RHAN 2PŴER CYMHWYSEDD CYFFREDINOL
PENNOD 2CYNGHORAU CYMUNED CYMWYS
I130Dod yn gyngor cymuned cymwys
I111
Caiff cyngor cymuned sy’n bodloni pob un o’r amodau a nodir yn is-adrannau (2) i (4) (“yr amodau cymhwystra”) ddod yn gyngor cymuned cymwys at ddibenion Pennod 1 drwy basio penderfyniad, mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor, ei fod yn gyngor cymuned cymwys.
I112
Yr amod cyntaf yw y datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm cynghorwyr y cyngor cymuned wedi eu hethol (boed mewn etholiad cyffredin neu mewn is-etholiad).
I93
Yr ail amod yw bod clerc y cyngor yn dal cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
I114
Y trydydd amod yw—
a
bod barn ddiweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor—
i
yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a
ii
yn farn y mae’r cyngor wedi ei chael yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y bydd y cyngor (os yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1)) yn dod yn gyngor cymuned cymwys, a
b
bod barn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y cyngor a oedd yn union ragflaenu’r farn a grybwyllir ym mharagraff (a) hefyd yn farn ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
I115
At ddibenion is-adran (4) ac adran 34—
a
ystyr barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yw barn a ddarperir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p. 23), ar ôl cynnal archwiliad o gyfrifon cyngor cymuned ar gyfer blwyddyn ariannol, a
b
mae barn Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod os nad yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn y farn, wedi datgan mewn unrhyw fodd nad yw’n fodlon o ran y materion a nodir yn adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
I116
Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn dod yn gyngor cymuned cymwys pan fo’n pasio’r penderfyniad.
I2I1231Parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys
1
Os yw cyngor cymuned cymwys yn dymuno parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys rhaid iddo—
a
ar adeg pob cyfarfod blynyddol sy’n dilyn pasio’r penderfyniad yn unol ag adran 30, fodloni’r amodau cymhwystra, a
b
ym mhob cyfarfod blynyddol o’r fath, basio penderfyniad ei fod yn parhau i fod yn gyngor cymuned cymwys.
2
Mae cyngor cymuned cymwys nad yw’n pasio penderfyniad yn unol ag is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod blynyddol o dan sylw.
3
Yn yr adran hon ac yn adran 32, ystyr “cyfarfod blynyddol”, mewn perthynas â chyngor cymuned cymwys, yw cyfarfod o’r cyngor a gynhelir o dan baragraff 23 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972.
I3I1332Peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys
1
Caiff cyngor cymuned cymwys basio penderfyniad mewn unrhyw gyfarfod o’r cyngor (gan gynnwys cyfarfod blynyddol) ei fod yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys.
2
Mae cyngor cymuned sy’n pasio penderfyniad o dan is-adran (1) yn peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys ar ddiwedd y diwrnod sy’n dilyn y cyfarfod y cafodd y penderfyniad ei basio ynddo.
I4I1433Cynghorau cymuned sy’n peidio â bod yn gymwys: arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol
Caiff cyngor cymuned sy’n peidio â bod yn gyngor cymuned cymwys barhau i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol mewn perthynas ag unrhyw beth a wnaed pan oedd yn gyngor cymuned cymwys.
I5I1534Cynghorau cymuned cyffredin a sefydlir ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasio
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo, ar ôl i’r Ddeddf hon gael ei phasio, gymunedau yn cael eu grwpio gyda’i gilydd o dan gyngor cymuned cyffredin o dan orchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972, a
b
pan oedd gan o leiaf hanner y cymunedau sy’n cael eu grwpio gyda’i gilydd gynghorau cymuned ar wahân a oedd, yn union cyn i’r gorchymyn o dan adran 27F o Ddeddf 1972 gael ei wneud, yn bodloni’r trydydd amod cymhwystra (a nodir yn adran 30(4)).
2
Nid yw’r trydydd amod cymhwystra yn gymwys i’r cyngor cymuned cyffredin hyd nes y bo wedi cael dwy farn gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad â dwy flynedd ariannol; ac mae adrannau 30(1) a 31(1) i’w darllen yn unol â hynny.
3
Os nad yw’r farn gyntaf y mae’r cyngor cymuned cyffredin yn ei chael gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn farn ddiamod, mae’r cyngor i’w drin fel pe na bai’n bodloni’r amodau cymhwystra mwyach.
I6I1035Pŵer i ddiwygio neu addasu’r Bennod hon
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r Bennod hon at ddibenion—
a
ychwanegu amod cymhwystra,
b
tynnu ymaith amod cymhwystra,
c
newid unrhyw un neu ragor o’r amodau cymhwystra, neu
d
gwneud darpariaeth i gyngor cymuned beidio â bod yn gyngor cymuned cymwys (o dan amgylchiadau ac eithrio’r rheini a bennir yn y Bennod hon).
2
Cyn gwneud rheoliadau o dan baragraffau (a) i (c) o is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n cynrychioli cynghorau cymuned y maent yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio neu addasu’r Bennod hon at ddibenion darparu, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Bennod hon yn dod i rym—
a
nad yw amod cymhwystra yn gymwys;
b
bod amod cymhwystra yn gymwys gydag addasiadau.
I7I1636Canllawiau ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon
Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon.
I8I1737Diwygiadau mewn perthynas â’r Bennod hon
Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau mewn perthynas â’r Bennod hon.