xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth

34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.