xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1ATODLEN 10ALL+C(a gyflwynir gan adran 115A)

CYMHWYSO PENNOD 1 O RAN 6 I GYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIGLL+C

1.LL+CMae Pennod 1 o Ran 6, ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen hon.

Addasiad cyffredinol i gyfeiriadauLL+C

2.LL+CYm Mhennod 1 o Ran 6—

(a)mae’r cyfeiriadau at brif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 17 o’r Atodlen hon (sy’n gwneud addasiadau ychwanegol i ddarpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 6);

(b)mae’r cyfeiriadau at bwyllgor llywodraethu ac archwilio prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig;

(c)mae’r cyfeiriadau at ardal prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal a bennir yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Cyd-bwyllgor corfforedig i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiadLL+C

3.LL+CMae adran 90 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,.

Adroddiad hunanasesu gan gyd-bwyllgor corfforedigLL+C

4.LL+CMae adran 91(10)(c) i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,.

Asesiadau panel o berfformiadLL+C

5.LL+CMae adran 92 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “i brif gynghorau yng Nghymru (“y cyfnod rhyngetholiadol”)” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—

(1A)At ddibenion is-adran (1), y cyfnod rhyngetholiadol cyntaf yw’r cyfnod yn union ar ôl yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).

(1B)Yr etholiad a grybwyllir yn yr is-adran hon yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a ddigwyddodd ar 5 Mai 2022.;

(c)yn is-adran (3)—

(i)ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(d)yn is-adran (5)—

(i)ym mharagraff (c), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(e)yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.

(f)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—

(7A)Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).

Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i adroddiad gan banelLL+C

6.LL+CMae adran 93 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (6)(b)—

(i)yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (iii) (ac o flaen “a”)—

(iiia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(iiib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(b)yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.

(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—

(7A)Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn adran 92(1B).

Arolygiad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

7.LL+CMae adran 95 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (7)(b)—

(i)yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(b)is-adran (9) wedi ei hepgor.

Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i argymhellion yr Archwilydd CyffredinolLL+C

8.LL+CMae adran 96(7)(b) i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (i), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod,

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (i) (ac o flaen “a”)—

(ia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(ib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,.

Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion yr Archwilydd CyffredinolLL+C

9.LL+CMae adran 97(2)(b) i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,

(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,;

(b)yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod.

Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd CyffredinolLL+C

10.LL+CMae adran 98 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1)Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o gyd-bwyllgor corfforedig,

a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys arolygu dogfen a ddelir gan yr awdurdod y mae’r arolygydd wedi mynd i’w fangre.;

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (2)—

(2)Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)dogfen y mae’r awdurdod yn ei dal;

(b)cyfleusterau a chymorth.;

(c)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o is-adran (4)—

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir yn ei fangre o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd ganddo o dan is-adran (2)(a);.

Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabodLL+C

11.LL+CMae adran 99 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1)Caiff arolygydd fynd i fangre awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1) wrth arfer y pwerau o dan yr is-adran honno o dan yr amgylchiadau a ganlyn yn unig —

(a)pan fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r awdurdod, a

(b)pan fo o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.;

(b)yn is-adran (2), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, yn y ddau le y mae’n digwydd;

(c)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)—

(3)Nid yw’r gofyniad yn is-adran (1) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(1) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.

(3A)Nid yw’r gofyniad yn is-adran (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(2) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.;

(d)yn is-adran (4)(b)(i), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor”;

(e)yn is-adran (5)—

(i)“awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1)” wedi ei roi yn lle “brif gyngor”;

(ii)“awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (a), (b) ac (c);

(iii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c)—

(d)os yw’r awdurdod y mae’r rhybudd i’w roi iddo yn gyd-bwyllgor corfforedig—

(i)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig.;

(f)yn is-adran (6)—

(i)“aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”;

(ii)ym mharagraffau (a) a (b), “prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “cyngor”;

(g)yn is-adran (7), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”.

Ymgynghori ar ffioedd yr Archwilydd CyffredinolLL+C

12.LL+CMae adran 101(5)(b) i’w darllen fel pe bai “cyd-bwyllgorau corfforedig” wedi ei roi yn lle “prif gynghorau”.

Cyfarwyddyd i ddarparu cefnogaeth a chymorthLL+C

13.LL+CMae adran 103 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod a grybwyllir yn is-adran (1A) i ddarparu i gyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(1A)Yr awdurdodau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)prif gyngor.;

(b)yn is-adran (3), “awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd iddo a’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “ddau gyngor”;

(c)yn is-adran (4)—

(i)“awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;

(ii)“cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “cyngor a gefnogir”, ym mhob lle y mae’n digwydd.”

Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrrydLL+C

14.LL+CMae adran 104(2)(a) i’w darllen fel pe bai “awdurdod arall” wedi ei roi yn lle “cyngor arall”.

Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorthLL+C

15.LL+CMae adran 105 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1)—

(i)“cyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”)” wedi ei roi yn lle “prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”)”;

(ii)ym mharagraff (b), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;

(iii)“i’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor a gefnogir”;

(b)yn is-adrannau (2), (3) a (4), “cyd-bwyllgor corfforedig” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd;

(c)yn is-adran (5), “ac awdurdod” wedi ei roi yn lle “a phrif gyngor”.

Arfer swyddogaethauLL+C

16.LL+CMae adran 108 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (1) i (3)—

(1)Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig a grybwyllir yn is-adran (4).

DehongliLL+C

17.LL+CMae adran 112 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—