Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

2023 dsc 4

Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth am reoli tir yn gynaliadwy; i wneud darpariaeth sydd a wnelo â chymorth ar gyfer amaethyddiaeth ac mewn cysylltiad â hynny; i ddiwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 a Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 mewn cysylltiad â datrys anghydfodau ynghylch tenantiaethau amaethyddol; i wneud darpariaeth am faterion sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chynhyrchion amaethyddol; i ddiwygio Deddf Coedwigaeth 1967 mewn cysylltiad â thrwyddedau cwympo coed; ac i ddiwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mewn cysylltiad â gwaharddiadau yn ymwneud â maglau a thrapiau etc.

[17 Awst 2023]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1LL+CRHEOLI TIR YN GYNALIADWY

Yr amcanion LL+C

1Yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy LL+C

(1)Mae’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy fel a ganlyn.

(2)Yr amcan cyntaf yw cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(3)Yr ail amcan yw lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(4)Y trydydd amcan yw cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(5)Y pedwerydd amcan yw cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt a’u hymgysylltiad â hwy, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd, ac wrth wneud hynny—

(a)diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain, a

(b)cyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

(6)At ddibenion yr amcan cyntaf, mae’r ffactorau sy’n berthnasol i ba un a yw bwyd a nwyddau eraill yn cael eu cynhyrchu mewn modd cynaliadwy yn cynnwys gwytnwch busnesau amaethyddol o fewn y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt a’u cyfraniad i’r economi leol, ymysg pethau eraill.

(7)At ddibenion y trydydd amcan, mae’r ffactorau sy’n berthnasol i wytnwch ecosystemau yn cynnwys, ymysg pethau eraill—

(a)amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;

(b)y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi mewn iddynt;

(c)graddfa ecosystemau;

(d)cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(e)gallu ecosystemau i addasu.

(8)At ddibenion y pedwerydd amcan, mae “adnoddau diwylliannol” yn cynnwys treftadaeth ddiwylliannol a’r amgylchedd hanesyddol, ymysg pethau eraill.

Y ddyletswydd LL+C

2Dyletswydd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r amcanion LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru arfer pob swyddogaeth y cyfeirir ati yn yr adran hon yn y modd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaeth honno’n briodol (ond gweler adran 3).

(2)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yw—

(a)swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;

(b)swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer—

(i)amaethyddiaeth (gweler adran 51), neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu

(ii)gweithgareddau ategol (gweler adran 52);

(c)swyddogaethau o dan unrhyw ddeddfiad arall sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i Weinidogion Cymru reoleiddio—

(i)amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu

(ii)gweithgareddau ategol.

(3)Nid yw is-adran (1) ond yn gymwys i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (2)(b) a (2)(c) i’r graddau y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer i ddarparu cymorth ar gyfer neu i reoleiddio—

(a)amaethyddiaeth, neu weithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu

(b)gweithgareddau ategol.

3Eithriadau i’r ddyletswydd yn adran 2 LL+C

Nid yw’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys i’r swyddogaethau a ganlyn—

(a)y swyddogaeth o dan adran 16 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol);

(b)y swyddogaeth o dan adran 17 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin), i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar gynllun y taliad sylfaenol;

(c)y swyddogaeth o dan adran 49 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.), i’r graddau y mae’n cael ei harfer at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 16 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol), o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath;

(d)y swyddogaeth o dan adran 49 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc.), i’r graddau—

(i)y mae’r swyddogaeth honno’n cael ei harfer at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 17 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin), o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, a

(ii)y mae’r swyddogaeth honno’n cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar y cynllun taliad sylfaenol;

(e)swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 16);

(f)swyddogaeth o dan ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 17), i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn cael ei harfer mewn modd sy’n cael effaith ar y cynllun taliad sylfaenol.

Monitro ac adrodd LL+C

4Dangosyddion a thargedau rheoli tir yn gynaliadwy LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio datganiad sy’n nodi—

(a)dangosyddion sydd i’w cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt, a

(b)targedau mewn perthynas â’r dangosyddion hynny.

(2)Rhaid i’r datganiad gynnwys—

(a)o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan rheoli tir yn gynaliadwy, a

(b)o leiaf un targed neilltuol sy’n ymwneud ag o leiaf un dangosydd neilltuol ar gyfer pob amcan rheoli tir yn gynaliadwy.

(3)Yn ogystal â hynny, caiff y datganiad nodi dangosyddion pellach a thargedau pellach.

(4)Caiff dangosydd pellach a nodir o dan is-adran (3) fod ar gyfer un amcan rheoli tir yn gynaliadwy neu ar gyfer mwy nag un.

(5)Caiff targed pellach a nodir o dan is-adran (3) ymwneud ag un dangosydd (pa un a yw’n ddangosydd a nodir o dan is-adran (2) neu’n ddangosydd pellach a nodir o dan is-adran (3)) neu â mwy nag un.

(6)Caiff dangosydd neu darged ymwneud â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(7)Caniateir gosod targed drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 31 Rhagfyr 2025—

(a)cyhoeddi’r datganiad, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a diwygio’r datganiad ar unrhyw adeg.

(10)Mae is-adrannau (2) i (8) yn gymwys mewn perthynas â datganiad diwygiedig fel y maent yn gymwys i’r datganiad gwreiddiol.

(11)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r datganiad, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r datganiad diwygiedig, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

5Camau i’w cymryd wrth lunio neu ddiwygio dangosyddion a thargedau LL+C

(1)Wrth lunio neu ddiwygio datganiad o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a nodir yn is-adrannau (2) a (3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)unrhyw ddangosyddion cenedlaethol (fel y’u diwygir o dro i dro) a gyhoeddir o dan adran 10 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) y maent yn ystyried eu bod yn berthnasol,

(b)yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(c)y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(d)yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, ac

(e)unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a

(b)unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

6Adroddiadau rheoli tir yn gynaliadwy LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, yn nodi eu hasesiad o—

(a)y cynnydd cronnus a wnaed, ers i adran 2 ddod i rym, tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy drwy arfer y swyddogaethau y mae’r ddyletswydd yn adran 2 yn gymwys iddynt, a

(b)y cynnydd a wnaed, yn ystod y cyfnod adrodd, tuag at gyflawni’r amcanion hynny drwy arfer y swyddogaethau hynny.

(2)Rhaid i’r adroddiad nodi, mewn perthynas â phob dangosydd yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig) a gyhoeddir o dan adran 4—

(a)y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r dangosydd hwnnw yn ystod y cyfnod adrodd, a

(b)sut y mae hynny wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(3)Rhaid i’r adroddiad hefyd bennu, mewn perthynas â phob targed yn y datganiad (neu’r datganiad diwygiedig), pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio.

(4)Os yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd, rhaid i’r adroddiad egluro sut y mae hynny wedi cyfrannu at gyflawni un neu ragor o’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(5)Os nad yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)egluro pam, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd—

(i)er mwyn cyflawni’r targed, neu

(ii)er mwyn gosod targed priodol newydd.

(6)Os nad yw Gweinidogion Cymru hyd yma wedi gallu penderfynu pa un a yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod adrodd ai peidio, rhaid i’r adroddiad—

(a)egluro pam, a

(b)nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd, er mwyn penderfynu pa un a yw’r targed wedi ei gyflawni ai peidio.

(7)Caiff yr adroddiad hefyd asesu ac adrodd ar—

(a)unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol wrth asesu’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy;

(b)y blaenoriaethau allweddol, y risgiau allweddol a’r cyfleoedd allweddol mewn perthynas â chyflawni’r amcanion hynny;

(c)yr effaith y mae’r cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r amcanion hynny yn ei chael ar gyflawni nodau ac amcanion eraill.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(9)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 2 yn dod i rym ac sy’n dod i ben â 31 Rhagfyr 2025;

(b)yn achos adroddiadau dilynol, cyfnodau olynol o bum mlynedd.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (9) drwy reoliadau.

7Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiadau LL+C

Wrth lunio adroddiad o dan adran 6, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr adnoddau naturiol a gyhoeddir o dan adran 8 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(b)y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol diweddaraf a gyhoeddir o dan adran 9 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’r graddau y mae’n ymwneud ag amaethyddiaeth, gweithgareddau eraill a gynhelir ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, neu weithgareddau ategol,

(c)yr Adroddiad Effaith diweddaraf (os oes un) a gyhoeddir o dan adran 14, a

(d)unrhyw faterion eraill (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cynhyrchu amaethyddol neu incwm busnesau amaethyddol, sy’n deillio o arolygon o’r sector) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

RHAN 2LL+CCYMORTH AR GYFER AMAETHYDDIAETH ETC.

PENNOD 1LL+CPŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

8Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

(2)Caiff y cymorth hwnnw, yn benodol, gynnwys cymorth ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn, neu mewn cysylltiad â hwy—

(a)annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy;

(b)helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau;

(c)gwella gwytnwch busnesau amaethyddol;

(d)cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd;

(e)lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;

(f)atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl;

(g)cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;

(h)cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol;

(i)gwella ansawdd yr aer;

(j)gwella ansawdd dŵr;

(k)cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy;

(l)lliniaru risgiau o lifogydd a sychder;

(m)cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid;

(n)sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl;

(o)annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir).

(3)Caniateir i gymorth o dan yr adran hon gael ei ddarparu o dan gynllun neu fel arall.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu diben at y rhestr yn yr is-adran honno;

(b)dileu diben o’r rhestr;

(c)newid disgrifiad o ddiben ar y rhestr.

(5)Yn yr adran hon, mae i “nwy tŷ gwydr” yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).

(6)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at gymorth (ac eithrio yn achos cyfeiriadau at ddarparu cymorth o dan gynllun trydydd parti o fewn adran 9(8)) yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon;

(b)mae cyfeiriadau at gymorth ariannol yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon sy’n cael ei ddarparu’n ariannol.

9Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8 LL+C

(1)Caniateir darparu cymorth yn ariannol neu fel arall.

(2)Caniateir darparu cymorth ariannol drwy grant, benthyciad neu warant, neu ar unrhyw ffurf arall.

(3)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i fodloni meini prawf o ran cymhwysedd.

(4)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r defnydd o dir, caniateir i’r meini prawf cymhwysedd (ymysg pethau eraill) bennu gofynion yn ymwneud ag—

(a)hectarau neu nodweddion y tir;

(b)i ba raddau y mae rhaid i’r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth neu weithgareddau ategol;

(c)y person y darperir cymorth iddo (er enghraifft drwy gyfeirio at ddefnydd neu ddefnydd fwriadedig y person o’r tir).

(5)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).

(7)Caniateir darparu cymorth i wneuthurwr neu weithredwr cynllun trydydd parti mewn cysylltiad â sefydlu neu weithredu’r cynllun hwnnw (gan gynnwys mewn cysylltiad â darparu cymorth o dan y cynllun hwnnw).

(8)

(9)Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo i unrhyw berson arall swyddogaethau sy’n ymwneud â darparu cymorth.

(10)Caiff swyddogaethau a ddirprwyir o dan is-adran (9) gynnwys—

(a)rhoi canllawiau;

(b)arfer disgresiwn.

10Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am gymorth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, chyhoeddi gwybodaeth benodedig am gymorth sy’n cael ei ddarparu neu sydd wedi ei ddarparu.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod gofyniad ar unrhyw berson (gan gynnwys ar Weinidogion Cymru).

