RHAN 3YMCHWILIADAU
Digolledu
I1I235Digolledu’r person a dramgwyddwyd
1
Mae’r is-adran hon yn gymwys—
a
os caiff cwyn mewn perthynas â mater ei gwneud neu ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon, a
b
os yw’r gŵyn yn un y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddi o dan y Rhan hon.
2
Caiff yr awdurdod rhestredig y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef wneud taliad i’r person a dramgwyddwyd, neu ddarparu unrhyw fudd arall i’r person a dramgwyddwyd, mewn perthynas â’r mater sy’n destun y gŵyn.
3
Nid yw’n berthnasol at ddibenion yr adran hon fod yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r gŵyn, wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad i’r gŵyn, nad yw eto wedi cwblhau ymchwiliad i’r gŵyn, neu nad yw wedi cadarnhau’r gŵyn.
4
Nid yw’r pŵer yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod rhestredig i wneud y taliad neu i ddarparu’r budd.