RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaeth
I7I932Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth Cymru
1
Pan fo deddfiad yn diwygio F2Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.
2
Pan fo F2Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.
3
Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol F1a gymathwyd sy’n cael ei diwygio gan F2Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).
I5I633Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes
Pan fo—
a
F2Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a
b
A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),
nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.
I11I1234Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadau
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo F2Deddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.
2
Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—
a
yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;
b
yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.
3
Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—
a
unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;
b
unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;
c
unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.
I3I435Effaith ailddeddfu
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—
a
yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan F2Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, a
2
Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.
3
I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.
4
I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.
I1I1036Cyfeirio at F2Ddeddf gan Senedd Cymru yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymu
Caniateir parhau i gyfeirio at F2Ddeddf gan Senedd Cymru yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.
I2I837Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan hon
1
Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—
a
amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);
b
cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;
c
darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.
2
At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—
a
b
pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan F2Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig.