonau hylendid yn y sefydliad;

(c)bod yr awdurdod bwyd o’r farn ei bod yn rhesymol i ail arolygu ac ailasesu’r sefydliad gyda golwg ar y gwelliannau y dywedwyd eu bod wedi eu gwneud;

(d)bod y sticer sgôr hylendid bwyd cyfredol wedi ei arddangos yn y sefydliad yn unol â gofynion adran 7;

(e)bod y gweithredwr wedi cytuno i sicrhau y caiff awdurdod bwyd fynd yno i wneud arolygiad o’r sefydliad at ddiben yr ailsgoriad.

(5)Yr amod yn yr is-adran hon yw bod gweithredwr y sefydliad busnes bwyd wedi talu costau rhesymol yr ailsgoriad, fel y’u penderfynwyd gan yr awdurdod bwyd yn unol ag adran 13.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r awdurdod bwyd wedi ceisio cael taliad o’r costau hynny cyn yr arolygiad.

(7)Os yw’r amodau yn is-adran (4) ac, os yw’n gymwys, yr amod yn is-adran (5) wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod bwyd gwblhau’r ailsgoriad heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl cael y cais.

(8)Os yw awdurdod bwyd yn penderfynu na ddylai fod unrhyw newid i’r sgôr hylendid bwyd gyfredol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y sefydliad busnes bwyd cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad cwblhau’r arolygiad.

(9)Os yw’r awdurdod bwyd yn penderfynu newid y sgôr hylendid bwyd, rhaid iddo, cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr arolygiad, anfon at weithredwr y sefydliad—

(a)hysbysiad ysgrifenedig am ei sgôr hylendid bwyd newydd;

(b)datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y sgôr;

(c)sticer sgôr hylendid bwyd newydd;

(d)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.

(10)Mae’r gofynion yn adran 6 (cyhoeddi), adran 7 (arddangos sticeri) ac adran 8 (ceisiadau am wybodaeth)) yn gymwys i’r sgôr hylendid bwyd newydd.

(11)Mae adran 5 (yr hawl i apelio) ac adran 11 (yr hawl i ateb) yn gymwys i benderfyniadau’r awdurdod bwyd o dan is-adrannau (8) a (9).

13Talu costau ailsgoriad

(1)Os yw cais am ailsgoriad wedi ei wneud gan weithredwr sefydliad busnes bwyd, rhaid i awdurdod bwyd benderfynu costau rhesymol yr ailsgoriad.

(2)Cyn gwneud yr ailsgoriad, rhaid i’r awdurdod bwyd hysbysu’r gweithredwr am gostau’r ailsgoriad ac am y ffordd y cafodd y costau eu cyfrifo.

(3)Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd dalu costau yr ailsgoriad.

(4)Caiff awdurdod bwyd ei gwneud yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud cyn bod yr ailsgoriad yn cael ei wneud.

Pwerau a chyfrifoldebau

14Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i’r ASB—

(a)wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i’r canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;

(b)cyhoeddi’r materion y mae rhaid i awdurdod bwyd roi sylw iddynt wrth lunio ac adolygu rhaglen arolygu o dan adran 2 (pan fo’r materion hynny wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru;

(c)cyhoeddi’r meini prawf sgorio a ddefnyddir i roi sgôr hylendid bwyd o dan adran 3;

(d)ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn cychwyn, a phob cyfnod dilynol o 1 flwyddyn, gynnal adolygiad o weithrediad y system apelau a sefydlir o dan adran 5 yn ystod y cyfnod hwnnw;

(e)ar ddiwedd cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau pan fydd y cynllun yn dechrau, a phob cyfnod dilynol o 3 blynedd, adolygu fel arall sut y rhoddwyd ar waith y cynllun sgorio bwyd a sefydlwyd o dan y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw a sut y bu iddo gael ei weithredu;

(f)gwneud argymhellion i awdurdodau bwyd i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’u cyfrifoldebau o dan y cynllun;

(g)hybu’r cynllun i sefydliadau busnes bwyd a defnyddwyr yng Nghymru;

(h)darparu sticeri sgôr hylendid bwyd ar y ffurf ragnodedig i awdurdodau bwyd yn ddi-dâl.

(2)Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(d) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbon Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—

(a)manylion am yr adolygiad a ymgymerwyd ag ef;

(b)yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r system apelau y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.

(3)Heb fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae adolygiad o dan is-adran (1)(e) yn ymwneud ag ef, rhaid i’r ASB osod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys—

(a)manylion am yr adolygiad yr ymgymerwyd ag ef;

(b)yr argymhellion dros newid, os oes rhai, i’r cynllun sgorio hylendid bwyd y gwêl eu bod yn briodol a’i resymau dros ddod at y casgliad hwnnw.

(4)Rhaid i’r ASB anfon copi o bob adroddiad a lunnir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.

15Pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Rhaid i awdurdod bwyd anfon gwybodaeth a ragnodir at weithredwyr sefydliadau busnes bwyd newydd yn ei ardal.

