xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CYMCHWILIADAU: ATODOL

Ymgynghori a chydweithreduLL+C

65Ymgynghori a chydweithredu ag ombwdsmyn eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, wrth wneud penderfyniad o dan adran 3(5), 4(3)(a), 43(8), 44(4)(a) neu wrth gynnal ymchwiliad o dan Ran 3 neu 5, yn dod i’r farn y gallai mater sy’n destun y gŵyn neu’r ymchwiliad fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon a grybwyllir yn is-adran (7).

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r ombwdsmon hwnnw am y mater.

(3)Caiff yr Ombwdsmon gydweithredu â’r ombwdsmon hwnnw mewn perthynas â’r mater.

(4)Caiff ymgynghoriad o dan is-adran (2), a chydweithrediad o dan is-adran (3), ymestyn i unrhyw beth sy’n ymwneud â mater sy’n destun y gŵyn neu’r ymchwiliad, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)cynnal ymchwiliad i’r gŵyn, a

(b)ffurf, cynnwys a chyhoeddiad adroddiad yr ymchwiliad.

(5)Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag ombwdsmon am fater o dan is-adran (2), caiff yr Ombwdsmon a’r ombwdsmon hwnnw—

(a)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater,

(b)paratoi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad, ac

(c)cyhoeddi’r adroddiad ar y cyd.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys os mai’r ombwdsman yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (2) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.

(7)Yr ombwdsmyn y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth;

(b)Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr;

(c)Comisiynydd Lleol;

(d)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban;

(e)ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun a gymeradwywyd o dan adran⁠ 51 o Ddeddf Tai 1996 (p.52).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (7) drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)hepgor person, neu

(c)newid y disgrifiad o berson.

(9)Caiff rheoliadau o dan is-adran (8) ychwanegu person at is-adran (7) dim ond os oes gan y person, ym marn Gweinidogion Cymru, swyddogaethau sy’n ymwneud ag ymchwilio i gwynion.

(10)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (8) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 65 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

66Cydweithio â phersonau a bennirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon—

(a)bod mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo, a

(b)bod y mater yn un a allai hefyd fod yn destun ymchwiliad gan berson a bennir yn is-adran (2) (“person a bennir”).

(2)Mae’r canlynol yn bersonau a bennir—

(a)Comisiynydd Plant Cymru;

(b)Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

(c)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;

(d)Comisiynydd y Gymraeg;

(e)pan fo’r mater yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol, Gweinidogion Cymru.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i’r person a bennir perthnasol am y mater, a

(b)ymgynghori â’r person a bennir mewn perthynas ag ef.

(4)Pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i’r mater o dan adran 4 neu 44, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i’r person a bennir perthnasol am y mater, a

(b)pan fo’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, ymgynghori â’r person a bennir mewn perthynas ag ef.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn ymgynghori â pherson a bennir o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon a’r person a bennir—

(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater,

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu person a bennir at y rhestr neu ei ddileu o’r rhestr, neu

(b)amrywio cyfeiriad at fath neu ddisgrifiad o berson a bennir a gynhwysir am y tro yn yr is-adran honno.

(7)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I4A. 66 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

67Cydlafurio â ChomisiynwyrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon bod—

(a)cwyn, neu

(b)mater y mae’r Ombwdsmon yn ystyried ymchwilio iddo o dan adran 4 neu 44, yn ymwneud â mater, neu’n codi mater, a allai fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Gomisiynydd y Gymraeg (y “mater cysylltiedig”).

(2)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am y mater cysylltiedig.

(3)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod y mater yn fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo (y “mater Ombwdsmon”), rhaid i’r Ombwdsmon hefyd, os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol—

(a)rhoi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a

(b)ymgynghori â’r Comisiynydd perthnasol am y cynigion hynny.

(4)Os yw’r Ombwdsmon a’r Comisiynydd perthnasol o’r farn bod ganddynt hawl i ymchwilio, yn y drefn honno, y mater Ombwdsmon a’r mater cysylltiedig, caniateir iddynt—

(a)cydweithredu â’i gilydd yn yr ymchwiliad ar wahân i bob un o’r materion hynny,

(b)gweithredu gyda’i gilydd wrth ymchwilio i’r materion hynny, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd sy’n cynnwys eu casgliadau unigol o ran y materion y maent ill dau wedi ymchwilio iddynt.

(5)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn—

(a)nad yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo, a

(b)ei bod yn briodol gwneud hynny,

rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r person a gychwynnodd y gŵyn (os oes un) ynghylch sut i atgyfeirio’r mater cysylltiedig at y Comisiynydd perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I6A. 67 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

68Gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i Archwilydd Cyffredinol Cymru am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a

(b)ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y dull mwyaf effeithiol o gynnal ymchwiliad.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef,

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I8A. 68 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

DatgeluLL+C

69Datgelu gwybodaethLL+C

(1)Yr wybodaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yw—

(a)gwybodaeth y mae’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon, yn ei chael i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon—

(i)wrth benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad,

(ii)yn ystod ymchwiliad,

(iii)wrth ddatrys mater o dan adran 6 neu 46, neu

(iv)mewn cysylltiad â hysbysiad a gafwyd o dan adran 26 neu 57;

(b)gwybodaeth a gafwyd gan ombwdsmon a grybwyllir yn adran 65(7) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 65 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r ombwdsmyn hynny;

(c)gwybodaeth a gafwyd gan berson a bennir yn adran 66(2) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 66 neu 67 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r personau hynny a bennir;

(d)gwybodaeth a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 68 o’r Ddeddf hon neu adran 29A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3);

(e)gwybodaeth a gafwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhinwedd adran 76 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (datgeliad rhwng y Comisiynydd Gwybodaeth ac ombwdsmyn).