(3)Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn cynnwys gwybodaeth am—

(a)derbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir;

(b)swm unrhyw gymorth a ddarperir;

(c)dibenion unrhyw gymorth a ddarperir.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).

11Cynlluniau cymorth amlflwydd LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun, a elwir yn “cynllun cymorth amlflwydd”, sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn gymwys iddo.

(2)Rhaid i gynllun cymorth amlflwydd—

(a)pennu’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef;

(b)nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu darparu cymorth yn ystod y cyfnod er mwyn cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy (yn unol ag adran 2);

(c)pan fwriedir darparu cymorth yn ystod y cyfnod o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3), disgrifio pob cynllun—

(i)sy’n weithredol, neu

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y bydd yn dod yn weithredol yn ystod y cyfnod;

(d)disgrifio unrhyw gymorth y bwriedir iddo gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ac eithrio o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)Y cyfnod y bydd y cynllun cyntaf yn gymwys mewn perthynas ag ef yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025.

(4)Ni chaiff y cyfnod y bydd cynlluniau dilynol yn gymwys mewn perthynas ag ef fod yn fyrrach na phum mlynedd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cynllun yn dod i ben heb i gynllun newydd fod yn ei le.

(6)Rhaid i gynllun sy’n cael ei lunio o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi, gan Weinidogion Cymru—

(a)yn achos y cynllun cyntaf, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef, a

(b)yn achos pob cynllun dilynol, o leiaf 12 mis cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef.

(7)Os yw, cyn diwedd y cyfnod y mae cynllun yn gymwys mewn perthynas ag ef, unrhyw wybodaeth a nodir neu a ddisgrifir yn y cynllun yn unol â pharagraffau (b), (c) neu (d) o is-adran (2) yn peidio â bod yn gywir neu’n gyflawn, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cynllun, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r cynllun diwygiedig, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

12Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gwirio cymhwysedd ar gyfer cymorth, etc. LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â—

(a)gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth wedi eu bodloni;

(b)y canlyniadau, pan fo cymorth wedi ei ddarparu heb i feini prawf cymhwysedd fod wedi eu bodloni;

(c)gorfodi cydymffurfedd ag unrhyw amodau y darperir neu y darparwyd cymorth yn ddarostyngedig iddynt;

(d)monitro i ba raddau y mae pwrpas y cymorth wedi ei gyflawni;

(e)ymchwilio i droseddau a amheuir mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth neu ddarparu cymorth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch darparu gwybodaeth;

(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;

(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;

(d)ynghylch y broses o bennu a yw meini prawf cymhwysedd neu amodau wedi eu bodloni mewn cysylltiad â darparu’r cymorth;

(e)ynghylch cadw cofnodion;

(f)ynghylch adennill neu wneud iawn am yr holl gymorth ariannol neu unrhyw ran ohono (gyda llog neu hebddo);

(g)ynghylch dal cymorth yn ôl, yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(h)ynghylch camau i’w cymryd, gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni unrhyw amod a dorrwyd sy’n gymwys i’r cymorth hwnnw;

(i)ynghylch cosbau ariannol (gan gynnwys cosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at swm unrhyw gymorth ariannol);

(j)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(k)sy’n gwahardd person rhag cael cymorth, neu gymorth o ddisgrifiad a bennir, am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni;

(l)ynghylch apelau;

(m)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn) i berson.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2)(i) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer talu llog ar unrhyw swm y gellir ei adennill o ba ddiwrnod bynnag (pa un ai y diwrnod y darparwyd y cymorth o dan sylw, neu ddiwrnod arall) y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau, neu a bennir o dan y rheoliadau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu mewn, neu wedi ei benderfynu o dan, reoliadau o dan is-adran (1).

13Adroddiad blynyddol ynghylch cymorth a ddarparwyd o dan adran 8 LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad blynyddol”), mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ynghylch y cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)cyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd;

(b)pan fo cymorth wedi ei ddarparu yn ystod y cyfnod drwy gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3)—

(i)cyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd o dan y cynllun yn ystod y cyfnod;

(ii)disgrifiad o unrhyw gymorth arall a ddarparwyd o dan y cynllun yn ystod y cyfnod;

(c)disgrifiad o unrhyw gymorth ac eithrio cymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond nid o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)Caiff yr adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad blynyddol sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad blynyddol cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2025;

(b)yn achos adroddiadau blynyddol dilynol, blynyddoedd ariannol olynol.

14Adroddiad Effaith LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“Adroddiad Effaith”) mewn perthynas â phob cyfnod adrodd.

(2)Rhaid i’r Adroddiad Effaith nodi’r dibenion y darparwyd cymorth ar eu cyfer yn ystod y cyfnod adrodd.

(3)Rhaid i’r Adroddiad Effaith hefyd nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, gan gynnwys eu hasesiad o’r canlynol—

(a)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion a fwriadwyd, a

(b)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth darparu’r cymorth gyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(4)Caiff yr Adroddiad Effaith hefyd asesu ac adrodd ar unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol at ddibenion asesu effaith ac effeithiolrwydd cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r Adroddiad Effaith sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr Adroddiad Effaith cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Rhagfyr 2029;

(b)yn achos Adroddiadau Effaith dilynol, cyfnodau olynol o bum mlynedd.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (6) drwy reoliadau.

15Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiad o dan adran 14 LL+C

Wrth lunio adroddiad o dan adran 14, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)y dibenion a bennir yn adran 8(2);

(b)pob adroddiad a gyhoeddir o dan adran 13 mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd y mae’r adroddiad o dan adran 14 yn ymwneud ag ef;

(c)yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 14;

(d)unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

PENNOD 2LL+CPWERAU I ADDASU DEDDFWRIAETH SY’N YMWNEUD Â CHYMORTH ARIANNOL A CHYMORTH ARALL

16Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr cynllun y taliad sylfaenol yw Cynllun y Taliad Sylfaenol o dan Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”);

(b)ystyr “deddfwriaeth sy’n llywodraethu Cynllun y Taliad Sylfaenol” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(i)y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(ii)unrhyw Reoliad Dirprwyedig y Cyngor, neu Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, a wnaed o dan y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;

(iii)unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir arall sy’n ymwneud â gweithredu cynllun y taliad sylfaenol.

17Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin;

(b)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y Rheoliad hwnnw.

18Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Erthyglau 55 i 57 o’r Rheoliad CMO;

(b)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan y ddeddfwriaeth honno.

19Pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig” yw’r ddeddfwriaeth a ganlyn, sy’n ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir, ac unrhyw is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth honno—

(a)Rheoliad (EU) Rhif 1305/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(b)Rheoliad (EU) Rhif 1310/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau trosiannol penodol ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(c)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(d)i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop etc.;

(e)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;

(f)Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2080/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 sy’n cychwyn cynllun cymorth y Gymuned ar gyfer mesurau coedwigaeth mewn amaethyddiaeth;

(g)Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy’n gydnaws â gofynion diogelu’r amgylchedd a chynnal cefn gwlad;

(h)deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ym mharagraffau (a) i (g).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 19 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(c)

20Y berthynas â phwerau eraill i addasu deddfwriaeth LL+C

(a)deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol (gweler adran 16(2)(b));

(b)deddfwriaeth sy’n ymwneud ag ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin (gweler adran 17(2));

(c)deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth (gweler adran 18(2));

(d)deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig (gweler adran 19(2)).

PENNOD 3LL+CYMYRRAETH MEWN MARCHNADOEDD AMAETHYDDOL

21Datganiad yn ymwneud ag amodau eithriadol yn y farchnad LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad, caiff Gweinidogion Cymru wneud a chyhoeddi datganiad (“datganiad amodau eithriadol yn y farchnad”) yn unol â’r adran hon.

(2)Mae “amodau eithriadol yn y farchnad”—

(a)os oes aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol neu fygythiad difrifol o aflonyddwch dwys mewn marchnadoedd amaethyddol, a

(b)os yw’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael effaith andwyol sylweddol, neu’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol, ar gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru o ran y prisiau y gellir eu cael am un neu ragor o gynhyrchion amaethyddol.

(3)Rhaid i ddatganiad amodau eithriadol yn y farchnad—

(a)datgan bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad;

(b)disgrifio’r amodau eithriadol yn y farchnad o dan sylw drwy bennu—

(i)yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch mewn marchnadoedd amaethyddol;

(ii)y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch yn ddwys, neu bod bygythiad difrifol o aflonyddwch dwys;

(iii)unrhyw gynnyrch amaethyddol y mae’r aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn effeithio arno neu’n debygol o effeithio arno;

(iv)y sail dros ystyried bod yr aflonyddwch neu’r bygythiad o aflonyddwch yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol sylweddol ar gynhyrchwyr amaethyddol o ran y prisiau y gellir eu cael am y cynnyrch amaethyddol o dan sylw;

(c)pennu tan pa ddyddiad y mae’r pwerau a roddir gan adran 22 neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio mewn perthynas â’r amodau eithriadol yn y farchnad.

(4)Ni chaniateir i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (3)(c) fod yn hwyrach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad.

(5)Mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi tan ddiwedd y diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad, o dan yr is-adran hon, sy’n nodi bod y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi ei ddirymu o’r dyddiad a bennir yn y datganiad.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o saith niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn datganiad amodau eithriadol yn y farchnad sy’n cael effaith o dan yr adran hon, yn ystyried bod amodau eithriadol yn y farchnad yn dal i fodoli.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru estyn y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad drwy wneud a chyhoeddi datganiad o dan yr is-adran hon sy’n pennu—

(a)y caiff y datganiad amodau eithriadol yn y farchnad ei estyn am gyfnod (nad yw’n fwy na thri mis) a bennir yn y datganiad, a

(b)bod y pwerau a roddir gan adran 22(2) neu y cyfeirir atynt yno ar gael i’w defnyddio yn ystod y cyfnod hwnnw.

(9)Nid yw’r ffaith bod datganiad amodau eithriadol yn y farchnad wedi dod i ben neu wedi ei ddirymu yn atal Gweinidogion Cymru rhag gwneud a chyhoeddi datganiad amodau eithriadol yn y farchnad arall yn ymwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol â’r un amodau eithriadol yn y farchnad.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw ddatganiad a wneir ac a gyhoeddir o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gyhoeddi.

(11)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at ddatganiad yn cael ei gyhoeddi yn gyfeiriadau at ei gyhoeddi’n electronig.

22Amodau eithriadol yn y farchnad: y pwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys yn ystod y cyfnod y mae datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol yng Nghymru y mae’r amodau eithriadol yn y farchnad a ddisgrifir yn y datganiad wedi cael, yn cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar eu hincwm.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar unrhyw bwerau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru (gan gynnwys o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir) i ddarparu cymorth ariannol i gynhyrchwyr amaethyddol.

(4)Caniateir darparu cymorth ariannol o dan is-adran (2) drwy grant, benthyciad neu warant neu ar unrhyw ffurf arall.

(5)Caniateir darparu’r cymorth ariannol yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).

(7)Nid oes dim yn is-adran (1) na (2) yn atal Gweinidogion Cymru rhag darparu, neu gytuno i ddarparu, cymorth ariannol o dan is-adran (2) ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cael effaith ynddo, ond mewn ymateb i gais a wneir yn ystod y cyfnod hwnnw.

23Pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat, i’r graddau y mae’n cael effaith o ran Cymru.

(2)Mae’r pŵer a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i newid y cynhyrchion amaethyddol sy’n gymwys am ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat.

(3)Yn yr adran hon, mae “deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat” yn cynnwys—

(a)Erthyglau 8 i 18 o’r Rheoliad CMO;

(b)Rheoliad y Cyngor (EU) Rhif 1370/2013 dyddiedig 16 Rhagfyr 2013 sy’n pennu mesurau ar bennu cymorthyddion ac ad-daliadau penodol sy’n ymwneud â chyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (i’r graddau y maent yn ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat);

(c)Rheoliadau canlynol y Comisiwn (i’r graddau y maent yn ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat)—

(i)Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/1238 dyddiedig 18 Mai 2016 sy’n ategu’r Rheoliad CMO o ran ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat;

(ii)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1240 dyddiedig 18 Mai 2016 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso’r Rheoliad CMO o ran ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat;

(iii)Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/1182 dyddiedig 20 Ebrill 2017 sy’n ategu’r Rheoliad CMO mewn perthynas â graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthiad carcasau buchol, moch a defaid ac mewn perthynas ag adrodd ar brisiau’r farchnad o ran categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw.

(4)Hyd nes y bydd unai paragraff 1 neu baragraff 2 o Atodlen 3 (diwygio Erthyglau 219, 220, 221 a 222 o’r Rheoliad CMO) mewn grym, mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at amodau eithriadol yn y farchnad sy’n destun datganiad amodau eithriadol yn y farchnad yn cynnwys cyfeiriad at amgylchiadau sy’n destun mesurau o dan unrhyw un neu ragor o’r Erthyglau hynny.

Rhagolygol

PENNOD 4LL+CTENANTIAETHAU AMAETHYDDOL

24Daliadau Amaethyddol: datrys anghydfod sy’n ymwneud â chymorth ariannol LL+C

(1)Mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19A (anghydfodau sy’n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad y landlord neu amrywio telerau), yn is-adran (7), yn y diffiniad o “relevant financial assistance”—

(a)ym mharagraff (b) yn lle “, or paragraph 8 of Schedule 5 to, that Act (powers of Secretary of State and Welsh Ministers” rhodder “that Act (powers of Secretary of State”;

(b)hepgorer yr “or” ar ôl paragraff (b);

(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

“(a)

section 8 of the Agriculture (Wales) Act 2023 (“the 2023 Act”) (Welsh Ministers’ power to provide support),

(b)

a scheme of the sort mentioned in section 9(8) of the 2023 Act (meaning of “third party scheme” for purposes of power to provide support),

(c)

the basic payment scheme, as defined in section 16 of the 2023 Act (power to modify legislation governing the basic payment scheme),

(d)

legislation relating to the financing, management and monitoring of the common agricultural policy, as defined in section 17 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to the common agricultural policy),

(e)

legislation relating to support for apiculture, as define in section 18 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to support for apiculture),

(f)

legislation relating to support for rural development, as defined in section 19 of the 2023 Act (support for rural development), or

(g)

section 22 of the 2023 Act (powers of Welsh Ministers to give financial assistance in exceptional market conditions);.

(3)Mae Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(4)Ar ôl adran 8 mewnosoder—

8AReference of certain requests for consent or variation to arbitration: Wales

(1)This section applies to a farm business tenancy where the land comprised in the tenancy is in Wales.

(2)A tenant may, by notice in writing given to the landlord, refer to arbitration under this Act a request made by the tenant to the landlord where—

(a)the request falls within subsection (3), and

(b)no agreement has been reached with the landlord on the request.

(3)A request falls within this subsection if—

(a)it is a request for—

(i)the landlord’s consent to a matter which under the terms of the tenancy requires such consent, or

(ii)a variation of the terms of the tenancy, and

(b)it is made for the purposes of—

(i)enabling the tenant to request or apply for relevant financial support, or

(ii)complying with a statutory duty applicable to the tenant.

(4)Subsection (5) applies where the tenant has given notice under subsection (2) but an arbitrator has not been appointed by agreement before the end of the period of two months beginning with the day on which the notice was given.

(5)The tenant or the landlord may apply to a professional authority for the appointment of an arbitrator by that authority, but once either party has made such an application the other may no longer do so.

(6)An arbitrator, on a reference made under subsection (2), may—

(a)determine that the landlord must comply with the request (either in full or in part),

(b)determine that the landlord may refuse to comply with the request, or

(c)make any other award or determination permitted by regulations.

(7)The Welsh Ministers may by regulations make provision—

(a)about conditions to be met before a reference may be made under subsection (2);

(b)about the awards or determinations that may be made by an arbitrator, which may include making an order for a variation in the rent payable under the tenancy or for the payment of compensation or costs;

(c)about the time at which, or the conditions subject to which, an award or determination may be expressed to take effect;

(d)restricting a tenant’s ability to make subsequent references to arbitration where a reference to arbitration has already been made under subsection (2) in relation to the same tenancy.

(8)In this section—

  • relevant financial support” means financial support under—

    (a)

    section 8 of the Agriculture (Wales) Act 2023 (“the 2023 Act”) (Welsh Ministers’ power to provide support),

    (b)

    a scheme of the sort mentioned in section 9(7) of the 2023 Act (meaning of “third party scheme” for purposes of power to provide support),

    (c)

    the basic payment scheme, as defined in section 16 of the 2023 Act (power to modify legislation governing the basic payment scheme),

    (d)

    legislation relating to the financing, management and monitoring of the common agricultural policy, as defined in section 17 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to the common agricultural policy),

    (e)

    legislation relating to support for apiculture, as defined in section 18 of the 2023 Act (power to modify legislation relating to support for apiculture),

    (f)

    legislation relating to support for rural development, as defined in section 19 of the 2023 Act (support for rural development), or

    (g)

    section 22 of the 2023 Act (powers of Welsh Ministers to give financial assistance in exceptional market conditions);

  • statutory duty” means a duty imposed by or under—

    (a)

    an Act of Parliament;

    (b)

    an Act of Senedd Cymru or an Assembly Measure;

    (c)

    retained direct EU legislation.

(5)Yn adran 28(5), cyn paragraff (a), mewnosoder—

(za)a request made under section 8A(2) of this Act,.

(6)Ar ôl adran 36, mewnosoder—

36ARegulations

(1)A power to make regulations under this Act is exercisable by statutory instrument.

(2)The Welsh Ministers’ power to make regulations under section 8A(7) includes power to make different provision for different purposes.

(3)A statutory instrument containing regulations made under section 8A(7) is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru.

RHAN 3LL+CMATERION SY’N YMWNEUD AG AMAETHYDDIAETH A CHYNHYRCHION AMAETHYDDOL

PENNOD 1LL+CCASGLU A RHANNU DATA

25Cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth: gofyniad i ddarparu gwybodaeth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath, ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau’r person y mae cysylltiad rhyngddynt â’r gadwyn gyflenwi, i’r graddau y mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yng Nghymru.

(3)Gweler adran 26 am ddarpariaeth ynghylch—

(a)ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth”,

(b)pwy sydd mewn cadwyn gyflenwi o’r fath, ac

(c)pwy sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath.

(4)Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu (2) ar unigolyn mewn cadwyn gyflenwi i’r graddau y maent yn y gadwyn gyflenwi gan mai hwy, neu aelodau o’u haelwyd, yw’r defnyddwyr olaf (gweler adran 26).

(5)Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan is-adran (1) neu (2) yn gymwys i ba wybodaeth bynnag y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, yr hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.

(6)Rhaid i ofyniad o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.

26Ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” LL+C

(1)Mae’r adran hon yn cael effaith at ddibenion y Bennod hon.

(2)“Cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” yw cadwyn gyflenwi ar gyfer darparu eitemau o fwyd neu ddiod i unigolion er mwyn eu bwyta a’u hyfed yn bersonol pan fo’r eitemau wedi eu gwneud o’r cyfan neu ran o’r canlynol neu’n cynnwys y cyfan neu ran o’r canlynol, neu wedi eu cynhyrchu gan ddefnyddio (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a hynny’n gyfan gwbl ai peidio), y cyfan neu ran ohonynt—

(a)unrhyw beth a dyfir neu a gynhyrchir fel arall wrth amaethu,

(b)unrhyw anifail a gedwir wrth amaethu, neu

(c)unrhyw anifail neu unrhyw beth arall a gymerir o’r gwyllt.

(3)Y personau mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yw—

(a)yr unigolion y darperir eitemau o fwyd a diod iddynt fel a ddisgrifir yn is-adran (2) (“y defnyddwyr olaf”),

(b)y personau sy’n amaethu neu (yn ôl y digwydd) sy’n cymryd pethau o’r gwyllt, ac

(c)unrhyw berson yn y gadwyn gyflenwi rhwng y personau hynny a’r defnyddwyr olaf.

(4)Y personau sydd â “cysylltiad agos” â’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth yw—

(a)unrhyw berson sy’n cyflenwi hadau, stoc, cyfarpar, bwyd anifeiliaid, gwrtaith, plaladdwyr, meddyginiaethau neu eitemau tebyg i’r personau o fewn is-adran (3)(b) ar gyfer eu defnyddio wrth amaethu neu gymryd pethau o’r gwyllt,

(b)unrhyw berson sy’n darparu, i bersonau o fewn is-adran (3)(b) neu (c), wasanaethau sy’n ymwneud ag—

(i)iechyd anifeiliaid, neu blanhigion, sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi, neu

(ii)diogelwch neu ansawdd y bwyd neu’r ddiod i’w ddarparu neu ei darparu i’r defnyddwyr olaf,

(c)unrhyw berson sy’n cynnal gweithgareddau a allai effeithio ar fater a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii) o baragraff (b), a

(d)cyrff sy’n cynrychioli personau o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (b) ac (c) o is-adran (3) a pharagraffau (a), (b) ac (c) o’r is-adran hon.

(5)Mae gweithgareddau o’r math a grybwyllir yn is-adran (4)(c) i’w trin at ddibenion adran 25(1) a (2) fel pe baent yn gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi, ond nid yw hyn i’w ddarllen fel pe bai’n cyfyngu ar gyffredinolrwydd “cysylltiad” yn adran 25(1) a (2).

(6)Yn yr adran hon, mae “hadau” yn cynnwys bylbiau a phethau eraill y mae planhigion yn tyfu ohonynt.

27Gweithgaredd perthnasol: gofyniad i ddarparu gwybodaeth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal gweithgaredd perthnasol (ac nad yw’n berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i’r graddau y mae’n cael ei gynnal yng Nghymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n cynnal gweithgaredd perthnasol (ac nad yw’n berson sydd mewn cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth, neu sydd â chysylltiad agos â chadwyn gyflenwi o’r fath) ddarparu gwybodaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i’r graddau y mae’n cael ei gynnal yng Nghymru.

(3)Gweler adran 28 am ddarpariaeth ynghylch ystyr “gweithgaredd perthnasol”.

(4)Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-adran (1) neu (2) ar berson mewn perthynas â gweithgaredd perthnasol i’r graddau y cynhelir y gweithgaredd ac eithrio i wneud elw neu i gael budd.

(5)Nid yw gofyniad a osodir ar berson o dan is-adran (1) neu (2) yn gymwys i ba wybodaeth bynnag y byddai gan y person, mewn achos cyfreithiol, yr hawl i wrthod ei darparu ar sail braint gyfreithiol.

(6)Rhaid i ofyniad o dan is-adran (1) fod yn ysgrifenedig.

28Ystyr “gweithgaredd perthnasol” LL+C

Yn y Bennod hon, ystyr, “gweithgaredd perthnasol” yw—

(a)gweithgaredd a restrir yn adran 51(1) (ystyr “amaethyddiaeth”);

(b)gweithgaredd ategol.

29Gofyniad i bennu dibenion y caniateir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Rhaid i’r gofyniad bennu’r dibenion y caniateir prosesu’r wybodaeth ar eu cyfer.

(3)Rhaid i bob diben a bennir fod ar y rhestr o ddibenion yn is-adran (4) neu fod wedi ei gwmpasu gan y rhestr honno.

(4)Y rhestr o ddibenion yw—

(a)helpu personau mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu bersonau sy’n cynnal gweithgareddau perthnasol i—

(i)cynyddu cynhyrchiant,

(ii)rheoli risgiau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, risgiau ariannol, risgiau masnachu nad ydynt yn risgiau ariannol, risgiau hinsoddol, a risgiau o glefydau neu lygredd, neu risgiau gan glefydau neu lygredd), neu

(iii)rheoli anwadalrwydd y farchnad;

(b)hyrwyddo tryloywder neu degwch mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(c)hyrwyddo iechyd neu les anifeiliaid o fath a gedwir ar gyfer cynhyrchu bwyd, diod, ffibrau neu ledrau neu’r gallu i olrhain anifeiliaid o’r fath;

(d)hyrwyddo iechyd neu ansawdd planhigion neu bridd;

(e)lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(f)lleihau gwastraff sy’n codi o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(g)monitro neu ddadansoddi marchnadoedd sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth neu weithgareddau perthnasol;

(h)

(5)Gweler adran 26 am ystyr “cadwyn gyflenwi bwyd-amaeth” (a “pherson mewn” cadwyn o’r fath).

(6)Gweler adran 28 am ystyr “gweithgaredd perthnasol”.

30Dyletswydd i gyhoeddi gofyniad o dan adran 25(1) neu 27(1) ar ffurf ddrafft LL+C

(1)Cyn i ofyniad penodol gael ei osod o dan adran 25(1) neu 27(1), rhaid bod Gweinidogion Cymru—

(a)wedi cyhoeddi—

(i)drafft o’r gofyniad,

(ii)disgrifiad o’r personau y bwriedir i’r gofyniad gael ei osod arnynt, a

(iii)y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau ar y drafft, na chaiff fod yn gynharach na 4 wythnos ar ôl y dyddiad cyhoeddi, a

(b)wedi penderfynu, ar ôl ystyried y sylwadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau (ac unrhyw faterion perthnasol eraill), a ddylid gosod y gofyniad yn nhelerau’r drafft neu mewn telerau diwygiedig.

(2)Wedi i’r penderfyniad i osod gofyniad gael ei wneud o dan is-adran (1)(b), caiff Gweinidogion Cymru osod y gofyniad hwnnw ar berson (o dan adran 25(1) neu adran 27(1), yn ôl y digwydd) ar unrhyw adeg pan fo’r person o fewn y disgrifiad a gyhoeddir o dan is-adran (1)(a)(ii) mewn cysylltiad â’r gofyniad.

31Darparu’r wybodaeth ofynnol a chyfyngiadau ar ei phrosesu LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad gael ei phrosesu ond at ddibenion a bennir yn y gofyniad (gweler adran 29).

(3)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)i’r person y darperir yr wybodaeth iddo, a

(b)i berson y datgelir yr wybodaeth iddo,

ond, yn achos person o fewn paragraff (b), nid yw is-adran (2) yn awdurdodi prosesu sy’n groes i’r telerau y gwneir y datgeliad arnynt.

(4)Mae is-adrannau (2) a (3) yn ddarostyngedig i is-adrannau (7) i (10).

(5)Caiff y gofyniad bennu sut a phryd y mae’r wybodaeth ofynnol i gael ei darparu, gan gynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)y person y mae’r wybodaeth i’w darparu iddo (a all fod yn berson heblaw Gweinidogion Cymru);

(b)ar ba ffurf y mae’r wybodaeth i gael ei darparu;

(c)drwy ba ddull y mae i’w darparu;

(d)yr amser neu’r amseroedd y mae rhaid, neu erbyn pryd y mae rhaid, ei darparu.

(6)Rhaid i’r gofyniad bennu—

(a)y mathau o brosesu y caniateir i’r wybodaeth fod yn ddarostyngedig iddynt, a

(b)os yw’r mathau o brosesu a bennir yn cynnwys datgelu o unrhyw fath, ar ba ffurfiau y caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu.

(7)Ni chaniateir i’r wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r gofyniad—

(a)bod yn ddarostyngedig i fathau o brosesu heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad, a

(b)cael ei datgelu ar unrhyw ffurf heblaw am y rheini a bennir yn y gofyniad,

ac eithrio o dan amgylchiadau a bennir yn y gofyniad.

(8)Mae is-adran (9) yn gymwys—

(a)os darperir gwybodaeth mewn ymateb i’r gofyniad, a

(b)os yw person (“P”) yn bwriadu datgelu’r wybodaeth ar ffurf a ganiateir gan is-adran (7).

(9)Pan fo P yn bwriadu datgelu’r wybodaeth ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw—

(a)rhaid i P ystyried a fyddai datgelu’r wybodaeth ar y ffurf honno yn rhagfarnu, neu yn gallu rhagfarnu, buddion masnachol unrhyw berson, a

(b)os yw P yn ystyried y byddai’n gwneud hynny, neu y gallai wneud hynny, rhaid i’r wybodaeth (os caiff ei datgelu) gael ei datgelu yn hytrach ar ffurf ddienw.

(10)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod er budd y cyhoedd i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ffurf ddienw—

(a)caniateir i’r wybodaeth gael ei datgelu ar ffurf nad yw’n ddienw, cyn belled â bod y datgeliad ar ffurf a ganiateir gan is-adran (7), a

(b)nid yw is-adran (9)(b) yn gymwys.

(11)Yn y Bennod hon, ystyr “prosesu”, mewn perthynas â gwybodaeth, yw gweithrediad, neu gyfres o weithrediadau sy’n cael ei wneud neu eu gwneud ar wybodaeth, neu gyfres o wybodaeth, megis—

(a)casglu, cofnodi, trefnu, strwythuro neu storio,

(b)diwygio neu newid,

(c)adalw, ymgynghori neu ddefnyddio,

(d)datgelu drwy drosglwyddo, lledaenu neu sicrhau bod yr wybodaeth ar gael fel arall,

(e)cysoni neu gyfuno, neu

(f)cyfyngu, dileu neu ddinistrio.

32Gorfodi gofynion gwybodaeth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofyniad a osodir o dan adran 25(1) neu (2) neu 27(1) neu (2).

(2)Yn y darpariaethau a ganlyn o’r adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)darpariaeth ar gyfer gosod cosbau ariannol am beidio â chydymffurfio â gofynion, boed hwy’n gosbau—

(i)o swm penodedig,

(ii)o swm a gyfrifir mewn modd penodedig,

(iii)o swm, heb fod yn fwy nag uchafswm penodedig neu uchafswm a gyfrifir mewn modd penodedig, a benderfynir gan berson penodedig neu berson o ddisgrifiad penodedig, neu

(iv)drwy atal dros dro, neu gadw’n ôl, daliad o unrhyw symiau;

(b)darpariaeth ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(c)darpariaeth ar gyfer rhoi cyngor neu rybuddion;

(d)darpariaeth ar gyfer derbyn ymgymeriadau i gymryd, neu i ymatal rhag cymryd, camau penodol;

(e)darpariaeth sy’n rhoi swyddogaethau‍ (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson;

(f)darpariaeth am adolygu, neu apelio yn erbyn, pethau a wnaed (gan gynnwys penderfyniadau a wnaed) mewn cysylltiad â gorfodi gofynion.

(4)Yn is-adran (3)(a), mae “modd penodedig” yn cynnwys (ymysg pethau eraill) modd a lunnir drwy gyfeirio at fater penodedig megis elw, incwm neu drosiant person.

33Adolygu gweithrediad ac effaith adrannau 25 i 32 LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ar weithrediad ac effaith adrannau 25 i 32 yn ystod y cyfnod.

(2)Wrth lunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(4)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad cyntaf, y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 25 yn dod i rym;

(b)yn achos adroddiadau dilynol, gyfnodau olynol o bum mlynedd.

PENNOD 2LL+CSAFONAU MARCHNATA: CYNHYRCHION AMAETHYDDOL

34Safonau marchnata LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch y safonau y mae rhaid i’r cynhyrchion amaethyddol a restrir yn Atodlen 1 gydymffurfio â hwy pan gânt eu marchnata yng Nghymru.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y canlynol, ymysg pethau eraill—

(a)diffiniadau technegol, dynodiad a disgrifiadau gwerthu;

(b)meini prawf dosbarthu megis graddio yn ôl dosbarthau, pwysau, maint, oedran a chategori;

(c)y rhywogaeth, amrywogaeth y planhigyn neu frîd yr anifail, neu’r math masnachol;

(d)cyflwyniad, labelu, pecynnu, rheolau i’w cymhwyso mewn perthynas â chanolfannau pecynnu, marcio, blynyddoedd cynaeafu a defnyddio termau penodol;

(e)meini prawf megis edrychiad, tewychedd, cydffurfiad, nodweddion y cynnyrch a chanran y cynnwys sy’n ddŵr;

(f)sylweddau penodol a ddefnyddir wrth gynhyrchu, neu gydrannau neu gyfansoddion, gan gynnwys eu cynnwys meintiol, eu purdeb a’u dull adnabod;

(g)dulliau ffermio a chynhyrchu, gan gynnwys arferion gwinyddol;

(h)coupage o freci gwin a gwin (gan gynnwys diffiniadau o’r termau hynny), blendio a chyfyngiadau ar flendio;

(i)amlder casglu, danfon, cyffeithio a thrafod;

(j)dulliau cadwraeth a thymheredd, storio a chludiant;

(k)y man ffermio neu’r tarddle (ond gweler is-adran (3));

(l)cyfyngiadau o ran defnyddio sylweddau ac arferion penodol;

(m)defnydd penodol o gynhyrchion;

(n)amodau sy’n llywodraethu gwaredu, dal, cylchredeg a defnyddio cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio â’r safonau marchnata, a gwaredu sgil-gynhyrchion;

(o)y defnydd o dermau sy’n cyfleu nodweddion neu briodoleddau sy’n ychwanegu gwerth.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(k) (y man ffermio neu’r tarddle) i’r graddau y maent yn ymwneud â dofednod byw, cig dofednod neu frasterau taenadwy.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth am orfodi, a all gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)ynghylch darparu gwybodaeth;

(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;

(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;

(d)ynghylch cadw cofnodion;

(e)sy’n gosod cosbau ariannol;

(f)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(g)sy’n creu troseddau diannod y bydd modd eu cosbi drwy ddirwy (neu ddirwy nad yw’n uwch na swm a bennir yn y rheoliadau, ac na chaiff fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol);

(h)ynghylch trwyddedau, achrediadau, awdurdodiadau a gofynion cofrestru;

(i)ynghylch apelau;

(j)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson.

(5)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)diwygio Atodlen 1 drwy ychwanegu cynnyrch amaethyddol at y rhestr, dileu cynnyrch o’r rhestr neu newid y disgrifiad o gynnyrch amaethyddol ar y rhestr;

(b)diwygio’r adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwygiad o’r fath.

PENNOD 3LL+CDOSBARTHIAD CARCASAU PENODOL ETC.

35Dosbarthiad carcasau LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch dosbarthiad, dull adnabod a chyflwyniad carcasau buchol, moch a defaid gan ladd-dai yng Nghymru.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth am orfodi, a gaiff gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)ynghylch darparu gwybodaeth;

(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;

(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;

(d)ynghylch cadw cofnodion;

(e)sy’n gosod cosbau ariannol;

(f)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(g)sy’n creu troseddau diannod y bydd modd eu cosbi drwy ddirwy (neu ddirwy nad yw’n uwch na swm a bennir yn y rheoliadau, ac na chaiff fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol);

(h)ynghylch trwyddedau, achrediadau, awdurdodiadau a gofynion cofrestru;

(i)ynghylch apelau;

(j)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n cynnwys arfer disgresiwn) i berson.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(4)

RHAN 4LL+CCOEDWIGAETH

36Trosolwg o’r Rhan LL+C

Mae’r Rhan hon yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) o ran Cymru—

(a)er mwyn ehangu’r ystod o amgylchiadau pan ganiateir atodi amodau at drwyddedau cwympo coed;

(b)er mwyn galluogi diwygio trwyddedau cwympo coed drwy gytundeb;

(c)pan fo amod trwydded cwympo coed yn cael ei dorri neu wedi ei dorri, er mwyn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i amrywio neu hepgor amodau’r drwydded, neu i ychwanegu amodau pellach, neu i atal y drwydded dros dro neu ei dirymu, a’i gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd yn dilyn torri’r amod;

(d)pan fo cwympo coed yn unol â thrwydded cwympo coed yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed sylweddol i agweddau penodol ar yr amgylchedd, er mwyn galluogi Corff Adnoddau Naturiol Cymru i ddiwygio’r drwydded cwympo coed neu ei hatal dros dro neu ei dirymu;

(e)er mwyn dileu’r cyfyngiad ar ddirwyon y caniateir eu rhoi am y drosedd o gwympo coed heb awdurdod trwydded cwympo coed;

(f)er mwyn gwneud darpariaeth sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (c) a (d).

37Amodau trwyddedau cwympo coed LL+C

Yn adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) (cais am drwydded cwympo coed a phenderfyniad awdurdod priodol), yn is-adran (2), ar ddiwedd paragraff (b), mewnosoder “; or

(c)in relation to land in Wales, after consultation with the applicant for the licence, for the purpose of—

(i)conserving or enhancing natural beauty;

(ii)conserving flora, fauna, geological or physiographical features, or natural habitats.

38Diwygio trwyddedau cwympo coed drwy gytundeb LL+C

(1)Yn adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) (cais am drwydded cwympo coed a phenderfyniad awdurdod priodol), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)The‍ Natural Resources Body for Wales, and the person responsible, may agree to amend the licence at any time (but see section 10A, which imposes further requirements in relation to amendments in respect of trees to which a tree preservation order relates).

(3B)For the purposes of subsection (3A) of this section, and section 10A, the person responsible is—

(a)the applicant for the licence, if the applicant has such estate or interest in the land as is referred to in subsection (1), or

(b)if the applicant no longer has such estate or interest, a person who has such estate or interest.

(2)Ar ôl adran 10 o Ddeddf Coedwigaeth 1967, mewnosoder—

10AAmendments made under section 10(3A) that affect tree preservation orders

(1)The provisions of this section apply if—

(a)an amendment to a licence under section 10(3A) is proposed in respect of any trees to which a tree preservation order relates, and

(b)the Natural Resources Body for Wales does not consider that the amendment is necessary to respond to an imminent and serious risk of harm to—

(i)natural beauty, or

(ii)flora, fauna, geological or physiographical features, or natural habitats.

(2)Before amending the licence, the Natural Resources Body for Wales must give notice in writing of the proposal to the authority by whom the tree preservation order was made.

(3)If, within the prescribed period, the authority by whom the tree preservation order was made objects to the amendment in so far as it affects trees to which the tree preservation order relates, and does not withdraw its objection, the Natural Resources Body for Wales must refer the matter to the Welsh Ministers.

(4)If a matter is referred to the Welsh Ministers under subsection (3), the Welsh Ministers may decide to—

(a)grant consent to the amendment, or

(b)refuse to grant consent (in which case the amendment cannot be made).

(5)Where the Natural Resources Body for Wales has given notice in writing under subsection (1) to an authority in respect of a proposed amendment, the proposed amendment cannot be made until—

(a)the period prescribed under subsection (3) has ended without the authority having objected (or, if the authority has objected, that objection has been withdrawn), or

(b)if the Natural Resources Body for Wales has referred the matter to the Welsh Ministers, the Welsh Ministers have given their decision on the matter.

(6)Before deciding whether to grant or refuse consent under subsection (4), the Welsh Ministers must consult—

(a)the person responsible (see section 10(3B));

(b)the Natural Resources Body for Wales;

(c)authority by whom the tree preservation order was made.

39Amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwyddedau cwympo coed LL+C

Ar ôl adran 24B o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) (a fewnosodir gan Ddeddf yr Amgylchedd 2021 (p. 30)), mewnosoder—

24CVariation of conditions or suspension or revocation of licence following breach of condition: Wales

(1)The provisions of this section apply if, in relation to a felling licence granted in relation to land in Wales, the Natural Resources Body for Wales considers that any condition of the licence—

(a)has not been complied with, or

(b)is not being complied with.

(2)But this section does not apply if the condition is one that requires works to be carried out (as to which see section 24).

(3)The Natural Resources Body for Wales may give to the person responsible a notice which makes provision for one or more of the following—

(a)a suspension of the felling licence, either in full or in part;

(b)a variation or removal of a condition of the felling licence or an imposition of a new condition;

(c)where the circumstances referred to in subsection (4) apply, a revocation of the felling licence.

(4)The circumstances are that the condition that has not been complied with, or is not being complied with, was imposed for the purpose mentioned in section 10(2)(c).

(5)A notice given under subsection (3) may also make provision—

(a)requiring the person‍ to whom the notice was given to take such steps as may be specified in the notice, and

(b)specifying the period (not being less than the prescribed period after the notice has become operative) within which those steps must be‍ taken.

(6)A notice given under subsection (3) must—

(a)set out the reasons for giving the notice;

(b)specify the condition that has not been or is not being complied with;

(c)if the notice suspends the felling licence, specify the period for which the licence is to be suspended;

(d)if the notice varies conditions or revokes the felling licence, specify the date upon which the variation or revocation takes effect;

(e)if the notice suspends the felling licence in part, specify the felling that may continue.

(7)Where a notice given under subsection (3) suspends a felling licence, either in full or in part, the suspension ends with the earlier of—

(a)the expiry of the period specified in the notice‍ in accordance with subsection (6)(c), and

(b)the date specified in any further notice given to the person responsible by the Natural Resources Body for Wales under this paragraph.

(8)The Natural Resources Body for Wales may give a further notice under subsection (7)(b) if it considers that the suspension should be lifted sooner than the‍ end of the period specified in the notice given under subsection‍ (3).

(9)If—

(a)a notice given under subsection (3) requires a person to take steps in accordance with subsection (5)(a), and

(b)those steps have not been‍ taken before the end of the period specified in that notice in accordance with subsection (5)(b),

the Natural Resources Body for Wales may enter on the land and take those steps.

(10)A person who, without reasonable excuse, fails to take any steps required by a notice given under subsection (3) commits an offence and is liable on summary conviction to a fine (but this does not affect the powers of the Natural Resources Body for Wales under subsection (9)).

(11)Proceedings in respect of an offence under subsection (10)—

(a)must be commenced within the period of six months starting on the day the person commencing the proceedings becomes aware of the offence;

(b)may not be commenced more than two years after the date of the offence.

(12)A person who is required by a notice under subsection (3) to take steps may take the steps notwithstanding any lease, covenant or contract relating to the trees or land affected by the notice.

(13)For the purposes of this sectio‍n, “the person responsible” is—

(a)the applicant for the licence, if on the date the notice is given the applicant has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1);

(b)in any other case,‍ a person who has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1) on that date.

24DNotice to subsequent estate or interest holder requiring steps to be taken

(1)Subsection (2) applies where—

(a)a notice has been given to a person under section 24C(3) requiring the person to take steps,

(b)steps required by the notice have not been taken, and

(c)before the time specified in the notice (within which those steps must be taken) has expired, the person ceases to have the estate or interest in the land by reference to which the notice was given.

(2)The Natural Resources Body for Wales may give to a person who has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1) a notice—

(a)requiring the steps that were not taken under the notice described in subsection (1) to be taken, and

(b)specifying the period (not being less than the prescribed period after the notice has become operative) within which those steps must be taken.

(3)A notice given under subsection (2) must set out the reasons for giving the notice.

(4)If steps required by a notice under subsection (2) have not been taken before the end of the period specified in the notice, the Natural Resources Body for Wales may enter on the land and take those steps.

(5)A person who, without reasonable excuse, fails to take any steps required by a notice under subsection (2) commits an offence and is liable on summary conviction to a fine (but this does not affect the powers of the Natural Resources Body for Wales under subsection (4)).

(6)Proceedings in respect of an offence under subsection (5)—

(a)must be commenced within the period of six months starting on the day the person commencing the proceedings becomes aware of the offence;

(b)may not be commenced more than two years after the date of the offence.

(7)A person who is required by a notice under subsection (2) to take steps may take the steps notwithstanding any lease, covenant or contract relating to the trees or land affected by the notice.

(8)The reference in subsection (1) to a notice under section 24C(3) includes a notice given under this section.‍

24ESuspension, amendment or revocation of tree felling licence where no breach of condition: Wales

(1)The provisions of this section apply if, in relation to a felling licence granted in relation to land in Wales, the Natural Resources Body for Wales considers that felling in accordance with the licence is causing, or is likely to cause, significant harm to—

(a)natural beauty, or

(b)flora, fauna geological or physiographical features, or natural habitats.

(2)The Natural Resources Body for Wales may give to the person responsible a notice which makes provision for one or more of the following—

(a)a suspension of the felling licence, either in full or in part;

(b)an amendment of the felling licence;

(c)if the Natural Resources Body for Wales considers that amending the felling licence would not prevent the harm that is being caused or is likely to be caused, a revocation of the felling licence.

(3)A notice given under subsection (2) must—

(a)set out the reasons for giving the notice;

(b)specify the harm that felling in accordance with the licence is causing or is likely to cause;

(c)if the notice suspends the felling licence, specify the period for which the licence is to be suspended;

(d)if the notice amends or revokes the felling licence, specify the date upon which the amendment or revocation takes effect;

(e)if the notice suspends the felling licence in part, specify the felling that may continue.

(4)Where a notice given under subsection (2) suspends a felling licence, either in full or in part, the suspension ends with the earlier of—

(a)the expiry of the period specified in the notice‍ in accordance with subsection (3)(c), and

(b)the date specified in any further notice given to the person responsible by the Natural Resources Body for Wales under this paragraph.

(5)The Natural Resources Body for Wales must give a further notice specifying a date under subsection (4)(b) (to bring the suspension to an end) if it considers that felling in accordance with the felling licence (as it would have effect after that date) would neither cause nor be likely to cause the harm specified in the notice that suspended the licence.

(6)For the purposes of this section, “the person responsible” is—

(a)the applicant for the licence, if on the date the notice is given the applicant has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1);

(b)in any other case, a person who has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1) on that date.

40Gorchmynion Cadw Coed LL+C

Ar ôl adran newydd 24E o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) (a fewnosodir gan adran 39), mewnosoder—

24FNotices under section 24C(3) or 24E(2) that affect tree preservation orders

(1)The provisions of this section apply if—

(a)the Natural Resources Body for Wales proposes to give a notice under section 24C(3) or 24E(2) in respect of any trees to which a tree preservation order relates, and

(b)the proposed notice does not meet the emergency criteria.

(2)The emergency criteria are met if the proposed notice makes no provision other than—

(a)provision that the Natural Resources Body for Wales considers is necessary to respond to an imminent and serious risk of harm to—

(i)natural beauty, or

(ii)flora, fauna, geological or physiographical features, or natural habitats, or

(b)provision that suspends a felling licence.

(3)Before the Natural Resources Body for Wales gives the proposed notice it must give notice in writing of the proposal to the authority by whom the tree preservation order was made.

(4)If, within the prescribed period, the authority by whom the tree preservation order was made objects to the notice in so far as it affects trees to which the tree preservation order relates, and does not withdraw its objection, the Natural Resources Body for Wales must refer the matter to the Welsh Ministers.

(5)If a matter is referred to the Welsh Ministers under subsection (4), the Welsh Ministers may decide to—

(a)grant consent to the giving of the notice, or

(b)refuse to grant consent (in which case the notice cannot be given).

(6)Where the Natural Resources Body for Wales has given notice in writing under subsection (3) to an authority in respect of a proposed notice, the proposed notice cannot be given until—

(a)the period prescribed under subsection (4) has ended without the authority having objected (or, if the authority has objected, that objection has been withdrawn), or

(b)if the Natural Resources for Wales has referred the matter to the Welsh Ministers, the Welsh Ministers have given their decision on the matter.

(7)Before deciding whether to grant or refuse consent under subsection (5), the Welsh Ministers must consult—

(a)the Natural Resources Body for Wales;

(b)the authority by whom the tree preservation order was made;

(c)the applicant for the licence if the applicant has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1) or, in any other case, a person who has such estate or interest in the land.

41Apelau a digollediad LL+C

Ar ôl adran 26 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10), mewnosoder—

26AAppeals against notices given under section 24C(3) and 24D(2)

(1)The following persons have a right to bring an appeal against a notice given under section 24C(3) if the person thinks that any of the grounds set out in subsection (2) applies—

(a)the person to whom the notice was given;

(b)a person who has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1);

(c)the owner of the trees.

(2)The grounds are—

(a)a condition referred to in the notice has been complied with or is being complied with;

(b)suspending or revoking the felling licence is unreasonable or disproportionate;

(c)the variation of a condition of the felling licence, or the imposition of a new condition, is unreasonable or disproportionate;

(d)a step specified in the notice is unreasonable or disproportionate;

(e)where the notice has suspended the felling licence, the suspension should have been brought to an end by a notice given under section 24C(7)(b).

(3)A person to whom a notice has been given under section 24D(2) has a right to bring an appeal against the notice if the person thinks that a step specified in the notice is unreasonable or disproportionate.

(4)An appeal under this section is brought by serving a notice on the Welsh Ministers requesting that they refer the matter to a committee appointed in accordance with section 27 (and see section 26C for further provision about such requests).

26BAppeals against notice given under section 24E(2)

(1)The following persons have a right to bring an appeal against a notice given under section 24E(2) if the person thinks that any of the grounds set out in subsection (2) applies—

(a)the person to whom the notice was given;

(b)a person who has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1);

(c)the owner of the trees.

(2)The grounds are—

(a)the felling is not causing the harm specified in the notice or is not likely to cause the harm;

(b)suspending or revoking the felling licence is unreasonable or disproportionate;

(c)an amendment to the felling licence is unreasonable or disproportionate;

(d)where the notice has suspended the felling licence, the suspension should have been brought to an end by a notice given under section 24E(4)(b).

(3)An appeal under this section is brought by serving a notice on the Welsh Ministers requesting that they refer the matter to a committee appointed in accordance with section 27 (and see section 26C for further provision about such requests).

26CFurther provision about appeals brought under sections 26A and 26B

(1)A request made to the Welsh Ministers under section 26A or 26B must be made in the prescribed manner and within the prescribed period.

(2)A notice given under section 24C(3), 24D(2) or 24E(2) does not take effect until the expiration of the prescribed period and, where a request is made to the Welsh Ministers under section 26A or 26B (as the case may be), until the conclusion of any proceedings in pursuance of the request.

(3)But subsection (2) does not apply (and the notice may take effect immediately) to the extent that—

(a)the notice makes provision that the Natural Resources Body for Wales considers is necessary to respond to an imminent and serious risk of harm to—

(i)natural beauty, or

(ii)flora, fauna, geological or physiographical features, or natural habitats, or

(b)the notice makes provision that suspends a felling licence.

(4)Where a request is made to the Welsh Ministers under section 26A or 26B, the Welsh Ministers must, unless they are of the opinion that the grounds for the request are frivolous, refer the matter to the committee appointed in accordance with section 27.

(5)The committee to whom a matter is referred under this section must, after complying with section 27(3), provide the Welsh Ministers with a report in relation to the reference.

(6)After considering the report, the Welsh Ministers must—

(a)in the case of a request made on the ground in subsection 26A(2)(e) or 26B(2)(d) (suspension should have been ended)—

(i)direct the Natural Resources Body for Wales to give a notice under section 24C(7)(b) or 24E(4)(b) (as the case may be) ending the suspension, or

(ii)give the person who made the request a notice setting out the reasons why a direction under sub-paragraph (i) is not being given;

(b)in the case of any other request, confirm or cancel the notice to which the reference relates.

26DCompensation following receipt of a notice given under section 24C(3)

(1)If in the case of any trees, the Natural Resources Body for Wales gives a person a notice under section 24C(3), the relevant person is entitled to compensation in accordance with this section and section 26G.

(2)If the notice given under section 24C(3) is cancelled under section 26C(6)(b), compensation is payable—

(a)for any expenses reasonably incurred in connection with the giving of the notice;

(b)for any depreciation in the value of the trees that is attributable to deterioration in the quality of the timber comprised in the trees as a result of the giving of the notice.

(3)If a direction is given to the Natural Resources Body for Wales under section 26C(6)(a)(i) to give a notice ending a suspension imposed by the notice given under section 24C(3), compensation is payable—

(a)for any expenses reasonably incurred in connection with the suspension;

(b)for any depreciation in the value of the trees that is attributable to deterioration in the quality of the timber comprised in the trees as a result of the suspension.

(4)For the purposes of this section “the relevant person” is—

(a)where compensation is payable for expenses reasonably incurred, and those expenses have been incurred in connection with a requirement to take steps, the person to whom the notice was given;

(b)where compensation is payable for expenses reasonably incurred, and those expenses have been incurred otherwise than in connection with a requirement to take steps, a person who had such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1) at the time the expenses were incurred;

(c)in the case of compensation for depreciation in the value of the trees, the owner of the trees.

26ECompensation following receipt of a notice given under section 24D(2)

(1)If in the case of any trees, the Natural Resources Body for Wales gives a person a notice under section 24D(2), the person to whom the notice was given is entitled to compensation in accordance with this section and section 26G.

(2)If the notice given under section 24D(2) is cancelled under section 26C(6)(b), compensation is payable for any expenses reasonably incurred in connection with the giving of the notice.

26FCompensation following receipt of a notice given under section 24E(2)

(1)If in the case of any trees, the Natural Resources Body for Wales gives a person a notice under section 24E(2), the relevant person is entitled to compensation in accordance with this section and section 26G.

(2)Compensation is payable for any depreciation in the value of the trees that is attributable to deterioration in the quality of the timber comprised in the trees as a result of the giving of the notice under section 24E(2) (regardless of whether an appeal has been brought under section 26B).

(3)If the notice given under section 24E(2) is cancelled under section 26C(6)(b), compensation is payable for any expenses reasonably incurred in connection with the giving of the notice.

(4)If a direction is given to the Natural Resources Body for Wales under section 26C(6)(a)(i) to give a notice ending a suspension imposed by the notice given under section 24E(2), compensation is payable for any expenses reasonably incurred in connection with the suspension.

(5)For the purposes of this section “the relevant person” is—

(a)where compensation is payable for expenses reasonably incurred, a person who had such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1) at the time the expenses were incurred;

(b)in the case of compensation for depreciation in the value of the trees, the owner of the trees.

26GCompensation under section 26D, 26E and 26F – further provision

(1)Compensation under sections 26D, 26E and 26F is recoverable from the Natural Resources Body for Wales.

(2)A claim for compensation under section 26D, 26E or 26F must be made in the prescribed manner and within the prescribed period.

(3)Where a claim for compensation is made under section 26D or 26F for deterioration in the quality of the timber—

(a)if the trees have been felled, no claim may be made after the expiration of one year from the date of the felling;

(b)where a claim is made in reliance on section 26F(2) (depreciation in the value of the trees as a result of the giving of a notice under section 24E(2)), no claim may be made in respect of deterioration occurring more than ten years after the notice was given.

(4)In calculating compensation that is payable under section 26D or 26F—

(a)no account is to be taken of deterioration in the quality of the timber that is attributable to neglect of the trees;

(b)the value of the trees at any time is to be ascertained on the basis of prices current at the date of the claim.

(5)If—

(a)after giving notice under section 24E(2) that amends a felling licence, the Natural Resources Body for Wales notifies the person specified in subsection (6) that it is prepared to further amend the licence under section 10(3A) so that it has the same effect as it had immediately before the licence was amended by the notice given under section 24E(2), or

(b)after giving notice under section 24E(2) that revokes a felling licence, the Natural Resources Body for Wales notifies the person mentioned in subsection (7) that it is prepared to grant a new licence that has the same effect as the licence that was revoked,

then in calculating the compensation that is payable under section 26F(2), no account is to be taken of deterioration occurring after the Natural Resources Body for Wales has notified the relevant person in accordance with this subsection.

(6)For the purposes of subsection (5)(a), the relevant person is—

(a)the applicant for the licence, if the applicant has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1), or

(b)if the applicant no longer has such estate or interest, a person who has such estate or interest.

(7)For the purposes of subsection (5)(b), the relevant person is the person who has such estate or interest in the land as is referred to in section 10(1).

(8)Any question of disputed compensation arising from a claim made under section 26D, 26E or 26F is to be determined in accordance with section 31.

42Cosb am gwympo coed heb drwydded‍ LL+C

Yn adran 17 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), hepgorer y geiriau ar ôl “fine” hyd at y diwedd.‍

43Cyflwyno dogfennau LL+C

(1)Mae adran 30 (cyflwyno dogfennau) o Deddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (5), mewnosoder—

(6)For the purposes of this section, any reference in this Part to the giving of a notice or document by the Natural Resources Body for Wales is to be treated as if it were a reference to the serving of a document.

44Diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Coedwigaeth 1967 LL+C

(1)Mae Deddf Coedwigaeth 1967 (p. 10) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 10 (cais am drwydded cwympo coed a phenderfyniad awdurdod priodol), yn is-adran (2), ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “or”.

(3)Yn adran 12 (trwyddedau amodol), yn is-adran (1), ar ôl “section 10(2)” mewnosoder “(a) or (b)”.

(4)Yn adran 26 (treuliau etc. mewn cysylltiad â hysbysiadau)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd, mewnosoder ‍“, s. 24C(3) or s. 24D(2)”;

(b)yn is-adran (1‍)‍—

(i)ar ôl “under section 24”, mewnosoder “, section 24C(9) or section 24D(4)”;

(ii)yn lle “under that section” rhodder “under either of those sections”.

(5)Yn adran 27 (Pwyllgorau cyfeirio)—

(a)yn y pennawd, yn lle “and 25” rhodder “, 25, 26A, 26B and 26C”;

(b)yn is-adran (1), yn lle “and 25” rhodder “, 25, 26A, 26B and 26C”.

(6)Yn adran 29 (darpariaethau’n ymwneud â morgeisi a thir setledig)—

(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (a),‍ yn lle “or section 26” rhodder “, 26, 26D, 26E or 26F”;

(b)yn is-adran (3),‍ yn lle “or section 26” rhodder “, 26, 26D, 26E or 26F”.

(7)Ym mhennawd adran 31 (penderfynu ar faterion sy’n codi o dan adrannau 11, 14, 21 a 22), yn lle “and 22” rhodder “, 2‍2, 26D, 26E and 26F”.

RHAN 5LL+CBYWYD GWYLLT

45Trosolwg o’r Rhan LL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn diwygio Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

(2)Gwneir hyn—

(a)i wahardd y defnydd (gan gynnwys defnydd trwyddedig) o fagl neu unrhyw atalydd cebl arall at y diben o ladd neu drapio anifail gwyllt, a’r defnydd o fagl neu unrhyw atalydd cebl arall mewn unrhyw fodd arall sy’n debygol o anafu anifail gwyllt,

(b)i wahardd y defnydd o drap glud at y diben o ladd neu gymryd anifail, a defnyddio trap glud mewn unrhyw fodd arall a fyddai’n debygol o ddal anifail, ac

(c)i addasu’r gwaharddiad ar ddefnyddio trapiau, unrhyw ddyfais drydanol i ladd neu stynio, neu unrhyw sylwedd gwenwynig, sylwedd a wenwynwyd neu sylwedd llesgáu, fel ei fod yn gymwys pan fo eu defnydd yn debygol o niweidio anifail gwyllt.

46Gwahardd defnyddio maglau a thrapiau glud LL+C

Yn adran 11 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (gwahardd dulliau penodol o ladd neu gymryd anifeiliaid gwyllt), yn is-adran (1)—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)sets in position in Wales any snare, or other cable restraint, which is of such a nature and so placed as to be likely to cause bodily injury to any wild animal coming into contact with it;

(bb)uses in Wales for the purpose of killing or taking any wild animal any snare, or other cable restraint, whether or not of such a nature or so placed as aforesaid;

(bc)sets in position in Wales any glue trap which is of such a nature and so placed as to be likely to catch any animal coming into contact with it;

(bd)uses in Wales for the purpose of killing or taking any animal any glue trap, whether or not of such a nature or so placed as aforesaid;;

(b)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(7ZA)For the purposes of paragraphs (bc) and (bd) of subsection (1), “animal means a vertebrate (other than a human).

47Addasu gwaharddiadau ar ddefnyddio dulliau eraill i ladd neu gymryd anifeiliaid gwyllt LL+C

Yn adran 11 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (gwahardd dulliau penodol o ladd neu gymryd anifeiliaid gwyllt), yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (b)—

(i)yn is-baragraff (i), hepgorer “and Wales”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar ôl “in Scotland” mewnosoder “or Wales”;

(b)ym mharagraff (c)—

(i)yn is-baragraff (i), hepgorer “and Wales”;

(ii)yn is-baragraff (ii), ar ôl “in Scotland” mewnosoder “or Wales”.

48Diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 LL+C

(1)Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11 (gwahardd dulliau penodol o ladd neu gymryd anifeiliaid gwyllt), yn is-adran (1)—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “sets in position” mewnosoder “otherwise than in Wales”;

(b)ym mharagraff (b), ar ôl “uses” mewnosoder “otherwise than in Wales”;

(c)ar ôl paragraff newydd (bd) (a fewnosodir gan adran 46), mewnosoder—

(be)uses in Wales for the purpose of killing or taking any wild animal any bow or cross-bow or any explosive other than ammunition for a firearm;.

(3)Yn yr adran honno, yn is-adran (2)—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)ar ôl “uses” mewnosoder “, otherwise than in Wales,”;

(ii)ar ôl “snare” mewnosoder “, or in Wales, any trap other than a glue trap,”;

(b)ym mharagraff (b)—

(i)ar ôl “sets in position” mewnosoder “, otherwise than in Wales,”;

(ii)ar ôl “snare” mewnosoder “, or in Wales, any trap other than a glue trap,”.

(4)Yn yr adran honno, yn is-adran (3)(a), o flaen “any snare” mewnosoder “otherwise than in Wales,”.

(5)Yn yr adran honno, yn is-adran (5), ar ôl “(1)(b)” mewnosoder “(ba), (bb)”.

(6)Yn adran 16 (pŵer i roi trwyddedau), yn is-adran (3), ar ôl “11(1)” mewnosoder “(a), (b), (be), (c) and (d),”.

(7)Yn yr adran honno, yn is-adran (3ZA)—

(a)ar ôl “use” mewnosoder “, otherwise than in Wales,”;

(b)ar ôl “snare” mewnosoder “, or, in Wales, of a trap other than a glue trap,”.

(8)Yn yr adran honno, yn is-adran (3ZG)(b), yn lle “where it is used in Wales” rhodder “where it is a trap other than a glue trap, and it is used in Wales”.

(9)Yn yr adran honno, yn is-adran (3ZI)(b), yn lle “or snares” rhodder “(other than glue traps”).

RHAN 6LL+CCYFFREDINOL

49Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, drosiannol etc. LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

50Rheoliadau o dan y Ddeddf hon LL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(3)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir.

(4)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth atodol, ddeilliadol neu ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(5)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (4) yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(7)Mae is-adran (6) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 6(10) (cyfnod adrodd: cynnydd tuag at yr amcanion rheoli tir yn gynaliadwy);

(b)adran 8(4) (diwygio’r dibenion y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar eu cyfer);

(c)adran 10(1) (cyhoeddi gwybodaeth am gymorth a ddarperir o dan adran 8);

(d)adran 12(1) (darpariaeth bellach am gymorth o dan adran 8);

(e)adran 14(7) (cyfnod adrodd: effaith cymorth o dan adran 8);

(f)adran 16(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol);

(g)adran 17(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r polisi amaethyddol cyffredin);

(h)adran 18(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth);

(i)adran 19(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig);

(j)adran 23(1) (pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud ag ymyrraeth yn y farchnad gyhoeddus neu gymorth ar gyfer storio preifat);

(k)adran 25(2) (darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth);

(l)adran 27(2) (darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithgareddau perthnasol);

(m)adran 32(1) (gorfodi gofynion gwybodaeth);

(n)adran 34(1) (safonau marchnata ar gyfer cynhyrchion amaethyddol);

(o)adran 34(6) (cynhyrchion amaethyddol sy’n berthnasol i safonau marchnata);

(p)adran 35(1) (dosbarthiad carcasau);

(q)adran 53 (pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52; ond gweler is-adrannau (2) i (7) o adran 53 am ofynion pellach mewn perthynas ag offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran honno).

(8)Mae is-adran (6) hefyd yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth nas crybwyllir yn is-adran (7), pan fo’r rheoliadau yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(9)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

51Ystyr “amaethyddiaeth” a chyfeiriadau perthnasol LL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “amaethyddiaeth” yw—

(a)garddwriaeth;

(b)ffermio cnydau âr;

(c)ffermio gwartheg godro;

(d)cadw a bridio da byw;

(e)defnyddio tir fel tir pori;

(f)defnyddio tir fel coetir fferm neu ar gyfer amaeth-goedwigaeth;

(g)amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir;

(h)tyfu fel arall blanhigion i’w gwerthu, neu ar gyfer gwerthu rhan o blanhigyn;

(i)cynnal tir mewn cyflwr sy’n ei wneud yn addas ar gyfer gweithgaredd a restrir ym mharagraffau (a) i (h).

(2)Yn is-adran (1)—

  • mae “da byw” yn cynnwys, ymysg pethau eraill, unrhyw anifail a gedwir i gynhyrchu bwyd, diod, olewau, ffibrau neu ledrau, neu i bori tir;

  • ystyr “amaethyddiaeth mewn amgylchedd a reolir” yw tyfu planhigion mewn ecosystem gaeedig sy’n caniatáu i amrywiolion amgylcheddol (gan gynnwys tymheredd, lleithder, golau a maethynnau) gael eu rheoli.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at farchnadoedd amaethyddol, busnesau amaethyddol, cynhyrchwyr amaethyddol a chynhyrchion amaethyddol i’w dehongli yn unol ag is-adran (1).

52Ystyr “gweithgaredd ategol” LL+C

Yn y Ddeddf hon, ystyr, “gweithgaredd ategol” yw—

(a)gweithredu, ar dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth—

(i)i greu a rheoli cynefinoedd, neu at ddibenion eraill sy’n ymwneud â chadwraeth natur,

(ii)i liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd, neu

(iii)i gynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;

(b)gwerthu, marchnata, paratoi, pecynnu, prosesu neu ddosbarthu cynhyrchion sy’n deillio o amaethyddiaeth.

53Pŵer i ddiwygio adrannau 51 a 52 LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adrannau 51 a 52 drwy reoliadau.

(2)Cyn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru (at ddibenion adran 50(6)), rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a bennir yn is-adrannau (3) a (4).

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar ddrafft arfaethedig o’r rheoliadau ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y rheoliadau yn effeithio arnynt.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i gyflwyno sylwadau ar y rheoliadau drafft arfaethedig,

(b)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir o fewn y cyfnod hwnnw, ac

(c)cyhoeddi crynodeb o’r sylwadau hynny.

(5)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gosod offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gerbron Senedd Cymru at ddibenion adran 50(6), rhaid iddynt gynnwys gyda’r drafft ddatganiad sydd—

(a)yn pennu a oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt o dan is-adran (3) a rheoliadau o dan yr adran hon a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, a

(b)os oes gwahaniaethau rhwng y rheoliadau drafft yr ymgynghorwyd arnynt a’r rheoliadau a gynhwysir yn yr offeryn statudol drafft sy’n cael ei osod, yn rhoi manylion ynghylch y gwahaniaethau hynny.

(6)Ni chaniateir i offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn unol ag adran 50(6) tan ar ôl i’r cyfnod o 40 niwrnod, gan ddechrau â’r diwrnod y gosodir yr offeryn statudol drafft, ddod i ben.

(7)Wrth gyfrifo a yw cyfnod o 40 niwrnod wedi dod i ben at ddibenion is-adran (6), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu neu’n cymryd toriad am fwy na phedwar diwrnod.

54Dehongli arall LL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diwygio, dirymu a diddymu (ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hynny);

  • ystyr “annedd breifat” (“private dwelling”) yw hynny o unrhyw dir sy’n cynnwys—

    (a)

    adeilad neu strwythur arall a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, neu

    (b)

    gardd, iard, garej preifat neu dŷ allan a fwynheir gydag adeilad neu strwythur o’r fath;

  • ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—

    (a)

    Mesur Cynulliad;

    (b)

    Deddf gan Senedd Cymru;

    (c)

    Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “is-ddeddfwriaeth” (“subordinate legislation”) yw offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol neu o dan ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir;

  • mae “planhigion” (“plants”) yn cynnwys ffwng;

  • ystyr “y Rheoliad CMO” (“the CMO Regulation”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol;

  • mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau.

55Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau etc. LL+C

(1)Mae Atodlen 2 (sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol etc. sy’n ymwneud â Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) a Deddfau eraill) yn cael effaith.

(2)Mae Atodlen 3 (sy’n diwygio’r Rheoliad CMO) yn cael effaith.

56Dod i rym LL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 4 at y dibenion o wneud rheoliadau o dan adran 32 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10);

(b)y Rhan hon, ac eithrio adran 55 ac Atodlenni 2 a 3.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)Pennod 1 o Ran 2;

(c)Pennod 2 o Ran 2;‍

(d)Rhan 5.

(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn o Atodlen 2, ac adran 55 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau hynny, hefyd i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)paragraff 1(5)(b) at ddibenion cymhwyso adran 53(5)(a) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) mewn perthynas â Rhan 1 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno;

(b)paragraff 1(9) at ddibenion diddymu Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020;

(c)paragraff 2;

(d)Rhan 2.

(4)Ac eithrio fel a ddarperir gan is-adrannau (1) i (3), daw darpariaethau y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;

(b)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

57Enw byr LL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

(a gyflwynir gan adran 34)

ATODLEN 1LL+CCYNHYRCHION AMAETHYDDOL SY’N BERTHNASOL I DDARPARIAETHAU SAFONAU MARCHNATA

Llaeth a chynhyrchion llaeth LL+C

1Cynhyrchion sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o gofnodion (a) i (f) yn y tabl yn Rhan XVI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Brasterau taenadwy LL+C

2Cynhyrchion—

(a)sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) ym Mhwynt 1 o Ran VII o Atodiad VII i’r Rheoliad CMO, a

(b)sydd â chynnwys braster o 10% o leiaf ond heb fod yn fwy na 90% yn ôl pwysau.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I85Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Cig eidion a chig llo LL+C

3Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XV o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO, ond gan eithrio unrhyw gofnod yn y tabl ar gyfer anifeiliaid byw.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I87Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Dofednod a chig dofednod LL+C

4Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XX o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO, gan gynnwys unrhyw gofnod yn y tabl ar gyfer dofednod byw.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I89Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Wyau a chynhyrchion wyau LL+C

5Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XIX o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I91Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Ffrwythau a llysiau, ac eithrio olifau LL+C

6Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn unrhyw un neu ragor o Rannau IX i XI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I93Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Olew olewydd ac olifau bwyta LL+C

7Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan VII o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I95Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Hopys LL+C

8Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan VI o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I97Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Gwin LL+C

9Cynhyrchion sy’n dod o fewn y tabl yn Rhan XII o Atodiad 1 i’r Rheoliad CMO.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I99Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Gwin a bersawrwyd LL+C

10Cynhyrchion sy’n dod o fewn y diffiniad o “aromatised wine products” yn Erthygl 3 o’r Rheoliad Gwin a Bersawrwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I101Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

Dehongli LL+C

11Yn yr Atodlen hon, ystyr “y Rheoliad Gwin a Bersawrwyd” yw Rheoliad (EU) Rhif 251/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 26 Chwefror 2014 ar ddiffiniad, disgrifiad, cyflwyniad, labelu a gwarchod dynodiadau daearyddol cynhyrchion gwin a bersawrwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I103Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(f)

(a gyflwynir gan adran 55)

ATODLEN 2LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL ETC. SY’N YMWNEUD Â RHANNAU 1 I 3

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU, DIDDYMIADAU AC ARBEDION SY’N YMWNEUD Â DEDDF AMAETHYDDIAETH 2020

Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) LL+C

1(1)Mae Deddf Amaethyddiaeth 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Mae adran 46 (cyflwyno Atodlen 5) wedi ei diddymu.

(3)Mae adran 47 (hyd darpariaeth o ran Cymru) wedi ei diddymu.

(4)Yn adran 52 (diwygiadau canlyniadol), hepgorer paragraffau (b) a (d).

(5)Yn adran 53 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.)—

(a)yn is-adran (2), hepgorer paragraffau (d), (e) ac (f);

(b)yn is-adran (5), ym mharagraff (a), yn lle “or (d) to (f)” rhodder “, or under that subsection so far as it would have allowed the Welsh Ministers to make supplementary, incidental or consequential provision in connection with—

(i)section 46 and Schedule 5,

(ii)section 47, and

(iii)section 52 and Schedule 7 so far as applying in relation to Wales,

but for the repeal of those provisions by the Agriculture (Wales) Act 2023”.

(6)Yn adran 54 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol etc.), yn is-adran (2)(a), hepgorer is-baragraffau (iv), (v) a (vi).

(7)Yn adran 56 (rhychwant), yn is-adran (1), hepgorer paragraff (g).

(8)Yn adran 57 (cychwyn), yn is-adran (3), hepgorer paragraffau (b) ac (c).

(9)Mae Atodlen 5 (darpariaeth sy’n ymwneud â Chymru) wedi ei diddymu.

(10)Yn Atodlen 7 (diwygiadau canlyniadol i’r Rheoliad CMO)—

(a)hepgorer Rhan 2;

(b)hepgorer Rhan 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 2 para. 1(1)-(4)(5)(a)(6)-(8)(10) mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(g)

I106Atod. 2 para. 1(5)(b)(9) mewn grym ar 17.10.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(g) (ynghyd ag ergl. 4, Atod.)

2Er gwaethaf diddymu Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 gan baragraff 1, mae rheoliadau a wnaed o dan baragraff 2 o’r Atodlen honno yn parhau mewn grym, ac maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 16 o’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(c)

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU I DDEDDFAU ERAILL

Deddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) LL+C

3Yn adran 66 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, yn is-adran (7A)—

(a)hepgorer yr “and” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, and

(c)the sustainable land management report published under section 6 of the Agriculture (Wales) Act 2023.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37) LL+C

4Yn adran 90 Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, yn is-adran (1A)—

(a)hepgorer yr “and” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, and

(c)the sustainable land management report published under section 6 of the Agriculture (Wales) Act 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) LL+C

5Yn adran 60B o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)In preparing the draft Framework under subsection (1)(a), the Welsh Ministers must have regard to the most recent sustainable land management report published under section 6 of the Agriculture (Wales) Act 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) LL+C

6Yn adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn is-adran (5), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)yr adroddiad rheoli tir yn gynaliadwy a gyhoeddir o dan adran 6 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(3)(d)

(a gyflwynir gan adran 55)

ATODLEN 3LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL ETC. I’R RHEOLIAD CMO

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â PHENNOD 3 O RAN 2 (YMYRRAETH MEWN MARCHNADOEDD)

Amodau eithriadol yn y farchnad LL+C

1Os yw paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) mewn grym cyn y dygir y Rhan hon o’r Atodlen hon i rym, yn Rhan V o’r Rheoliad CMO (darpariaethau cyffredinol), ym mhob un o Erthyglau 219, 220, 221 a 222, ym mharagraff A2, a fewnosodir gan baragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, hepgorer “Until the end of 2024”.

2Os nad yw paragraff 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 mewn grym cyn y dygir y Rhan hon o’r Atodlen hon i rym, yn Rhan V o’r Rheoliad CMO (darpariaethau cyffredinol), ar ddechrau pob un o Erthyglau 219, 220, 221 a 222 (ond ar ôl y diwygiad a wneir gan baragraff 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020) mewnosoder—

A2This Article does not apply in relation to agricultural producers in Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I115Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD AG ADRAN 34 (SAFONAU MARCHNATA)

Safonau marchnata LL+C

3‍Mae’r Rheoliad CMO wedi ei ddiwygio fel a nodir ym mharagraffau 4 i 12.

4Yn Erthygl 73 (safonau marchnata: cwmpas), yn lle “under paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020” rhodder “under section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023”.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I119Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

5Yn Erthygl 75 (safonau marchnata: sefydlu a’r cynnwys), ym mharagraff A2, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023”).

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I121Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

6Yn Erthygl 78 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu ar gyfer sectorau a chynhyrchion penodol), ym mharagraff 7, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I123Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

7Yn Erthygl 80 (arferion gwinyddol a dulliau dadansoddi), ym mharagraff 7, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I125Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

8Yn Erthygl 86 (neilltuo, diwygio a chanslo termau neilltuedig dewisol), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I127Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

9Yn Erthygl 91 (pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I129Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

10Yn Erthygl 119 (labelu a chyflwyniad yn y sector gwin: manylion gorfodol), ym mharagraff 3, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I131Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

11Yn Erthygl 122 (labelu a chyflwyniad yn y sector gwin: pwerau dirprwyedig), ym mharagraff A2, yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I133Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

12Yn Erthygl 123 (pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn lle “(see paragraph 16(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 34(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I135Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

RHAN 3LL+CDIWYGIADAU SY’N YMWNEUD AG ADRAN 35 (DOSBARTHIAD CARCASAU)

Dosbarthiad carcasau LL+C

13‍Mae’r Rheoliad CMO wedi ei ddiwygio fel a nodir ym mharagraffau 14 i 16.

14Yn Erthygl 19 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau dirprwyedig), ym mharagraff 6, yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I139Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

15Yn Erthygl 20 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau gweithredu yn unol â’r weithdrefn archwilio), yn y geiriau ar ôl pwynt (t), yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I141Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

16Yn Erthygl 21 (ymyrraeth gyhoeddus a chymorth ar gyfer storio preifat: pwerau gweithredu eraill), yn lle “(see paragraph 18(1) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020)” rhodder “(see section 35(1) of the Agriculture (Wales) Act 2023)”.‍

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I143Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)

RHAN 4LL+CDARPARIAETH ARBED

17LL+CMae rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Adran 1 neu Adran 3 o Bennod 1 o Deitl 2 o’r Rheoliad CMO yn parhau i fod yn gymwys i gynhyrchion sy’n cael eu marchnata yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan baragraffau 4 i 12‍.

18LL+CMae rheoliadau a wnaed gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan—

(a)Erthygl 19(6) o’r Rheoliad CMO,

(b)unrhyw un neu ragor o bwyntiau (p) i (t) o Erthygl 20 o’r Rheoliad CMO, neu

(c)Erthygl 21 o’r Rheoliad CMO,

yn parhau i fod yn gymwys i ladd-dai yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan baragraffau 14 i 16‍.

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(4)

I147Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 17.10.2023 gan O.S. 2023/1092, ergl. 2(h)