RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Pwerau a dyletswyddau

I2I116Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grym

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

a

gan ddarpariaeth mewn F6Deddf gan Senedd Cymru a ddaw i rym—

i

ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a

ii

mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu

b

gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

2

Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

a

sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F3... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr F1offeryn, a

b

sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

3

Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

a

i’r Ddeddf F2... neu i’r F5offeryn sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

b

i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

4

Pan fo darpariaeth mewn F6Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

a

yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

b

yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

5

Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F7... neu’r F4offeryn sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).