ATODLEN 1OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU: PENODI ETC
22Yr Ombwdsmon blaenorol i barhau yn Ombwdsmon
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r person sydd yn Ombwdsmon yn union cyn y diwrnod penodedig.
2
Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny bydd y person—
a
yn parhau i fod yn Ombwdsmon ac yn cael ei drin fel petai wedi cael ei benodi i’r swydd honno o dan y Ddeddf hon;
b
yn dal y swydd am saith mlynedd namyn cyfnod sy’n cyfateb i’r cyfnod y bu’r person yn Ombwdsmon cyn y diwrnod penodedig.
3
Yn y paragraff hwn, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw’r paragraff hwn i rym.