xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6YMCHWILIADAU: ATODOL

Ymgynghori a chydweithredu

67Cydlafurio â Chomisiynwyr

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon bod—

(a)cwyn, neu

(b)mater y mae’r Ombwdsmon yn ystyried ymchwilio iddo o dan adran 4 neu 44, yn ymwneud â mater, neu’n codi mater, a allai fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Gomisiynydd y Gymraeg (y “mater cysylltiedig”).

(2)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am y mater cysylltiedig.

(3)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod y mater yn fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo (y “mater Ombwdsmon”), rhaid i’r Ombwdsmon hefyd, os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol—

(a)rhoi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a

(b)ymgynghori â’r Comisiynydd perthnasol am y cynigion hynny.

(4)Os yw’r Ombwdsmon a’r Comisiynydd perthnasol o’r farn bod ganddynt hawl i ymchwilio, yn y drefn honno, y mater Ombwdsmon a’r mater cysylltiedig, caniateir iddynt—

(a)cydweithredu â’i gilydd yn yr ymchwiliad ar wahân i bob un o’r materion hynny,

(b)gweithredu gyda’i gilydd wrth ymchwilio i’r materion hynny, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd sy’n cynnwys eu casgliadau unigol o ran y materion y maent ill dau wedi ymchwilio iddynt.

(5)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn—

(a)nad yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo, a

(b)ei bod yn briodol gwneud hynny,

rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r person a gychwynnodd y gŵyn (os oes un) ynghylch sut i atgyfeirio’r mater cysylltiedig at y Comisiynydd perthnasol.