RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU F1A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

Annotations:
Amendments (Textual)

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETHF2: PRIF GYNGHORAU

Annotations:

Perfformiad

I189Dyletswydd ar brif gyngor i adolygu ei berfformiad yn barhaus

1

Rhaid i brif gyngor adolygu’n barhaus i ba raddau—

a

y mae’n arfer ei swyddogaethau yn effeithiol,

b

y mae’n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol, ac

c

y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol o ran cyflawni’r materion a nodir ym mharagraffau (a) a (b).

2

Yn y Bennod hon, cyfeirir at y materion a nodir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) fel “y gofynion perfformiad”.

3

Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag—

a

y gofynion perfformiad;

b

y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.