RHAN 5LL+CYMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL

Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

55Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan y Rhan hon oni bai bod adran 58 yn gymwys.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon, ar ôl cynnal ymchwiliad mewn perthynas â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—

(a)paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r ymchwiliad (“adroddiad am ymchwiliad”), a

(b)anfon copi o’r adroddiad at y personau priodol.

(3)Y personau priodol yw—

(a)os bydd yr ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn,

(b)y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef,

(c)unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn (os oes un) ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r mater, a

(d)Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (6).

(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (3)(b) neu (c) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—

(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

56Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad am ymchwiliad gael ei gyhoeddi⁠—

(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu

(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.

(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—

(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,

(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a

(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.

(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.

(4)Wrth benderfynu a yw’n briodol i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

57Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.

(2)Rhaid i’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—

(a)am y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad, a

(b)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw eisoes wedi cymryd y camau gweithredu hynny).

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r darparwr yn cael yr adroddiad, neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

58Adroddiadau: gweithdrefn amgenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a

(b)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo,

(b)os yw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac

(c)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.

(3)Yn is-adran (2)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)cyfnod y cytunwyd arno rhwng yr Ombwdsmon a’r darparwr ac, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn, neu

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir dod i gytundeb o’r fath, cyfnod a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)Caiff yr Ombwdsmon benderfynu paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r Ombwdsmon o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan adran 55; ac os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu gwneud hynny, ni fydd adrannau 55 i 57 yn gymwys.

(5)Os caiff adroddiad ei baratoi o dan yr adran hon—

(a)rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—

(i)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;

(ii)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, a

(b)caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(6)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r personau a dramgwyddwyd (os oes rhai) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(7)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (6), neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(8)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (7).

(9)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (5) neu a gyhoeddir o dan is-adran (6)—

(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.

(10)Nid yw is-adran (9) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.