RHAN 5CYDWEITHIO GAN BRIF GYNGHORAU

PENNOD 5DARPARIAETH BELLACH MEWN PERTHYNAS Â CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A RHEOLIADAU CYD-BWYLLGOR

Darpariaeth mewn rheoliadau cyd-bwyllgor

I177Darpariaeth y caniateir ei chynnwys neu y mae rhaid ei chynnwys mewn rheoliadau cyd-bwyllgor

1

Rhaid i reoliadau cyd-bwyllgor ddarparu bod prif aelodau gweithrediaeth y prif gynghorau ar gyfer y prif ardaloedd yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig yn aelodau o’r pwyllgor.

2

Pan fo’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol wedi ei phennu mewn rheoliadau cyd-bwyllgor a bod unrhyw ran o Barc Cenedlaethol yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch aelodaeth yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw o’r pwyllgor.

3

Caiff rheoliadau cyd-bwyllgor wneud darpariaeth, yn benodol, ynglŷn ag—

a

yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), cyfansoddiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys ynglŷn â chyfethol aelodau i’r pwyllgor neu i unrhyw is-bwyllgor);

b

enw cyd-bwyllgor corfforedig;

c

sefydlu is-bwyllgorau i gyd-bwyllgor corfforedig;

d

trafodion cyd-bwyllgor corfforedig ac unrhyw is-bwyllgor (gan gynnwys darpariaeth ynglŷn â hawliau pleidleisio);

e

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i drefnu i berson arall arfer ei swyddogaethau;

f

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer, ar ran unrhyw berson, unrhyw swyddogaethau sydd gan y person hwnnw;

g

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i arfer ei swyddogaethau, ac eithrio swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), ar y cyd, neu drwy gydweithio fel arall, â pherson arall;

h

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i ddarparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

i

cydnabyddiaeth ariannol, lwfansau, treuliau, pensiynau neu ddigollediad am golli swydd i aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig neu o unrhyw is-bwyllgor;

j

ariannu cyd-bwyllgor corfforedig;

k

cyllid cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys darpariaeth ynglŷn ag—

i

cyd-bwyllgor corfforedig yn benthyca arian neu’n ei roi ar fenthyg;

ii

cyd-bwyllgor corfforedig yn rhoi neu’n cael cymorth ariannol;

iii

cyd-bwyllgor corfforedig yn codi ffioedd;

l

pwerau cyd-bwyllgor corfforedig i wneud, at ddiben masnachol, unrhyw beth y caiff ei wneud wrth arfer ei swyddogaethau;

m

perfformiad cyd-bwyllgor corfforedig (gan gynnwys gwneud pwyllgor yn destun craffu gan berson arall);

n

cyd-bwyllgor corfforedig yn caffael, yn perchnogi neu’n gwaredu eiddo (tirol neu bersonol) neu hawliau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer caffael tir yn orfodol);

o

cyd-bwyllgor corfforedig yn cychwyn achos cyfreithiol neu’n cymryd rhan mewn achos cyfreithiol (gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwiliad cyhoeddus);

p

pwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i—

i

cyd-bwyllgor corfforedig;

ii

prif gyngor ar gyfer prif ardal yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig;

iii

os yw’r rheoliadau cyd-bwyllgor yn pennu’r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig,

ac ynglŷn â gorfodi’r cyfarwyddydau hynny;

q

pŵer cyd-bwyllgor corfforedig i wneud pethau er mwyn hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

4

At ddibenion is-adran (1), ystyr “prif aelod gweithrediaeth” yw—

a

yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yr arweinydd gweithrediaeth;

b

yn achos prif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig.