xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(a gyflwynir gan adran 136)
1(1)Rhaid i gynghorau sy’n uno sefydlu pwyllgor pontio yn union ar ôl gwneud cais i uno.
(2)Mae’r cyfeiriadau at bwyllgor pontio yn y Rhan hon o’r Atodlen hon yn gyfeiriadau at bwyllgor pontio a sefydlir o dan is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
2(1)Rhaid i bwyllgor pontio gynnwys nifer cyfartal o aelodau, heb fod yn llai na 5, o bob un o’r cynghorau sy’n uno.
(2)Rhaid i aelodau cyngor sy’n uno sydd i fod yn aelodau o’r pwyllgor pontio gael eu penodi gan y cyngor sy’n uno.
(3)Nifer aelodau’r pwyllgor sydd i’w penodi gan bob un o’r cynghorau sy’n uno yw’r nifer y cytunir arno gan y cynghorau sy’n uno neu, os na cheir cytundeb, y nifer y penderfyna Gweinidogion Cymru arno.
(4)Rhaid i brif aelod gweithrediaeth y cyngor sy’n uno fod yn un o aelodau’r pwyllgor a benodir gan y cyngor sy’n uno.
(5)Os nad yw eisoes wedi ei benodi o dan is-baragraff (4), rhaid i’r aelod gweithrediaeth yn y cyngor sy’n uno sy’n gyfrifol am gyllid gael ei benodi’n aelod o’r pwyllgor yn ogystal.
(6)Caiff pwyllgor pontio gyfethol personau ychwanegol i wasanaethu fel aelodau o’r pwyllgor ond ni chaiff y rhain bleidleisio.
(7)Mae pwyllgor pontio i’w drin at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (cydbwysedd gwleidyddol ar bwyllgorau awdurdodau lleol) fel corff sy’n dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno.
(8)Yn y paragraff hwn ystyr “prif aelod gweithrediaeth”—
(a)yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet, yw’r arweinydd gweithrediaeth;
(b)yn achos cyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yw’r maer etholedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
3(1)Rhaid i bwyllgor pontio ddarparu cyngor ac argymhellion i’r cynghorau sy’n uno, ac i’r cyngor cysgodol ar gyfer y brif ardal newydd, ynglŷn ag—
(a)hwyluso trosglwyddo swyddogaethau, staff a hawliau ac atebolrwyddau eiddo mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon o’r cynghorau sy’n uno i’r prif gyngor newydd,
(b)sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol o’r adeg pan fydd yn eu hysgwyddo, ac
(c)unrhyw ddibenion eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor pontio.
(2)Rhaid i bwyllgor pontio hefyd roi cyngor ag argymhellion i Weinidogion Cymru ar unrhyw fater a bennir gan Weinidogion Cymru mewn cyfarwyddyd i’r pwyllgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
4(1)Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau gyngor neu ragor sy’n cael eu hailstrwythuro i sefydlu pwyllgor pontio.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) swyddogaethau ac aelodaeth pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â’r cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(7)
I5Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(i)
5(1)Caiff pwyllgor pontio sefydlu un is-bwyllgor neu ragor.
(2)Swyddogaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio yw cynghori’r pwyllgor pontio ar faterion a atgyfeirir i’r is-bwyllgor gan y pwyllgor pontio.
(3)Mae aelodaeth is-bwyllgor i bwyllgor pontio i’w bennu gan y pwyllgor pontio.
(4)Os yw pwyllgor pontio yn penodi person nad yw’n aelod o un o’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i fod yn aelod o is-bwyllgor, ni chaiff y person hwnnw bleidleisio.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)
I7Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(i)
6(1)Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro dalu costau pwyllgor pontio yn ôl y cyfrannau y cytunant arnynt neu, os na cheir cytundeb, y cyfrannau a ddyfernir gan Weinidogion Cymru.
(2)Rhaid i’r cynghorau sy’n uno neu’r cynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro ddarparu i bwyllgor pontio y cyfleusterau a’r adnoddau (gan gynnwys staff), y wybodaeth a’r dogfennau y gwna’r pwyllgor pontio (neu unrhyw is-bwyllgor i’r pwyllgor pontio) gais rhesymol amdanynt er mwyn ei alluogi i arfer ei swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)
I9Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(i)
7(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.
(2)Ni chaiff pwyllgor llywodraethu ac archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—
mae i “pwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit committee”) yr ystyr a roddir gan adran 81 o Fesur 2011;
mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr a roddir i “overview and scrutiny committee” gan adran 21(1) o Ddeddf 2000.
(3)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a)ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â pharagraff 1 neu yn rhinwedd paragraff 4;
(b)mae cyfeiriad at gyngor sy’n uno mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n uno sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio;
(c)mae cyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio.
F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 11 para. 7(4) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 10; O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 11 para. 7(1)(3)(b)(4) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)
I11Atod. 11 para. 7(2)(3)(a) mewn grym ar 1.4.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/297, ergl. 2(i)
I12Atod. 11 para. 7(3)(c) mewn grym ar 1.4.2021 gan O.S. 2021/297, ergl. 2(i)