xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CPŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL

PENNOD 2LL+CCYNGHORAU CYMUNED CYMWYS

30Dod yn gyngor cymuned cymwysLL+C

(1)Caiff cyngor cymuned sy’n bodloni pob un o’r amodau a nodir yn is-adrannau (2) i (4) (“yr amodau cymhwystra”) ddod yn gyngor cymuned cymwys at ddibenion Pennod 1 drwy basio penderfyniad, mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor, ei fod yn gyngor cymuned cymwys.

(2)Yr amod cyntaf yw y datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm cynghorwyr y cyngor cymuned wedi eu hethol (boed mewn etholiad cyffredin neu mewn is-etholiad).

(3)Yr ail amod yw bod clerc y cyngor yn dal cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(4)Y trydydd amod yw—

(a)bod barn ddiweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor—

(i)yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a

(ii)yn farn y mae’r cyngor wedi ei chael yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y bydd y cyngor (os yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1)) yn dod yn gyngor cymuned cymwys, a

(b)bod barn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor a oedd yn union ragflaenu’r farn a grybwyllir ym mharagraff (a) hefyd yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(5)At ddibenion is-adran (4) ac adran 34—

(a)ystyr barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yw barn a ddarperir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23), ar ôl cynnal archwiliad o gyfrifon cyngor cymuned ar gyfer blwyddyn ariannol, a

(b)mae barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod os nad yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn y farn, wedi datgan mewn unrhyw fodd nad yw’n fodlon o ran y materion a nodir yn adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(6)Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn dod yn gyngor cymuned cymwys pan fo’n pasio’r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 30(1)(2)(4)-(6) mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(a)

I3A. 30(3) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(b)

31Parhau i fod yn gyngor cymuned cymwysLL+C

(1)Os yw cyngor cymuned cymwys yn dymuno parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys rhaid iddo—

(a)ar adeg pob cyfarfod blynyddol sy’n dilyn pasio’r penderfyniad yn unol ag adran 30, fodloni’r amodau cymhwystra, a

(b)ym mhob cyfarfod blynyddol o’r fath, basio penderfyniad ei fod yn parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys.

(2)Mae cyngor cymuned cymwys nad yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod blynyddol o dan sylw.

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 32, ystyr “cyfarfod blynyddol”, mewn perthynas â chyngor cymuned cymwys, yw cyfarfod o’r cyngor a gynhelir o dan baragraff 23 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I5A. 31 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)

32Peidio â bod yn gyngor cymuned cymwysLL+C

(1)Caiff cyngor cymuned cymwys basio penderfyniad mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor (gan gynnwys cyfarfod blynyddol) ei fod yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys.

(2)Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad o dan is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod y cafodd y penderfyniad ei basio ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I7A. 32 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)

33Cynghorau cymuned sy’n peidio â bod yn gymwys: arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinolLL+C

Caiff cyngor cymuned sy’n peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys barhau i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed pan oedd yn gyngor cymuned cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I9A. 33 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)

34Cynghorau cymuned cyffredin a sefydlir ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasioLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo, ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasio, gymunedau yn cael eu grwpio gyda’i gilydd o dan gyngor cymuned cyffredin o dan orchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972, a

(b)pan oedd gan o leiaf hanner y cymunedau sy’n cael eu grwpio gyda’i gilydd gynghorau cymuned ar wahân a oedd, yn union cyn i’r gorchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972 gael ei wneud, yn bodloni’r trydydd amod cymhwystra (a nodir yn adran 30(4)).

(2)Nid yw’r trydydd amod cymhwystra yn gymwys i’r cyngor cymuned cyffredin hyd nes y bo wedi cael dwy farn gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad â dwy flynedd ariannol; ac mae adrannau 30(1) a 31(1) i’w darllen yn unol â hynny.

(3)Os nad yw’r farn gyntaf y mae’r cyngor cymuned cyffredin yn ei chael gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod, mae’r cyngor i’w drin fel pe na bai’n bodloni’r amodau cymhwystra mwyach.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I11A. 34 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(b)

35Pŵer i ddiwygio neu addasu’r Bennod honLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Bennod hon at ddibenion—

(a)ychwanegu amod cymhwystra,

(b)tynnu ymaith amod cymhwystra,

(c)newid unrhyw un neu ragor o’r amodau cymhwystra, neu

(d)gwneud darpariaeth i gyngor cymuned beidio â bod yn gyngor cymuned cymwys (o dan amgylchiadau ac eithrio’r rheini a bennir yn y Bennod hon).

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan baragraffau (a) i (c) o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu addasu’r Bennod hon at ddibenion darparu, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Bennod hon yn dod i rym—

(a)nad yw amod cymhwystra yn gymwys;

(b)bod amod cymhwystra yn gymwys gydag addasiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I13A. 35 mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(c)

36Canllawiau ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod honLL+C

Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I15A. 36 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(c)

37Diwygiadau mewn perthynas â’r Bennod honLL+C

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â’r Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I17A. 37 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(c)