ATODLEN 2Ymdrin â Blaendal Cadw

(a gyflwynir gan adran 9)

1Cymhwyso

1

Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan delir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

2

Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at ddeiliad contract, mewn perthynas â blaendal cadw, yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl i gael y cynnig cyntaf wedi ei gadw gan y blaendal cadw.

2Ystyr “terfyn amser ar gyfer cytundeb”

1

Yn yr Atodlen hon, ystyr y “terfyn amser ar gyfer cytundeb” yw pymthegfed diwrnod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y telir y blaendal cadw.

2

Ond caiff y partïon gytuno yn ysgrifenedig i ddiwrnod gwahanol fod y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

3

Caiff rheoliadau ddiwygio is-baragraff (1) i newid y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gofyniad i ad-dalu blaendal cadw

3

Yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, rhaid i’r person a gafodd y blaendal cadw ei ad-dalu⁠—

a

os yw’r partïon yn ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, neu

b

os yw’r partïon yn methu ag ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

4

Rhaid ad-dalu’r blaendal o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ag—

a

pan fo paragraff 3(a) yn gymwys, y diwrnod y gwneir y contract, neu

b

pan fo paragraff 3(b) yn gymwys, y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Eithriadau

5

Nid yw paragraff 3(a) yn gymwys i’r graddau y cymhwysir swm y blaendal—

a

tuag at y taliad rhent cyntaf o dan y contract, neu

b

tuag at dalu blaendal sicrwydd o dan y contract.

6

Os cymhwysir y blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, yn unol â pharagraff 5(b), caiff y swm a gymhwysir ei drin at ddibenion adran 45 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) fel pe bai wedi ei dalu ar y dyddiad y gwneir y contract.

7

Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ac—

a

bod hawl resymol gan y landlord i ystyried y gwahaniaeth rhwng yr wybodaeth a ddarparwyd gan ddeiliad y contract a’r wybodaeth gywir wrth benderfynu pa un ai i roi contract i ddeiliad y contract, neu

b

bod hawl resymol gan y landlord i ystyried gweithred deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth benderfynu pa un ai i roi contract o’r fath.

8

Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn hysbysu’r landlord neu’r asiant gosod eiddo cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb bod deiliad y contract wedi penderfynu peidio ag ymrwymo i gontract.

9

Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i landlord—

a

os yw’r landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, ond

b

bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

10

Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i asiant gosod eiddo—

a

os yw’r asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, a

b

bod y landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw, ond

c

bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

11Darpariaeth atodol ynghylch eithriadau ym mharagraffau 8 i 10

1

Ni ellir dibynnu ar yr eithriadau a bennir ym mharagraffau 8, 9 a 10 oni fodlonir yr amod yn is-baragraff (2).

2

Yr amod yw, cyn talu’r blaendal cadw, fod deiliad y contract wedi cael yr wybodaeth sydd o fewn is-baragraff (3) oddi wrth naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo (os yw asiant o’r fath wedi ei gyfarwyddo gan y landlord mewn perthynas â’r contract).

3

Mae gwybodaeth sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn wybodaeth a bennir mewn rheoliadau, neu’n wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

4

Nid yw gwybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu i ddeiliad y contract, at ddibenion is-baragraff (1), oni bai ei bod wedi ei darparu ym mha ffordd bynnag (os oes un) a bennir yn y rheoliadau.

5

Mewn achos pan fo landlord wedi cyfarwyddo asiant gosod eiddo mewn perthynas â chontract, ni chaniateir dibynnu ar yr eithriad ym mharagraff 9, yn ogystal, oni bai bod yr asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.