RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Adroddiadau ar ymchwiliadau
58Adroddiadau: gweithdrefn amgen
1
Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—
a
os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a
b
os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.
2
Mae’r adran hon hefyd yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—
a
os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo,
b
os yw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac
c
os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.
3
Yn is-adran (2)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—
a
cyfnod y cytunwyd arno rhwng yr Ombwdsmon a’r darparwr ac, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn, neu
b
os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir dod i gytundeb o’r fath, cyfnod a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.
4
Caiff yr Ombwdsmon benderfynu paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r Ombwdsmon o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan adran 55; ac os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu gwneud hynny, ni fydd adrannau 55 i 57 yn gymwys.
5
Os caiff adroddiad ei baratoi o dan yr adran hon—
a
rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—
i
os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;
ii
at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, a
b
caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.
6
Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r personau a dramgwyddwyd (os oes rhai) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
7
Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (6), neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.
8
Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (7).
9
Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (5) neu a gyhoeddir o dan is-adran (6)—
a
enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;
b
gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.
10
Nid yw is-adran (9) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.