(2)Rhaid i’r wybodaeth honno gael ei hanfon at weithredwr o fewn 14 o ddiwrnodau o wneud pa un bynnag o’r pethau canlynol sy’n gymwys—

(a)cofrestri sefydliad y gweithredwr gan yr awdurdod fwyd o dan Erthygl 6 o Reoliad (EC) 852/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cofrestru sefydliadau busnes bwyd sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno), neu

(b)gweithredwr y sefydliad yn gwneud cais i’r awdurdod bwyd am gymeradwyaeth o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) 853/2004 (neu ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer cymeradwyo sefydliadau o’r fath sy’n cymryd lle’r ddarpariaeth honno).

(3)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, rhaid i awdurdod bwyd roi sylw—

(a)i argymhellion a wneir gan yr ASB;

(b)i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 23 o’r Ddeddf hon.

(4)Rhaid i awdurdod bwyd wneud trefniadau i orfodi’r rhwymedigaethau sy’n cael eu gosod gan y Ddeddf hon ar sefydliadau yn ei ardal.

(5)Rhaid i awdurdod bwyd adolygu gweithrediad y cynllun sgorio hylendid bwyd yn ei ardal—

(a)o bryd i’w gilydd, gyda golwg ar sicrhau bod y meini prawf sgorio yn cael eu hasesu’n deg ac yn gyson;

(b)ar gais yr ASB, er mwyn cynorthwyo’r ASB i werthuso’r cynllun fel sy’n ofynnol gan adran 14(d).

16Cyfrifoldebau eraill gweithredwyr sefydliadau busnes bwyd

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Rhaid i weithredwr sefydliad busnes bwyd—

(a)darparu unrhyw wybodaeth y mae angen rhesymol amdani ar awdurdod bwyd i’w alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ar gyfer y sefydliad;

(b)fel arall rhoi pob cymorth rhesymol i awdurdod bwyd er mwyn ei alluogi i lunio sgôr hylendid bwyd ac arfer ei swyddogaethau eraill o dan y Ddeddf hon.

Gorfodi

17Pŵer mynediad

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad busnes bwyd er mwyn—

(a)llunio sgôr hylendid bwyd;

(b)gwneud ailsgoriad;

(c)penderfynu apêl o dan adran 5; neu

(d)gorfodi unrhyw un neu rai o’r gofynion yn adran 7.

(2)Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

18Rhwystro swyddogion awdurdodedig

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sy’n gweithredu i arfer swyddogaethau’r swyddog yn cyflawni trosedd.

19Troseddau gan gyrff corfforaethol

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y trosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

bydd y cyfarwyddwr, y rheolwr, neu’r ysgrifennydd hwnnw neu’r person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(3)Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw un o swyddogion cyffelyb y corff;

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

20Cosbau

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Bydd person sy’n euog o drosedd o dan y Ddeddf hon yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

21Cosbau penodedig

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 9, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person yn cynnig cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(2)Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan yr adran hon mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)ni chaniateir ei gollfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Mae’r Atodlen (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

22Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig

(1)Rhaid i awdurdod bwyd dalu ei dderbyniadau cosb benodedig i Weinidogion Cymru.

(2)Yn yr adran hon ystyr “derbyniadau cosb benodedig” yw’r symiau sy’n cael eu talu i awdurdod bwyd o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddwyd o dan adran 21.

Amrywiol a chyffredinol

23Canllawiau

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—

(a)i’r ASB;

(b)i awdurdod bwyd,

mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.

24Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddau

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n pennu cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud rhywbeth drwy roi cyfnod arall yn ei le.

25Dehongli

Nodiadau EsboniadolDangos EN

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr mater “a ragnodir” (“prescribed”) yw mater sydd yn cael ei ragnodi mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • mae i’r ymadrodd “ailsgoriad” (“re-rating”) yr ystyr sydd iddo yn adran 12;

  • ystyr “anfon” (“send”) yw anfon drwy’r post neu ddanfon â llaw;

  • mae i’r ymadrodd “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;

  • mae i’r ymadrodd “gweithredwr” (“operator”) (sefydliad busnes bwyd) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;

  • mae i’r ymadrodd “meini prawf sgorio” (“rating criteria”) yr ystyr sydd iddo yn adran 3;

  • mae i’r ymadrodd “sefydliad busnes bwyd” (“food business establishment”) yr ystyr sydd iddo yn adran 2;

  • mae i’r ymadrodd “sgôr hylendid bwyd” (“food hygiene rating”) yr ystyr sydd iddo yn adran 3;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan awdurdod bwyd at ddibenion arfer unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Ddeddf hon.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at sticer sgôr hylendid bwyd yn cynnwys, pan fo’r cyd-destun yn mynnu hynny, cyfeiriad at fwy nag un sticer.

26Rheoliadau

(1)Mae pwerau i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Yn achos y pŵerau o dan adrannau 2(6), 3(2) a 3(5) mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys darpariaeth i ddiwygio’r Ddeddf hon.

(4)Ni chaniateir i Reoliadau o dan adrannau 2(6), 3(2), 3(5), 5(8), 6(2), 10, 24 a pharagraff 3 o’r Atodlen gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Mae rheoliadau eraill a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w diddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

27Cychwyn

(1)Mae’r adran hon yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn i’w wneud gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff gorchymyn a wneir o dan yr adran hon—

(a)bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys diwrnodau gwahanol ar gyfer categorïau gwahanol o sefydliad busnes bwyd);

(b)gynnwys unrhyw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth darfodol, neu ddarpariaeth arbed y gwêl Gweinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu hwylus.

28Enw Byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill