Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

56Ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Yn adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwyr), ar ôl is-adran (5B) mewnosoder—

(5C)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(b)mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac

(c)nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 56 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(i)