xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

2012 dccc 2

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer pwerau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a chyrff cyhoeddus eraill i wneud isddeddfau; y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau; gorfodi is-ddeddfau; ac at ddibenion cysylltiedig.

[29 Tachwedd 2012]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chael cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon –

(a)yn diwygio gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yng Nghymru, gan gynnwys tynnu ymaith ofyniad am gadarnhau is-ddeddfau gan Weinidogion Cymru;

(b)yn galluogi i is-ddeddfau penodol gael eu gorfodi drwy hysbysiadau cosbau penodedig;

(c)yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw awdurdodau sy’n gwneud is-ddeddfau roi sylw i unrhyw ganllawiau ar weithdrefn a roddir gan Weinidogion Cymru;

(d)yn ailddatgan i Gymru pŵer cyffredinol i wneud is-ddeddfau.

Y pŵer i wneud is-ddeddfau

2Is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau

(1)Caiff cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud is-ddeddfau –

(a)ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth y cyfan neu unrhyw ran o’i ardal;

(b)ar gyfer rhwystro ac atal niwsansau yn ei ardal.

(2)Ond ni chaiff is-ddeddfau wneud darpariaeth –

(a)a wnaed gan Ddeddf Seneddol, Mesur neu Ddeddf y Cynulliad;

(b)a wnaed, neu a gellid ei wneud, gan is-ddeddfwriaeth (sy’n golygu deddfwriaeth a wneir gan offeryn statudol).

Dehongli

3Ystyr “awdurdod deddfu”

Mae pob un o’r canlynol yn awdurdod deddfu at ddibenion y Ddeddf hon –

(a)cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghmru;

(b)cyngor cymuned;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dirymu is-ddeddfau

4Dirymu gan awdurdod deddfu

(1)Caiff awdurdod deddfu wneud is-ddeddf i ddirymu is-ddeddf a wnaed yn flaenorol ganddo.

(2)Ond caniateir arfer y pŵer hwn dim ond pan nad oes pŵer arall gan yr awdurdod i ddiddymu is-ddeddf.

5Dirymu gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddirymu unrhyw is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu y maent wedi penderfynu ei bod yn anarferedig.

(2)Cyn gwneud gorchymyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned) y maent o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddo ddiddordeb yn nirymiad yr is-ddeddf neu a effeithir gan y dirymiad.

(3)Caiff gorchymyn wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer broydd gwahanol ac ar gyfer awdurdodau gwahanol.

Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau

6Is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Cyn iddo wneud is-ddeddf, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol ar wefan yr awdurdod sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gallai gwneud is-ddeddf fynd i’r afael ag ef;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo hynny’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n cael eu heffeithio ganddo.

(3)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(4)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(5)O leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i wneud yr is-ddeddf –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(6)Am o leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid i’r awdurdod sicrhau –

(a)bod drafft o’r is-ddeddf yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r drafft yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf.

(7)Rhaid i’r awdurdod roi copi o’r is-ddeddf ar ffurf ddrafft i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(8)Ni chaiff awdurdod wneud is-ddeddf yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad yn is-adran (5).

7Is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ar wahân i’r rhai a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)gofyniad i gyflwyno is-ddeddfau ar gyfer cael cadarnhad;

(b)cyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud yr is-ddeddf;

(c)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(d)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Cyn iddo wneud is-ddeddf y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i awdurdod –

(a)cyhoeddi ar wefan yr awdurdod ddatganiad ysgrifenedig cychwynnol sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gellir mynd i’r afael ag ef drwy wneud is-ddeddf;

(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n gael ei effeithio ganddo.

(4)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.

(5)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –

(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;

(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;

(c)ei benderfyniad;

(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

(6)Rhaid i is-ddeddfau a wnaed gan yr awdurdod deddfu gael eu cyflwyno i’r awdurdod cadarnhau ac nid ydynt yn cael effaith oni chânt a nes y cânt eu cadarnhau gan yr awdurdod cadarnhau.

(7)O leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid cyhoeddi hysbysiad o fwriad yr awdurdod deddfu i wneud hynny –

(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;

(b)ar wefan yr awdurdod.

(8)Am o leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid i’r awdurdod deddfu sicrhau –

(a)bod yr is-ddeddf yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod;

(b)bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod (ac, yn achos is-ddeddf a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mewn man yn ardal pob cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal);

(c)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf;

(d)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(9)Rhaid i’r awdurdod deddfu roi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(10)Caiff yr awdurdod cadarnhau gadarnhau, neu wrthod cadarnhau, unrhyw is-ddeddf a gyflwynir iddo o dan yr adran hon.

(11)At ddibenion y Ddeddf hon, yr awdurdod cadarnhau yw –

(a)y person a bennir yn y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfau odano fel y person sydd i gadarnhau’r is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir unrhyw berson, Gweinidogion Cymru.

(12)Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan is-adran (11)(b) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol.

8Materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad.

(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)llofnodi’r is-ddeddf neu roi sêl arni;

(b)cyhoeddi’r is-ddeddf;

(c)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)Rhaid i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu gael eu gwneud o dan sêl gyffredin yr awdurdod, neu, yn achos is-ddeddfau a wneir gan gyngor cymuned nad oes sêl ganddo, wedi’i lofnodi gan ddau aelod o’r cyngor.

(4)Mae is-ddeddfau yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod deddfu, neu, os oes angen eu cadarnhau, y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cadarnhau. Os na phennir dyddiad, maent yn dod yn effeithiol ar ddiwedd un mis ar ôl y dyddiad y’u gwnaed (neu’r dyddiad y’u cadarnhawyd, fel y bo’n gymwys).

(5)Rhaid i’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddf –

(a)cyhoeddi’r is-ddeddf pan wnaed hi ar wefan yr awdurdod, neu os oes angen iddi gael ei chadarnhau, pan gafodd ei chadarnhau;

(b)adneuo copi o’r is-ddeddf mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)rhoi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(6)Rhaid i swyddog priodol cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys iddi.

(7)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod Parc Cenedlaethol, rhaid i swyddog priodol yr awdurdod anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol;

(b)cyngor pob cymuned y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol.

(8)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal;

(b)cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal.

(9)Rhaid i swyddog priodol y cyngor cymuned –

(a)trefnu bod copi o’r is-ddeddf a anfonwyd at y swyddog yn cael ei adneuo gyda dogfennau cyhoeddus y gymuned;

(b)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(10)Yn is-adrannau (6) i (9) y “swyddog priodol” yw’r swyddog a awdurdodwyd yn briodol at y diben hwnnw gan y corff hwnnw.

9Y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 (isddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.

Gorfodi is-ddeddfau

10Tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau

(1)Caiff is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ddarparu bod personau sy’n mynd yn groes i’r is-ddeddfau yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(2)Rhaid i’r ddirwy beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir y swm felly, lefel 2 ar y raddfa safonol.

(3)Yn achos tramgwydd sy’n parhau, caiff yr is-ddeddfau ddarparu bod y tramgwyddwr yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy bellach.

(4)Rhaid i’r ddirwy bellach beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir swm felly, y swm o £5 am bob diwrnod y mae’r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn am y tramgwydd hwnnw.

11Is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc

Caiff is-ddeddf a wnaed o dan adran 2 gynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r canlynol –

(a)ymafael mewn unrhyw eiddo a’i gadw mewn cysylltiad ag unrhyw doriad o’r is-ddeddf, a

(b)fforffedu unrhyw eiddo o’r fath pan gaiff person ei gollfarnu o dramgwydd am dorri’r is-ddeddf.

Hysbysiadau cosbau penodedig

12Y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy).

(2)Pan fo gan swyddog a awdurdodwyd gan awdurdod deddfu reswm dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd yn erbyn is-ddeddf a wnaed gan yr awdurdod hwnnw, i’r swyddog roi hysbysiad i’r person hwnnw yn cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd drwy dalu cosb benodedig.

(3)Pan fo swyddog a awdurdodwyd gan gyngor cymuned reswm dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd yn ei ardal yn erbyn is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu heblaw’r cyngor cymuned, i’r swyddog roi hysbysiad i’r person hwnnw yn cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd drwy dalu cosb benodedig.

(4)Mae cosb benodedig o dan yr adran hon yn daladwy i awdurdod y swyddog a roddodd yr hysbysiad.

(5)Pan roddir hysbysiad i berson o dan yr adran hon mewn perthynas â thramgwydd –

(a)ni chaniateir cychwyn achos am y tramgwydd cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad, a

(b)ni chaniateir collfarnu’r person am y tramgwydd os bydd y person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio tramgwydd fel sy’n angenrheidiol i esbonio paham fod tramgwydd wedi digwydd.

(7)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon hefyd ddatgan –

(a)o fewn pa gyfnod, yn rhinwedd is-adran (5), ni ddygir achos am y tramgwydd;

(b)swm y gosb benodedig;

(c)enw’r person y caniateir i’r gosb benodedig gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir iddi gael ei thalu.

(8)Heb ragfarnu taliad drwy unrhyw ddull arall, caniateir talu cosb benodedig drwy ragdaliad a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y cyfeirir ato yn yr hysbysiad yn y cyfeiriad a roddir ynddo.

(9)Os anfonir llythyr bernir bod taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddid yn traddodi’r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu ffurf hysbysiad o dan yr adran hon.

(11)Mewn unrhyw achos mae tystysgrif –

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran prif swyddog cyllid awdurdod, a

(b)sy’n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

(12)Yn yr adran hon –

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person yn ysgrifenedig at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan yr adran hon.

13Swm cosb benodedig

(1)Caiff awdurdod deddfu –

(a)pennu swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12;

(b)pennu symiau gwahanol mewn perthynas ag is-ddeddfau gwahanol.

(2)Os na phennir unrhyw swm felly, swm y gosb benodedig yw £75.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r pwerau o dan is-adran (1).

(4)Caiff Rheoliadau o dan is-adran (3), yn benodol –

(a)ei gwneud yn ofynnol bod swm a bennir o dan is-adran (1)(a) yn dod o fewn ystod a ragnodir yn y rheoliadau;

(b)cyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan is-adran (1)(b) a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn roi swm arall yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

14Y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig

(1)Os bydd swyddog awdurdodedig yn bwriadu rhoi hysbysiad i berson o dan adran 12, caniateir i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y person yn rhoi ei enw a’i gyfeiriad.

(2)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw –

(a)heb esgus rhesymol yn methu â rhoi ei enw a’i gyfeiriad pan fo hynny’n ofynnol, neu

(b)os yw’n rhoi enw neu gyfeiriad anwir neu anghywir wrth ymateb i ofyniad o dan yr is-adran honno.

(3)Mae person sy’n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Yn yr adran hon mae i “swyddog awdurdodedig” yr un ystyr ag sydd ganddo yn adran 12.

15Y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig

(1)Rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r dymunoldeb o ddefnyddio ei dderbyniadau am gosbau penodedig at ddibenion mynd i’r afael ag unrhyw niwsans y gwnaed isddeddf gan yr awdurdod er mwyn ei atal.

(2)Ystyr “derbyniadau am gobau penodedig” yw symiau a dalwyd i awdurdod yn unol â hysbysiadau o dan adran 12.

16Y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 (isddeddfau y caniateir dyroddi hysbysiadau cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.

17Swyddogion Cymorth Cymunedol etc

(1)Mae Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 4 (pwerau sy’n cael eu harfer gan heddlu sy’n sifiliaid) –

(a)ym mharagraff 1ZA(3) ar ôl “1972” mewnosoder “or under section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”;

(b)ym mharagraff 1ZA(5)(a) ar ôl “1972” mewnosoder “or to which section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 applies”.

(3)Yn Atodlen 5 (pwerau sy’n cael eu harfer gan bersonau achrededig) –

(a)ym mharagraff 1A(3) ar ôl “1972” mewnosoder “or under section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”;

(b)ym mharagraff 1A(5)(a) ar ôl “1972” mewnosoder “or to which section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”.

Amrywiol a chyffredinol

18Canllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau deddfu ynghylch –

(a)gwneud is-ddeddfau y mae adran 6 neu 7 yn gymwys iddynt;

(b)y weithdrefn ar gyfer gwneud is-ddeddfau;

(c)gorfodi is-ddeddfau;

(d)unrhyw beth sy’n ymwneud â’r materion hyn gan gynnwys –

(i)gofynion ymgynghori a chyhoeddi;

(ii)y defnydd o gosbau penodedig.

(2)Rhaid i awdurdod deddfu roi sylw i’r canllawiau wrth wneud neu wrth orfodi isddeddfau.

19Tystiolaeth o is-ddeddfau

(1)Mae dangos copi ardystiedig o is-ddeddf sy’n honni iddi gael ei gwneud gan awdurdod deddfu, nes profir i’r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif.

(2)At ddibenion yr adran hon, copi ardystiedig o is-ddeddf yw copi wedi ei argraffu o’r is-ddeddf a arnodwyd ynghyd â thystysgrif sy’n honni iddi gael ei llofnodi gan swyddog priodol awdurdod deddfu sy’n datgan –

(a)bod yr is-ddeddf wedi cael ei gwneud gan yr awdurdod;

(b)bod y copi yn gopi gwir o’r is-ddeddf;

(c)bod yr is-ddeddf wedi ei chadarnhau ar ddiwrnod penodedig gan yr awdurdod a enwir yn y dystysgrif neu, yn ôl y digwydd, wedi cael ei hanfon at yr awdurdod cadarnhau a heb gael ei gwrthod;

(d)y dyddiad, os oes un, a bennwyd gan yr awdurdod cadarnhau i’r is-ddeddf ddod yn effeithiol.

(3)Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (2) yn gymwys os nad oedd yr is-ddeddf yn ddarostyngedig i gadarnhad ar ôl iddi gael ei gwneud.

20Diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

21Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio gorchymyn o dan adran 22 (cychwyn)) yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth atodol sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(2)Yn achos y pŵer o dan adrannau 9 ac 16, mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau.

(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan adran 9, 13(5) neu 16 gael ei wneud onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 22 (cychwyn), yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

22Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol –

(a)adran 18(1);

(b)adran 21;

(c)yr adran hon;

(d)adran 23.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) –

(a)penodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth arbed neu ddarpariaeth ddarfodol.

23Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

(a gyflwynwyd gan adrannau 6 a 12)

ATODLEN 1RHESTRAU O BWERAU I WNEUD IS-DDEDDFAU

RHAN 1IS-DDEDDFAU PAN NA FO CADARNHAD YN OFYNNOL

1Mae adran 6 yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed –

(a)o dan y deddfiadau a restrir yng ngholofn gyntaf tabl 1,

(b)mewn perthynas â’r pwnc a restrir yn ail golofn tabl 1,

(c)gan y math o awdurdod a restrir yn nhrydedd golofn tabl 1.