(2)Ni chaniateir datgelu’r wybodaeth ac eithrio—

(a)at ddibenion penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad;

(b)at ddibenion ymchwiliad;

(c)at ddiben unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)at ddibenion datrys cwyn o dan adran 6 neu 46;

(e)at ddibenion datganiad neu adroddiad a wneir mewn perthynas â chŵyn neu ymchwiliad;

(f)at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn adran 65, 66, 67 neu 68;

(g)at ddibenion achosion llys ar gyfer—

(i)trosedd o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 (p.28) i 1989 (p.6) yr honnir iddi gael ei chyflawni gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(ii)trosedd o dyngu anudon yr honnir iddi gael ei chyflawni yn ystod ymchwiliad;

(h)at ddibenion ymchwiliad gyda golwg ar gychwyn yr achosion llys a grybwyllir ym mharagraff (g);

(i)at ddibenion achosion llys o dan adran 20 neu 54;

(j)yn achos gwybodaeth i’r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau, i unrhyw berson y mae’r Ombwdsmon yn credu y dylid ei datgelu er budd y cyhoedd;

(k)yn achos gwybodaeth y mae is-adran (3) yn gymwys iddi, i’r Comisiynydd Gwybodaeth;

(l)at ddibenion swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Benodau 3 a 4 o Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon ei bod yn ymwneud â’r canlynol—

(a)mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth, mewn perthynas ag ef, arfer pŵer a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4), neu

(b)cyflawni trosedd a grybwyllir yn is-adran (6).

(4)Y deddfiadau yw—

(a)adrannau 142 i 154, 160 i 164 neu 174 i 176 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12) (darpariaethau penodol yn ymwneud â gorfodi), neu Atodlen 15 i’r Ddeddf honno;

(b)adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (argymhellion arfer);

(c)Rhan 4 o’r Ddeddf honno.

(5)Mae is-adran (4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r materion y mae’n cyfeirio atynt yn cynnwys mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth arfer, mewn perthynas ag ef, bŵer a roddir gan ddarpariaeth yn Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29), fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd Atodlen 20 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12).

(6)Y troseddau yw’r rhai o dan—

(a)darpariaeth yn Neddf Diogelu Data 2018 (p.12) heblaw paragraff 15 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant);

(b)adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (y drosedd o newid etc cofnodion gyda’r bwriad o atal datgelu).

(7)Ni chaniateir galw unrhyw berson i roi tystiolaeth mewn unrhyw achos llys (heblaw achosion a grybwyllir yn is-adran (2)) o wybodaeth a gafwyd gan y person hwnnw fel y crybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I10A. 69 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

70Datgeliad niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu yn groes i fudd y cyhoeddLL+C

(1)Caiff Gweinidog y Goron roi hysbysiad i’r Ombwdsmon o ran—

(a)unrhyw ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir felly,

y byddai datgelu’r ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu ddogfennau neu wybodaeth o’r un dosbarth, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd.

(2)Os cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddehongli mewn modd sy’n awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon, ddatgelu i unrhyw berson neu at unrhyw ddiben unrhyw ddogfen neu wybodaeth, neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth, a bennir yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I12A. 70 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

71Diogelu rhag hawliadau difenwiLL+C

(1)At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae’r canlynol yn gwbl freintiedig—

(a)cyhoeddi mater, wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon, gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(b)cyhoeddi mater gan berson wrth gyflawni swyddogaethau o dan—

(i)adran 24;

(ii)adran 24 fel y’i haddasir gan adran 25;

(iii)adrannau 24 a 25 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adroddiadau arbennig (gweler adran 29(6));

(c)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng—

(i)awdurdod rhestredig, aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod rhestredig, swyddog neu aelod o staff awdurdod rhestredig neu berson arall sy’n gweithredu ar ran awdurdod rhestredig neu’n ei gynorthwyo i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a

(ii)yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(d)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng—

(i)darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol, swyddog neu aelod o staff darparwr o’r fath neu berson arall sy’n gweithredu ar ran darparwr o’r fath neu’n ei gynorthwyo i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a

(ii)yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(e)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng person ac Aelod Cynulliad;

(f)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn a wnaed neu a atgyfeiriwyd (neu sydd i’w gwneud neu ei hatgyfeirio) gan berson neu ar ran person at yr Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon, mewn cyfathrebiadau rhwng—

(i)y person, a

(ii)yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon.

(2)At ddibenion is-adran (1)(d)(i) mae person yn swyddog i ddarparwr os oes gan y person reolaeth dros ddarparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath, neu os yw’r person yn rheoli darparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath.

(3)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at faterion sy’n ymwneud ag ymchwiliad yn cynnwys materion sy’n ymwneud â phenderfyniad yr Ombwdsmon pa un ai i ymchwilio ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I14A. 71 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2