xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3ETHOLIADAU

Cofrestru etholiadol

26Darpariaeth bellach ar gyfer eithriadau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer neu ynghylch datgelu gwybodaeth person ifanc mewn cysylltiad ag etholiadau i’r Senedd.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—

(a)yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru gyflenwi neu ddatgelu fel arall unrhyw wybodaeth person ifanc i bersonau a bennir yn y rheoliadau;

(b)yn pennu, mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o bersonau a bennir yn y rheoliadau yn unol â pharagraff (a), y dibenion y caniateir defnyddio unrhyw wybodaeth person ifanc a gyflenwyd neu a ddatgelwyd fel arall;

(c)yn gosod gwaharddiadau neu gyfyngiadau sy’n ymwneud â’r graddau (os o gwbl) y caiff personau y cyflenwyd neu y datgelwyd unrhyw wybodaeth person ifanc iddynt (boed hynny yn unol â’r rheoliadau neu fel arall)—

(i)cyflenwi neu ddatgelu fel arall yr wybodaeth i bersonau eraill;

(ii)gwneud defnydd o’r wybodaeth ac eithrio at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau neu’r dibenion y cyflenwyd neu y datgelwyd yr wybodaeth fel arall yn unol â’r rheoliadau;

(d)yn gosod gwaharddiadau neu gyfyngiadau sy’n cyfateb i’r rhai y caniateir eu gosod yn rhinwedd paragraff (c) mewn perthynas ag—

(i)personau y mae unrhyw wybodaeth person ifanc wedi ei chyflenwi neu ei datgelu fel arall iddynt yn unol â rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff (c) neu’r paragraff hwn, neu

(ii)personau sydd fel arall â mynediad at unrhyw wybodaeth person ifanc;

(e)yn gosod, mewn perthynas â phersonau sy’n ymwneud â pharatoi’r gofrestr lawn o etholwyr llywodraeth leol, waharddiadau sy’n ymwneud â chyflenwi copïau o’r gofrestr lawn a datgelu unrhyw wybodaeth person ifanc a gynhwysir ynddi.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)diwygio, diddymu neu addasu darpariaeth yn adran 25;

(b)gwneud darpariaeth drwy gyfeirio at ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â chyflenwi neu ddatgelu’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu gopïau ohoni neu’r cofnodion ynddi;

(c)darparu ar gyfer creu troseddau sydd i’w cosbi drwy ddirwy ar euogfarn ddiannod.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.