TABL 1

Y deddfiad y gwneir is-ddeddfau odanoPwnc yr is-ddeddfauY math o awdurdod sy’n gwneud yr is-ddeddfau
Adran 68 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847Rheoleiddio cerbydau hacnaiCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 164 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875Rhodfeydd cyhoeddus a thiroedd hamddenCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 6 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1889Rheoleiddio bysiau a dynnir gan geffylauCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adrannau 12 a 15 o Ddeddf Mannau Agored 1906Mannau agored a mynwentyddCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 82 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907Glan y môrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 83 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907PromenadauCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 81 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Atal niwsansau penodolCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 82 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Symud mater neu hylif annymunol drwy strydoeddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Darparu cyfleusterau cyhoeddusCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 198 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Darparu marwdai ac ystafelloedd post-mortemCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 223 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Rheoleiddio baddonau, ymolchfeydd, pyllau nofio etcCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 231 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Baddonau cyhoeddusCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 233 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936O ran pyllau nofio a baddonau nad ydynt o dan reolaeth awdurdod lleolCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 268 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Atal niwsansau mewn cysylltiad â defnyddio pebyll, faniau etcCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 270 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Lletya casglwyr hopys a phersonau a gymerir ymlaen i wneud gwaith tebygCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 75 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961ffeiriau pleser a rhinciau sglefrolioCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 76 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Cychod neu fadau pleser glan y môrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 77 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Trinwyr gwallt a barbwyrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964Rheoleiddio ymddygiad personau mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd a defnyddio’r cyfleusterau hynnyCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 35 o Ddeddf Priffyrdd 1980Rheoleiddio rhodfeyddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980Ymddygiad personau sy’n defnyddio neu’n mynd i gyfleusterau cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau priffyrddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982AciwbigoCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982Tatŵio, lliwio croen yn lledbarhaol, tyllu cosmetig ac electrolysisCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 60 o Ddeddf Bwyd 1984Rheoleiddio ac atal niwsansau mewn marchnadoeddCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 31 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984Defnyddio ffordd fel lle chwarae i blanCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984Defnydd o fannau parcioCynghorau cymuned
Adran 23 o Ddeddf Tai 1985Rheoli, defnyddio a rheoleiddio tai awdurdod lleol, y defnydd o dir a ddarperir mewn cysylltiad â thai ac mewn perthynas â thai llety awdurdod lleolCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 16 o Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993Rheolaeth dda a llywodraeth o faeau mewndirol a harbyrauCyngor Sir (Caerdydd)
Adran 2 o’r Ddeddf honRheolaeth dda a llywodraethCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 4(1) o’r Ddeddf hon i’r graddau y mae’n gymwys i is-ddeddfau a wnaed o dan unrhyw un neu ragor o’r deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.Y pŵer i ddiddymu is-ddeddfauAwdurdod deddfu

RHAN 2IS-DDEDDFAU Y CANIATEIR DYRODDI COSBAU PENODEDIG MEWN PERTHYNAS Â HWY

2Mae adran 12 yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed –

(a)o dan y deddfiadau a restrir yng ngholofn gyntaf tabl 2,

(b)mewn perthynas â’r pwnc a restrir yn ail golofn tabl 2,

(c)gan y math o awdurdod a restrir yn nhrydedd golofn tabl 2.

TABL 2

Y deddfiad y gwneir is-ddeddfau odanoPwnc yr is-ddeddfauY math o awdurdod sy’n gwneud yr is-ddeddfau
Adran 68 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847Rheoleiddio cerbydau hacnaiCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 164 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875Rhodfeydd cyhoeddus a thiroedd hamddenCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 6 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1889Rheoleiddio bysiau a dynnir gan geffylauCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adrannau 12 a 15 o Ddeddf Mannau Agored 1906Mannau agored a mynwentyddCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 82 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907Glan y môrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 83 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907PromenadauCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 18 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933Cyfyngiadau ar gyflogi plantCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 20 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933Cyfyngiadau ar gymryd plant ymlaen neu gyflogi plant wrth farchnata ar strydoeddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 81 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Atal niwsansau penodolCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 82 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Symud mater neu hylif annymunol drwy strydoeddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Darparu cyfleusterau cyhoeddusCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 198 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Darparu marwdai ac ystafelloedd post-mortemCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 223 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Rheoleiddio baddonau, ymolchfeydd, pyllau nofio etcCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 231 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Baddonau cyhoeddusCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 233 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936O ran pyllau nofio a baddonau nad ydynt o dan reolaeth awdurdod lleol;Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 268 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Atal niwsansau mewn cysylltiad â defnyddio pebyll, faniau etcCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 270 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Lletya casglwyr hopys a phersonau a gymerir ymlaen i wneud gwaith tebygCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 75 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Ffeiriau pleser a rhinciau sglefrolioCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 76 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Cychod neu fadau pleser glan y môrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 77 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Trinwyr gwallt a barbwyrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964Rheoleiddio ymddygiad personau mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd a defnyddio’r cyfleusterau hynnyCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 35 o Ddeddf Priffyrdd 1980Rheoleiddio rhodfeyddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980Ymddygiad personau sy’n defnyddio neu’n mynd i gyfleusterau cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau priffyrddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982AciwbigoCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982Tatŵio, lliwio croen yn lled-barhaol, tyllu cosmetig ac electrolysisCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 60 o Ddeddf Bwyd 1984Rheoleiddio ac atal niwsansau mewn marchnadoeddCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 31 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984Defnyddio ffordd fel lle chwarae i blantCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984Defnydd o fannau parcioCynghorau cymuned
Adran 23 o Ddeddf Tai 1985Rheoli, defnyddio a rheoleiddio tai awdurdod lleol, y defnydd o dir a ddarperir mewn cysylltiad â thai ac mewn perthynas â thai llety awdurdod lleolCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 16 o Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993Rheolaeth dda a llywodraeth o faeau mewndirol a harbyrauCyngor Sir (Caerdydd)
Adran 2 o’r Ddeddf honRheolaeth dda a llywodraethCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol

(a gyflwynwyd gan adran 20)

ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875

1Yn adran 184 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (cadarnhad o is-ddeddfau) ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”.

Deddf Tiroedd Comin 1899

2(1)Mae adran 10 o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 (is-ddeddfau) (fel y’i diwygiwyd gan adran 50(7) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 pan gaiff ei dwyn i rym) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar ôl “apply” hepgorer “all byelaws under this section” a mewnosoder “byelaws under this section made by a council in England”.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder –

(3)Sections 7, 8, 10 and 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 (which relate to the procedure for making byelaws, authorise byelaws to impose fines not exceeding level 2 on the standard scale, and provide proof of byelaws in legal proceedings) apply to byelaws under this section made by a council in Wales..

Deddf Mannau Agored 1906

3Yn adran 15(2) o Ddeddf Mannau Agored 1906 (is-ddeddfau) ar ôl “any local authority” mewnosoder “in England”.

Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907

4(1)Mae Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 9 (is-ddeddfau) ar ôl “byelaws made” mewnosoder “by a local authority in England”.

(3)Yn adran 82 (is-ddeddfau ynghylch glan y môr), ar ôl y geiriau “Provided that” mewnosoder “, in the case of byelaws made by a local authority in England,”.

Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949

5(1)Mae Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 106 (darpariaethau atodol ynghylch is-ddeddfau) ar ôl is-adran (4) mewnosoder –

(5)This section does not apply to byelaws made under this Act by the Countryside Council for Wales.

(3)Ar ôl adran 106 mewnosoder –

106ASupplementary provisions as to byelaws made by the Countryside Council for Wales

(1)Sections 3 to 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 shall apply to all byelaws madebythe Countryside Council for Wales this Act.

(2)The confirming authority for the purposes of section 7 of the 2012 Act is the Welsh Ministers..

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1961

6(1)Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd 1961 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 75 (is-ddeddfau ynghylch ffeiriau pleser a rhinciau sglefrolio) –

(a)yn is-adran (8) ar ôl y geiriau “as respects byelaws” mewnosoder “made by a local authority in England”.

(b)ar ôl is-adran (8) mewnosoder –

(9)A local authority in Wales which proposes to make a byelaw under this section must consult the appropriate representative bodies on the matters dealt with by the proposed byelaw.

(10)For the purposes of subsection (9), “the appropriate representative bodies” are those bodies which appear to the authority to be representative of the interests of those who carry on pleasure fairs and entertainments to which this section applies.

(11)A local authority in Wales making a byelaw in pursuance of subsection (1)(d) of this section must consult the relevant fire and rescue authority on the matters dealt with by the proposed byelaw.

(12)For the purposes of subsection (11) “the fire and rescue authority” is the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Act 2004 for the area to which the byelaw applies..

(3)Yn adran 76(2) (is-ddeddfau ynghylch cychod neu fadau pleser glan y môr) ar ôl y geiriau “byelaws made” mewnosoder “by a local authority in England”.

(4)Yn adran 77(3) (is-ddeddfau ynghylch trinwyr gwallt a barbwyr) ar ôl “byelaws” mewnosoder “made by a local authority in England”.

Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964

7(1)Mae adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 (isddeddfau mewn perthynas â llyfrgelloedd ac amgueddfeydd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1) ar ôl y geiriau “so made” mewnosoder “by a local authority in England”.

(3)Yn is-adran (2) ar ôl y geiriau mewn cromfachau mewnosoder “and section 10 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”.

(4)Yn is-adran (3) ar ôl y geiriau mewn cromfachau mewnosoder “and section 8(5) of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 (as applicable)”.

Deddf Cefn Gwlad 1968

8(1)Mae Deddf Cefn Gwlad 1968 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 8 (parciau gwledig: hwylio, cychio, ymdrochi a physgota) –

(a)yn is-adran (5), hepgorer “Section 106 of the Act of 1949 (supplementary provisions as to byelaws) shall have effect as if byelaws under this subsection were byelaws under that Act.”,

(b)ar ôl is-adran (5), mewnosoder –

(5A)In the case of byelaws made by a local authority in England, section 106 of the Act of 1949 (supplementary provisions as to byelaws) shall have effect as if byelaws under subsection (5) were byelaws under that Act.

(5B)In the case of byelaws made by a local authority in Wales –

(a)sections 3 to 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 apply, and

(b)the confirming authority for the purposes of section 7 of that Act is the Welsh Ministers..

(3)Yn adran 12 (cyfleusterau mewn Parciau Cenedlaethol neu gerllaw iddynt) –

(a)yn is-adran (5), hepgorer “Section 106 of the Act of 1949 (supplementary provisions as to byelaws) shall have effect as if byelaws under this subsection were byelaws under that Act.”,

(b)ar ôl is-adran (5), mewnosoder –

(5A)In the case of byelaws made by a local planning authority in England, section 106 of the Act of 1949 (supplementary provisions as to byelaws) shall have effect as if byelaws under subsection (5) were byelaws under that Act.

(5B)In the case of byelaws made by a local planning authority in Wales –

(a)sections 3 to 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 apply, and

(b)the confirming authority for the purposes of section 7 of that Act is the Welsh Ministers..

(4)Yn adran 13 (llynnoedd mewn Parciau Cenedlaethol: rheoli cychod etc) –

(a)yn is-adran (8), ar y dechrau, mewnosoder “In the case of byelaws made by a local planning authority in England,”,

(b)ar ôl is-adran (8), mewnosoder –

(8A)In the case of byelaws made by a local planning authority in Wales –

(a)sections 3 to 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 apply, and

(b)the confirming authority for the purposes of section 7 of that Act is the Welsh Ministers..

(5)Yn adran 41 (pŵer i wneud is-ddeddfau a darpariaethau cysylltiedig ynghylch wardeniaid) –

(a)yn is-adran (7), ar y dechrau, mewnosoder “In the case of byelaws made by a local planning authority in England, or by Natural England,”,

(b)ar ôl is-adran (7), mewnosoder –

(7A)In the case of byelaws made by a local planning authority in Wales, or by the Council –

(a)sections 3 to 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 apply, and

(b)the confirming authority for the purposes of section 7 of that Act is the Welsh Ministers..

Deddf Llywodraeth Leol 1972

9(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 235(1) (pwerau cynghorau i wneud is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth etc) –

(a)hepgorer “the council of a principal area in Wales”;

(b)ar ôl yr ail “district” hepgorer “principal area”.

(3)Yn adran 236 (y weithdrefn etc ar gyfer is-ddeddfau) –

(a)yn is-adran (1) ar ôl “local authority” ym mhob achos mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (3), hepgorer “or community”;

(c)yn is-adran (9) –

(i)hepgorer “or in Wales of a principal council”;

(ii)hepgorer y geiriau “or community” ym mhob achos lle y maent yn ymddangos;

(d)hepgorer is-adran (10A).

(4)Yn adran 236A (y weithdrefn amgen ar gyfer is-ddeddfau penodol) –

(a)yn is-adran (1)(a) ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (4) –

(i)hepgorer paragraff (a);

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “in relation to any other byelaw,”;

(c)hepgorer is-adrannau (6), (10) ac (11).

(5)Yn adran 238 (tystiolaeth o is-ddeddfau) ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”.

Deddf llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

10(1)Mae adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (pennu prisiau tocynnau ar gyfer cerbydau hacni) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (7) –

(a)ar ôl “this section” mewnosoder “by a district council in England”;

(b)ar ôl “district council” mewnosoder “in England”.

(3)Ar ôl is-adran (7) mewnosoder –

(7A)Section 8(5) and section 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 shall extend and apply to a table of fares made or varied under this section by a council for a county or county borough in Wales as they apply to byelaws made by a council for a county or county borough in Wales..

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

11(1)Mae adran 37 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (is-ddeddfau i amddiffyn gwarchodfeydd natur morol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (5) ar ôl “byelaws under this section” mewnosoder “, other than byelaws made by the Countryside Council for Wales”.

(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder –

(5A)Sections 3 to 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 apply to byelaws made by the Countryside Council for Wales under this section, subject to such modifications (including modifications increasing the maximum fines which the byelaws may impose) as may be prescribed by regulations made by the Welsh Ministers.

(5B)Regulations under subsection (5A) shall be made by statutory instrument which shall be subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

Deddf Bwyd 1984

12Yn adran 121(1) o Ddeddf Bwyd 1984 (is-ddeddfau) ar ôl “Act” mewnosoder “by a local authority in England”.

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

13(1)Mae Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 31(2) (is-ddeddfau ynghylch ffyrdd a ddefnyddir fel lleoedd chwarae) ar ôl “this section” mewnosoder “made by a local traffic authority in England”.

(3)Yn adran 57(7) (is-ddeddfau ynghylch defnyddio mannau parcio) ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “, in the case of byelaws made by a parish council”.

Deddf Draenio Tir 1991

14(1)Mae adran 66 o Ddeddf Draenio Tir 1991 (pwerau i wneud is-ddeddfau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (5) hepgorer paragraff (c).

(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder –

(5A)In the case of byelaws made by a local authority in relation to any area of Wales, byelaws under this section shall not be valid until they are confirmed by the Welsh Ministers.

(5B)Sections 7 and 8 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 shall have effect in relation to byelaws under this section made by a local authority in Wales..

Deddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993

15Yn adran 16 o Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 (is-ddeddfau), hepgorer isadrannau (8), (9) a (10).

Deddf yr Amgylchedd 1995

16(1)Mae paragraff 17 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (dogfennau, hysbysiadau, cofnodion, is-ddeddfau etc) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-baragraff 2(e) ar ôl “Act,” mewnosoder “in the case of National Park authorities in England,”.

(3)Yn is-baragraff (5) ar ôl “National Park authority” mewnosoder “in England”.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672)

17(1)Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (deddfiadau sy’n rhoi swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo gan erthygl 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)O dan y pennawd “Local Gorvernment Act 1972” –

(a)hepgorer y geiriau “It is directed that the functions of the Secretary of State under section 236(11) and paragraph 25 of Schedule 14 shall be exercisable by the Assembly concurrently with the Secretary of State”;

(b)hepgorer y geiriau “Section 238 shall have effect as if after “the Secretary of State” there were inserted “or, as the case may be, the National Assembly for Wales””.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

18(1)Mae adran 17 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (is-ddeddfau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (5) ar ôl “this section” mewnosoder “made by an access authority in England”.

(3)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder –

(5A)Sections 7, 8, 10 and 19 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 apply to all byelaws under this section made by an access authority in Wales..